23.3.09

Llais Gwynedd a thrigolion Bangor

Difyr oedd clywed bod Llais Gwynedd eisoes wedi cysylltu a threfnwyr protest ym Mangor, i drafod cyd-weithio. Pam? Wel mae trefnwyr y brotest yn hawlio bod dinas Bangor yn cael cam gan Gyngor Gwynedd, a bod y Cyngor yn defnyddio'r ddinas fel "cash machine" i ariannu gweddill y sir, tra'n gwrthod buddsoddi yno. Ar y llaw arall, mae Llais Gwynedd yn hawlio bod Cyngor Gwynedd yn gwario llawer iawn gormod o arian yn ardal Bangor, a bod y rhan hon o'r sir yn derbyn lefel uchel o fuddsoddiad, a hynny ar draul gweddill y sir. Felly mae'n ymddangos bod Llais Gwynedd yn cynnig helpu grwp sydd yn ardell syniadau sydd i'r gwrthwyneb llwyr i'w syniadau hwy fel plaid. Rhyfedd o fyd.

9 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

P'nawn da Dyfrig,
Fel y gwyddost yn iawn dwi wedi beirniadu'r ffaith fod Cyngor Gwynedd wedi rhoi ei wyau economaidd mewn un basged drwy gefnogi cynllun Mon/Menai ar drael gweddill Gwynedd. Serch hynny yn rhywle (a dwi ddim mor gyfarwydd a hynny a gwleidyddiaeth Dinas Bangor) mae'n ymddangos fod rhai o'r trigolion lleol wedi colli ymddiriedaeth yn y Cyngor Sir a Cyngor y Ddinas (ti'n nes i'r Ddinas na ydw i)..mae'n byr debyg fod peth o'r feirniadaeth yn deg a pheth ohono yn anghywir (does gan ry'n ohonom fel aelodau etholedig dim ots lle da ni yn cynrychioli yr ateb i holl problemau yr ardal).
Dwi yn ymwybodol fod un o drefnwyr y brotest wedi cyfeirio at lwyddiant Llais Gwynedd mewn erthygl yn GOLWG. Dwi ddim yn hollol sicir be mwy wyt ti'n cyfeirio ato?

Dyfrig said...

Mae Nigel Pickavance, trefnydd y brotest, yn dweud ar ei dudalen Facebook bod Llais Gwynedd wedi cysylltu ag o, yn cynnig eu cymorth i'w hymgyrch. Wyt ti'n dweud nad yw hyn yn wir?

Dyfrig said...

"We have been approached by Llais Gwynedd and been offered the opportunity to join forces" yw union eiriad neges Nigel Pickavance. Dwi'n cymeryd, o'r hyn ti'n ei ddweud, bod yr uchod yn anghywir?

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dyfrig,
Dwi ddim yn gwybod dim am hynny.Efallai fod rhywun arall o Llais Gwynedd wedi siarad gyda Mr Pickavance?Dwi ddim wedi siarad ag ef, er fy mod wedi darllen yr erthygl ymddangosodd yn Golwg.
Serch hynny mae'n gwbwl bosib fod Mr Pickavance wedi siarad ac aelod arall o Llais gan nad oes gennyf unrhyw le i ammau yn wahanol o'r hyn ti'n ddweud.

Cai Larsen said...

Gweler - http://oclmenai.blogspot.com/2009/03/bangor-llais-gwynedd.html

Dyfrig said...

Gwilym,
Dwi'n derbyn dy esboniad yn llwyr - dim ond adrodd yr hyn oedd wedi ei nodi yn rhywle arall ydw i. Wedi i mi holi Mr Pickevance os oedd yn llawn sylweddoli beth yw agwedd Llais Gwynedd tuag at ddatblygu ardal Mon-Menai, fe dynodd yn ol rhyw fymrun. Dwi'n credu mai sgwrs anffurfiol sydd wedi bod rhwng unigolion, yn ol pob tebyg.

Cai Larsen said...

Dyfrig - mae'r sylwadau rwyt ti yn ei honni bod Mr Pickavance wedi eu gwneud yn ymddangos yn gwbl ddi amwys - "We have been approached by Llais Gwynedd and been offered the opportunity to join forces"

'Dweud wyt ti ei fod yn dweud celwydd?

Anonymous said...

Os yw aelod o Blaid Cymru yn mynd at y BNP a dweud "..hoffwn weithio efo ti oherydd dwi'n cytuno efo be ti'n wneud".. Ydi hynny yn meddwl fod Plaid Cymru yn cytuno efo BNP - Nac ydi siwr. Wel am ddadl gyfangwbl dwp.

Dyfrig said...

Dwi ddim yn honni fod Nigel Pickavance yn anghywir. Ond fel dwi wedi ei nodi, wedi i mi gwestiynnu doethineb cyngrheirio gyda plaid sydd yn gwrthwynebu buddsoddiad pellach ym Mangor, fe ymatebodd drwy ddweud

"It was more advice than help to be honest, Show's that we do have support though!"

Felly dwi'n derbyn esboniad Gwilym - sef efallai bod aelodau unigol o Lais Gwynedd wedi cysylltu a Mr Pickevance, ond nad oes unrhyw gyswllt swyddogol wedi bod rhwng LlG a The Citizens of Bangor.