19.7.08

Gwarth S4C

Fe fydd nifer ohonoch chi'n ymwybodol o gynlluniau S4C i gynnig sylwebaeth Saesneg ar rai o raglenni chwaraeon y Sianel, drwy gyfrwng y botwm coch. Am y tro cyntaf mewn dros chwarter canrif, felly, fe fydd y Gymraeg yn ddewisol ar S4C.
Mae chwaraeon yn faes hynod o bwysig i S4C. Efallai mai drwy gyfrwng y rhaglenni hyn y mae'r Sianel yn gwneud y gwaith cenhadu gorau dros yr iaith, gan eu bod yn denu nifer fawr o wylwyr di-Gymraeg. Mae'r gwylwyr di-Gymraeg hyn - ar y funud - yn dod i gysylltiad a'r iaith, ac yn dod i'w hadnabod hi fel peth byw, cyfoes, sydd yn berthnasol i'r byd modern. Drwy wneud hyn, mae'r Gymraeg yn cael ei normaleiddio ym meddwl llawer iawn o bobl sydd a dim cyswllt arall a hi ar lefel bob dydd. Bydd yr effaith bositif sylweddol yma yn cael ei golli yn llwyr os oes gan y bobl hyn y dewis o ddiffodd y Gymraeg. Bydd yn atgyfnerthu'r syniad mai rhywbeth i bobl eraill, mewn rhyw ran anghysbell o Gymru, yw'r Gymraeg.
Ond yn ogystal a'r ffaith bod yr elfen genhadol hon yn cael ei cholli, mae penderfyniad S4C yn gosod cynsail peryglus dros ben. Bydd gweithredu'r stratgaeth hon yn agor y drws i lawer iawn mwy o Saesneg ar yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd. Os yw'r strategaeth yn llwyddo i ddenu mwy o wylwyr - ac mae'n bur debyg y bydd - yna mae'n golygu y bydd pwysau ar i S4C gynnig gwasanaeth tebyg ar raglenni eraill. Dyma agor y drws ar sianel ddwy-ieithog y diweddar annwyl Rhodri Glyn Thomas.
Does gen i ddim gwrthwynebiad i sefydlu sianel deledu Gymreig, ddwy-ieithog. Ond yn rhy aml o lawer, mae dwy-ieithrwydd yn golygu gofyn i'r Cymry Cymraeg ildio mwy a mwy o dir, er mwyn gwneud lle i'r di-Gymraeg. Os ydym ni am weld sianel deledu Gymraeg, gadewch i'r llywodraeth sicrhau bod digon o gyllid yn bodoli i achub BBC 2W, gan ychwanegu rhaglenni Cymraeg a dwy-ieithog at ddarpariaeth y sianel honno. Peidiwch a disgwyl i'r Cymry sydd wedi brwydro yn hir a chaled i gael sianel Gymraeg ei haberthu hi ar allor dwy-ieithrwydd.

1 comment:

Chris Cope said...

Byddai'n wych pe bydden nhw'n cynnig Saesneg, ond Saesneg o safon uffach o is. Er enghraifft, ar gyfer darllediad rygbi, cael cyflwynwr gydag acen Vietnam trwm na welodd rygbi erioed o'r blaen: "White guy throw ball to other white guy. Ooh, that probably hurt..."