12.4.08

Hwre!

Mae Battlestar Galactica yn ei ol. Mae cyfres 4 yn dechrau ar Sky nos fawrth, ond dwi wedi llwyddo i'w gwylio hi yn barod. Ac, fel arfer, mae'n wych.

Cynhyrchwyd y gyfres gyntaf o BSG (fel yr ydym ni geeks yn ei hadnabod hi) nol ar ddiwedd y 70au, ond fe'i hatgyfodwyd hi rhyw bedair blynedd yn ol, gan roi gwedd wahanol iawn iddi. Mae'r gyfres wedi ei lleoli mewn rhan anghysbell o'r bydysawd, lle mae'r ddynol ryw yn byw mewn gweriniaeth anferth sy'n rheoli 12 planed. Un dydd, daw hil o robotiaid deallus - y Cylons - a dinistrio'r 12 blaned hyn, gan adael dim ond 50,000 o bobl yn dal yn fyw. Mae'r 50,000 yma yn dianc, wedi eu gwarchod gan yr unig long ofod sydd wedi goroesi'r ymosodiad, y Battlestar Galactica. Mae chwedloniaeth y ddynol ryw yn son am blaned o'r enw Earth, ac felly mae'r lynges-ofod yn cychwyn ar daith i chwilio am y ddaear, gyda'r Cylons ar ei gwarthau.

Yn hyn o beth, mae'r gyfres newydd yn dilyn yr un premise a'r gyfres wreiddiol. Ond tra bo'r BDG gwreiddiol yn raglen hwyliog, deuluol, mae'r fersiwn newydd yn alegori dywyll sydd yn trafod y rhyfel yn erbyn terfysgaeth. Wrth i'r llynges deithio ar hyd y gofod, mae'n rhaid iddyn nhw wynebu cwestiynnau dwys ynglyn a hawliau dynol, llywodraeth filwrol, a phroblemau llywodraethu mewn amser o ryfel. Dwi'n digwydd gwybod - drwy gyfaill i mi - mai hon yw hoff raglen deledu pennaeth Amnesty UK. Nid lol blentynaidd yw'r darn yma o sci-fi, coeliwch fi. Dyma ddarn o ddrama wleidyddol, ddifrifol, sydd yn digwydd bod wedi ei leoli yn y gofod.

Wedi dweud hynny, dwi'n dueddol o gytuno a Charlie Brooker yn y Guardian heddiw. Os nad ydych chi wedi gwylio'r gyfres hon o'r cychwyn, does fawr o bwrpas dechrau gyda'r gyfres newydd yma. Prynnwch y DVDs os oes gennych awydd dechrau dilyn y gyfres gwyddonias orau ers blynyddoedd maith.

4 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Erioed wedi gweld Battlestar Galactica ond ro'n i'n hoffi Babylon 5 a Stargate nol yn y dydd.

Dyfrig said...

Wnes i 'rioed ddilyn y cyfresi hyn, felly fedra i ddim cymharu. Ond mi ges gyfnod o wylio Star Trek : The Next Generation, Deep Space Nine a Voyager (a hynny oherwyd bod un o'r hogia oedd yn rhannu fflat efo fi yn y coleg yn ffan anferth). Yr hyn sy'n gneud BSG yn well o lawer ydi'r elfen dywyll. Does dim ymdrech i osgoi cwestiynnau caled, a mae 'na gymlethdod moesol diddorol yn perthyn i'r cymeriadau i gyd.

Ifan Morgan Jones said...

Erioed 'di hoffi Star Trek. Mae 'na ryw ddelfrydiaeth cheesy uffernol, a mae'r syniad o bobol yn teithio o amgylch y bydysawd yn sortio allan problema aliens sy'n rhy thic i ddatrys eu problemau eu hunain yn drewi braidd. Jesd digwydd bod y Klingons treisgar, emosiynol yma'n ddu, aye? Bah. :P

Rhys Llwyd said...

Roeddw ni'n mwynhau gwylio re-runs y cyfresi gwreiddiol BSG pan oeddw ni'n llai ond rioed wedi rhoi cyfle i'r cyfresi newydd - efallai, rhyw ddydd, pan fydd penwythnos tawel gennai a'r glaw yn powlio fe a'i draw i Blockbuster a rentio'r gyfres gyntaf a gweld sut hwyl dwi'n ei gael.