11.5.13

Ateb i gwestiwn does 'na neb yn ei ofyn

Stori fawr yr wythnos i tua 0.05% o boblogaeth Cymru ydi'r newyddion bod Alun Ffred yn bwriadu rhoi'r gorau iddi fel Aelod Cynulliad yn 2016. Fel rhywun sy'n byw yn Arfon, Ffred ydi fy aelod lleol, ac ers i mi fod ar y Cyngor dwi wedi dod i'w adnabod yn o lew. Ond mae fy niddordeb yn y stori yn mynd lot pellach na'r cysylltiad personol yma. I raddau helaeth, dyma'r newyddion y bum i'n aros amdano am amser go faith. Rhyw bum mlynedd yn ol, fe fyddwn i wedi cyfaddef yn lled-agored fy mod i'n gobeithio medru dilyn yn ol troed Ffred a chamu i fyny o Gyngor Gwynedd i Fae Caerdydd. Dwi wedi bod yn berson gwleidyddol drwy fy oes, ond dros y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi cymeryd diddordeb arbennig yn y modd y mae rhoi syniad ar waith. Roedd gweld Plaid Cymru yn rhan o lywodraeth genedlaethol, mewn corff gyda'r pwerau i basio deddfwriaeth yn brofiad eithriadol o gyffrous, ond hefyd rhwystredig. Nid mod i'n tanbrisio cyfraniad y Blaid yn llywodraeth Cymru'n Un, cofiwch. Gan roi o'r neilltu am eiliad y blas cas sy'n dal i fod yn y geg wedi diwedd y papur dyddiol Cymraeg, dwi'n credu bod Plaid Cymru wedi llwyddo i ddefnyddio ein grym yn y glymblaid i sicrhau enillion gwirioneddol i'r Gymraeg o fewn y llywodraeth. Ond er mod i'n cefnogi llawer o be' y llwyddodd Plaid Cymru - ac Alun Ffred Jones yn benodol - i'w gyflawni, roeddwn i hefyd yn berwi gyda syniadau ar gyfer sut y gellid gwneud rhagor. Nid syniadau pie in the sky oedd y rhain, ond pethau ymarferol a ellid eu gwneud o fewn strwythr ceidwadol Llywodraeth y Cynulliad. Fe fum yn rhan o grwp yn trafod diwygio llywodraeth leol yng Nghymru, ac fe lwyddodd Cangen Dyffryn Ogwen i gael y gynhadledd genedlaethol i fabwysiadu polisi a fyddai'n creu dynodiad statudol ar gyfer cymunedau o ddiddordeb ieithyddol arbennig. Serch hynny, wnaeth fy syniadau i ynglyn a'r hyn yr hoffwn ei wneud i wella Cymru ddim dwyn ffrwyth. Llais bach, ymylol o fewn Plaid Cymru yw fy un i (a hynny'n bennaf oherwydd fy mod yn rhy ddiog a di-fynedd i roi fy amser a'm egni i fod yn dringo drwy rengoedd cenedlaethol y Blaid). O na fyddwn i yn esgidiau Alun Ffred, yn lais mawr, grymus gyda'r gallu i wneud nid dweud.

Ond rwan bod Ffred wedi cyhoeddi ei ymddeoliad, mae pob diddordeb sydd gen i yn swydd wedi diflannu. Mae'n anodd gwybod yn union beth sy'n gyfrifol am hyn. Mae fy mywyd personol i'n dylanwadu'n drwm, dwi'n meddwl. O adnabod rhywfaint ar Ffred, ac o wybod rhywfaint am ei batrwm gwaith, fedra i ddim gweld sut mae byw bywyd arferol a bod yn wleidydd llawn amser. Dyw'r swydd ddim yn un sy'n cadw oriau swyddfa, ac mewn sawl ystyr mae'r gwaith yn y Senedd ei hun a'r gwaith yn yr etholaeth yn ddwy swydd llawn amser. Fedra i ddim gweld sut y byddai modd i mi gynnal perthynas efo fy nheulu, a bod yn Aelod Cynulliad yr un pryd. Un o rinweddau anferth fy swydd fel darlithydd yw ei bod yn rhoi hyblygrwydd personol anferthol i mi. Dim ond am 22 wythnos y flwyddyn mae gofyn i mi fod yn darlithio, ac yn ystod y 30 wythnos arall rwy'n cael pen rhyddid i fod yn rheoli fy amgylchiadau gwaith. Mae digon i'w wneud, ond does dim disgwyl i mi fod yn cadw oriau cyson na gweithio o'r swyddfa ym Mangor. Byddai mynd o hyn i amserlen gaeth, wedi ei rheoli gan anghenion eraill yn eithriadol o anodd.

Ond mae 'na ystyriaeth dyfnach na dim ond y rhai personol. Er fy niddordeb anferth mewn gwleidyddiaeth, a mecanweithiau gwleidyddol, dwi ddim yn gwybod a ydw i'n wleidydd da. Mae'r modd y mae disgwyl i wleidydd weithio yng Nghymru heddiw yn gallu bod yn eithriadol o rhwystredig a llafurus. Mae ein cyfansoddiad gwleidyddol, gyda'i bwyslais ar rym y canol Llundeinig, wedi creu cyfres o sefydliadau sydd a phwerau cyfyng a dros ben. Mae hyn yn arbennig o wir ar lefel llywodraeth leol, lle yn aml iawn mae cyfyngiadau cyfreithiol allanol yn ein gorfodi ni i gymeradwyo un o ddau neu dri dewis, heb y gallu i ychwanegu dewis pedwar, pump neu chwech at y fwydlen. Ydi, mae hyn yn llawer gwaeth ar Gyngor Gwynedd nac y fyddai yn y Cynulliad, ond dwi ddim wedi fy argyhoeddi bod pethau fawr gwell ym Mae Caerdydd. Am gyfuniad o resymau diwylliannol a statudol, mae ein system ddemocrataidd ifanc ni yn un geidwadol dros ben.

Y teimlad sydd gen i yw y byddai tymor neu ddau ym Mae Caerdydd yn brofiad yr un mor rhwystredig a tymor ar Gyngor Gwynedd. Dwi'n gallu ymfalchio bod y Cyngor yn symud i'r cyfeiriad cywir, ac o dan arweiniad y mwyafrif doeth ar y Cyngor ein bod yn llwyddo i newid Gwynedd er gwell, nid er gwaeth. Ond yn rhedeg drwy'r balchder hynny mae'r sylweddoliad nad oes gan y Cyngor y gallu i wneud y newidiadau radical sydd eu hangen er mwyn gwarchod Cymru a'r Gymraeg rhag dirywiad economaidd, diwylliannol a ieithyddol pellach. Mae'r system wedi ei throi yn ein herbyn ni, ac er ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn gwneud y dewis callaf o'r rhai sydd yn cael ei gynnig i ni mae'r ffaith nad ydym ni'n gallu gwneud mwy yn gallu bod yn llethol o boenus ar adegau. A fy nheimlad i yw na fyddai symud i'r Cynulliad yn lleddfu rhyw lawer ar hyn.

Dwi ddim am i'r neges yma swnio yn rhy ddi-galon. Dwi yn credu bod lliw y llywodraeth yng Nghaerdydd yn gwneud gwahaniaeth, ac mi ydw i'n credu bod modd pasio polisiau sydd yn gallu rhywstro rhywfaint ar y niwed sy'n cael ei wneud i Gymru a'r Gymraeg. Ond dwi ddim yn teimlo fod y Senedd yn gwneud digon, a dwi ddim yn gwybod a fyddai fy llais i ym Mae Caerdydd yn gwneud unrhyw newid i hynny. Petawn i'n Albanwr, mae'n bosib y byddwn i'n teimlo'n wahanol. Nid yn unig mae'n bur debyg y daw pwerau ychwanegol i'w senedd hwy, refferendwm fuddugol neu beidio, mae'r SNP wedi llwyddo i feddianu mecanwaith wleidyddol y sefydliad, a'i siapio i'w hamcanion ei hun.

Does dim sicrwydd y gwel Cymru bwerau ychwanegol yn fuan, ond yn fwy arwyddocaol, dwi ddim yn gweld y bydd modd i ni dorri'r cyswllt diwyllianol sydd 'na rhwng gwasanaeth sifil y Cynulliad a'r Blaid Lafur Gymreig. Nid cyhuddo y gwasanaeth sifil o golli gafael ar ei di-dueddrwydd ydw i; yn wir, gellid dadlau bod meddylfryd y gweision sifil wedi dylanwadu mwy ar Lafur nac y mae Llafur wedi llwyddo i newid y gwasanaeth sifil. Fy mhryder i yw bod consensws cyfforddus yn bodoli ym Mae Caerydd, wedi ei wreiddio mewn statud, ond sydd wedi blaguro yn niwylliant sefydliad ifanc lle mae llawer iawn o'r unigolion mwyaf dylanwadol - yn wleidyddion a gweision sifil - wedi gweithio gyda'u gilydd ers 15 mlynedd. Fedra i ddim gweld sut y byddwn i'n ffitio i mewn i fywyd gwleidyddol Bae Caerdydd.

Ac felly, i ateb y cwestiwn does neb yn ei ofyn, fydda i ddim yn gwneud cais am enwebiad Cangen Arfon Plaid Cymru. Dwi'n gobeithio y cawn gystadleuaeth frwd am y sedd, ac yn 2016 y ca'i fynd allan i ymgyrchu dros ymgeisydd sydd a'r gallu i herio'r consensws yng Nghaerdydd. Ond yn anffodus, nid fi fydd yn ymgeisydd hwnw.