2.4.09

Blogio dros y Blaid

Dwi wedi fy ngwahodd i fynychu cyfarfod yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru yfory, i siarad am ddylanwad blogio a thechnoleg newydd ar wleidyddiaeth Cymru. Sydd yn golygu y bydd rhaid i mi feddwl am rhywbeth deallus i'w ddweud. Dwi ddim yn flogiwr arbennig o doreithiog, ac yn sicr dwi ddim yn credu mod i'n gwneud y defnydd gorau o'r dechnoleg. Ond dwi yn gwerthfawrogi y dull y mae'r blogosffer yn prysur lenwi y twll sydd yn cael ei adael gan farwolaeth araf y wasg leol.
Yng nghyd-destun Cyngor Gwynedd, dwi'n credu bod blogiau Gwilym Euros Roberts, Blogmenai, a Hen Rech Flin - ynghyd a'r blog yma - yn cynnig fforwm hynod o ddefnyddiol i drafod gwleidyddiaeth y sir, ac yn rhoi darlun llawer iawn mwy cyflawn na'r hyn sydd yn cael ei gynnig yn y papurau lleol, neu ar y BBC.
Neu efallai bod "darlun" yn air amhriodol, gan ei fod yn awgrymu ein bod ni gweld y tirlun cyfan o'n blaenau. Beth mae'r llond dwrn yma o flogiau yn ei wneud ydi rhoi sawl cipolwg sydyn - a cwbl unochrog - o'r hyn sydd yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Gwynedd. Ond mae'n llawer iawn mwy diddorol, a dadlennol, na'r hyn y mae'r cyfryngau "swyddogol" yn eu ddweud am y Cyngor.

1 comment:

Rhys Wynne said...

Gwelais ar flog Huw Thomas fod y digwyddiad yma ymlaen. Cytuno bod blogio, yn arbennig ar wleidyddiaeth Cymru (bod yn lleol neu'n gendlaethol) yn rhoi cyfli i lenwi gwagle amlwg.

Wedi dweud hynny, ac er mor chwerthinllyd oedd cofnod diweddar Leighton Andrews, dw i'n meddwl bod ganddo bwynt ynglyn a pha mor ddylanwadol ar yr etholwyr y tu hwnt i'r nifer gymharol gyfyng (rhyw 100 -200 ar y mwyaf?, sy'n darllen a gadael sylw ar y blogiau gwleidyddol Cymreig i gyd?).

Beth mae'r blogiau hyn yn wenud yw rhoi cyfle i pleidleiswr unigol sydd eisiau dod i wybod ymgeisydd/cynrhychiolydd yn well allu dod o hyd i wybodaeth a barn go iawn y gwleidydd/darpar wleidydd a chael cyfle i ryngweithio. Yn achos BlogMenai a HRF, mae eu dadansoddiad nhw yn aml yn llawer mwy cynil na gewch chi mewn print.