tag:blogger.com,1999:blog-81090736072302690932024-03-14T09:22:36.702-07:00Blog AnswyddogolBarn arall Dyfrig JonesDyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.comBlogger125125tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-485730485723217692014-05-02T05:31:00.000-07:002014-05-02T05:34:50.123-07:00Cau pen y mwdl Wedi chwe mlynedd o flogio yn y fan hyn, dwi wedi penderfynu rhoi'r gorau i hwn a dechrau blog newydd. Ar hyn o bryd mae i'w ganfod drwy ymweld a http://esgyrn.ghost.io/ (gyda'r gobaith y galla i drosglwyddo i www.esgyrn.co.uk yn reit fuan)Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-12471290794243358752013-06-23T05:53:00.000-07:002013-06-23T09:06:16.625-07:00Rhun a HeleddWel wir, ond oes gen i le i gywilyddio? Dim ond ychydig ddyddiau yn ôl mi oeddwn i'n ddilornus iawn o'r sawl a oedd yn honni y byddai Rhun ap Iorwerth yn rhoi ei enw ymlaen fel ymgeisydd Plaid Cymru yn is-etholiad Môn. Ers i mi drydar hynny, fe gysylltodd ambell un a mi i awgrymu ella mod i'n anghywir (be?). Ac yna, p'nawn 'ma, fe gyhoeddodd Rhun ei fod yn bwriadu sefyll, er gwaethaf fy natganiadau.

Er tegwch i mi, mae hon yn stori sydd wedi bod yn gwneud y rownds ers dwn i ddim pa bryd. Tydw i ddim yn nabod Rhun yn bersonol, ond mi ydw i'n gwybod ei fod yn fab i Edward (of Dafydd Iwan ac Edward fame), ac yn fab-yng-nghyfraith i Peredur Hughes, cyn-lywydd yr NFU - ac felly yn un sydd a chysylltiadau da iawn ar draws y pleidiau ym Môn. Roedd y cyfuniad yma, ynghŷd a phroffeil cyhoeddus amlwg Rhun yn ei wneud yn ymgeisydd deniadol, ond roeddwn i wastad o dan yr argraff mai gwleidyddiaeth ffantasi oedd hyn. I ddweud y gwir, roeddwn i wedi clywed (yn ail law) bod Rhun yn flin iawn ynglŷn a'r sïon, gam eu bod yn tanseilio ei enw da yn y BBC.

Bid a fo am hynny, mae'n amlwg mod i'n anghywir, ac y dylwn ymddiheuro - felly sori i unrhyw un a oedd yn credu mod i'n rhyw fath o oracle gwleidyddol. Ella dylwn i ddeud y bydda i'n fwy gofalus yn y dyfodol, ond dwn i ddim os ydi hynny yn fy natur.

Rwan bod Rhun yn y ras, mae Môn yn mynd i fod yn le difyr iawn am rai wythnosau. Ers blynyddoedd lawer, mae'r Blaid ym Môn wedi dewis ymgeisyddion gwael iawn i sefyll etholiadau, ac mae ei methiant i gipio sedd Albert Owen yn deillio yn rhannol o'r dewisiadau sal hynny. Rwan, mae gan aelodau'r ynys ddewis rhwng dau aelod 'tebol iawn - Rhun, a Heledd Fychan.

Pan wnes i flogio ar etholiad Arfon wythnos neu ddwy yn ôl, fe ro's i fy ngefnogaeth i Sian Gwenllian fel olynydd Alun Ffred, gan ddatgan yr hoffwn weld Heledd yn cymeryd lle Ieuan Wyn Jones ym Môn. Ac er mod i'n gweld rhinweddau niferus Rhun ap Iorwerth, tydw i heb newid fy meddwl am Heledd. Dwi'n ei adnabod yn dda, ac ar lefel bersonol fedra i feddwl am neb gwell i gynyrchioli Môn. Ond ar lefel wleidyddol hefyd, dwi'n credu ei bod yn rhywun sydd a llawer iawn i'w gynnig. Mae wedi gweithio yn galed iawn dros Blaid Cymru ers blynydoedd bellach, yn fewnol, ac ar lawr gwlad. Rhedodd ymgyrch wych ym Maldwyn yn 2010, a phan gyhoeddodd Ieuan Wyn ei fod y gadael, roedd Glyn Davies AC - ei gwrthwynebydd yn yr etholiad hwnw - yn barod iawn i ganu ei chlodydd, ac i hyrwyddo ei hachos. Mae derbyn clod gan eich cyfeillion yn bwysig, ond mae'n cymeryd gwleidydd arbennig i sicrhau datganiad o gefnogaeth gan un o'i gwrthwynebwyr. Cofiwch hefyd y bu Heledd yn ran hanfodol o'r ymgyrch yn etholaeth Gogledd Cymru yn etholiadau'r Cynulliad yn 2011, etholiad lle daeth hi o fewn trwch blewyn o gipio sedd, a hynny yn gwbl groes i'r disgwyl. Yn bwysicach, efallai, mae gan Heledd adnabyddiaeth arbennig o Fôn, a gwleidyddiaeth yr ynys.

Toes gen i ddim pleidlais, fel un sy'n byw ar y tir mawr. Ond mae Heledd wedi fy argyhoeddi mae hi yw'r un i gynrychioli Môn ym Mae Caerdydd. Yr her iddi rwan yw argyhoeddi aelodau Môn.

O.N.

Fe ddeudais i'n wreiddiol bod Rhun yn fab-yng-nghyfraith i Peter Rogers. Ffrwyth fy nychymyg i oedd hyn, a does dim gwirionedd i'r haeriad. Ymddiheuriadau lu i Rhun.

Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-18929374081621391502013-06-16T03:49:00.001-07:002013-06-16T03:49:10.535-07:00Olynu Alun FfredFel yr ydw i wedi nodi yn barod, tydw i ddim yn y ras i olynu Alun Ffred, a hynny am gyfuniad o resymau gwleidyddol a phersonol. Serch hynny, mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweld pwy fydd yn mynd a'r enwebiad, ac yn groes i rhai o'r trolls sydd yn heidio i wefan Golwg, dwi'n credu bod dwy yn y ras sydd yn ymgeiswyr cryf dros ben. Fel mae hi'n digwydd, dwi'n adnabod y ddwy yn dda iawn - fe fum i'n gweithio i rieni Heledd Fychan am flynyddoedd, ac fe ddos i adnabod Heledd yn dda yn ystod y cyfnod hwn. Mae hi'n ferch eithriadol o ddawnus, ddeallus a hoffus. Mae 'na ambell un sydd heb fawr o ddealltwriaeth o wleidyddiaeth Arfon yn credu ei bod yn rhyw fath o "estron" sydd wedi ei pharasiwtio i mewn o Gaerdydd. Y gwir amdani yw bod gan Heledd gysylltiadau cryf iawn gyda Chaernarfon - dyma gartref ei Mam, a fu'n rhedeg nifer o fusnesau yn y dref ers degawdau. Mae Heledd wedi gweithio i'r busnesau hynnyn am flynyddoedd, boed hynny yn y diwydiant teledu i fyny yng Nghibyn neu tu ol i'r bar yn Y Castell. Lol wirion ydi awgrymu bod Heledd yn rhyw fath o carpetbagger o'r de.

Drwy'r Cyngor ddos i adnabod Sian Gwenllian, gyda'r ddau ohonom ni'n cael ein ethol yr un pryd. Fe fum i'n gweithio yn agos iawn gyda Sian nol yn 2008, pan oedd y ddau ohonom ni'n aelodau o Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cyngor, a oedd yn gwneud llawer iawn o waith ar drefniadaeth ysgolion. Cyn iddi gael ei hethol, roedd Sian yn eithaf croch yn erbyn cau ysgolion bychain, ond pan ddaeth hi wyneb-yn-wyneb a'r mynydd o dystiolaeth a oedd yn dangos yn eglur mai drwy ad-drefnu yn unig yr oedd modd creu cyfundrefn addysg gynradd a fyddai'n gwarchod Gwynedd - ac yn benodol gwarchod y Gymraeg yng Ngwynedd - newidiodd ei meddwl. Mae gwleidydd sydd yn fodlon newid ei meddwl ar sail y dystiolaeth yn beth prin a gwerthfawr, ac rwy'n edmygu y modd yr oedd Sian yn fodlon gwneud hyn oherwydd mai dyma'r peth iawn i'w wneud, nid oherwydd bod 'na fantais bersonol neu bleidiol o wneud hynny.

(Gyda llaw, mae'r rhai sy'n awgrymu y gallu cefnogaeth Sian i gau ysgolion bychain wneud niwedd iddi yn 2016 wedi cam-ddarllen y sefyllfa yn arw. Mae bodolaeth gormod o ysgolion bychain, gyda gormod o lefydd gweigion, wedi arwain at gwtogi annheg yn lefel cyllid ysgolion mwy - ac mae nifer fawr o'r ysgolion hyn i'w canfod yn Arfon. Bydd cynlluniau ad-drefnu Gwynedd o help i Sian mewn llefydd fel Caernarfon, Llanrug, Dyffyn Ogwen, a Bangor)

O bwyso a mesur, felly, dwi'n cael fy hun mewn lle anodd. Fe fyddwn i'n hapus i weld naill a'i Sian neu Heledd yn sefyll etholiad Arfon yn 2016. Ond dwi hefyd yn edrych i'r dyfodol tu hwnt i 2016 - fydd Ieuan Wyn Jones ddim yn Mae Caerdydd am byth, ac mae angen ymgeisydd cryf ym Mon ar rhyw bwynt yn y dyfodol. Er mor gryf yw cysylltiadau Heledd a Chaernarfon, Monwysyn ydi hi yn y bon, ac mae ei thad, Vaughan Hughes, yn gwneud gwaith gwych fel rhan o'r to newydd sydd yn cynrychioli'r Blaid ar Gyngor Mon. I mi, Heledd yw'r ymgeisydd delfrydol i gymeryd lle Ieuan Wyn Jones pan fydd o'n rhoi'r ffidil yn y to.

Sian Gwenllian, felly, fydd yn derbyn fy nghefnogaeth i yn yr etholiad yma. Yn ystod ei chyfnod ar y Cyngor mae Sian wedi dangos ei bod yn wleidydd sydd yn gallu arwain ar faterion sylweddol o bolisi, ond sydd hefyd yn gallu arwain ar lefel gymunedol. Bydd yn ymgyrchydd cryf a all sicrhau'r sedd i'r Blaid, ond bydd yn AC cryfach byth, a'm gobaith yw y bydd hi'n gallu dilyn yn ol troed Alun Ffred a dod yn weinidog yn llywodraeth Cymru, ar ryw adeg yn y dyfodol.

O.N.

Dwi wedi crybwyll Mon, ond wrth gwrs mae sedd arall yn ffinio ac Arfon, sef Dwyfor Meirionydd. Mae'r Arglwydd Elis-Thomas wedi datgan y bydd o efo ni tan o leiaf 2020, ond dwi'n tybio y bydd yn dewis ildio ei le bryd hynny. Y person delfrydol i gymeryd lle Dafydd El ym Mae Caerdydd yw Liz Saville Roberts, sydd gyda'r mwyaf dawnus o aelodau presenol Cyngor Gwynedd. O edrych ymlaen i 2020, felly, fy nymuniad i fyddai gweld Sian Gwenllian yn aelod dros Arfon, Heledd Fychan ym Mon, a Liz Saville Roberts yn Nwyfor Meirionydd.

Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-6672148416494279092013-05-11T14:25:00.001-07:002013-05-11T14:25:56.786-07:00Ateb i gwestiwn does 'na neb yn ei ofynStori fawr yr wythnos i tua 0.05% o boblogaeth Cymru ydi'r newyddion bod Alun Ffred yn bwriadu rhoi'r gorau iddi fel Aelod Cynulliad yn 2016. Fel rhywun sy'n byw yn Arfon, Ffred ydi fy aelod lleol, ac ers i mi fod ar y Cyngor dwi wedi dod i'w adnabod yn o lew. Ond mae fy niddordeb yn y stori yn mynd lot pellach na'r cysylltiad personol yma. I raddau helaeth, dyma'r newyddion y bum i'n aros amdano am amser go faith. Rhyw bum mlynedd yn ol, fe fyddwn i wedi cyfaddef yn lled-agored fy mod i'n gobeithio medru dilyn yn ol troed Ffred a chamu i fyny o Gyngor Gwynedd i Fae Caerdydd. Dwi wedi bod yn berson gwleidyddol drwy fy oes, ond dros y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi cymeryd diddordeb arbennig yn y modd y mae rhoi syniad ar waith. Roedd gweld Plaid Cymru yn rhan o lywodraeth genedlaethol, mewn corff gyda'r pwerau i basio deddfwriaeth yn brofiad eithriadol o gyffrous, ond hefyd rhwystredig. Nid mod i'n tanbrisio cyfraniad y Blaid yn llywodraeth Cymru'n Un, cofiwch. Gan roi o'r neilltu am eiliad y blas cas sy'n dal i fod yn y geg wedi diwedd y papur dyddiol Cymraeg, dwi'n credu bod Plaid Cymru wedi llwyddo i ddefnyddio ein grym yn y glymblaid i sicrhau enillion gwirioneddol i'r Gymraeg o fewn y llywodraeth. Ond er mod i'n cefnogi llawer o be' y llwyddodd Plaid Cymru - ac Alun Ffred Jones yn benodol - i'w gyflawni, roeddwn i hefyd yn berwi gyda syniadau ar gyfer sut y gellid gwneud rhagor. Nid syniadau pie in the sky oedd y rhain, ond pethau ymarferol a ellid eu gwneud o fewn strwythr ceidwadol Llywodraeth y Cynulliad. Fe fum yn rhan o grwp yn trafod diwygio llywodraeth leol yng Nghymru, ac fe lwyddodd Cangen Dyffryn Ogwen i gael y gynhadledd genedlaethol i fabwysiadu polisi a fyddai'n creu dynodiad statudol ar gyfer cymunedau o ddiddordeb ieithyddol arbennig. Serch hynny, wnaeth fy syniadau i ynglyn a'r hyn yr hoffwn ei wneud i wella Cymru ddim dwyn ffrwyth. Llais bach, ymylol o fewn Plaid Cymru yw fy un i (a hynny'n bennaf oherwydd fy mod yn rhy ddiog a di-fynedd i roi fy amser a'm egni i fod yn dringo drwy rengoedd cenedlaethol y Blaid). O na fyddwn i yn esgidiau Alun Ffred, yn lais mawr, grymus gyda'r gallu i wneud nid dweud.

Ond rwan bod Ffred wedi cyhoeddi ei ymddeoliad, mae pob diddordeb sydd gen i yn swydd wedi diflannu. Mae'n anodd gwybod yn union beth sy'n gyfrifol am hyn. Mae fy mywyd personol i'n dylanwadu'n drwm, dwi'n meddwl. O adnabod rhywfaint ar Ffred, ac o wybod rhywfaint am ei batrwm gwaith, fedra i ddim gweld sut mae byw bywyd arferol a bod yn wleidydd llawn amser. Dyw'r swydd ddim yn un sy'n cadw oriau swyddfa, ac mewn sawl ystyr mae'r gwaith yn y Senedd ei hun a'r gwaith yn yr etholaeth yn ddwy swydd llawn amser. Fedra i ddim gweld sut y byddai modd i mi gynnal perthynas efo fy nheulu, a bod yn Aelod Cynulliad yr un pryd. Un o rinweddau anferth fy swydd fel darlithydd yw ei bod yn rhoi hyblygrwydd personol anferthol i mi. Dim ond am 22 wythnos y flwyddyn mae gofyn i mi fod yn darlithio, ac yn ystod y 30 wythnos arall rwy'n cael pen rhyddid i fod yn rheoli fy amgylchiadau gwaith. Mae digon i'w wneud, ond does dim disgwyl i mi fod yn cadw oriau cyson na gweithio o'r swyddfa ym Mangor. Byddai mynd o hyn i amserlen gaeth, wedi ei rheoli gan anghenion eraill yn eithriadol o anodd.

Ond mae 'na ystyriaeth dyfnach na dim ond y rhai personol. Er fy niddordeb anferth mewn gwleidyddiaeth, a mecanweithiau gwleidyddol, dwi ddim yn gwybod a ydw i'n wleidydd da. Mae'r modd y mae disgwyl i wleidydd weithio yng Nghymru heddiw yn gallu bod yn eithriadol o rhwystredig a llafurus. Mae ein cyfansoddiad gwleidyddol, gyda'i bwyslais ar rym y canol Llundeinig, wedi creu cyfres o sefydliadau sydd a phwerau cyfyng a dros ben. Mae hyn yn arbennig o wir ar lefel llywodraeth leol, lle yn aml iawn mae cyfyngiadau cyfreithiol allanol yn ein gorfodi ni i gymeradwyo un o ddau neu dri dewis, heb y gallu i ychwanegu dewis pedwar, pump neu chwech at y fwydlen. Ydi, mae hyn yn llawer gwaeth ar Gyngor Gwynedd nac y fyddai yn y Cynulliad, ond dwi ddim wedi fy argyhoeddi bod pethau fawr gwell ym Mae Caerdydd. Am gyfuniad o resymau diwylliannol a statudol, mae ein system ddemocrataidd ifanc ni yn un geidwadol dros ben.

Y teimlad sydd gen i yw y byddai tymor neu ddau ym Mae Caerdydd yn brofiad yr un mor rhwystredig a tymor ar Gyngor Gwynedd. Dwi'n gallu ymfalchio bod y Cyngor yn symud i'r cyfeiriad cywir, ac o dan arweiniad y mwyafrif doeth ar y Cyngor ein bod yn llwyddo i newid Gwynedd er gwell, nid er gwaeth. Ond yn rhedeg drwy'r balchder hynny mae'r sylweddoliad nad oes gan y Cyngor y gallu i wneud y newidiadau radical sydd eu hangen er mwyn gwarchod Cymru a'r Gymraeg rhag dirywiad economaidd, diwylliannol a ieithyddol pellach. Mae'r system wedi ei throi yn ein herbyn ni, ac er ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn gwneud y dewis callaf o'r rhai sydd yn cael ei gynnig i ni mae'r ffaith nad ydym ni'n gallu gwneud mwy yn gallu bod yn llethol o boenus ar adegau. A fy nheimlad i yw na fyddai symud i'r Cynulliad yn lleddfu rhyw lawer ar hyn.

Dwi ddim am i'r neges yma swnio yn rhy ddi-galon. Dwi yn credu bod lliw y llywodraeth yng Nghaerdydd yn gwneud gwahaniaeth, ac mi ydw i'n credu bod modd pasio polisiau sydd yn gallu rhywstro rhywfaint ar y niwed sy'n cael ei wneud i Gymru a'r Gymraeg. Ond dwi ddim yn teimlo fod y Senedd yn gwneud digon, a dwi ddim yn gwybod a fyddai fy llais i ym Mae Caerdydd yn gwneud unrhyw newid i hynny. Petawn i'n Albanwr, mae'n bosib y byddwn i'n teimlo'n wahanol. Nid yn unig mae'n bur debyg y daw pwerau ychwanegol i'w senedd hwy, refferendwm fuddugol neu beidio, mae'r SNP wedi llwyddo i feddianu mecanwaith wleidyddol y sefydliad, a'i siapio i'w hamcanion ei hun.

Does dim sicrwydd y gwel Cymru bwerau ychwanegol yn fuan, ond yn fwy arwyddocaol, dwi ddim yn gweld y bydd modd i ni dorri'r cyswllt diwyllianol sydd 'na rhwng gwasanaeth sifil y Cynulliad a'r Blaid Lafur Gymreig. Nid cyhuddo y gwasanaeth sifil o golli gafael ar ei di-dueddrwydd ydw i; yn wir, gellid dadlau bod meddylfryd y gweision sifil wedi dylanwadu mwy ar Lafur nac y mae Llafur wedi llwyddo i newid y gwasanaeth sifil. Fy mhryder i yw bod consensws cyfforddus yn bodoli ym Mae Caerydd, wedi ei wreiddio mewn statud, ond sydd wedi blaguro yn niwylliant sefydliad ifanc lle mae llawer iawn o'r unigolion mwyaf dylanwadol - yn wleidyddion a gweision sifil - wedi gweithio gyda'u gilydd ers 15 mlynedd. Fedra i ddim gweld sut y byddwn i'n ffitio i mewn i fywyd gwleidyddol Bae Caerdydd.

Ac felly, i ateb y cwestiwn does neb yn ei ofyn, fydda i ddim yn gwneud cais am enwebiad Cangen Arfon Plaid Cymru. Dwi'n gobeithio y cawn gystadleuaeth frwd am y sedd, ac yn 2016 y ca'i fynd allan i ymgyrchu dros ymgeisydd sydd a'r gallu i herio'r consensws yng Nghaerdydd. Ond yn anffodus, nid fi fydd yn ymgeisydd hwnw.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-76488130331476409862012-07-18T14:56:00.002-07:002012-07-18T14:56:19.230-07:00Dafydd El a chwip y BlaidFe fydd y rhan fwyaf ohonoch yn gwybod erbyn hyn bod Plaid Cymru wedi tynnu'r chwip oddi ar Dafydd Elis-Thomas, am iddo beidio a mynychu'r Cynulliad heddiw i gymeryd rhan mewn pleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd. Tydw i ddim bob tro yn cytuno a Dafydd El, a dwi wedi mynegi'r anghytundeb hwnw yma, yn y gorffenol. Ond yn yr achos hwn, dwi'n credu ei fod wedi cael ei drin yn shabby iawn.

Un o broblemau Dafydd yw ei fod yn llai na pharchus o egwyddorion collective responsibilty. Pan mae rhywun yn ymuno a grwp gwleidyddol, maent yn cael yr hawl i fynegi barn bersonol o fewn y grwp hwnw. Ond wedi cael y cyfle i fynegi'r farn honno yn fewnol, unwaith y bydd y grwp wedi dod i benderfyniad mae disgwyl i bob unigolyn gefnogi'r penderfyniad hwnnw yn gyhoeddus. Dwi'n tybio y byddai Dafydd wedi cael y cyfle i fynegi ei farn ar y bleidlais o ddiffyg hyder wrth ei gyd-aelodau, ac eu bod wedi anghytuno ag o. Drwy feirniadu safbwynt y grwp yn gyhoeddus, mae Dafydd wedi mynd yn groes i egwyddor collective responsibility, sydd yn dangos amharch tuag at ei gyd-aelodau.

Dwi ddim yn gwybod beth yn union yw rheolau sefydlog grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad, ond mi ydw i'n gyfarwydd a rheolau grwp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd. Mae ein rheolau ni yn cydnabod bod sefyllfaoedd yn codi lle nad yw'r aelod unigol yn gallu cefnogi safbwynt y grwp, sydd yn beth eithaf cyffredin. Does gan aelodau o'r grwp ddim hawl i bleidleisio yn erbyn y chwip, ond mae ganddynt yr hawl i atal eu pleidlais. Mae'r egwyddor yma yn eithaf cyffredin o fewn grwpiau gwleidyddol, dwi'n credu.

Tra mod i'n teimlo y dylai Dafydd Elis-Thomas geisio brathu ei dafod yn achlysurol, dwi ddim yn credu bod ei absenoldeb o'r Cynulliad heddiw yn fater disgyblaethol. Mae wedi anghytuno a safbwynt y grwp, ac wedi dewis atal ei bleidlais. Dwi ddim yn gweld beth sydd yn amhridol yn yr achos yma, ac yn methu deall pam fod y chwip wedi ei thynnu nol.

Mae hyn yn adlewyrchu yn wael iawn ar y Blaid, ac yn debygol o godi gwrychyn sawl un ar lawr gwlad. Tra'i bod yn hawdd iawn gweld bai ar Dafydd, byddai ei erlid o Blaid Cymru - ac i freichiau Llafur - yn golled anferthol i Blaid Cymru.

Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com3tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-65460673616262709612012-05-18T01:46:00.001-07:002012-05-18T01:46:57.275-07:00Clymblaid Cyngor GwyneddDdoe fe gyfarfu Cyngor newydd Gwynedd am y tro cyntaf, yn bennaf i ethol swyddogion, proses a fydd yn arwain ar greu Cabinet ddechrau'r wythnos nesaf. Ers 1996, mae Cyngor Gwynedd wedi gweithredu o dan drefn Bwrdd, yn wahanol i'r 21 o gynghorau eraill yng Nghymru. O dan y drefn hon, roedd pob grwp gwleidyddol ar y Cyngor yn cael eu cynrychioli ar Fwrdd y Cyngor - y corff a oedd yn gosod cyfeiriad polisi - yn unol a'u cynrychiolaeth ar y Cyngor Llawn. Felly, cyn yr etholiad eleni roedd Plaid Cymru yn dal 7 o'r 15 sedd ar y Bwrdd (gan fod gennym ychydig dros hanner aelodau'r Cyngor) gyda'r 8 sedd arall wedi eu rhannu rhwng y pleidiau eraill. Ond, yn eu doethineb, fe benderfynnodd Llywodraeth y Cynulliad y dylid newid y system hon, ac o ddoe ymlaen, bydd Cyngor Gwynedd yn cael ei redeg gan Gabinet, fel gweddill cyngorau Cymru.

O dan y drefn newydd, mae'r Cyngor Llawn yn ethol Arweinydd, ac mae'r Arweinydd yn dewis 10 aelod i eistedd yn y Cabinet - corff sy'n llawer iawn mwy grymus na'r hen fwrdd. Yr unig benderfyniadau y gall y Cyngor Llawn eu gwneud yw ethol Arweinydd, gosod cyllideb, a gosod strategaeth hir-dymor. Mae pob penderfyniad arall yn cael ei wneud gan y 10 aelod sydd yn y Cabinet, ac yna yn cael eu craffu gan weddill yr aelodau etholedig, mewn pwyllgorau. Gall yr aelodau eraill gynnig gwellianau, neu argymell peidio a dilyn trywydd arbennig, ond nid ydynt yn gallu gwyrdroi penderfyniad y Cabinet.

Roedd dewis Arweinydd yn fater o bwys, felly. Fel y gwyr y rhan fwyaf ohonoch chi, does gan Blaid Cymru ddim mwyafrif ar y Cyngor, ac felly doedd hi ddim yn bosib i ni ethol Dyfed Edwards yn Arweinydd - ac felly sicrhau rheolaeth Plaid Cymru o'r Cabinet - heb gymorth un o'r grwpiau eraill. Rhoddwyd gwahoddiad i bob un o'r grwpiau eraill gynnig syniadau ar gyfer cyd-weithio, ond dim ond gyda dau grwp, Llafur a'r Grwp Annibynnol, y bu unrhyw drafodaethau difri. Daeth yn amlwg nad oedd hi'n bosib dod i gytundeb gyda'r Grwp Annibynnol cyfan, ac felly yr unig ddewis i Blaid Cymru oedd clymbleidio gyda Llafur. Tra fod anesmwythder o fewn grwp Plaid Cymru ynglyn a mynd i'r gwely gyda plaid sydd wedi bod yn elyn traddodiadol i ni yng Ngwynedd am genhedlaeth, roedd y grwp yn credu bod pobl Gwynedd yn haeddu llywodraeth effeithlon, ac felly fe ddaethom i ddealltwriaeth a'r grwp Llafur.

Mae 'na ambell un wedi gofyn pam na fyddai Plaid Cymru a Llais Gwynedd wedi dod i gytundeb, gan awgrymu fod 'na fwy yn uno ein dwy blaid nac unrhyw ddau grwp arall ar y Cyngor. Er nad ydw i bellach yn prynnu Golwg, cefais gip arno ddoe, a gweld fod llythyr yn galw ar ddwy garfan genedlaetholgar Gwynedd i gymodi, a cyd-arwain y Cyngor. Roedd Rhys Llwyd ar Twitter yn cynnig yr un ddadl. Ac i rywun o'r tu allan, dwi'n gallu deallt pam ei bod yn apelgar. Maent yn gweld Llais Gwynedd fel rhyw fath o fersiwn mwy radical o Blaid Cymru; yn llai sefydliadol, yn fwy cymunedol, ond yn hanfodol genedlaetholgar. Y broblem ydi fod y dehongliad yma o Lais Gwynedd yn gwbl anghywir.

Tydw i ddim yn gwybod i ba raddau y gellir disgrifio Llais Gwynedd fel grwp cenedlaetholgar. Does dim amheuaeth bod 'na dri cenedlaetholwr amlwg - Now Gwynus, Alwyn Gruffydd a Seimon Glyn - yn perthyn i'r grwp (a dwi'n cymeryd y gellid ychwanegu enw merch Seimon, Gwenno, at y rhestr honno). Ond nhw yw'r unig rhai (o fewn grwp o 13 Cynghorydd) sydd yn arddel unrhyw fath o genedlaetholdeb agored. Fe fyddwn i'n tybio bod llond dwrn o'r 10 sydd ar ol yn arddel rhai o nodweddion cenedlaetholdeb yn breifat, ond nid yw'n rhan o'u disgwrs gwleidyddol fel aelodau o'r Cyngor. Ac mae 'na leiafrif ar y pegwn arall i Seimon, Now ac Alwyn sydd yn gwthio agenda sydd yn gwbl wrthun i'r math o genedlaetholdeb flaengar sydd yn nodweddu Plaid Cymru; maent yn geidwadol, yn blwyfol, yn wrth-ddeallusol, yn negyddol, ac yn aml yn Saesnig dros ben. Edrychwch ar dudalen Facebook y grwp neu flog Aeron Jones os ydych am weld y tueddiad yma ar ei waethaf. Yn syniadaethol, mae Llais Gwynedd yn nes at UKIP na Phlaid Cymru.

Cangymeriad yw credu fod Llais Gwynedd yn grwp cenedlaetholgar. Maent yn grwp gwleidyddol sydd yn cynnwys amrediad helaeth o safbwyntiau, gan gynnwys peth cenedlaetholdeb. Yr unig beth sydd yn eu huno yw eu gwrthwynebiad i Blaid Cymru, a'u negyddiaeth tuag at y drefn bresenol o lywodraeth leol. Ar lefel syniadaethol, does 'na ddim rheswm da pam y dylai Plaid Cymru ystyried clymbleidio gyda Llais Gwynedd. A phetai Llais Gwynedd yn llwyddo i glymbleidio gyda unrhyw un i reoli Cyngor Gwynedd, byddai'n arwain yr Awdurdod i lawr yr un llwybr a Chyngor Mon. Am y ddau reswm yma, mae clymblaid rhwng Plaid Cymru a Llais Gwynedd yn gyfangwbl amhosibl.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com5tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-46150246742976469212012-03-16T13:09:00.002-07:002012-03-16T13:47:46.921-07:00Cau Cob11 oed oeddwn i'n mynd i Cob Records ym Mangor am y tro cyntaf. Ishio copi o Anfield Rap oeddwn i, ond doedd 'na 'run ar ol, a mi es i o'no efo copi o Bad Young Brother Derek B. Diddordeb mewn pel-droed nath fy ngyrru yno i ddechrau, ond yn fuan iawn mi oedd y bel gron (a phob pel, bat a rhwyd arall) wedi colli ei apel, a'r rhesaid o records tu ol i ddesg Cob wedi cymeryd ei lle. Wrth i mi fynd rhyw ychydig yn hyn, mi aeth y siop yn fan cyfarfod wythnosol i griw ohona ni. Doedd y rhan gefn sydd yn y siop heddiw ddim yn bodoli, ac i fyny'r grisiau, lle 'roedd y tapiau'n cael eu cadw fydda ni'n treulio p'nawniau dydd Sadwrn. Roedd 'na silff ffenest lydan ym mlaen y llawr ucha, ac mi fydda staff y siop yn oddefgar iawn efo criw o hogia yn eu harddegau cynnar yn isda yn fanno am hydoedd, yn smocio ffags.

Sbio ar gloria oedda ni, yn amlach na phrynnu dim byd - Dwi'n dal i gofio bod yn fy nybla yn chwerthin ar glawr cefn Pioughd gan The Butthole Surfers. Ond chymerodd hi ddim llawer i mi ddechrau cymryd diddordeb yn y records eu hunain. Mi oedd 'na dipyn go lew o staff presenol Cob yn gweithio yno nol yn y 90au cynnar, ond yr un fuodd fwyaf parod i feithrin ein criw ni oedd Alun Cob, sydd bellach yn awdur (ac arbenigwr ar Jac y Ddafad Wyllt). Fo ddaeth o hyd i gopi o Wyau Datblygu i mi, ar ol i mi brynnu Pyst ar faes y 'Steddfod, a methu dod o hyd i'r albym cynt. Fo hefyd oedd yn ddigon clen - flynyddoedd yn ddiweddarach - i roi copi arall am ddim i mi o Theme gan The Sabers of Paradise ar ol i mi adael fy nghopi fi yn ffenest gefn y car ar ddiwrnod poeth.

Erbyn i mi gyrraedd diwedd fy arddegau mi oedd y rhan fwyaf o pa bynnag bres oedd yn dwad i'n rhan i'n cael ei wario yno. Ar ol dod nol o'r Brifysgol yn Leeds, a cael gwaith oedd yn talu'n dda, mi es i'n gwsmer rhy selog o lawer. Mae 'na bentwr mawr o finyl yn llenwi rhan helaeth o'm 'stafell fyw hyd heddiw, a'r rhan fwya' wedi dod o Cob Bangor.

Wedi deud hyn, cwsmar gwael iawn ydw i wedi bod ers blynyddoedd bellach. Ac eithrio stereo ges i'n bresant 'dolig yn 16 oed, ac a arhosodd adra pan es i i'r coleg, tydw i 'rioed wedi bod yn berchen ar chwaraewr CD, a 'does gen i ddim CDs yn fy nghasgliad. Ond mi oedd dyfodiad y we yn newid byd anferth. Yn hytrach na gorfod tyrchu drwy resi o records ail-law yn gobeithio dod ar draws rhyw berl, neu aros i weld a fyddai copi finyl prin o albym newydd yn dod i Cob, mi oedd eBay yn cynnig y byd i mi ar blat. Mi oedd holl gyfoeth degawdau ar gael o fy nesg yn y gwaith, ac mi ddechreuais ymweld yn llai aml a Cob.

Gwaethygu wnaeth petha pan ges i laptop, band-eang ac iPhone. Rwan, doedd ddim hyd yn oed rhaid i mi aros i'r record gael ei phostio. Mae 'na rhywun yn awgrymu albym newydd, dwi'n estyn ffon o'm mhoced, ac mewn pum munud dwi'n gwrando arni. Dwi'n dal i brynnu recordiau, o bryd i'w gilydd - ond fel arfer dwi'n agor y pecyn i gael y cod llawrlwytho, cael gafael ar yr mp3s, a gadael i'r record isda ar y silff yn casglu llwch.

Gyda euogrwydd es i mewn i Cob am y tro olaf wythnos dwytha, felly. Fi a'm tebyg sy'n gyfrifol fod y lle yn cau. Mi o'n i'n gwbod bod 'na sel hanner pris, ac mi oedd mynd trwy'r silffoedd yn teimlo fatha ysbeilio rhyw hen feddrod. Ychydig iawn oedd 'na ar ol, mewn gwirionedd, ac mi brynnais i rhywbeth ar hap, am bod gen i ormod o gywilydd cerdded allan yn waglaw. Dwi'n dilyn Bonnie "Prince" Billy ers blynyddoedd, ond yn teimlo ei fod wedi hen basio'i orau. Ond mi oedd 'na record ddiweddar nad oedd yn fy nghasgliad i, ac mi o'n i'n licio'r clawr, felly mi es i a hi efo fi. A - syndod a rhyfeddol - wedi gwrando ar y record (sef Bonnie Prince Billy and The Cairo Gang - The Wonder Show of the World) mae hi'n wych. Heb fynd i mewn i'r siop, efo'r awydd i brynnu beth bynnag oedd ar gael, mae'n debyg na fyddwn i wedi dod ar draws hon. Ydi, mae'r we yn haws, ac yn cynnig rhagor o ddewis. Ond mae 'na rhywbeth yn arbennig am bori trwy'r silfoedd, a tharo yn ddamweiniol ar glasur annisgwyl fel hon. Er gwaetha fy esgelustod diweddar, fe fydd colli Cob yn golled anferth i mi, ac i bawb fu yno'n pori dros y blynyddoedd.

Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-8950309843216120502012-02-28T03:35:00.003-08:002012-02-28T04:13:35.570-08:00Pam fy mod yn cefnogi Elin JonesMae'r papur pleidlais wedi cyraedd o'r diwedd, ac mae'n cael ei lenwi a'i bostio nol heddiw. Os ydych wedi darllen fy negeseuon blaenorol, fe ddylech wybod nad oes gen farn eithriadol o gref y naill ffordd neu'r llall ar yr ymgeisyddion. Dwi wedi rhoi sylw eithaf helaeth i Leanne Wood a Dafydd Elis-Thomas yn barod ond i grynhoi yn gyflym, dwi'n credu bod Leanne yn meddu ar y sgiliau personol i fod yn arweinydd eithriadol o effeithiol, ond mae ei gwleidyddiaeth yn rhy bell i'r chwith. Mae Dafydd Elis-Thomas eto yn rhywun sydd a'r ddawn i arwain, ond mae ei gefnogaeth i'r Blaid Lafur yn peri anhawster i mi - heb son am ei gefnogaeth i'r frenhiniaeth. Sydd yn dod a ni at yr unig ymgeisydd sydd ar ol yn y ras, Elin Jones.

Does dim amheuaeth bod Elin Jones yn wleidydd eithriadol o ddawnus. Mae wedi enill sawl etholiad caled mewn sedd sy'n parhau i fod yn un ymylol i Blaid Cymru. Yn bwysicach na'i dawn etholiadol, mae wedi dangos ei gallu fel Gweinidog yn y Cynulliad. Os yw Plaid Cymru o ddifri am fod yn blaid lywodraethol, mae'n rhaid i ni allu dangos bod gennym ni'n gallu i lywodraethu - byddai enill mwyafrif mewn etholiad cyffredinol, ac yna gwneud smonach o'r 4 blynedd ganlynol, yn ein gwneud yn wrthblaid barhaol am genhedlaeth arall.

Y ffordd orau o berswadio pobl Cymru fod rhinwedd i annbiynniaeth yw drwy ddefnyddio'r system bresenol i lywodraethu'n effeithiol. Mae pawb yn gwybod bod hanes Plaid Cymru yn hanes o wrthwynebu, ac mae sawl un wedi dadlau dros y 10-15 mlynedd diwethaf nad yw Plaid Cymru yn gallu gweithredu fel plaid llywodraethol. Mae cyfnod Cymru'n Un wedi dangos mae lol yw hyn, a fod gan Blaid Cymru y gallu i lywodraethu - ac Elin Jones (ynghyd ac Alun Ffred Jones) wnaeth un o'r cyfraniadau pwysicaf i chwalu dadl y rhai sy'n ceisio ein paentio efo'r un brws a'r Lib-Dems. Mae Elin wedi dangos fod modd gwella Cymru drwy ddal portffolio yn llywodraeth Cymru, ac mae hyn yn rinwedd mawr mewn arweinydd.

Mae Elin Jones hefyd yn llawer iawn nes at fy anian gwleidyddol i na'r un o'r ddau arall. Dwi'n ystyried fy hun ar y Chwith, ond ar y chwith gymhedrol. Tydw i ddim yn credu fod modd adeiladu Cymru llewyrchus, nac enill tir etholiadol i Blaid Cymru drwy symud ymhellach i'r chwith na'r Blaid Lafur. Dwi ddim yn dweud am eiliad bod Elin Jones yn rhannu union yr un weledigaeth a mi, ond yn sicr mae hi'n nes ata i na'r ddau arall. Cyngor Cenedlaethol Plaid Cymru fydd yn gosod cyfeiriad y blaid, nid yr arweinydd, ond does dim diben gwadu fod gan arweinydd ddylanwad. Fe hoffwn i weld Plaid Cymru yn symud i gyfeiriad gweledigaeth Elin Jones, yn hytrach na gweledigaeth Leanne Wood.

Dwi wedi pendronni yn hir dros pwy ddylai gael fy ail a thrydedd pleidlais, a'r gwir amdani yw ei bod hi'n amhosib gwahaniaethu. Fe fyddaf yn cefnogi pa bynnag un o'r tri a gaiff ei h/ethol, ac yn gwneud hynny a brwdfrydedd. Ond o ran bwrw pleidlais, fedra i ddim dweud fy mod yn cefnogi Dafydd dros Leanne, na Leanne dros Dafydd. Dim ond un pleidlais fydda i'n ei bwrw yn yr etholiad yma felly, a honno dros Elin Jones.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-13843751077529512182012-02-03T14:45:00.000-08:002012-02-03T15:53:06.206-08:00Yr arweinyddiaeth - Leanne WoodMae ymgeisyddiaeth Leanne Wood am arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi bod ar fy meddwl tipyn heddiw. Cafodd le amlwg mewn erthygl yn y Guardian ddoe a arweiniodd at flog diddorol gan Betsan Powys heddiw A fel mae'n digwydd, mae hi wedi bod yn Nyffryn Nanlle heno, yn siarad ac aelodau; er nad oeddwn i yno fy hun, mae ambell un ar fy ffrwd Twitter wedi nodi bod dros 100 yn bresennol yno.

Yn ol John Harris yn y Guardian, Leanne Wood yw'r ffefryn i enill y ras. Dwi ddim yn dymuno bod yn amharchus tuag at Harris, gan fy mod yn mwynhau llawer o'i ysgrifennu. Ond newyddiadurwr yn ysgrifennu am gerddoriaeth yw Harris yn wreiddiol, sydd bellach yn ysgrifennu darnau gwleidyddol eithaf meddal, yn aml yn ymdrin a chymunedau dosbarth gweithiol, a'u dadrithiad gyda Llafur. Ysgrifennodd lyfr am yr union bwnc yma nol yn 2005 Yn y gyfrol honno, mae'n rhoi ychydig o le i Blaid Cymru, gan ysgrifennu darn yn clodfori'r Aelod Seneddol disglair, ifanc, Simon Thomas - a gollodd ei sedd yn San Steffan rai misoedd yn ddiweddarach. Felly maddeuwch i mi os nad ydw i'n rhoi gormod o bwys ar ddadansoddiad Mr Harris.

Un o wendidau Harris yw ei fod yn canolbwyntio yn ormodol ar straeon personol. Mae yn hoff o greu naratif afaelgar, yn troi o amgylch cymeriadau cryf (sydd ddim yn ormod o her i'w crynhoi mewn erthygl papur newydd o rhyw fil neu ddwy o eiriau). Ac mae stori Leanne Wood, ar hyn o bryd, yn un dda. Mae ganddi gefnogaeth rhai o enwau mawr y Blaid, ac ar Twitter a Facebook, ei henw hi sydd i'w glywed amlaf o beth dipyn. Hi yw'r lleiaf traddodiadol (o ran cefndir cymdeithasol), a'r mwyaf radical (o ran gwleidyddiaeth), o'r pedwar sydd yn y ras. Mae wedi adnabod yr angen am bendantrwydd ac eglurder ynglyn a phwrpas a chyfeiriad y Blaid, ac wedi gosod yr agenda; i'r fath raddau fel bod hyd yn oed Dafydd Elis-Thomas wedi rhoi semantics o'r neilltu, am y tro. Serch hyn i gyd, dwi'n credu nad oes gan Leanne obaith o enill, ac mae yn y trydydd safle - tu ol i Elin Jones a DET - fydd hi'n gorffen y ras.

Pam? Yn bennaf, oherwydd nad oes ganddi sylfaen gref o gefnogwyr ymhlith aelodau o'r Blaid, problem sydd yn mynd i gael ei gwaethygu gan y system bleidleisio gyfrannol. Dwi'n aelod o gangen Dyffryn Ogwen, sef yr ail gangen fwyaf yng Nghymru, ar ol Caernarfon. Mae llawer iawn o'r aelodau hyn wedi cefnogi Plaid Cymru ers degawdau, rhai - fel fi - yn blant i'r genhedlaeth o bobl ifanc a dorrodd gyda traddodiad Llafur/Rhyddfrydol eu rhieni ynghanol yr 20fed Ganrif i ymuno a Phlaid Cymru. Mae'r rhain yn bobl sydd yn adnabod Dafydd Elis-Thomas yn dda, a sydd yn teimlo cysylltiad teuluol ag o; mae llawer iawn o enw da Plaid Cymru yn Arfon a Meirionydd yn deillio o'r gefnogaeth a roddodd y ddau Ddafydd a Gwynfor Evans i'r cyn-chwarelwyr a'u teuluoedd a gafodd eu taro gan psilicosis. Er fod DET yn ffigwr dadleuol, i nifer fawr o aelodaeth y Blaid yng Ngwynedd - sydd yn gyfran helaeth iawn o holl aelodaeth y Blaid - fe fydd Dafydd Elis-Thomas yn ddewis naturiol i arwain.

'Does gan Elin Jones ddim o'r un traddodiad o gefnogaeth, ond mae hi'n apelio at yr un garfan o aelodau yng Ngheredigion. Bydd ei record fel gweinidol eithriadol o lwyddianus yn y Cynulliad, ynghyd a'r plwyfoldeb sydd yn teyrnasu yn y Gymru Gymraeg o dan faner "bro-garwch", yn golygu y bydd hi yn mynd a chanran uchel o bleidlais Ceredigion a Sir Gar - dwy ardal arall sydd yn gartref i nifer helaeth o aelodau Plaid Cymru. Ac fe dybiwn i y bydd 'na gyfran helaeth o gefnogwyr Elin Jones yn rhoi ail bleidlais i DET, fel y bydd ei gefnogwyr ef yn rhoi ail-bleidlais iddi hi.

Mae gwendid ymgrych Leanne, yn fy marn i, yn adlewyrchu y gwendid sylfaenol sydd yn rhedeg drwy Blaid Cymru ar y funud, o ran ymgyrchu. Mae ei chefnogwyr yn weithgar, yn ymroddedig ac yn frwd; mae nhw'n ymgyrchwyr meddylgar, sydd yn benthyg arferion arloesgar o bedwar ban byd; yn ifanc, ac yn deallt sut i ddefnyddio'r cyfryngau newydd. Ond mae nhw'n ddall i'r ffaith nad yw'r tactegau hyn mor effeithiol ar lawr gwlad yn y rhannau hynny o Gymru sydd yn dir ffrwythlon i Blaid Cymru. Nid yw ymgyrch Twitter wych, neu darn cefnogol yn y Guardian, yn gwneud mymrun o wahaniaeth ar strydoedd Dyffryn Ogwen.

Dwi ddim yn dymuno swnio fel deinasor: mi ydw i'n ddyn sydd yn byw am bob dim technolegol (ac mewn bywyd arall yn cadeirio fforwm gyhoeddus sydd yn gwthio syniadau radical am bwysigrwydd y cyfryngau rhyngweithiol). Ond mi ydw i'n adnabod yr ardal o'm cwmpas yn reit dda. Mae Alun Ffred yn Aelod Cynulliad poblogaidd ym Methesda oherwydd ei fod yn rhoi prynhawn o'i amser i eistedd mewn neuadd gymuned oer unwaith bod rhyw dair wythnos i helpu i ddatrys problemau pobl leol. Mae fy nghyd-aelod lleol ar Gyngor Gwynedd, y Cynghorydd Ann Williams (Ogwen), yn cerdded hyd a lled ei ward yn wythnosol, yn siarad gyda ei phobl. Y math hyn o waith sydd yn gwneud Arfon yn sedd ddiogel i Blaid Cymru, a nid ei hymgyrch genedlaethol ddeniadol ac arloesol. Mae'r deniadol a'r arloesol yn bwysig, ond eisin ar y gacen ddylai o fod, a nid swmp a sylwedd unrhyw ymgyrch.

Ond beth am yr ymgeisydd ei hun? Mae ei gwleidyddiaeth yn wahanol iawn i fy ngwleidyddiaeth i, ond gellid dweud hynny am lawer iawn o aelodau Plaid Cymru - a dwi'n derbyn mae y fi yw'r eithriad yn y fan hyn, nid Leanne Wood. Fe ddywedodd hi rhyw dro y byddai'n ymuno a phlaid Respect, pe na bai Plaid Cymru yn bodoli, ac mae hynny'n fater o bryder i mi. Dwi'n credu bod angen i Blaid Cymru fod yn gynhwysol, gan leoli ei hun ar y tir canol gwleidyddol; a yw hyn yn gydnaws ac arweinydd sydd yn datgan cefnogaeth i blaid eithafol asgell chwith? Am yr un rheswm, mae ei brwdfrydedd dros "sosialaeth" yn broblem fawr i mi (er y gellid cyhuddo Dafydd Elis-Thomas hefyd o fyw yng nghysgod yr hen syniadaeth ddifaol honno hefyd). Ers goruwchafiaeth Tony Blair mae 'na son mawr am y "Clause Four Moment" fel cam hanfodol wrth adfywio plaid wleidyddol. I mi, byddai torri ymaith ymrwymiad cyfansoddiadol Plaid Cymru i "sosialaeth" yn rhoi'r foment bwysig hon i'r Blaid, ac yn sicr nid Leanne Wood fyddai'r arweinydd i arwain y frwydr honno.

Serch hynny, mae'r ychydig fisoedd diwethaf wedi dangos fod gan Leanne Wood ddawn arbennig fel ymgyrchydd, a'r gallu i danio dychymyg rhai o'r to ifanc sydd wedi dadrithio gyda Phlaid Cymru. Mae wedi dangos ei gwerth i Blaid Cymru, ac wedi gwneud achos da iawn dros chwarae rol gyhoeddus amlycach. Draw dros yr Iwerydd, mae ymgyrch arlwyddol America yn dechrau codi stem, a fedra i ddim peidio a theimlo y byddai Leanne Wood yn gwneud dirprwy da iawn i Elin Jones ar balanced ticket mewn ras ar gyfer Arlwydd Cymru.
Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com3tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-90600686596456434702012-01-26T03:13:00.000-08:002012-01-26T05:01:20.540-08:00Arweinyddiaeth Plaid Cymru - Dafydd Ellis ThomasWedi cyfnod hir iawn o beidio blogio, mae'r ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi fy hudo yn ol. Dwi wedi gwneud rhyw sylwadau wrth basio ar Twitter, ond mae cymlethdodau'r ras yn gofyn am fedru dweud mwy nac y gellid ei ffitio mewn i 140 llythyren.

Heb fynd i swnio'n rhy negyddol, dwi ddim yn credu bod y cynnig sydd ger bron yr aelodau yn un arbennig o wefreiddiol. Mae'r broses o ddewis arweinydd - hyd yn hyn - wedi bod yn donic i'r Blaid, yn bennaf oherwydd y cynnwrf mae Leanne Wood wedi llwyddo i'w greu ymysg aelodau newydd, ifanc. Ond y teimlad dwi'n ei gael yw bod pedwar sydd yn y ras yn ddarpar arweinwyr dros dro. Dwi'n gwybod mor syrffedus yw clywed aelodau Plaid Cymru yn trin Adam Price fel Meseia, ond fedra i ddim peidio a theimlo mae cadw'r sedd yn gynnes i Adam fydd gwaith pa bynnag un o'r pedwar fydd yn llwyddianus.

Mae gen i rhyw deimlad efallai bod Dafydd Elis-Thomas yn teimlo 'run fath a fi. Dwi ddim yn argyhoeddedig fod DET yn dymuno bod yn arwain Plaid Cymru i mewn i etholiadau 2019; yn hytrach, dwi'n teimlo ei fod yn gweld yr her i'r Blaid yn y tymor canol, ac yn dymuno rhoi sefydlogrwydd iddi dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Os mae dyna'r bwriad, dwi ddim yn or-wrthwynebus i ymgeisyddiaeth yr Arglwydd. Dwi'n ymwybodol fod DET yn ffigwr dadleuol o fewn y Blaid, ond dwi ddim yn siwr faint o sylwedd sydd 'na i'r feirniadaeth ohono. Ei ddatganiadau ynglyn a chenedlaetholdeb a'r frwydr iaith sydd wedi gwneud niwed iddo, ac mae'r rhain yn deillio o ymgais i gymeryd safbwynt mwy nuanced ar y materion hyn - ymgais sydd wedi methu, i raddau helaeth, a sydd wedi arwain at ganfyddiad o fewn Plaid Cymru ei fod yn wrthwynebol i draddodiad cenedlaetholgar-ddiwylliannol y Blaid.

Dwi'n credu bod 'na wahaniaethau eithaf helaeth rhwng fy ngwleidyddiaeth i a gwleidyddiaeth DET - yn enwedig ar genedlaetholdeb diwylliannol, yr Undeb Ewropeaidd a materion rhyngwladol. Ond mae gen i barch mawr at allu DET, ac yn credu ei fod yn meddu ar y sgiliau cyfathrebu sydd yn angenrheidiol mewn arweinydd. Yng nghyd-destun Gwynedd, mae hefyd wedi bod yn eithriadol o gefnogol i waith y Cyngor. Y peth hawdd i'w wneud fyddai iddo neidio ar bob bandwagon Llais Gwynedd-aidd sydd yn pasio heibio; gwneud ei hun yn boblogaidd ar draul ei gyd-aelodau ar y Cyngor. Mae DET yn haeddu clod am beidio gwneud hyn, a rhoi ei gefnogaeth lawn i'r hyn mae Plaid Cymru yn ei wneud o fewn ei etholaeth.

Y maen tramgwydd mawr i mi yw perthynas Plaid Cymru a phleidiau eraill y Cynulliad. Mae Dafydd Elis-Thomas wedi ei gwneud yn berffaith blaen ei fod yn credu mae lle Plaid Cymru yw cyd-weithio a Llafur yn y Cynulliad i wthio agenda flaengar, Gymreig yn ei blaen. Mae wedi datgan y bydd yn gwthio'r Blaid i fabwysiadu'r egwyddor nad ydynt yn fodlon clymbleidio a'r Ceidwadwyr ar unrhyw gyfrif. Tra mod i'n deallt ei anfodlonrwydd i gyd-weithio a'r Toriaid, mae'n rhaid cofio bod 'na nifer fawr o bobl o fewn Plaid Cymru - minnau yn eu plith - sydd a gwrthwynebiad egwyddorol sylfaenol i glymbleidio gyda unrhyw un o'r pleidiau unoliaethol. Roeddwn i'n anhapus iawn ein bod ni wedi clymbleidio gyda Llafur yn 2007. Yn y tymor hir, mae gen i bryderon anferth am effaith cael un blaid yn tra-arglwyddiaethu dros ddemocratiaeth yng Nghymru, ac roedd Cymru'n Un yn atgyfnerthu'r unbleidiaeth yma. Ond, mi ydw i hefyd yn cydnabod fod Cymru'n Un wedi galluogi Plaid Cymru i gyflawni nifer o addewidion ei maniffesto, a hynny er bydd pobl Cymru. Mae clymbleidio yn rhan annatod o wleidyddiaeth Cymru ers 1999, ac mae'n rhaid i Blaid Cymru gymeryd agwedd bragmataidd at ddewis partneriaid. Mae mabwysiadu egwyddor o eithrio un blaid yn cyfyngu gallu Plaid Cymru i wthio agenda cenedlaetholdeb yn ei blaen.

Dyma pam na fedra i gefnogi Dafydd Elis-Thomas fel dewis cyntaf. Ond, dwi yn gefnogol i'w achos, ac yn credu y byddai'n gwneud arweinydd dros-dro rhagorol. Felly, oni bai fod pethau'n newid yn radical rhwng rwan a derbyn y papur pleidleisio, DET fydd yn cael fy ail-bleidlais i.

Ac o ran darogan y canlyniad? Dwi'n credu mae DET fydd yn yr ail safle ar ddiwedd y ras. Mi roi fy marn ar y 3 ymgeisydd arall dros y dyddiau nesaf.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-19449915544234732072011-07-08T12:15:00.000-07:002011-07-08T12:19:15.781-07:00Diwedd i gyfnod anodd dros benFe fydd rhai ohonoch yn gwybod fod Heddlu Gogledd Cymru wedi dwyn achos yn fy erbyn yn ddiweddar, yn dilyn cwyn gan y Cynghorydd Seimon Glyn ynglyn a deunydd y mae'n honni iddo ei weld ar fy nhudalen Facebook.
Ers i'r honiadau hyn gael eu gwneud yn fy erbyn, rwyf wedi datgan yn gwbl glir fy mod yn ddi-euog o unrhyw drosedd. Heddiw, penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron i roi'r gorau i'r achos yn fy erbyn, oherwydd diffyg tystiolaeth. Diolchaf fod synnwyr cyffredin wedi enill y dydd, a bod fy ffydd yn y system droseddol wedi ei wobrwyo. Rwyf llawn mor sicr y bydd ymchwiliad Ombwdsmon Cymru yn dod i'r un casgliad - sef nad wyf wedi gwneud unrhyw beth o'i le.
Hoffaf ddiolch o galon i fy nheulu, ffrindiau a chyd-weithwyr am eu cefnogaeth di-wyro dros yr ychydig wythnos diwethaf. Hoffwn ddiolch hefyd i'r dwsinau o bobl sydd wedi cysylltu o bob rhan o Gymru i fynegi eu cefnogaeth i mi. Nid oes yr un enaid byw wedi bod yn llai na charedig gyda mi drwy gydol y cyfnod. Yn olaf, hoffwn ddiolch i Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd am eu hymddygiad proffesiynnol a chwrtais drwy gydol yr ymchwiliad.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-23951272135920523622010-09-03T02:02:00.000-07:002010-09-03T02:24:44.700-07:00Gwneud y pethau bychainDiolch i Rhodri ap Dyfrig a chriw Pethau Bychain am drefnu'r digwyddiad heddiw. Mae'r blog wedi bod yn ddistaw dros ben yn ddiweddar, ac mae gweithgarwch criw Pethau Bychain, ynghyd a'r ffaith fy mod wedi dod yn syfrdanol o uchel yn rhestr flynyddol Blogiau Cymreig Total Politics wedi codi cywilydd arna i. Pam fy mod i wedi gwneud cyn lleied o ymdrech i flogio yn ddiweddar?
Does dim amheuaeth fy mod i wedi bod yn brysur - gyda fy ngwaith bob dydd ym Mhrifysgol Bangor, ond hefyd gyda amryw bethau eraill yn fy mywyd. Fe briodais ar yr 17eg o Orffennaf, ac fe gymerodd hynny dalp o fy amser ddecrhau'r haf. (Dwi hefyd yn aelod o Awdurdod S4C, ond dwi ddim yn mynd i ddechrau trafod y prysurdeb sydd wedi bod ynghlwm a hynny).
Yn y gwaith, dwi'n defnyddio'r haf yn bennaf i wneud gwaith ymchwil, ac mae'r PhD wedi bod yn symyd ymlaen yn boenus o araf. Serch hynny, fe dderbyniais i newyddion da ychydig wythnosau yn ol, ynglyn a darn arall o waith ymchwil sydd gen i ar y gweill. Dwi wedi derbyn grant i fod yn gwneud darn o waith ar hunaniaeth bechgyn ifanc Cymraeg, a hynny drwy ddefnyddio dulliau sydd wedi eu llunio gan Yr Athro David Gauntlett, o Brifysgol San Steffan.
Fel rhan o'r cynllun hwn, fe fydda i'n ymweld a thair ysgol uwchradd mewn ardaloedd Cymraeg, ac yn gweithio gyda grwp dethol o fechgyn. Y syniad ydi ein bod yn mynd ati i ddychmygu beth fyddai hanes superhero wedi ei fagu yn y Gymru Gymraeg - Spiderman o Gaernarfon, neu Superman o Dregaron. Mae'r grant yn ein galluogi ni i dalu arlunydd proffesiynnol i weithio gyda'r bechgyn i lunio'r cymeriadau, a dwi'n gobeithio gallu defnyddio doniau un arlunydd arbennig sydd wedi gweithio ar rai o gomics mawr Marvel a 2000AD.
Beth bynnag, fe fydd y cymeriadau a'r comics yn cael eu rhoi ar y we pan mae nhw'n barod, ac fe fydd cyfle i'r cyhoedd ein cynorthwyo wrth i ni geisio dehongli beth mae'r cymeriadau yn eu dweud am hunaniaeth y bechgyn. Fe wna i adael mwy o fanylion yn y fan hyn, wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen, gan obeithio bydd gan rai ohonoch chi ddiddordeb mewn cyfrannu at y drafodaeth.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-44313598862494900802010-06-08T12:20:00.001-07:002010-06-08T12:26:38.745-07:00Ysgol y Parc - Ymateb Ffred FfransisMae Ffred, fel finnau, yn ddyn hynod o brysur sydd yn gorfod ffitio gwaith gwleidyddol o amgylch bywyd go iawn. Yn dilyn protestiadau ychydig wythnosau yn ol, a'r drafodaeth a ddilynnodd, mae wedi ysgrifennu neges ataf. Roedd wedi bwriadu ei rhoi yn adran sylwadau'r blog, ond wedi methu a gwneud gan ei bod yn rhy hir. Felly er tegwch iddo (a gyda ei ganiatad) dwi'n atgynhyrchu'r cyfan yma. Os ca'i amser, efallai yr ysgrifenna i ymateb dros yr wythnosau nesaf.

Annwyl Dyfrig
Dyma gyfle o'r diwedd i ymateb i'th sylwadau am Ysgol Parc a'r ddadl yn
siambr Gwynedd. Pwyllgor Craffu oedd hwn i fod, ond doedd fawr dim
gwaith craffu na holi beirniadol ar yr argymhelliad i gau Ysgol Parc.
Byddai llawer iawn o faterion y byddwn yn anghytuno a nhw o ran yr hyn a
ddywedwyd ac na ddywedwyd y diwrnod hwnnw, ond ni byddwn yn torri ar
draws y gweithgareddau onibai egwyddor sylfaenol yn y fantol. Gallwn i
fod wedi aghytuno a lleoliad arwydd ffordd yn y 70au, ond fyddwn i ddim
yn ei symud heblaw am ei fod yn anwybyddu'r Gymraeg.

Yr egwyddor sylfaenol oedd bod y penderfyniad wedi bradychu lles a
gobeithion plant ysgol Parc a'r gymuned Gymraeg y maent yn perthyn iddi.
Rwy'n sicr nad dyna fwriad y cynghorwyr a bleidleisiodd felly - ac felly
nid bradwyr mohonynt - ond dyna effaith ymarferol eu gweithred, ac ni
sefydlwyd Plaid Cymru er mwyn bradychu cymunedau Cymraeg bychain. Mae'n
cymryd dwy funud o ystyriaeth i gynnig gwelliant y dylai'r Cyngor
weithio i gynnal y gymuned wedi cau'r ysgol - ond mae'n cymryd
blynyddoedd o fyw yn Parc (neu, fel fi, mewn pentre gwledig cyffelyb) i
weld mor wag yw geiriau o'r fath. Nid rhywbeth i'w chreu gan Swyddogion
Datblygu yw cymuned ond twf organig i'w hyrwyddo trwy sicrhau fod
ffocysys cymunedol ar gael. Yr ysgol yw'r pwysicaf o'r rhain ar gyfer
plant ac oedolion ifainc o oed rhieni. Trwy'r ffocws hwn maen nhw'n
cyfarfod ac yn rhannu gobeithion a diwylliant byw. Hebddi fe ant ar
chwal i wahanol gyfeiriadau, ac mae cymuned gyfan yn heneiddio wrth fod
rhieni ifainc yn peidio a dewis byw mewn cymuned heb ysgol. Flynyddoedd
yn ol yr oedd sawl ffocws i fywyd cymuned bentrefol, fe erys ychydig.
Mae'r sefyllfa'n fwy unigryw yn Parc gan fod y gymuned wedi mynd trwy'r
frwydr am ei dyfodol yn barod ac fe sefydlwyd, o ganlyniad, bartneriaeth
unigryw rhwng ysgol a chymuned - gyda neuadd yn rhan o'r ysgol a
phrifathro yn cael dyletswydd a chydnabyddiaeth fel arweinydd cymunedol
Cymraeg. Byddai ganwaith anos cynnal adnodd o'r fath heb fod ysgol yn
rhan ohoni - o ran incwm ac o ran cyfranogiad pobl ifainc. O ran yr
effaith ar y Gymraeg, rwyt yn cyfeirio at adroddiad Dylan Bryn. Fe
wnaeth yr hyn y'i gofynwyd ohono - sef ateb y cwestiwn "Petai plant Parc
oll yn mynd i Lanuwchllyn, beth fyddai'r effaith ar eu hiaith ?" Mae'r
ateb gweddol hunan-amlwg yn y fformiwla mathemategol simplistaidd -
"Byddai deirgwaith fwy o blant Cymraeg, ac felly deirgwaith mwy o
gyfleon i ddefnyddio'r iaith !!!" Ond mae rhagdyb y cwestiwn yn
anghywir. Fyddai plant Parc ddim yn mynd yn otomatig i Lanuwchllyn
oherwydd mai dyna gynllun biwrocrat yng Nghaernarfon. O chwalu'r cyswllt
rhwng ysgol a chymuned a thanseilio ymdeimlad rhieni o berchnogaeth ar
eu hysgol, byddai rhieni'n anfon eu plant at amrywiaeth o lefydd yn ol
cyfleustra personol, teuluol a gwaith. Yn ol yr ymdrafod lleol, byddai
rhyw 6 yn debyg o fynd i Lanuwchllyn, cwpwl i Ysgol Bro Tryweryn a'r
mwyafrif i'r Bala. O roi cwestiwn neu senario felly, byddai'r awdur wedi
dweud y byddai'r symudiad yn ddinistriol i iaith y plant. Yn llawer
pwysicach, byddai'n ehangach niweidiol i'r Gymraeg trwy danseilio
cymuned bentrefol Gymraeg arall.

Dwi'n eitha siomedig yn dy syniad cul iawn - o ddarllen dy flog - o beth
yw diben addysg a'r meddylfryd adrannol ynghylch sut y dylid gweinyddu
cyllid. Mae cyfranogiad rhieni a chymuned yn addysg y plant yn ffactorau
o werth addysgol yn yr oedran gynnar, ac mae golwg holistaidd ar
weinyddu cyllid yn cynnig atebion llai simplistaidd nag eiddo swyddogion
y Cyngor. Yn ol ffigurau'r swyddogion, byddai cau Ysgol Parc yn arbed
£59,000 (neu £2.65 y pen i bob disgybl yng Ngwynedd). Byddai'r ffigur yn
gostwng yn sylweddol os ystyriwch werth ariannol y cymorth gwirfoddol a
roddir gan drigolion Parc i'r addysgu, ac hefyd cost gwaith unrhyw
swyddogion datblygu sy'n ceisio codi'r darnau wedi cau ysgol. Ond yn
bwysicach, mae'r swyddogion yn ystyried arbedion mewn cymhariaeth a'r
status quo (nad oes neb yn ei bledio) yn hytrach na chydag opsiynau
eraill. Fe roddwyd i'r pwyllgor cam-wybodaeth ddybryd gan swyddog am
ystyr a goblygiadau ffederasiynau yn ol y rheoliadau newydd a gyhoeddwyd
yn derfynol ddeufis yn ol (ond a fodolent am 18 mis cyn hynny ar ffurf
drafft). Am ryw reswm, mae Gwynedd o hyd yn edrych ar ffederasiwn fel
posibiliad rhwng 2 neu 3 o ysgolion bach. Mae ymchwil Ynys Mon yn dangos
fod y gwir arbedion sylweddol i'w canfod o greu ffederasiwn rhwng
sefydliad mawr canolog a'r ysgolion bach cylchynnol - ond dyw Gwynedd
byth yn edrych ar fodel o'r fath.

Dyma'r wir siom i ni - nad ystyriwyd y model arloesol ac uchelgeisiol a
gynigwyd gan Gymdeithas yr Iaith ac a roddodd fod i'r holl drafod yn y
lle cyntaf. Cynigiodd y Gymdeithas yn 2008 y dylid creu ffederasiwn - ar
y ffurf newydd o ysgolion, nid safleoedd - rhwng Ysgol Uwchradd y Berwyn
a'r ysgolion cynradd o'i chwmpas ac y dylai'r uned addysgol
integreiddiedig hon gael mewnbwn gan CMD a chynnig cyfleusterau newydd
yn gymunedol ac yn gelfyddydol yn y safle canolog newydd yn Y Bala. Trwy
gydlynu defnydd adnoddau dynol a materol, byddai modd gwneud arbedion
sylweddol - lawer mwy na'r £59,000 a gynigir o aberthu Ysgol Parc. Ar y
pryd, ymatebodd llywodraethwyr Ysgol Y Berwyn yn gadarnhaol iawn i
strategaeth y Gymdeithas - gymaint felly nes iddyn nhw gysylltu a'r
Swyddfa Addysg a gofyn am gael eu cynnwys yn y trafodaethau dalgylch.
Dyna roddodd fodd ar natur y trafod presennol. Ond yn y cyfamser, ni
thrafodwyd model integreiddiedig y Gymdeithas hyd yn oed fel un o'r 7
opsiwn. Yn lle hynny, setlwyd ar gyfaddawd nad sydd iddi werth strategol
- sef cymryd y syniad o Ysgol Gydol Oes i'r Bala, cau'r Parc a gofyn i'r
3 arall gario mlaen ore fedran nhw mewn rhyw ffurf annelwig o "gydweithio".

Mor eironig, Dyfrig, yw dy eiriau y byddai'r Cyngor yn aberthu ei
"strategaeth" pe na chaeid Parc. Y gwrthwyneb sy'n wir. Cyfaddawd sy
gyda ni yn lle strategaeth. Mae'n achos tristwch fod Parc i gael ei
aberthu - mewn ymdrech (ofer o bosib) i ddangos i'r Cynulliad fod
"rhywbeth yn cael ei wneud" - heb hyd yn oed ystyried yr ateb strategol
a allsai fod wedi denu cefnogaeth pawb ym Mhenllyn yn lle creu'r fath
ddrwgdeimlad. Ni chawsom hyd yn oed gyfle i drafod gyda swyddogion y
model hwn - er bod ein hargymhelliad gwreiddiol wedi rhoi cychwyn i'r
holl drywydd hwn.

Dwi wedi mynd ymlaen yn ddigon hir, ac felly ni byddaf yn manylu mwy ar
dwyll dadl y llefydd gwag yn achos Penllyn. Digon yw dweud, yn ol y
tafluniadau, y bydd tua 25 o ddisgyblion o fewn 2/3 blynedd yn Ysgol
Parc - sef 8 lle gwag yn unig ac yr ydym wedi cynnig i'r Cyngor ddulliau
o ymwneud a hyn a allent o bodsibl ddod a derbyniadau scyfalaf sylweddol
i'r Cyngor heb aberthu ysgol a chymuned Gymraeg.

Mewn gair, byddai cau'r ysgol heb fod yn fodlon trafod yn fanwl y
posibiliadau hyn yn bradychu ymddiriedaeth y plant a'u cymuned

Ffred Ffransis
Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-90933278690244301792010-05-24T07:42:00.000-07:002010-05-24T07:57:39.403-07:00Cymdeithas yr Iaith - Cau Ysgol y ParcHeddiw fe benderfynodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd argymell y dylid cau Ysgol y Parc, ger y Bala, fel rhan o gynllun i ad-drefnu addysg gynradd yn yr ardal. Bydd y cynlluniau hyn yn golygu codi ysgol newydd gydol-oes yn y Bala ei hun, ac Ysgol y Parc yw'r unig un o'r ysgolion gwledig o amgylch y dref sydd wedi ei chlustnodi i gau. Hon yw'r ysgol leiaf yng Ngwynedd, gyda dim ond 18 o ddisgyblion.
Beth bynnag, pan basiodd yr argymelliad i gau, cafwyd ymddygiad cyfangwbl warthus gan nifer o bobl yn yr oriel gyhoeddus. Cododd Ffred Ffransis ar ei draed, gan ein galw ni (hynny yw y rhai ohonom a bleidleisiodd dros gau) yn fradwyr, a thaflu tegan meddal oen bach atom ni - i gynrychioli'r modd y mae'r Ysgol y Parc yn "oen i'r lladdfa", chwedl Ffred. Gwaeddodd un arall o'r dorf enw un o'm cyd-gynghorwyr, gan ei alw yn "fochyn". A dechreuodd Osian Jones, trefnydd y Gogledd, Cymdeithas yr Iaith - ffrind i mi ers pan dwi tua 15 oed - alw enwau'r cynghorwyr Plaid Cymru a oedd wedi pleidleisio dros gau, gan eu galw yn fradwyr.
Pan soniais am hyn ar Twitter, fe benderfynodd Rhys Llwyd, aelod amlwg arall o'r Gymdeithas, y byddai'n fy enllibio yn gyhoeddus.
A phan ysgrifennais at Ffred i fynegi fy anfodlonrwydd, fe gefais ymateb gan ei ferch yn fy nghymharu gyda aelod o Gyngor Lerpwl a bleidleisiodd i foddi Tryweryn. Dwi wedi cynnwys y negesuon hynny isod, yn hytrach na ail-adrodd fy nadleuon.

Dyfrig Jones wrote:
Annwyl Ffred,

Rydw i'n hynod, hynod o siomedig gyda eich ymddygiad chi yn Siambr Cyngor Gwynedd heddiw. Mae gennych chi hawl i'ch barn, a hawl i fynegi'r farn honno yn gyhoeddus. Yn wir, fe gawsoch fynegi eich barn yn uniongyrchol i'r panel adolygu dalgylch, ac fe fu un o swyddogion Cyngor Gwynedd yn barod i ddosbarthu eich taflen i holl aelodau'r pwyllgor cyn dechrau'r cyfarfod. Beth bynnag fo'n barn ni ynglŷn a'ch sylwadau, fe gawsoch eich trin yn gwrtais a pharchus.

Mae'r ffaith i chi ymateb i'r parch a'r cwrteisi yma mewn modd mor amharchus ac anghwrtais yn fy nhristau. Mae hefyd yn tanseilio eich hachos. Yn y dyfodol, gai ofyn yn garedig i chi beidio ac ymateb i benderfyniadau yr ydych yn anghytuno a nhw drwy darfu ar waith y Cyngor?

Dyfrig

Shwmae Mr Jones

Dwi'n ofni nad yw'n nhad yn y swyddfa heddiw gan ei fod, yn dilyn y cyfarfod y bore yma, yn teithio o amgylch Cymru gyda'i waith. Gofynodd i mi edrych ar ei ebyst rhagofn fod neges brys yn dod trwyddo. Roeddwn i'n teimlo fod yn rhaid i mi ymateb gan i mi yn wir gael fy nhristau wrth ddarllen eich sylwadau. Cofiaf fy nhadcu (Gwynfor Evans) yn son am ei brotest yn Nghyngor Lerpwl adeg y bygythiad i gymuned Cymraeg arall yn ardal y Bala a'r modd "amharcus ac anghwrtais" y gwnaeth ef darfu ar waith y Cyngor y diwrnod hynny. Y trueni yw fod y gelyn pryd hynny mor glir ond erbyn hyn fod cymunedau Cymraeg yn cael eu bradychu gan aelodau o Blaid Cymru!!!

Yn Ddiffuant
Angharad Clwyd
(3ydd Merch Ffred)

Annwyl Angharad,
Mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng yr hyn a ddigwyddodd heddiw parthed Y Parc, a'r hyn a ddigwyddodd yn siambr Cyngor Dinas Lerpwl. Roedd boddi Cwm Celyn yn rhywbeth a ddigwyddodd o ganlyniad i benderfyniad gan sefydliadau gwleidyddol tu allan i Gymru. Ni chafodd trigolion Cymru yr hawl i ddylanwadu yn ddemocrataidd ar y penderfyniad hwnw, ac felly roedd yn rhaid troi at brotest er mwyn ceisio newid.
Mae'r penderfyniad i ad-drefnu addysg gynradd yng Ngwynedd yn un sydd wedi ei wneud gan gynrychiolwyr etholedig pobl Gwynedd, nifer helaeth ohonyn nhw yn genedlaetholwyr ymroddedig a didwyll. Mae gwahaniaeth barn rhyngthom ni a rhai chenedlaetholwyr eraill, ond annhegwch o'r mwyaf yw ein cymharu ni a Chyngor Dinas Lerpwl.
Yr hyn a'm tarodd i heddiw oedd ail-ddarllen adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Gyngor Gwynedd i effaith ieithyddol ad-drefnu addysg gynradd. Comisiynnwyd yr adroddiad hwn mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan Gymdeithas yr Iaith - ymhlith eraill - yn y gorffennol. Mae'r adroddiad hwn yn datgan yn gwbl eglur y byddai cau Ysgol y Parc yn cael effaith gadarnhaol ar yr iaith Gymraeg, gan y byddai yn arwain at greu uned fwy, ac felly mwy cynaliadwy, yn Ysgol O.M. Edwards, Llanuwchllyn.

Fe allwch ddarllen adroddiad yr ymgynghorydd annibynnol yma

http://www.gwynedd.gov.uk/upload/public/attachments/1037/ASESIAD_ARDRAWIAD_IEITHYDDOL_ANNIBYNNOL_Y_BERWYN_5.pdf

Cymal 6.11 yw'r un perthnasol.

Rwy'n derbyn efallai eich bod yn anghytuno gyda casgliadau'r arbennigwr annibynnol. Nid dadlau dros yr un cymal penodol hwn yw fy mwriad i. Dim ond gwneud y pwynt syml, fy mod innai yn genedlaetholwr, sydd yn pryderu am yr iaith Gymraeg, a sydd wedi gweithredu mewn modd yr ydw i'n ei gredu fydd yn cryfhau'r iaith ym mro Penllyn.

Gofynwch i chi eich hun - ydw i'n haeddu cael fy ngalw yn "fradwr" ac yn "fochyn" am wneud hyn? Ydw i, fel yr ydych chi'n ei awgrymu yn eich neges, yn gyfystyr a Sais o Lerpwl a foddodd Gwm Celyn?

Dyfrig Jones

Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com11tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-77595632449216626802010-05-07T12:35:00.000-07:002010-05-07T13:07:20.387-07:00Canlyniadau 2010 - Targedau Plaid CymruYchydig iawn o gyfle ydw i wedi ei gael i flogio dros yr wythnosau diwethaf, a hynny oherwydd pwysau gwaith, yn bennaf. Ond yn dilyn canlyniadau neithiwr, mae fy mhen i'n troi braidd, a dwi'n teimlo'r hen awydd 'na i chwydu popeth allan ar y blog. Mae 'na lot dwi ishio'i ddweud, ond efallai mae'r lle callaf i gychwyn yw efo seddi targed Plaid Cymru (nid yn eu trefn flaenoriaeth, gyda llaw)

1. Arfon

Dwi'n byw ym Methesda, a dyma'r tro cyntaf i ni fod i mewn gyda gweddill Arfon ar lefel San Steffan. Fe fum i allan yn canfasio a dosbarthu taflenni rhywfaint dros yr wythnosau diwethaf, a doeddwn i ddim yn disgwyl iddi fod mor agos yma. Yn ol yr adroddiadau o'r cyfri, roedd hi'n agos rhwng Llafur a Phlaid Cymru yng Nghaernarfon, Llafur a mwyafrif eithaf clir ym Mangor, a Phlaid Cymru a mwyafrif eithaf clir yn Nyffryn Ogwen, Dyffryn Nanlle, a'r pentrefi gwledig (Bethel, Llanrug, Deiniolen ayyb). Mae'n amlwg felly bod angen gwaith ym Mangor, yn enwedig o ystyried bod nifer helaeth o fyfyrwyr yn byw yno, ond nid o anghenrhaid yn pleidleisio.

2. Aberconwy

Tan eleni, roedd Bethesda a Bangor yn etholaeth Conwy, a dwi wedi fy magu yn gwylio'r brwydro yma - roedd fy nhad yn asiant i Rhodri Davies yn 1987 a 1992. Roeddwn i'n wirioneddol grediniol y byddai Plaid Cymru yn ail cryf yma, a bod posib gwirioneddol i ni ei chipio - mi es i gyn belled a rhoi £10 ar Blaid Cymru i enill, brynhawn ddoe. Yn fy marn i, mae'n ddamniol ein bod ni wedi cael ein arwain i obeithio cymaint o Phil Edwards. Dyw bod yn or-optimistaidd ddim wastad yn dacteg dda, gan ei fod yn gwneud i ni edrych yn wan pan mae ein "ail cryf" ni yn troi yn bedwerydd safle ar y noson. Siom fawr.

3. Ceredigion

Os oedd Aberconwy yn siom, roedd Ceredigion yn dorcalonus. Dwi ddim yn adnabod yr etholaeth yn ddigon da i wybod beth aeth o'i le, ond mae'r canlyniad yn codi cwestiynnau pwysig. Yn sicr, roedd y dadleuon teledu yn ffactor bwysig. Ond mae Plaid Cymru wedi bod yn gweithio yn hynod o galed yn Ceredigion, yn gyson ers siom fawr 2005. Ac mae Mark Williams yn cael ei adnabod fel AS digon cyffredin, i ddweud y lleiaf. Sut felly y trowyd mwyafrif Lib-Dem o ychydig gannoedd yn fwyafrif o 9000?

4.

Mae Ynys Mon yn dipyn nes at adref, ac yn etholaeth dwi'n lled gyfarwydd a hi. Efallai nad oedd y mwyafrif Llafur yn agos at un y Lib-Dems yng Ngheredigion, ond mae hon yn ergyd yr un mor drom. Yn ystod teyrnasiad Albert Owen, mae cyflogwr mwya'r ynys wedi cau, gan roi cannoedd o etholwyr ar y clwt - a hynny yng Nghaergybi, power-base Albert. Sut felly y llwyddodd i ddal ei sedd gyda chymaint o fwyafrif?
Efallai bod gwleidyddiaeth fewnol yr ynys yn ffactor. Mae Cyngor Mon yn shambles llwyr, ac er nad aelodau Plaid Cymru sydd yn euog o dynnu enw da'r Cyngor drwy'r baw, fe fyddwn i'n dychmygu eu bod wedi eu heintio drwy fod yn rhy agos at sefydliad llwgr a phlentynaidd.
Dwi hefyd yn credu bod y Blaid ym Mon wedi dewis yr ymgeisydd anghywir i'r etholaeth. Fe weithiodd Dylan Rees yn galed iawn, ond dwi ddim yn credu fod ganddo'r grym personoliaeth sydd ei angen. Heb fynd i swnio yn gul, roeddwn i'n siomedig iawn gyda'r ffaith ei fod mor barod i droi at y Saesneg. Bob tro dwi wedi ei glywed yn siarad yn gyhoeddus, mae wedi mentro brawddeg neu ddwy yn y Gymraeg, cyn troi at y Saesneg. Mewn etholaeth draddodiadol iawn fel Mon, dwi'n credu bod hyn yn wendid sylfaenol.
Serch hynny, mae ymyl disglair i bob cwmwl du, chwedl y Sais. Dwi ddim eisiau codi cywilydd arni yn ormodol, ond i mi mae'n amlwg fod gan Ynys Mon ymgeisydd perffaith ar gyfer yr etholiad nesaf - Heledd Fychan. Fe weithiodd Heledd yn aruthrol o galed yn Maldwyn, a oedd yn sedd nad oedd gan y Blaid unrhyw obaith o'i henill - a cynyddodd ein pleidlais, gan ddod yn drydedd. Merch o Fon yw Heledd yn wreiddiol, ac mae ei theulu yn dal i fyw yno, ac yn weithgar o fewn y Blaid yn lleol. Byddai Heledd yn ymgeisydd heb ei hail, a dwi'n mawr obeithio y bydd yn ceisio'r enwebaid y tro nesaf.

4. Llanelli

Efallai ein bod wedi ein siomi yn Aberconwy, Mon a Cheredigion, ond dwi'n credu bod canlyniad Llanelli yn hwb i ni gyd. Roedd Myfanwy Davies yn ymgeisydd gwych, a dwi'n mawr obeithio y bydd yn parhau i geisio cael ei hethol. Byddai'n gaffaeliad enfawr i Blaid Cymru yn Llundain neu Gaerdydd. Roedd y ffaith iddi ddod o fewn 2000 o bleidleisiau i Nia Griffiths mewn etholaeth sydd mor draddodiadol driw i'r Blaid Lafur yn ganlyniad gwych, yn enwedig o ystyried yr hinsawdd Brydeinig. Gyda'r gwynt y tu ol iddi, fe allai Myfanwy gymeryd Llanelli. Targed realistig ar gyfer y dyfodol.

5. Meirion-Dwyfor a Dinefwr

Diolch byth bod y ddwy sedd hon wedi bod yn weddol ddi-drafferth i ni. Chafodd Elfyn Llwyd ddim trafferthion, ac mae ei fwyafrif anferth yn tystio i'w allu fel aelod, a cryfder y gefnogaeth yn yr ardal. Y syndod fwyaf oedd bod Louise Hughes wedi cael cymaint o gefnogaeth.
Dwi'n credu bod Jonathan Edwards hefyd wedi cael hwyl dda iawn. Roedd gan Adam Price bleidlais bersonol gref, a doedd dim disgwyl i Jonathan gynnal honno i gyd. Ond fe gafodd ganlyniad anrhydeddus iawn, a phob dymuniad da iddo.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com4tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-22936690024266901132010-03-15T15:15:00.000-07:002010-03-15T15:47:36.132-07:00Plaid Cymru a'r LCO iaithAr ei ffrwd Twitter, gofynnodd Rhys Llwyd pan nad oes mwy o aelodau amlwg Plaid Cymru wedi arwyddo deiseb Cymdeithas yr Iaith yn galw am ail-wampio'r LCO iaith. Fy ateb syml i oedd y bod modd i genedlaetholwr wrthwynebu galwad y Gymdeithas am resymau egwyddorol. Arweiniodd hynny yn anorfod at drafodaeth, ond gan nad ydw i'n un sydd yn gallu defnyddio un gair pan y galla i ddefnyddio dwsin, dwi ddim yn credu bod modd i mi amlinellu fy nadl mewn 140 llythyren.

I fod yn onest, nid ochri gyda Phlaid Cymru ydw i yn y fan hyn. Does gen i ddim syniad pam nad oes mwy o aelodau amlwg y blaid wedi arwyddo'r ddeiseb. Ond dwi'n berffaith eglur ynglyn a pham nad ydw i wedi gwneud hynny. Tydw i ddim yn credu ei bod hi'n ddefnyddiol na'n synhwyrol trafod dyfodol yr iaith Gymraeg yn nhermau "hawliau ieithyddol". Tra 'roeddwn i'n olygydd Barn, fe amlinellais i fy safbwynt fwy nac unwaith - dyma engrheifftiau o Fawrth 2009 a Hydref 2008

Craidd fy nadl i yw bod y Gymdeithas yn trafod "hawliau ieithyddol" mewn modd sydd yn gwbl wrthun i mi. Wrth gwrs y dylai fod gan unigiolyn yr hawl i siarad Cymraeg, ond yn yr un modd, mae gan unigolyn arall yr hawl i beidio ai ateb - neu i'w ateb yn y Saesneg, os y myn. Dyna yw natur hawliau dynol; maent yn bethau sydd yn perthyn i'r unigolyn, a nid i ddiwylliant neu gymuned. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod gan bob un ohonom ni'r hawl i siarad Cymraeg, ac yr hawl i gael ateb yn y Gymraeg.

I mi mae'r peth yn nonsens. Nid oes gan y Sais yr "hawl" hon i'r iaith. Fe allai Gordon Brown ei hun gerdded i mewn i fwyty Tseiniaidd yn Soho, ac os nad yw'r waiter yn dymuno ei ateb yn Saesneg, yna does dim oll y gall hyd yn oed Prif Weinidog Prydain ei wneud i newid hynny.

Nawr, fe allwn ni basio cyfreithiau sydd yn rhoi dyletswydd cyfreithiol ar gwmniau i gynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i'w chwsmeriaid. A coeliwch neu beidio, dwi'n digwydd cefnogi'r egwyddor hwnw. Ond nid creu hawl i'r Gymraeg ydi peth felly. Creu system o reoleiddio busnesau er lles y gymuned yw hynny, fel sydd eisoes yn digwydd mewn sawl maes arall.

Ai hollti blew ydi hyn? Efallai wir. Ond mae hawliau dynol yn hanfodol bwysig i mi - bron cyn bwysiced a fy nghenedlaetholdeb. A dyna pam fy mod i'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni gyd yn eglur ynglyn a beth yn union ydi ystyr hawl dynol. Bwriad sylfaenol hawliau dynol yw gwarchod yr unigolyn yn erbyn gormes - boed hynny yn ormes y wladwriaeth neu ormes y mwyafrif. Unwaith yr ydym ni'n rhoi "hawl" i un garfan o bobl orchymyn unigolyn i weithredu mewn ffordd benodol, rydym ni'n tanseilio'r egwyddor cwbl hanfodol hwnw. Ymestynwch allu y llywodraeth i ymyrryd ym myd busnes ar bob cyfrif, ond nid drwy herwgipio a chamddefnyddio ieithwedd hawliau dynol y mae gwneud hynny.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com6tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-88634508614223680662010-01-31T13:27:00.000-08:002010-01-31T13:56:55.379-08:00Y ding-dong arferolOs nad oes gennych chi ddiddordeb yn y frwydr rhwng Llais Gwynedd a Phlaid Cymru yng Ngwynedd, yna does dim diben i chi ddarllen ymhellach. I fod yn onest, dwi'n diflasu fy hun ar adegau, ac mae 'na berygl weithiau bod y blog yma yn troi yn rhyw fath o rapid rebuttal site i flog Gwilym Euros. Neu not-so-rapid rebuttal site, efallai.
Beth bynnag, i Cai, Alwyn, Guto, HoR a'r hanner dwsin arall sydd yn dal efo fi, dyma'r diweddaraf. Wythnos diwethaf, daeth argymelliad ger bron Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd i gau Unedau Addysg Anghenion Arbennig y Sir, er mwyn sefydlu trefn newydd a fydd yn gallu ymestyn y gwasanaeth gwych y mae Gwynedd yn ei ddarparu i fwy o blant y sir.
Roeddwn i ar y gweithgor a luniodd yr argymellion hyn, ond oherwydd dryswch gweinyddol dwi wedi methu mynychu'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd. (Roedd swyddog wedi cam-ddeallt neges, ac yn credu mod i wedi ymddiswyddo o'r gweithgor, ac felly wedi rhoi'r gorau i fy ngwahodd i'r cyfarfodydd).
Beth bynnag, mae Gwilym Euros yn cyhuddo'r Gweithgor o weithredu mewn modd amhriodol ac anrhyloyw (oes na fath air?), gan ddadlau ein bod ni wedi methu a ymgynghori gyda rhieni. Dwi wedi ceisio ateb rhai o'i bwyntiau draw ar ei flog ef, ond dwi'n credu bod dau bwynt pwysig i'w hystyried yn y fan hyn.
Mae'r cyntaf yn ymwneud yn benodol a'r gweithgor yma. Y gwir amdani yw bod y gweithgor yn cynnwys swyddogion y Cyngor, nifer helaeth o athrawon a phenaethiaid, a Chynghorwyr etholedig. Ond mae hefyd yn cynnwys cynrychiolydd o SNAP, elusen sy'n gweithio gyda phant a rhieni i warchod eu buddianau o fewn y system addysg. Rhoddwyd gwahoddiad i SNAP eistedd ar y gweithgor yn benodol oherwydd ein bod ni'n awyddus i ymgynghori gyda rhieni a phlant, ac i sicrhau bod eu llais nhw yn cael ei glywed.
Ar ben hyn, mae'r argymellion a wnaed i'r Pwyllgor Craffu yn cynnwys ymrwmiad i wneud gwaith ymgynghori pellach wrth symyd ymlaen i gynllunio trefn newydd. Dyma'r union eiriad a roddwyd ger bron y pwyllgor

"Cyflawnir gwaith pellach o dan arweiniad Angharad Jones, SNAP Cymru, i ganfod barn croes-doriad o rieni am y ddarpariaeth bresennol a’r cyfeiriad newydd a argymhellir."

Sut mae modd i Lais Gwynedd gyhuddo'r Cyngor o anwybyddu safbwyntiau rhieni a phlant yn y cyd-destun yma? Dwn i ddim.

Ond mae'r modd y mae Llais Gwynedd wedi ymdrin a'r Unedau Addysg Anghenion Arbennig (AAA) yn dangos yn glir sut y maent yn gweithredu ar y Cyngor. Pan drafodwyd gwneud newidiadau i'r Unedau AAA nol yn 2008, y nhw a bwysodd am gael creu gweithgor a fyddai'n gwneud rhagor o waith i ddatblygu polisi ar y pwnc - a chwarae teg iddyn nhw am hynny. Ond yn syth ar ol sefydlu y gweithgor, fe ddiflanodd eu diddordeb. Roedd ganddyn nhw gynrychiolydd ar y gweithgor, ond mae wedi methu a mynychu y mwyafrif llethol o'r cyfarfodydd. Yn wir, dau aelod o Blaid Cymru - Selwyn Griffiths ac RH Wyn Williams - sydd wedi gwneud y mwyafrif llethol o'r gwaith o lywio cwrs y gweithgor.
Aelodau Plaid Cymru sydd wedi bod wrthi - gyda'r athrawon, swyddogion a phenaethiaid - yn ceisio llywio dyfodol y gwasanaeth AAA, a hynny am 14 mis. Rhoddwyd cyfle i Lais Gwynedd ddylanwadu ar y broses yma, ond doedd ganddyn nhw ddim ddiddordeb mewn rhoi'r amser a'r ymdrech i wneud hynny. Ond rwan bod y gweithgor wedi dod i gasgliad ynglyn a'r ffordd ymlaen, maent yn llawn cyhuddiadau a honiadau ynglyn a'r modd dieflig y mae Plaid Cymru yn gweithredu.
Nid ymosodiad ar unigolyn ydi hyn. Fe wn fy hun pam mor anodd ydi dod o hyd i amser i fynychu cyfarfodydd niferus y Cyngor. Ond os yw Cynghorydd unigol yn methu a dygymod a'r pwysau ar ei amser, yna mae dyletsydd arno i ildio ei le, a gofyn i'r gweithgor ethol aelod arall. Yn sicr mae dyletswydd ar blaid neu grwp gwleidyddol i sicrhau bod un o'u haelodau yn bresennol, er mwyn sicrhau bod eu llais hwy yn cael ei glywed wrth i'r Cyngor fynd ati i lunio polisi.
Ond ar ddiwedd y dydd, does gan Llais Gwynedd ddim diddordeb mewn llunio polisi. Fel y mae'r engraifft hon yn ei ddangos yn berffaith, y mae Llais Gwynedd yn fwy na bodlon gadael i weddill y Cyngor wneud y gwaith caled o osod cyfeiriad strategol y Cyngor - ac yna i waeddi a strancio pan mae penderfyniadau yn cael eu gwneud.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-42568480196508915142010-01-06T01:15:00.000-08:002010-01-06T11:03:21.977-08:00Clirio'r ucheldiroedd a Chyngor GwyneddBlwyddyn newydd dda, un ac oll. A hithau'n bumed diwrnod o'r mis, mae'n amlwg bod tymor ewyllys da byd blogiau Gwynedd wedi dod i ben. A'r berl hon sydd wedi tanio ergyd gyntaf 2011. Rhag i chi orfod darllen y llith cyfan, datganiad i'r wasg sydd yno, wedi ei gyfansoddi gan Owain "Now Gwynys" Williams, arweinydd Llais Gwynedd. Ynddo, mae'n cyhuddo Plaid Cymru a'r Blaid Lafur o ymddwyn fel landlordiaid trefedigaethol yr Alban yn ol yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, a fu'n gyfrifol am gymaint o ddioddefaint drwy erlid trigolion yr ucheldiroedd o'u cartrefi.
Mae Cai ar Blogmenai wedi tynnu sylw at y gagendor anferth rhwng yr hyn a ddigwyddodd yn yr Alban ganrif a hanner yn ol, a'r hyn sydd yn digwydd yng Ngwynedd heddiw. Does dim rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno ag ef, a bod y cam-ddefnydd o bennod dywyll iawn yn hanes Prydain i sgorio pwyntiau gwleidyddol yn blentynaidd ac eithafol. (Owain Williams, eithafol? Beth nesaf?)
Ond mae Alwyn ap Huw yn gwneud pwynt digon teg wrth ymateb i neges Cai. Nid y gymharieth gyda chlirio'r uchelfannau sydd yn bwysig, ond byrdwn neges Owain Williams. Y mae Plaid Cymru, yn ol Llais Gwynedd, yn arddel polisiau sydd yn fwriadol niweidiol i gefn gwlad Gwynedd. Rydym ni'n "dwysau all-lifiaid a gwanychu ymhellach gadarnleoedd yr iaith Gymraeg" i ddefnyddio eu geiriau hwy.
Y mae strategaeth etholiadol Llais Gwynedd yn gorwedd yn gyfangwbl ar berswadio etholwyr Gwynedd mae dyma sydd yn digwydd. Does dim mymrun o ots os ydi hyn yn wir neu beidio, drwy ei ail-adrodd drosodd a throsodd am y ddwy flynedd a hanner nesaf, mae Llais Gwynedd yn gobeithio y gwnaiff hi wreiddio ym meddwl yr etholwyr.
Ydi hi'n debygol o wneud hynny? Ydi, mewn ambell i ardal. Mae 'na gymunedau gwledig sydd yn teimlo o dan warchae ers dwy neu dair cenhedlaeth, a sydd yn gweld eu ffordd o fyw draddodiadol yn diflannu. Maent yn chwilio am rhywun i'w feio, ac mae gweld bai ar Blaid Cymru fawr ddrwg yn haws na wynebu realiti'r sefyllfa - sef bod dirywiad cefn gwlad yn digwydd yn bennaf oherwydd cyfres o ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd sydd ymhell tu hwnt i ddylanwad Plaid Cymru.
Yn hytrach na chynnal trafodaeth gadarnhaol, agored ac aeddfed maent yn ceisio troi popeth yn frwydr syml rhwng y da a'r drwg, gan rannu pawb yn elynion neu gyfeillion. Mae Cai wedi disgrifio hyn fel Gwleidyddiaeth yr Anterliwt ond dwi am ddewis term ychydig yn agosach at y pridd. Fe glywch chi bobl yn siarad am "blisman drama" weithia, wrth drafod heddwas gwael. I mi, Gwleidyddion Pantomeim ydi aelodau Llais Gwynedd.

DIWEDDARIAD

Mae Gwilym wedi bod draw yn darllen fy neges, ond mae'n rhaid ei fod wedi anghofio ei sbectol. Mae hi'n berl o neges. Slogan etholiadol nesaf Llais Gwynedd: "Gwyn yw Du". Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-7407504448581936112010-01-04T15:10:00.000-08:002010-01-04T15:19:11.754-08:00Hywel Teifi EdwardsNewydd glywed y newyddion hynod o drist ynglyn a marwolaeth Hywel Teifi Edwards. Cefais y fraint o gyfarfod Hywel nifer o weithiau, drwy fy ngwaith gyda Ffilmiau'r Bont a Barn, ac roedd yn ddyn hynod o ddifyr i fod yn ei gwmni. Roedd hefyd yn genedlaetholwr i'r carn, ac yn fath o genedlaetholwr sydd yn mynd yn prinhau gyda diwedd pob blwyddyn. Fel arfer, byddai gwr 75 wedi hen roi heibio ei waith, ond roedd Hywel yn dal i wneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd y genedl. Ychydig flynyddoedd yn unig sydd ers iddo gwblhau campwaith anorffenedig Dewi Z Phillips, Ffiniau. Y mae colli Hywel Teifi Edwards yn golled wirioneddol i genedl y Cymry Cymraeg, ac yn un sydd yn peri tristwch gwirioneddol i mi.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-91336606463269331032009-12-18T12:18:00.000-08:002009-12-18T12:47:46.896-08:00Pigion cerddorol y flwyddynRoedd 'na oes pan fyddwn i wedi llunio rhestrau deg uchaf lu ar ddiwedd pob blwyddyn. Erbyn hyn, dwi'n mynd yn hen, ac mae'r cof yn pallu, felly fe fydd rhaid i mi fodloni ar restr blith-drafflith o be' dwi 'di mwynhau.
O ran cerddoriaeth fyw, efallai mae'r band a wnaeth yr argraff orau arna i eleni oedd Slow Club, deuawd gwerin/alt. country/rockabilly o Sheffield. Mae'r albym, Yeah, So yn amherffaith, ond mae 'na berlau gwirioneddol arni, gan gynnwys yr hyfryd I Was Unconscious, It Was a Dream. Fe welais i nhw'n chwarae yn Barfly Caerdydd ychydig fisoedd yn ol, ac mi oedd yn brofiad gwefreiddiol. Doedd y PA ddim yn gweithio yn wych, felly fe benderfynnon nhw chwarae rhan o'r set yn gwbl unplugged. I'r ychydig ddwsinau oedd yn bresennol, roedd yn berfformiad arbennig, gig y flwyddyn yn bendant.
Albym y flwyddyn i mi yw Wall of Arms gan The Macabees. Mi welais i glawr yr albym ar boster anferth yn Llundain, a meddwl eu bod nhw'n edrych fel llwyth o haliwrs. Ond rhyw wythnos neu ddwy yn ddiweddarach mi oeddwn i'n coginio efo'r radio ymlaen, a dyma gân yn dal fy sylw yn syth - Can You Give It? gan yr haliwrs eu hunain.
Dwi'n canfod bod ffans cerddoriaeth indie yn dueddol o rannu yn ddwy garfan. Mae 'na rai sydd yn hoffi i'w cantorion fod yn nadwyr a brefwyr, yn canu yn arddull Liam Gallagher neu Ian Brown. Ac mae'r garfan arall yn dilyn epil Morrissey, cantorion gwrywaidd sydd yn gallu canu go iawn, a sydd a lleisiau yn llawn cymeriad - Radiohead, Guillemots, Wild Beasts, ayyb. I'r ail garfan mae'r Macabees yn perthyn, a bydd yn rhy ferchetaidd i chwaeth yr 'ogia go iawn. Ond mae'n berffaith ar gyfer pansan fel fi.
Y trydydd albym sydd wedi bod ar heavy rotation acw ydi God Help The Girl, prosiect diweddaraf Stuart Murdoch, o Belle and Sebastian. Dyma ei ymgais ef i efelychu pop y 60au hwyr, gan gynull criw o ferched i ganu ar gasgliad o ganeuon hyfryd. Mae rhai o'r caneuon wedi eu recordio o'r blaen, gan Belle and Sebastian eu hunain. Ond mae'r mwyafrif yn ganeuon gwreiddiol, gan gynnwys cân y flwyddyn (i mi o leiaf), Perfection as a Hipster.
Uchafbwyntiau eraill sy'n haeddu sylw ydi albyms gan The XX, (XX) Yo La Tengo (Popular Songs), Cate le Bon (Me Oh My) a The Decemberists (The Hazards of Love). Pob un ohonyn nhw werth ychydig o'ch punnoedd prin.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-36258079847634132722009-12-18T01:30:00.000-08:002009-12-18T07:29:44.822-08:00Cyng. Dewi Owen ac Ysgol Aberdyfi'Dyw'r Cambrian News ddim yn cyrraedd Dyffryn Ogwen, felly dwi'n ddiolchgar i Hen Rech Flin am dynnu fy sylw at y stori bach hyll hon. Yn ol pob tebyg, mae 'na rai o drigolion Aberdyfi wedi rhoi'r gorau i wartio eu harian yn siop cigydd y pentref, a hynny oherwydd fod y perchenol yn perthyn i'r Cynghorydd Dewi Owen, a bleidleisiodd i gau yr ysgol leol.
Yn gyntaf, dwi'n credu bod angen bod yn eglur ynglyn a safbwynt Dewi Owen. Yn y cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar y 10fed o Ragfyr, digwyddodd dau beth. Yn gyntaf, cynigiodd Llais Gwynedd welliant ar gynigion y Cyngor, yn datgan y dylid cadw Ysgol Aberdyfi (a phedair ysgol arall) ar agor yn barhaol, ac fe drechwyd y cynnig hwnw. Yna rhoddodd Dewi Owen welliant pellach ger bron, a fyddai'n cadw Ysgol Aberdyfi yn unig yn agored tan 2014, er mwyn rhoi'r cyfle i niferoedd y plant gynyddu - a felly gwarchod dyfodol yr ysgol. Pleidleisiodd mwyafrif o aelodau'r Cyngor yn erbyn y cynnig hwn, gan gynnwys Llais Gwynedd.
Wedi i'r ddau welliant gael eu trechu, pleidleisiodd y Cyngor i gau Ysgol Aberdyfi. Erbyn y drydedd bleidlais hon, roedd yn berffaith amlwg fod cefnogaeth i'r argymelliad gwreiddiol. Ac yn ystod y drydedd bleidlais hon, felly, pleidleisiodd Dewi Owen i gau Ysgol Aberdyfi.
Er iddo geisio achub ei ysgol leol, mae Llais Gwynedd wedi cyhuddo Dewi Owen o fradychu ei etholwyr. Y gwir ydi bod Dewi wedi ceisio llunio cyfaddawd a fyddai'n gohirio penderfyniad. Beth bynnag fo barn rhywun o'r cynnig hwnw, dwi'n credu ei bod ymhell o fod yn frad. Ymgais oedd hyn i geisio dod o hyd i ateb realistig a pragmataidd i broblemau ysgol sydd a bron i 80% o lefydd gwag, a sydd wedi methu a chyd-weithio ac ysgol cyfagos yn y gorffennol.
Mae'r modd y mae Dewi wedi cael ei drin ar flog Gwilym Euros, yng nghyd-destun ei bleidlais wreiddiol, a stori'r siop cigydd. Yn fy ngwneud i'n wirioneddol drist. Mae Dewi yn gynghorydd cydwybodol, gweithgar, a deallus dros ben. Mae hefyd yn ddyn addfwyn a hoffus, sydd wastad yn bleser i fod yn ei gwmni. Tydi o ddim yn haeddu'r math o driniaeth y mae'n ei gael ar flog Gwilym; gan Gwilym eu hun, na'r giwed o bobl sydd yn rhy llwfr i gyhoeddi eu henwau wrth ochr eu sylwadau ymosodol.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com7tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-23429465873139392262009-12-13T11:15:00.000-08:002009-12-13T11:36:31.061-08:00Cau ysgolion Bro DysynniWedi cael fy ngwynt ataf, dwi'n barod i ddweud rhyw bwt ynglyn a'r hyn ddigwyddodd yng ngyfarfod Cyngor Gwynedd ddydd Iau dwytha. Gwnaed penderfyniad i gau 5 ysgol wledig ym Mro Dysynni, de Meirionnydd, gyda mwyafrif llethol y Cynghorwyr yn cefnogi. Wrth gwrs, roedd 'na wrthwynebiad lleol, ac oherwydd nad oedd y cynlluniau i gau yn cael eu cefnogi gan y gymuned leol, roedd Llais Gwynedd hefyd yn gwrthwynebu.
Serch hynny, dwi'n gwbl gyfforddus ein bod ni wedi gwneud penderfyniad cadarnhaol. Pam? Dau reswm, yn y bon

1) Byddai cadw'r ysgolion ar agor wedi bod yn annheg. Roedd nifer fawr o lefydd gweigion yn yr ysgolion, sydd yn golygu bod cost y pen addysgu plant yn yr ysgolion hyn yn uwch nac y gallai fod. Mae'r Cyngor mewn cyfnod o argyfwng ariannol, lle mae pob ysgol yn wynebu toriadau - hyd yn oed y rhai sydd yn denu nifer fawr o ddisgyblion. Mae dyletswydd arnom ni i sicrhau bod pawb o blant y sir yn cael chwarae teg. Gan fod unrhyw arian sydd yn cael ei ennill o gau ysgol yn cael ei fwydo yn ol i mewn i'r system addysg, bydd holl blant Gwynedd yn elwa o gau ysgolion bychain Bro Dysynni.

2) Byddai cadw'r ysgolion ar agor wedi gwanhau addysg wledig yn y tymor hir. Does dim osgoi'r ffaith bod newidiadau demograffig yn golygu mae disgyn a wnaiff y niferoedd sydd yn mynychu ysgolion cefn gwlad. Byddai'r ysgolion, yn fwy na thebyg, yn cau o'u hunain dros y 5-10 mlynedd nesaf. Ond gan y byddai hyn yn digwydd ar hap, fyddai dim modd i Gyngor Gwynedd gynllunio darpariaeth newydd i gymeryd eu lle. Y canlyniad fyddai ysgolion yn cau fesul un, a'r plant yn y pen draw, yn llifio i lawr i gael eu haddysg yn y dref agosaf, Tywyn.
Drwy gau 4 ysgol fach sydd yn agos at eu gilydd, mae gan Gyngor Gwynedd yr adnoddau i godi un ysgol newydd i wasanaethu'r cymunedau yma. Bydd yr ysgol hon ac adnoddau newydd, mwy addas i gwricwlwm yr 21ain ganrif, a nifer uwch o athrawon, a fydd yn gallu cynnig ystod ehangach o brofiadau addysgol. Ond yn bwysicach byth, fe fydd yn fwy cost-effeithiol, sydd yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y gall hi oroesi i'r dyfodol. Drwy gymeryd y cam yma, mae Cyngor Gwynedd wedi creu sefyllfa lle gall trigolion ardal Abergynolwyn, Bryncrug, Llanegryn a Llwyngwril fod yn ffyddiog y bydd addysg wledig ar gael iddyn nhw am o leiaf cenhedlaeth arall.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-12958632251339365742009-12-11T06:04:00.000-08:002009-12-11T06:13:37.104-08:00Cyfieithydd GoogleOce, dwi'n gwbod mod i fisoedd ar ei hol hi. Ond dwi wedi bod yn brysur, a dim ond rwan dwi'n cael y cyfle i chwarae efo'r gwasanaeth cyfieithu Google. Yr hyn dwi'n ei hoffi yw'r ffordd mae'n methu a chyfeitithu rhai geiriau, gan arwain at frawddegau macaronaidd gwych. Mae fatha gwrando ar rhyw hen was ffarm o'r 50au yn trio siarad Saesneg. Fy ffefryn oddi ar y blog hwn yw'r berl ganlynol

"Ordinary members of Plaid Cymru Cymu South East region was responsible for putting it in
second on the list.  Yes, they gangymeriad, but that's human nature. We all do cangymeriadau."Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-17680687108757320962009-12-10T13:47:00.000-08:002009-12-10T14:03:20.680-08:00Diolch o galon, AeronDwi am sgwenu rhywbeth difri ynglyn a'r hyn ddigwyddodd yng nghyfarfod Cyngor Gwynedd heddiw, pan fydd gen i'r nerth a'r amynedd. Roedd y penderfyniad a wnaed parthed Bro Dysynni yn un cadarnhaol, a fydd yn cryfhau addysg wledig yn y fro, ac yn sicrhau ei fodolaeth i'r dyfodol. Mae 'na ambell un sydd yn anghytuno, wrth gwrs, ac fe geisiai fynd i berfedd y ddadl dros y dyddiau nesaf.
Un darn o newyddion da yw bod Aeron Jones wedi penderfynnu cefnogi Plaid Cymru yn hytrach na Llais Gwynedd heddiw. Roedd Llais Gwynedd wedi rhoi gwelliant ger bron y Cyngor, a oedd yn galw am beidio cau 4 o'r 5 ysgol a oedd wedi eu clustnodi yn yr adroddiad. Yn ol eu harfer, mynodd Llais Gwynedd gael pleidlais gofrestredig, sy'n golygu bod cofrestr o enw pawb yn cael ei galw, gyda phob cynghorydd yn ymateb "O blaid" neu "yn erbyn" wedi i'w enw gael ei alw. Pan ddaeth hi yn dro i Aeron ymateb, er mawr syndod i bawb, datganodd ei fod yn erbyn y gwelliant a oedd wedi ei gynnig gan ei gyd-aelod, y dihafal Gwilym Euros.
Wrth gwrs, cangymeriad oedd hyn, yn hytrach na throedigaeth. A chwarae teg i Aeron, nid y fo yw'r unig un i syrthio i'r fagl hon o ddrysu "er plaid" gyda "yn erbyn". Mae rhai o wleidyddion mwyaf disglair Cymru wedi gwneud yr un fath, fel y tystia hanes cyn-AC Llafur Conwy, ac un o gewri'r Cynulliad, Denise Idris Jones.

O.N.
Yn bersonol, dwi'n credu y dylai Aeron ddiweddaru'r llun ar ei flog, gan ei fod bellach wedi tyfu mwsdash reit "fetching", sydd yn llawn haeddu cael ei weld gan drigolion y blogosffer Cymraeg.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com5tag:blogger.com,1999:blog-8109073607230269093.post-14342724903933272012009-12-08T11:28:00.001-08:002009-12-08T11:42:40.633-08:00Mohammed Asghar, unwaith etoMae 'na ddau beth wedi codi wrth drafod penderfyniad Mohammed Ashgar i groesi'r llawr.

1) Beth ddigwyddith i'w staff?

Mae 'na lawer wedi cyfeirio at y ffaith fod Asghar wedi gwneud tro gwael gyda'i staff. Mae nhw'n cael eu cyflogi gan Asghar fel unigolyn, ond maent yn ffigyrrau amlwg o fewn Plaid Cymru. Yn bersonol, dwi'n gwybod be fyddwn i'n ei wneud taswn i'n eu hesgidiau hwy - dim byd. Yn sicr, fyddwn i ddim yn ymddiswyddo. Fe fyddwn i'n aros yn fy swydd, ac yn disgwyl i Asghar fy ni-swyddo. Ac yna'n mynd ag o i dribiwnlys. Pam y dylai anwadalrwydd gwleidyddol Asghar adael 3 teulu ar y clwt dros y 'Dolig?

2) Beth mae hyn yn ei ddweud am ddulliu Plaid Cymru o ddewis ymgeiswyr?

Yn bersonol, dwi ddim yn gweld bod fawr o'i le gyda'r modd y dewiswyd Asghar. Aelodau cyffredin o Blaid Cymu yn rhanbarth Dwyrain De Cymru oedd gyfrifol am ei roi yn ail ar y rhestr. Do, fe wnaethon nhw gangymeriad, ond dyna'r natur ddynol. Rydym ni gyd yn gwneud cangymeriadau.
Os edrychwn ni ar yr unigolion sydd wedi eu dewis i sefyll yn etholiadau San Steffan 2010, mae'n gyfuniad o'r gwych a'r gwachul. Mae 'na ymgeiswyr gwirioneddol gryf, megis Myfanwy Davies, John Dixon, Heledd Fychan neu Steffan Lewis, ac mae 'na ymgeiswyr gwannach, megis...........wel, efallai y byddai'n well i mi beidio ac agor fy mhig.
Yr hyn sydd yn gyffredin i bawb sy'n sefyll yn enw Plaid Cymru yw eu bod wedi eu dewis gan aelodau eu hetholaeth. Boed nhw'n ymgeiswyr cryf neu wan, mae ganddyn nhw gyswllt gwirioneddol gyda'r bobl y bydden nhw'n ei wasanaethu. Nid pobl wedi eu parasiwtio i mewn o'r tu allan yw ymgeiswyr Plaid Cymru, ond pobl sydd wedi gweithio yn galed i feithrin ffydd a hyder eu cyd-aelodau. Dwi'n gweld dim o'i le gyda'r modd anrhydeddus y mae Plaid Cymru wedi mynd ati i ddewis ymgeiswyr.Dyfrighttp://www.blogger.com/profile/17582868090291517638noreply@blogger.com4