tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post6771741054073703351..comments2023-09-30T09:41:37.316-07:00Comments on Blog Answyddogol: Newid hinsawdd, etoDyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.comBlogger2125tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-14423692696512915682009-12-06T14:18:51.745-08:002009-12-06T14:18:51.745-08:00Ymddiheuriadau am fethu'r cyfeiriad Beiblaidd....Ymddiheuriadau am fethu'r cyfeiriad Beiblaidd. Er mod i'n anffyddiwr erbyn hyn, fe ges i flynyddoedd lawer o Ysgol Sul, a dwi'n hoffi meddwl mod i'n nabod fy Meibl yn o lew.
Wrth gwrs nad yw'r system "peer review" yn anffaeledig. Mae'r frigad sy'n honni nad yw cynhesu byd-eang yn bodoli yn ceisio dadlau bod cynllwyn celwyddog ymysg gwyddonwyr, er mwyn tanseilio gwerth peer review. Ond y gwir amdani yw nad oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi eu dadleuon. Dyna pam eu bod mor barod i neidio ar unrhyw awgrym o fistimanars - fel yn achos "climategate".
Serch hynny, dwi'n falch nad oes rhaid dy ddarbwyllo di. Am unwaith, dwi'n gweld ochr gadarnhaol ffydd ddall.Dyfrighttps://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-69774072694528393172009-12-05T18:05:36.978-08:002009-12-05T18:05:36.978-08:00Cyfeiriad Beiblaidd, Dyfrig at Amos 7:14/15
On...Cyfeiriad Beiblaidd, Dyfrig at Amos 7:14/15

Ond atebodd Amos a dweud wrth Amaseia, "Nid oeddwn i'n broffwyd, nac yn fab i broffwyd chwaith; bugail oeddwn i, a garddwr coed sycamor; ond cymerodd yr ARGLWYDD fi oddi wrth y praidd, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, 'Dos i broffwydo i'm pobl Israel.'

Hynny yw hwyrach dy fod yn credu fy mod yn gwybod dim am y pwnc dan sylw ond yr wyf am ddweud fy nweud ta waeth!

O ran "peer review" yr wyf yn ddigon hen i gofio'r sgandal am gwmnïau baco yn talu ffortiwn i wyddonwyr i wrthod unrhyw dystiolaeth, beth bynnag bo'i rhinwedd, os ydoedd yn ddweud bod baco yn peryglu iechyd ac i basio tystiolaeth gwan a oedd yn cefnogi'r myth bod baco yn llesol i'r iechyd.

Rhan o'r ddadl bresennol parthed newid hinsawdd yw'r honiad bod llywodraethau yn cefnogi gwyddonwyr sydd yn wfftio'r gwadwyr a bod y gwadwyr yn cael eu talu gan y cwmnïau sy'n llygru'r amgylchedd, felly does dim modd ymddiried ym marn y gwyddonwyr o'r naill ochor na'r llall gan fod dwy ochor y ddadl yn cannu gan yr un sy'n talu.

Byrdwn fy neges oedd nad oes ots gennyf am y dadleuon gwyddonol o'r naill ochor na'r llall. Fel nyrs bach cyffredin, (yn hytrach na bugail a garddwr coed sycamor), 'rwy'n gwybod bod llygredd yn beth ych a fi ac yr wyf am gael gwared a llygredd a phethau ych a fi os ydynt yn creu newid hinsawdd neu beidio.Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.com