13.3.09

Ad-drefnu ysgolion cynradd

Mae'r broses o edrych eto ar ad-drefnu ysgolion cynradd yng Ngwynedd yn mynd rhagddi yn brysur. Bu gweithgor wrthi yn edrych ar yr holl fater eto, gan gyfarfod yn gyson ers yr haf. Fel aelod o'r pwyllgor craffu Plant a Phobl Ifanc, dwi'n trafod y broses hon yn achlysurol gyda rhai o aelodau'r gweithgor, a dwi'n hapus bod y Cyngor yn symyd ymlaen mewn dull cadarnhaol a blaengar. Nid fi yw'r unig un sydd yn credu hyn - mae hyd yn oed Cymdeithas yr Iaith, sydd wedi arddel safbwynt gwrthwynebus iawn yn y gorffennol, wedi croesawu'r cyfeiriad newydd.
Ond nid pawb sy'n hapus, wrth reswm. Roedd cyfarfod arbennig wedi ei drefnu ddoe, er mwyn rhannu gwybodaeth ynglyn a'r cynllun newydd. Oherwydd ymrwymiadau eraill, doedd dim modd i mi fod yn bresennol, ond mae hanes y cyfarfod yn cael ei adrodd ar flog Gwilym Euros Roberts, arweinydd answyddogol Llais Gwynedd.
Mae Gwilym yn gwneud nifer o gyhuddiadau personol yn erbyn ei gyd-gynghorwyr, a dwi ddim yn bwriadu trafod y rheini. Ond mae'n ddiddorol ei fod yn dewis beirniadu'r modd y mae Gwynedd wedi mynd ati i ail-edrych ar yr ad-drefnu. Mae Gwilym yn gwrthwynebu'r argymellion sydd wedi eu gwneud gan y gweithgor, gan fynnu eu bod yn rhagdybio o blaid cau ysgolion, ac eu bod yn cael eu cyflwyno mewn dull "un ochrog ac un llygeidiog". Ac wrth gwrs, Plaid Cymru sydd yn cael y bai am hyn.
Yr hyn mae Gwilym Euros yn dewis peidio ei grybwyll yw'r ffaith bod aelodau o bob plaid wedi bod yn rhan o lunio'r argymellion newydd - gan gynnwys Llais Gwynedd. I ddweud y gwir, mae nifer o aelodau'r gweithgor wedi tynnu sylw at y cyfraniad pwysig y mae Seimon Glyn (LlG) wedi ei wneud i'r ddogfen derfynnol.
Fel y dywedais eisoes, doeddwn i ddim yn y cyfarfod ddoe, felly dwn i ddim beth oedd gan Seimon i'w ddweud ar y mater. Sgwn i os ydi o'n cytuno efo dehongliad Gwilym Euros, ac felly yn gwrthod cefnogi dogfen y mae wedi bod yn rhan bwysig o'i drafftio? Ynteu ydi hi'n bryd i ni ddechrau son am "ranniadau" o fewn Llais Gwynedd?

1 comment:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dyfrig,
Diolch am fy nyrchafu yn rhengoedd Llais Gwynedd, serch hynny, dwi'n hynod falch fod gennym arweinydd cryf a chydwybodol iawn yn barod, sydd yn baord i sefyll dros ein cymunedau, plant, athrawon,rhieni a llywodraethwyr ac dwi'n fodlon i sefyll ysgwydd yn ysgwydd gyda fo i wneud hynny.
Dwi wedi ymateb i sawl pwynt ti'n ei wneud yn yr edefyn hwn mewn ymateb i neges adeaist ar fy mlog.
Fel dwi'n dweud bydd misoedd o drafod am hyn i ddod ac edrychaf ymlaen i gael y deialog hynny gyda phawb sydd a diddordeb mewn gwarchod a datblygu addysg gynraddd ar hyd a leed y Sir.
Mwynha'r penwythnos a welai di'n fuan.
Gwilym