tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post5819617557602119259..comments2023-09-30T09:41:37.316-07:00Comments on Blog Answyddogol: Blogio dros Blaid Cymru?Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.comBlogger3125tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-1362164009937020932008-10-07T07:34:00.000-07:002008-10-07T07:34:00.000-07:00Ie, os oedd y Blaid yn benderfynol o ollwng un gai...Ie, os oedd y Blaid yn benderfynol o ollwng un gair, nid "Cymru" oedd y gair i'w ollwng, siawns! Gymaint gwell (ac yn gwneud mwy o synnwyr) fyddai "Who are you voting for?" - "Cymru".
Fel rwyt ti'n deud, mae "Plaid" yn gwbl ddiystyr - "a party" - mae pob plaid yn blaid ond dim ond un sydd/oedd yn sefyll dros Gymru. Dros be mae Plaid yn sefyll rwan te?Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-52439059030189494962008-08-27T03:58:00.000-07:002008-08-27T03:58:00.000-07:00Dwi ddim yn meindio "Y Blaid" cymaint a hynny, ohe...Dwi ddim yn meindio "Y Blaid" cymaint a hynny, oherwydd bod fy nheulu fi yn aelodau erioed, a bod son am "Y Blaid" yn rhywbeth sydd yn gysurus gyfarwydd i mi. "Y Blaid Bach" oedd enw Plaid Cymru ar lawr gwlad Gwynedd am flynyddoedd maith. Dwi'n derbyn bod cyfeirio at "The Party" yn gallu swnio yn sinistr, ond yn y cyd-destun Cymraeg mae ychydig yn wahanol - "Yr Urdd" yw Urdd Gobaith Cymru ayyb.
Ond mae "Plaid" jysd yn ddi-ystyr. "Party" a nid "The Party" yw hynny. "Who are you voting for then?" "Party". Wrth gwrs, y ffaith ydi bod rhai pobl di-Gymraeg yn talfyru Plaid Cymru yn "Plaid", a ceisio apelio atyn nhw oedd Adam Price efo'r ail-frandio gwirion yma.
(Mae hyn yn lot o eiriau i'w sgwenu am rhywbeth ddigwyddodd o leiaf ddwy flynedd yn ol. Beth mae'r ffaith fod hyn yn dal i fy mhoeni fi yn ei ddweud am fy nghymeriad?)Dyfrighttps://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-19518663571627280532008-08-27T02:35:00.000-07:002008-08-27T02:35:00.000-07:00Rydw i wedi sylwi y cyfeiria bobl sy'n siarad â fi...Rydw i wedi sylwi y cyfeiria bobl sy'n siarad â fi yn y Gymraeg at rywbeth a ddarllenwyd ar fy mlog, ond at fy mlog Saesneg cyfeirian nhw ato. Roeddwn i'n arfer meddwl y roedd pobl yn ddarllen fy mlog Saesneg oherwydd doedd fy Nghymraeg yn ddigon safonol i'w deall yn glir. Ond erbyn hyn rydw i'n dechrau meddwl rhywbeth arall. Dwi ddim yn siŵr beth y mae, a dwi ddim eisiau gwneud sweeping generalisation ond mae yna rywbeth am y ffordd y mae'r Cymry yn cysylltu â'r byd o'u cwmpas sy'n achosi nhw defnyddio cyfryngau Saesneg eu iaith.
Yn rhannol dwi'n meddwl taw agwedd o anfodlonrwydd tuag at dechnoleg ymhlith y Cymry yw ar fai. Yr hen broblem o bobl sy'n methu derbyn y byd modern. Ac fel canlyniad, gorfodir pobl sydd eisiau bod yn rhan o weddill y byd defnyddio iaith arall. A achosir "brain drain" sy'n parhau'r broblem. Does dim lle i'r bobl arloesol, felly does dim pobl arloesol.

Dwi ddim yn hoffi'r teitl "Y Blaid" chwaith. Mae'n swnio'n Big Brother-aidd, totalitaraidd: "It will obey the wishes of The Party, or it will get the hose again."Chris Copehttps://www.blogger.com/profile/09802450324154596848noreply@blogger.com