29.1.08

"Yr iaith"

Dwi'n hynod o ddiolchgar i'r BBC am gynnal gwefan newyddion yn y Gymraeg. Ond mae'r penawdau sy'n cael eu rhoi i straeon yn benbleth cyson i mi. Weithiau, wrth edrych ar y penawdau sy'n ymddangos yn yr RSS feed, does gen i ddim mo'r syniad cyntaf am be mae'r stori'n son. Ac ar adegau eraill, mae nhw'n fy ngamarwain i'n llwyr.

Pechod mwyaf y safle yw defnyddio "yr iaith" pan yn son am ieithoedd heblaw am y Gymraeg. Heddiw, mae 'na stori yn dwyn y teitl "Sianel newydd : hwb i'r iaith". Sydd yn awgrymu bod 'na stori anferth - creu S4C 3, efallai - ar fin torri. Ond cyfeirio at Y Wyddeleg mae'r stori, er mai Cymraeg yw yr iaith. "Sianel newydd : hwb i'r Wyddeleg" yw'r pennawd priodol yn y fan hyn.

Dwi'n gwybod nad yw hi'n beth iach treulio gormod o amser yn poeni am y pethau 'ma. Ond rywsut, fedra i ddim peidio.

28.1.08

Pam fod teledu America gymaint gwell na theledu Prydain?

Os oes gen i obsesiwn gyda diwylliant poblogaidd America, mae'n siwr bod yr obsesiwn hwnw yn amlygu ei hun yn fy nhueddiadau gwylio teledu. Er bod cynulleidfaoedd teledu Prydeinig wedi gwirioni ar gyfresi Americanaidd ers pan ddyfeiswyd y cyfrwng, mae 'na barchusrwydd beirniadol newydd yn perthyn i gyfresi drama Americanaidd sydd wedi eu hallforio yn ystod y ddegawd diwethaf. Gorsaf deledu HBO sydd yn bennaf gyfrifol am gynhyrchu'r goreuon, gyda'r diweddar annwyl The Sopranos yn haeddu'r clod am godi'r safon.
Dim ond un cyfres yw The Sopranos, fodd bynnag. O dwrio drwy'r gorsafoedd teledu digidol, mae 'na hanner dwsin o gyfresi Americanaidd i'w canfod sydd yn yr un dosbarth, gyda un neu ddwy sydd llawn gystal, os nad gwell. Caiff The Wire, (sydd i'w ganfod ar sianel FX, Sky 179) ei disgrifio fel "y gyfres deledu orau erioed" byth a beunydd, ac mae'n llawn haeddu'r ganmoliaeth aruchel yma. Ar yr wyneb, cyfres heddlu yw hon. Mae'n dilyn hanes uned arbennig o fewn heddlu Baltimore, sydd yn gweithio ar wahan i'r prif adrannau, yn ceisio rhwydo gangiau o droseddwyr. Gogoniant y gyfres yw bod y cymeriadau craidd hyn yn byw o fewn cyd-destun cymleth, cyfoethog a cwbl gredadwy. Mae'r gwyliwr yn dod i adnabod y troseddwyr yn ogystal a'r heddlu, ac mae cymeriadau "Da" a "Drwg" yn byw ar ddwy ochr y ffin. Wrth i'r cyfresi fynd yn eu blaenau, mae'r darlun yn ehangu, gan bortreadu y modd y mae gwahanol unigolion a sefydliadau yn cyd-fyw mewn dinas fawr, dlawd, Americanaidd.
Y cwestiwn sy'n codi wrth wylio The Wire neu The Sopranos yw pam nad yw Prydain wedi cynhyrchu unrhywbeth cyffelyb? Mae'r gorsafoedd mawr Saesnig yn darlledu oriau lawer o ddrama bob wythnos, ond mae 'na flynyddoedd ers i mi weld drama Brydeinig sy'n cymharu a'r rhain (sef Buried, drama Channel 4 am fywyd mewn carchar). Sut mae esbonio hyn? Dyw hi ddim yn fater o faint y ddwy wlad. Mae Lloegr yn llwyddo i gystadlu a'r Americanwyr ym mhob maes diwylliannol arall - yn lenyddiaeth, cerddoriaeth, celf. Mae nhw hyd yn oed yn llwyddo i gynhyrchu ffilm go lew yn achlysurol. Ac mae BBC a Channel 4 yn llwyddo i greu rhaglenni dogfen, adloniant a chomedi sydd yn rhagori ar unrhywbeth a ddaw o America. Felly pam mod drama yn wahanol?
Efallai mai comisiynnu llwfr a di-ddychymyg sydd ar fai. Mae nifer o'r cyfresi "mawr" Americanaidd - o Deadwood i Studio 60 on the Sunset Strip - yn cael trafferth i ddenu gwylwyr, ac yn gostus i'w cynhyrchu. Mae creu darn o gelfyddyd gain, megis The Wire, yn gambl gyllidebol. Dyw penderfynnu comisiynnu cyfres dditectif/ysbyty/mil-feddyg, neu addasiad o glasur lenyddol, ddim yn golygu mentro yn yr un modd.
Dwi'n credu bod bai arbennig ar y BBC. Mae ganddyn nhw gyfrifoldeb statudol i gynhyrchu rhaglenni sydd yn gwasanaethu'r cyhoedd. Ond mae 'na feddylfryd ymhlith yr uwch-swyddogion sydd yn dweud ei bod hi'n iawn rhannu'r rhaglenni yn rhai "gwasanaeth cyhoeddus" a rhai sydd yn raglenni poblogaidd. A gwaith yr adran ffeithiol, fel rheol, yw creu'r rhaglenni "gwasanaeth cyhoeddus". Sydd yn lol, wrth reswm. Mae celfyddyd dda, heriol, yn ran hanfodol o ddarlledu "gwasanaeth cyhoeddus" hefyd.
Chwarae teg i S4C, dyw'r un llwfdra ddim yn nodweddu eu polisi comisiynnu drama. Oes, mae 'na ormodedd o gyfresi gwael wedi eu darlledu ar y sianel o'r cychwyn cyntaf hyd heddiw. Ond mae S4C wedi bod yn fodlon mentro hefyd. Mae hi'n amhosib i'r sianel sicrhau bod pob arbrawf yn llwyddo, ond mae'n rhaid canmol y ffaith eu bod wedi buddsoddi mewn dramau fel Y Pris a Con Passionate.

Menter newydd

Efallai mai fi yw'r person olaf sydd angen blog, a finnau'n meddu ar golofn fisol yn Barn. Ond er fod lle i bob math o erthyglau yn y cylchgrawn, mae'n rhaid i mi fod yn ymwybodol mai dim ond hyn-a-hyn o dudalennau sydd ym mhob rhifyn, a bod trafod gwleidyddiaeth, materion cyfoes a'r celfyddydau yn cymeryd blaenoriaeth dros rai pethau eraill.

A diwylliant poblogaidd yw'r peth sydd yn mynd a fy mryd i yn y fan hyn. Wrth gwrs, mae diwylliant poblogaidd yn cael ei drafod yn helaeth yn y cylchgrawn, ond cyfrifoldeb pobl eraill yw pasio barn ar faesydd megis teledu a cherddoriaeth. Dwi ddim yn cael y cyfle i ddweud fy marn ar yr hyn dwi'n ei wylio neu yn wrando arno. Ystyriaeth arall yw bod Barn yn ymdrin yn bennaf a diwylliant Cymru. Ac eithrio colofn ffilm fyr-hoedlog, mae'r drafodaeth o ddiwylliant poblogaidd wedi ei gyfyngu i'r hyn sy'n cael ei gynhyrchu yr ochr hon i Glawdd Offa, neu sy'n cael ei gynhyrchu gan Gymry alltud. Ac mi ydw i, fel pob un ohonom ni (ac eithrio Emyr Llewelyn, efallai) yn gwylio, yn gwrando, ac yn mwynhau, diwylliant poblogaidd o dramor. Ac o un wlad dramor yn arbennig.....

Sydd yn dod a ni at fy ngwendid pennaf. Dwi'n treulio llawer iawn, iawn o amser yn gloddesta ar ddiwylliant poblogaidd Americanaidd, y bwci-bo mawr o ochr draw Mor yr Iwerydd. I ddweud y gwir, dwi'n addoli rhai agweddau o ddiwylliant poblogaidd America. A felly mae'r blog yma yn gyfle i mi gael traethu am The Wire, comics Marvel a recordiau The Decemberists, a pethau isel-ael eraill. A dwi'n eithaf sicr na chai'r cyfle i wneud hynny yn nhudalennau Barn.