8.10.08

Gwefan newydd Barn

Fel y gwyr unrhyw un sydd a diddordeb yn nyfodol y wasg Gymraeg, mae 'na ddipyn o drafodaeth wedi bod yn ddiweddar ynglyn a chyhoeddi cylchgronnau ar-lein. Mae Golwg wedi derbyn arian mawr - £600,000 dros dair blynedd - i ddatblygu gwasanaeth newyddion ar-lein newydd.
Dyw Barn heb dderbyn unrhyw nawdd anferth, ond nid pres ydi popeth. O heddiw ymlaen, fe fydd gan Barn wefan newydd sbon danlli, fydd yn cynnig llawer iawn mwy na hen wefan y cylchgrawn. Yn wahanol i'r hen wefan, fe fydd erthyglau cyfan yn ymddangos ar Barn 2.0, yn ogystal a blogiau, erthyglau ecsglwsif i'r wefan, a sawl peth cyffrous arall.
Ar hyn o bryd, mae 'na rhywfaint o gynnwys rhifyn Hydref i fyny, a'r bwriad ydi y bydd 'na fwy yn cael ei ychwanegu wrth i'r dyddiau a'r wythnosau fynd yn eu blaenau.
(Gyda llaw, mae'r wefan newydd yn byw yn www.cylchgrawnbarn.info ar y funud, ond fe fydd yn symyd draw i'w gartref parhaol - www.cylchgrawnbarn.com - o fewn y dyddiau nesaf.)

9 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Mae'r wefan newydd yn edrych yn dda iawn ac yn hawdd i'w ddarllen.
Pob lwc efo'r fenter.
Gwilym

Nwdls said...

Llongyfarchiadau (a llongyfarchiadau eraill hefyd!) i ti Dyfrig ar y wefan newydd. Edrych yn grêt, ac edrych mlaen i'w weld yn datblygu eto. Mae'n dod â Barn i lle dyla fo fod oran presenoldeb ar y we.

Am ryw reswm doeddwn i ddim yn gallu clicio drwodd i'r erthyglau ar y brif dudalebn, ond ella fod Java out of date gen i.

Anonymous said...

Gwefan yn edrych yn wych. Ond methais botio sylwad. Ydi hyn yn gweithio'n iawn. Fel arall, edrych yn lan, clir a difyr!

Da iawn.

Hogyn o Rachub said...

Ga'i ategu hefyd, mae'n edrych yn dda iawn!

Dyfrig said...

Diolch am eich sylwadau. Ar y funud, mae rhifyn Hydref Barn wedi ei gadw nol yn y wasg, am amryw o resymau. Felly chi yw'r cyntaf i gael darllen yr erthyglau yma.

Dwi'n credu mod i wedi datrys y broblem gyda'r ffurflen gadael sylwadau. Does dim datrys problem Nwdls - efo'r ffenestr fawr ar y dudalen flaen, mae'n rhaid clicio ar y teitl erthygl mawr sydd ar waelod y llun, yn hytrach na'r teitlau llai sydd ar yr ochr chwith. Dipyn bach yn ddryslud, wn i, ond dwi ddim yn gwybod sut i'w newid.

Rhys Wynne said...

Fel pawb arall, dwi'n meddwl eo fod yn edrych yn wych yn weledol (dewis da iawn o batrymlun), ac mae'n gam dewr iawn danos y'r erthyglau i gyd yn eu cyfanrwydd!

Dw i hefyd yn hoffi'r ffordd bod/bydd modd dewis cyrchu yn ôl math o gynnwys (colofn/adolyfgiad/erthygl ayyb)

O ran yr ochr technegol, cefais i yr un drafferth a Nwdls - efallai os oes modd dylid ychwanegu 'cliciwch ar y ddelwedd' o dan y prif flwch?

Tydy'r RSS ddim yn gweithio ar hn o bryd i mi chwaith.

Hefyd, mae llythrenau gyda acenion arnyn, wel 'ŵ' ta beth yn ymddangos fel marc cwestiwn. Dw i'n defnyddio Firefox 3.

Ac yn olaf (am rwan!) - ydy newyddion y BBC yn haeddu dolen arbennig eu hunain ar y top? Siawns nad yw doeln o fewn y dudalen dolenni'n hen ddigon (os oes rhaid!) - oni bai eu bod nhw wedi gaddo dolen parhaool at wefan BARN o'u tudalen blaen nhw ;-)

Anonymous said...

Edrych yn dda!

Unrhyw syniad pryd fydd y cylchgrawn yn taro'r stepan drws? Dwisho rywbeth i'w ddarllen amser cinio!

Dyfrig said...

Mae 'na broblemau wedi bod efo'r rhifyn papur, ond fe ddylai gyrraed tanysgrifwyr erbyn dydd llun.

Fe wna i fy ngorau i ddatrys y problemau technegol efo'r wefan newydd.

O ran penawdau'r BBC, y syniad oedd y byddai eu cynnwys ar wefan Barn yn fodd o ddenu darllenwyr newyddion y BBC draw at ein gwefan ni. Hynny yw, yn hytrach na mynd i Cymru'r Byd, pam na dewch chi draw i wefan Barn? Fe gewch holl newyddion y BBC, a holl gynnwys Barn, i gyd ar un safle.

Anonymous said...

Ydi'r cylchgrawn allan eto? Fydd hi'n Dachwedd toc! ;)