2.7.09

Llais Gwynedd a Thai Fforddiadwy

Neithiwr, yng nghyfarfod Pwyllgor Ardal Arfon, fe wnaeth Cyng. Aeron Jones (Llais Gwynedd) ddatgan mae "Spin llwyr yw Tai Fforddiadwy", gan wrthwynebu cais i glirio tomen lechi yn Talysarn er mwyn codi stad o dai yno. Dwi ddim yn siwr beth yn union mae'n ei olygu drwy "spin llwyr". Mae polisi Tai Fforddiadwy Gwynedd - polisi Plaid Cymru - yn sicrhau bod tai ar gael i bobl leol eu rhentu, prynnu neu adeiladu, a hynny am bris sydd yn llai na phris y farchnad. A yw datganiad Aeron neithiwr yn golygu fod Llais Gwynedd yn gwrthwynebu polisi Plaid Cymru o sicrhau tai fforddiadwy i drigolion Gwynedd?

2 comments:

Hogyn o Rachub said...

Mae'n anodd dweud - a oes gan Lais Gwynedd bolisïau ar unrhyw beth yn y lle cyntaf?

rhydian fôn said...

hogyn o rachub: Pwy a wyr. Aeron Maldwyn yw fy nghynghorydd, yn anffodus iawn, a medraf dy sicrhau nad oes ganddo fo bolisiau, syniadau na dim arall rhwngth ei glustiau. Y gwastraff mwyaf o le yng Ngwynedd, gan gynnwys tomeni llechi Talysarn.

Ar dai fforddiadwy, mae yn fy nharo i sut mae Llais Gwynedd am ei chael hi bob ffordd. Pan mae cais i godi tŷ yn cael ei wrthod, mae o'n ddiwedd ar y byd. Pan mae'r Cyngor eisiau codi tai fforddiadwy, mae Llais Gwynedd yn tynnu i'r cyfeiriad arall. Yr unig reswm am hyn yw eu dymuniad i wrthwynebu unrhyw o syniadau Plaid Cymru.