Wel wir, ond oes gen i le i gywilyddio? Dim ond ychydig ddyddiau yn ôl mi oeddwn i'n ddilornus iawn o'r sawl a oedd yn honni y byddai Rhun ap Iorwerth yn rhoi ei enw ymlaen fel ymgeisydd Plaid Cymru yn is-etholiad Môn. Ers i mi drydar hynny, fe gysylltodd ambell un a mi i awgrymu ella mod i'n anghywir (be?). Ac yna, p'nawn 'ma, fe gyhoeddodd Rhun ei fod yn bwriadu sefyll, er gwaethaf fy natganiadau.
23.6.13
Rhun a Heledd
16.6.13
Olynu Alun Ffred
Fel yr ydw i wedi nodi yn barod, tydw i ddim yn y ras i olynu Alun Ffred, a hynny am gyfuniad o resymau gwleidyddol a phersonol. Serch hynny, mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweld pwy fydd yn mynd a'r enwebiad, ac yn groes i rhai o'r trolls sydd yn heidio i wefan Golwg, dwi'n credu bod dwy yn y ras sydd yn ymgeiswyr cryf dros ben. Fel mae hi'n digwydd, dwi'n adnabod y ddwy yn dda iawn - fe fum i'n gweithio i rieni Heledd Fychan am flynyddoedd, ac fe ddos i adnabod Heledd yn dda yn ystod y cyfnod hwn. Mae hi'n ferch eithriadol o ddawnus, ddeallus a hoffus. Mae 'na ambell un sydd heb fawr o ddealltwriaeth o wleidyddiaeth Arfon yn credu ei bod yn rhyw fath o "estron" sydd wedi ei pharasiwtio i mewn o Gaerdydd. Y gwir amdani yw bod gan Heledd gysylltiadau cryf iawn gyda Chaernarfon - dyma gartref ei Mam, a fu'n rhedeg nifer o fusnesau yn y dref ers degawdau. Mae Heledd wedi gweithio i'r busnesau hynnyn am flynyddoedd, boed hynny yn y diwydiant teledu i fyny yng Nghibyn neu tu ol i'r bar yn Y Castell. Lol wirion ydi awgrymu bod Heledd yn rhyw fath o carpetbagger o'r de.
Drwy'r Cyngor ddos i adnabod Sian Gwenllian, gyda'r ddau ohonom ni'n cael ein ethol yr un pryd. Fe fum i'n gweithio yn agos iawn gyda Sian nol yn 2008, pan oedd y ddau ohonom ni'n aelodau o Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cyngor, a oedd yn gwneud llawer iawn o waith ar drefniadaeth ysgolion. Cyn iddi gael ei hethol, roedd Sian yn eithaf croch yn erbyn cau ysgolion bychain, ond pan ddaeth hi wyneb-yn-wyneb a'r mynydd o dystiolaeth a oedd yn dangos yn eglur mai drwy ad-drefnu yn unig yr oedd modd creu cyfundrefn addysg gynradd a fyddai'n gwarchod Gwynedd - ac yn benodol gwarchod y Gymraeg yng Ngwynedd - newidiodd ei meddwl. Mae gwleidydd sydd yn fodlon newid ei meddwl ar sail y dystiolaeth yn beth prin a gwerthfawr, ac rwy'n edmygu y modd yr oedd Sian yn fodlon gwneud hyn oherwydd mai dyma'r peth iawn i'w wneud, nid oherwydd bod 'na fantais bersonol neu bleidiol o wneud hynny.
(Gyda llaw, mae'r rhai sy'n awgrymu y gallu cefnogaeth Sian i gau ysgolion bychain wneud niwedd iddi yn 2016 wedi cam-ddarllen y sefyllfa yn arw. Mae bodolaeth gormod o ysgolion bychain, gyda gormod o lefydd gweigion, wedi arwain at gwtogi annheg yn lefel cyllid ysgolion mwy - ac mae nifer fawr o'r ysgolion hyn i'w canfod yn Arfon. Bydd cynlluniau ad-drefnu Gwynedd o help i Sian mewn llefydd fel Caernarfon, Llanrug, Dyffyn Ogwen, a Bangor)
O bwyso a mesur, felly, dwi'n cael fy hun mewn lle anodd. Fe fyddwn i'n hapus i weld naill a'i Sian neu Heledd yn sefyll etholiad Arfon yn 2016. Ond dwi hefyd yn edrych i'r dyfodol tu hwnt i 2016 - fydd Ieuan Wyn Jones ddim yn Mae Caerdydd am byth, ac mae angen ymgeisydd cryf ym Mon ar rhyw bwynt yn y dyfodol. Er mor gryf yw cysylltiadau Heledd a Chaernarfon, Monwysyn ydi hi yn y bon, ac mae ei thad, Vaughan Hughes, yn gwneud gwaith gwych fel rhan o'r to newydd sydd yn cynrychioli'r Blaid ar Gyngor Mon. I mi, Heledd yw'r ymgeisydd delfrydol i gymeryd lle Ieuan Wyn Jones pan fydd o'n rhoi'r ffidil yn y to.
Sian Gwenllian, felly, fydd yn derbyn fy nghefnogaeth i yn yr etholiad yma. Yn ystod ei chyfnod ar y Cyngor mae Sian wedi dangos ei bod yn wleidydd sydd yn gallu arwain ar faterion sylweddol o bolisi, ond sydd hefyd yn gallu arwain ar lefel gymunedol. Bydd yn ymgyrchydd cryf a all sicrhau'r sedd i'r Blaid, ond bydd yn AC cryfach byth, a'm gobaith yw y bydd hi'n gallu dilyn yn ol troed Alun Ffred a dod yn weinidog yn llywodraeth Cymru, ar ryw adeg yn y dyfodol.
O.N.
Dwi wedi crybwyll Mon, ond wrth gwrs mae sedd arall yn ffinio ac Arfon, sef Dwyfor Meirionydd. Mae'r Arglwydd Elis-Thomas wedi datgan y bydd o efo ni tan o leiaf 2020, ond dwi'n tybio y bydd yn dewis ildio ei le bryd hynny. Y person delfrydol i gymeryd lle Dafydd El ym Mae Caerdydd yw Liz Saville Roberts, sydd gyda'r mwyaf dawnus o aelodau presenol Cyngor Gwynedd. O edrych ymlaen i 2020, felly, fy nymuniad i fyddai gweld Sian Gwenllian yn aelod dros Arfon, Heledd Fychan ym Mon, a Liz Saville Roberts yn Nwyfor Meirionydd.
11.5.13
Ateb i gwestiwn does 'na neb yn ei ofyn
Stori fawr yr wythnos i tua 0.05% o boblogaeth Cymru ydi'r newyddion bod Alun Ffred yn bwriadu rhoi'r gorau iddi fel Aelod Cynulliad yn 2016. Fel rhywun sy'n byw yn Arfon, Ffred ydi fy aelod lleol, ac ers i mi fod ar y Cyngor dwi wedi dod i'w adnabod yn o lew. Ond mae fy niddordeb yn y stori yn mynd lot pellach na'r cysylltiad personol yma. I raddau helaeth, dyma'r newyddion y bum i'n aros amdano am amser go faith. Rhyw bum mlynedd yn ol, fe fyddwn i wedi cyfaddef yn lled-agored fy mod i'n gobeithio medru dilyn yn ol troed Ffred a chamu i fyny o Gyngor Gwynedd i Fae Caerdydd. Dwi wedi bod yn berson gwleidyddol drwy fy oes, ond dros y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi cymeryd diddordeb arbennig yn y modd y mae rhoi syniad ar waith. Roedd gweld Plaid Cymru yn rhan o lywodraeth genedlaethol, mewn corff gyda'r pwerau i basio deddfwriaeth yn brofiad eithriadol o gyffrous, ond hefyd rhwystredig. Nid mod i'n tanbrisio cyfraniad y Blaid yn llywodraeth Cymru'n Un, cofiwch. Gan roi o'r neilltu am eiliad y blas cas sy'n dal i fod yn y geg wedi diwedd y papur dyddiol Cymraeg, dwi'n credu bod Plaid Cymru wedi llwyddo i ddefnyddio ein grym yn y glymblaid i sicrhau enillion gwirioneddol i'r Gymraeg o fewn y llywodraeth. Ond er mod i'n cefnogi llawer o be' y llwyddodd Plaid Cymru - ac Alun Ffred Jones yn benodol - i'w gyflawni, roeddwn i hefyd yn berwi gyda syniadau ar gyfer sut y gellid gwneud rhagor. Nid syniadau pie in the sky oedd y rhain, ond pethau ymarferol a ellid eu gwneud o fewn strwythr ceidwadol Llywodraeth y Cynulliad. Fe fum yn rhan o grwp yn trafod diwygio llywodraeth leol yng Nghymru, ac fe lwyddodd Cangen Dyffryn Ogwen i gael y gynhadledd genedlaethol i fabwysiadu polisi a fyddai'n creu dynodiad statudol ar gyfer cymunedau o ddiddordeb ieithyddol arbennig. Serch hynny, wnaeth fy syniadau i ynglyn a'r hyn yr hoffwn ei wneud i wella Cymru ddim dwyn ffrwyth. Llais bach, ymylol o fewn Plaid Cymru yw fy un i (a hynny'n bennaf oherwydd fy mod yn rhy ddiog a di-fynedd i roi fy amser a'm egni i fod yn dringo drwy rengoedd cenedlaethol y Blaid). O na fyddwn i yn esgidiau Alun Ffred, yn lais mawr, grymus gyda'r gallu i wneud nid dweud.
Ond rwan bod Ffred wedi cyhoeddi ei ymddeoliad, mae pob diddordeb sydd gen i yn swydd wedi diflannu. Mae'n anodd gwybod yn union beth sy'n gyfrifol am hyn. Mae fy mywyd personol i'n dylanwadu'n drwm, dwi'n meddwl. O adnabod rhywfaint ar Ffred, ac o wybod rhywfaint am ei batrwm gwaith, fedra i ddim gweld sut mae byw bywyd arferol a bod yn wleidydd llawn amser. Dyw'r swydd ddim yn un sy'n cadw oriau swyddfa, ac mewn sawl ystyr mae'r gwaith yn y Senedd ei hun a'r gwaith yn yr etholaeth yn ddwy swydd llawn amser. Fedra i ddim gweld sut y byddai modd i mi gynnal perthynas efo fy nheulu, a bod yn Aelod Cynulliad yr un pryd. Un o rinweddau anferth fy swydd fel darlithydd yw ei bod yn rhoi hyblygrwydd personol anferthol i mi. Dim ond am 22 wythnos y flwyddyn mae gofyn i mi fod yn darlithio, ac yn ystod y 30 wythnos arall rwy'n cael pen rhyddid i fod yn rheoli fy amgylchiadau gwaith. Mae digon i'w wneud, ond does dim disgwyl i mi fod yn cadw oriau cyson na gweithio o'r swyddfa ym Mangor. Byddai mynd o hyn i amserlen gaeth, wedi ei rheoli gan anghenion eraill yn eithriadol o anodd.
Ond mae 'na ystyriaeth dyfnach na dim ond y rhai personol. Er fy niddordeb anferth mewn gwleidyddiaeth, a mecanweithiau gwleidyddol, dwi ddim yn gwybod a ydw i'n wleidydd da. Mae'r modd y mae disgwyl i wleidydd weithio yng Nghymru heddiw yn gallu bod yn eithriadol o rhwystredig a llafurus. Mae ein cyfansoddiad gwleidyddol, gyda'i bwyslais ar rym y canol Llundeinig, wedi creu cyfres o sefydliadau sydd a phwerau cyfyng a dros ben. Mae hyn yn arbennig o wir ar lefel llywodraeth leol, lle yn aml iawn mae cyfyngiadau cyfreithiol allanol yn ein gorfodi ni i gymeradwyo un o ddau neu dri dewis, heb y gallu i ychwanegu dewis pedwar, pump neu chwech at y fwydlen. Ydi, mae hyn yn llawer gwaeth ar Gyngor Gwynedd nac y fyddai yn y Cynulliad, ond dwi ddim wedi fy argyhoeddi bod pethau fawr gwell ym Mae Caerdydd. Am gyfuniad o resymau diwylliannol a statudol, mae ein system ddemocrataidd ifanc ni yn un geidwadol dros ben.
Y teimlad sydd gen i yw y byddai tymor neu ddau ym Mae Caerdydd yn brofiad yr un mor rhwystredig a tymor ar Gyngor Gwynedd. Dwi'n gallu ymfalchio bod y Cyngor yn symud i'r cyfeiriad cywir, ac o dan arweiniad y mwyafrif doeth ar y Cyngor ein bod yn llwyddo i newid Gwynedd er gwell, nid er gwaeth. Ond yn rhedeg drwy'r balchder hynny mae'r sylweddoliad nad oes gan y Cyngor y gallu i wneud y newidiadau radical sydd eu hangen er mwyn gwarchod Cymru a'r Gymraeg rhag dirywiad economaidd, diwylliannol a ieithyddol pellach. Mae'r system wedi ei throi yn ein herbyn ni, ac er ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn gwneud y dewis callaf o'r rhai sydd yn cael ei gynnig i ni mae'r ffaith nad ydym ni'n gallu gwneud mwy yn gallu bod yn llethol o boenus ar adegau. A fy nheimlad i yw na fyddai symud i'r Cynulliad yn lleddfu rhyw lawer ar hyn.
Dwi ddim am i'r neges yma swnio yn rhy ddi-galon. Dwi yn credu bod lliw y llywodraeth yng Nghaerdydd yn gwneud gwahaniaeth, ac mi ydw i'n credu bod modd pasio polisiau sydd yn gallu rhywstro rhywfaint ar y niwed sy'n cael ei wneud i Gymru a'r Gymraeg. Ond dwi ddim yn teimlo fod y Senedd yn gwneud digon, a dwi ddim yn gwybod a fyddai fy llais i ym Mae Caerdydd yn gwneud unrhyw newid i hynny. Petawn i'n Albanwr, mae'n bosib y byddwn i'n teimlo'n wahanol. Nid yn unig mae'n bur debyg y daw pwerau ychwanegol i'w senedd hwy, refferendwm fuddugol neu beidio, mae'r SNP wedi llwyddo i feddianu mecanwaith wleidyddol y sefydliad, a'i siapio i'w hamcanion ei hun.
Does dim sicrwydd y gwel Cymru bwerau ychwanegol yn fuan, ond yn fwy arwyddocaol, dwi ddim yn gweld y bydd modd i ni dorri'r cyswllt diwyllianol sydd 'na rhwng gwasanaeth sifil y Cynulliad a'r Blaid Lafur Gymreig. Nid cyhuddo y gwasanaeth sifil o golli gafael ar ei di-dueddrwydd ydw i; yn wir, gellid dadlau bod meddylfryd y gweision sifil wedi dylanwadu mwy ar Lafur nac y mae Llafur wedi llwyddo i newid y gwasanaeth sifil. Fy mhryder i yw bod consensws cyfforddus yn bodoli ym Mae Caerydd, wedi ei wreiddio mewn statud, ond sydd wedi blaguro yn niwylliant sefydliad ifanc lle mae llawer iawn o'r unigolion mwyaf dylanwadol - yn wleidyddion a gweision sifil - wedi gweithio gyda'u gilydd ers 15 mlynedd. Fedra i ddim gweld sut y byddwn i'n ffitio i mewn i fywyd gwleidyddol Bae Caerdydd.
Ac felly, i ateb y cwestiwn does neb yn ei ofyn, fydda i ddim yn gwneud cais am enwebiad Cangen Arfon Plaid Cymru. Dwi'n gobeithio y cawn gystadleuaeth frwd am y sedd, ac yn 2016 y ca'i fynd allan i ymgyrchu dros ymgeisydd sydd a'r gallu i herio'r consensws yng Nghaerdydd. Ond yn anffodus, nid fi fydd yn ymgeisydd hwnw.