6.2.09

Carchar i Gaernarfon

Roeddwn i'n teithio o Gaerdydd ar y tren prynhawn ddoe, ac felly chlywais i ddim mo'r newyddion tan i mi fynd i mewn i dacsi ym Mangor. Dwi ddim yn siwr os oedd y gyrrwr yn disgwyl cael y fath ymateb i'r newyddion bod carchar newydd am gael ei adeiladu yng Nghaernarfon, ond dwi yn un sydd yn llawenhau yn arw. Fel aelod o Gyngor Gwynedd, mae hyn yn newyddion gwych i'r sir, a hynny mewn cyfnod o galedi economaidd. Ac fel cenedlaetholwr, dwi'n hynod falch o weld buddsoddiad sylweddol yng Nghaernarfon, gan fod y dref hon mor hanfodol i ddyfodol y Gymraeg.
Ond mae rhai wedi mynegi pryderon ynglyn a chodi'r carchar. Mae Hen Rech Flin yn poeni y bydd swyddi newydd yn dod i Gaernarfon, ond y bydd gweithwyr newydd yn dod i'r dref hefyd, i lenwi'r swyddi hynny. Ac mae'n bwynt dilys - gall twf economaidd sydd yn digwydd yn rhy sydyn fod yn niweidiol i'r ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Dyma wers y Chwyldro Diwydiannol, mewn sawl ystyr. Tyfodd cymoedd y de-ddwyrain ar raddfa aruthrol, ac mewn cyfnod cymharol fyr, a bu'n rhaid mewnforio gweithlu o weddill Prydain i gynnal y glofeydd a'r gweithfeydd dur. Tyfodd y chwareli ar raddfa llawer iawn llai. Roedd chwareli Gwynedd yn fodd o gadw rhan helaeth o weithwyr y gogledd-orllewin mewn gwaith, ond doedden nhw ddim mor fawr nes bod rhaid mewnforio miloedd o bobl o'r tu allan i'w cynnal. Mae'n un o'r ffactorau sydd wedi golygu bod y Gymraeg yn dal yn iaith fyw yng Ngwynedd, ond nid yng Ngwent.
Beth bynnag am hynny, dwi'n dal i feddwl bod y carchar yn debygol o gael effaith bositif ar Wynedd a Chaernarfon. Mae 'na ddau wahanol fath o swyddi sydd yn cael eu creu gan y carchar. Fe fydd y swp cyntaf yn swyddi tymor byr, ar gyfer contractwyr fydd yn codi'r carchar. Drwg swyddi fel hyn yw bod yn rhaid rhoi'r gwaith allan i dendr, a'r cwmni sydd yn ennill y tendr sydd yn penderfynnu pwy sydd yn cael y swyddi. Fel y gwelon ni yn Swydd Lincoln wythnos dwytha, dyw'r cwmniau hyn ddim yn poeni rhyw lawer am gyflogi pobl leol - cadw costau'r gweithlu yn isel yw eu blaenoriaeth. Yn anffodus, does dim llawer y gall gwleidyddion ei wneud i ddatrys hyn, gan fod y broses dendro yn dod o dan rheolau'r Undeb Ewropeaidd. Mae 'na bosibilrwydd, felly, y bydd 'na fewnfudo i Gaernarfon tra bo'r carchar yn cael ei godi - a dwi ddim yn gwybod os y gallwn ni wneud unrhyw beth i rwystro hyn. Ond gwaith tymor byr fydd y gwaith yma, ac mae'n bur debyg y bydd mwyafrif llethol y gweithwyr yma yn gadael yr ardal gyda eu cyflogwr, gan symyd ymlaen at y cynllun mawr nesaf.
Y swyddi sydd o bwys gwirioneddol i'r ardal yw'r rhai parhaol - swyddogion y carchar, a'r staff sydd yn eu cefnogi. Y gweithwyr hyn fydd yn ymgartrefu yng Nghaernarfon yn barhaol, ac yn dod yn rhan o gymuned y dref. A'r her i ni yw sicrhau bydd y rhan fwyaf o'r rhain yn Gymry Cymraeg. Gwasanaeth cyhoeddus yw'r Carchardai, ac mae hyn yn golygu fod gan y llywodraeth lawer iawn mwy o ddylanwad dros bwy sydd yn cael eu cyflogi i wneud y swyddi hyn.
Fe fydd yn rhaid pwyso ar y llywodraeth i wneud yn siwr bod Carchar Caernarfon yn sefydliad cyhoeddus sydd yn mabwysiadu polisi iaith blaengar, er mwyn gwarchod hunaniaeth tref Caernarfon. Does gan y Cynulliad ddim rheolaeth dros gyfraith droseddol yng Nghymru, gan nad yw'n faes sydd wedi ei ddatganoli. Ond mae'r Swyddfa Gartref wedi mabwysiadu polisi iaith Gymraeg sydd yn gosod canllawiau ar gyfer y "gwasanaethau" y maent yn eu darparu yng Nghymru o dan Ddeddf Iaith 1993 - gan gynnwys carchardai. Felly fe fydd y carchar yng Nghaernarfon yn gorfod cydymffurfio ac unrhyw Ddeddf Iaith newydd a ddaw o'r Cynulliad. Fydd y ddeddf ddim yn rhoi'r hawl i lywodraeth osod cwota uniongyrchol ar gyfer cyflogi siaradwyr Cymraeg mewn carchardai, ond efallai - gyda ychydig o ddyfeisgarwch - y bydd modd defnyddio'r Ddeddf Iaith newydd i wneud hyn yn anuniongyrchol.

2 comments:

Melys said...

Dwi'n meddwl fod hi'n hen bryd i carchar i ferched gael ei adeiladu yn Gymru. Mae'r maint o hunanladdiad yn llawer uwch ymysg merched ag mae'r ffaith fod carcharorion benywaidd yn gorfod mynd dros yr arfordir yn warthus - mae'n effeithio ar teuluoedd ye merched yma ag yn gallu dinistrio perthnasau.
Dwi'n meddwl fod unrhyw swyddi newydd yn yr ardal yn beth dda yn yr sefyllfa economiacc yr ydym ynddo yn peth dda. Dwi'n hefyd yn medddwl bod hi'n beth dda i helpu troseddwyr lleol ailsefydlu ei bwywdau drwy fod yn agosach i'e teulyoedd.

Melys said...
This comment has been removed by the author.