Efallai bod ambell un ohonoch wedi darllen am yr honiadau bod Gwilym Euros Roberts - cynghorydd Llais Gwynedd yng Ngwynedd - wedi enllibio Dyfrig Siencyn - cynghorydd Plaid Cymru, a hynny ar raglen radio Wythnos Gwilym Owen. Mae Gwilym yn honni nad yw hi'n bosib ei fod wedi cyflawni enllib, gan mai dim ond gofyn cwestiwn y gwnaeth o, a nid gwneud datganiad.
Dwi ddim yn gyfreithiwr, ond fel newyddiadurwr mae'n rhaid i mi gael rhyw grap ar ddefau enllib. Ac mae'r hyn y mae Gwilym yn ei ddweud yn gwbl anghywir. Gall unigolyn gyflawni beth sy'n cael ei alw yn "Libel by implication", sef drwy wneud ensyniadau a allai arwain y darllenydd/gwyliwr/gwrandawr i gredu anwiredd am rhywun.
Beth bynnag am hynny, mae Gwilym Euros yn honni yn ei flog na chafodd ateb i'w gwestiwn enllibus. Roeddwn i'n gwrando ar y rhaglen, a dwi'n cael hynny'n anodd i'w gredu. Roedd y drafodaeth yn troi o amgylch agwedd Plaid Cymru a Llais Gwynedd at dai fforddiadwy. Wedi trafodaeth fywiog ynglyn a'r ffaith bod Gwilym Euros wedi gwrthod gosod cytundeb tai fforddiadwy ar bedwar ty yr oedd am ei adeiladu ym Mlaenau Ffestiniog, aeth y ddau ymlaen i drafod cynllunio yn fwy cyffredinol.
Cafodd Plaid Cymru dipyn o gyhoeddusrwydd negyddol yn ddiweddar oherwydd i nifer o'r aelodau bleidleisio yn erbyn cais cynllunio i godi ty yn Y Parc, ger y Bala. Cafodd hyn ei gyflwyno - yn gwbl gyfeiliornus - fel "Plaid Cymru yn erbyn tai fforddiadwy". Ond y gwir ydi bod polisi cynllunio cenedlaethol yn datgan na ddylid caniatau adeiladu tai tu allan i ffin datblygu pentref. Roedd y cais yma tu allan i'r ffin datblygu, a petai'r cyngor (neu'r Parc Cenedlaethol yn yr achos yma) wedi caniatau y cais, fe fyddai'r Cynulliad wedi gwyrdroi'r penderfyniad, ar gost sylweddol i'r Cyngor.
Esboniwyd hyn gan Dyfrig Siencyn, a dyma lle aeth pethau'n fudur. Cyfeiriodd Gwilym Euros at gais cynllunio diweddar arall, gan honni bod Plaid Cymru wedi caniatau codi ty tu allan i ffin datblygu. Y cwestiwn - cwbl enllibus - oedd "A wnaed y penderfyniad hwn oherwydd mai mab i aelod amlwg o Blaid Cymru oedd yr ymgeisydd?". Gofynodd Gwilym Owen i Gwilym Euros dynnu yr honiad yn ol, ond gwrthododd.
Ond beth am yr ateb i'r cwestiwn? Wel, fe roddodd Dyfrig Siencyn ateb llawn, ond mae'n amlwg bod Gwilym Euros yn drwm ei glyw, oherwydd mae nawr yn honi ei fod yn dal i ddisgwyl am ateb. Er ei fwyn ef, felly, fe wna i ail-adrodd yr hyn a ddywedodd Dyfrig Siencyn. Roedd mab yr aelod amlwg o Blaid Cymru (pwy bynnag oedd hwnw) wedi gwneud cais i godi ty ar lain o dir a oedd yn gyfochrog a'r ffin ddatblygu - hynny yw, ar ddarn o dir a oedd yn gorwedd ar y ffin. Yn wahanol i geisiadau cynllunio sydd tu allan i'r ffin datblygu, mae'r Cynulliad yn caniatau i Gwynedd godi tai ar safleoedd sydd yn gyfochrog a'r ffin datblygu, cyn belled a bod y tai hynny yn rhai fforddiadwy. Felly, roedd y cais yn Y Parc yn gwbl groes i bolisi cynllunio cenedlaethol - ac fe'i wrthodwyr - tra bo'r cais arall yn cydymffurio a pholisi cynllunio, ac felly fe'i caniatawyd.
Dyna dy ateb, felly, Gwilym. Wyt ti'n fodlon cyfaddef nad oes unrhyw sail i dy honiadau?
30.9.08
Enllib Gwilym Euros
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comment:
Haia Dyfrig,
Diolch am dy eglurhad ac am yr ateb i fy nghwestiwn (ddaru mi ddim honi dim yn erbyn Dyfrig na neb arall)... o be ti'n ddeud, mae'n ymddangos nad oedd gan y ffaith fod yr ymgeisydd mewn un o'r achosion yn fab i Gynghorydd Plaid Cymru ddim i wneud a'r penderfyniad.Ac ar sail cynllunio yn unig daethpwyd at y penderfyniad. Bydd hynny yn sicr o dawelu meddwl rhai o fobol y cylch.
Diolch a chofion cynnes,
Gwilym
Post a Comment