Yn ddiweddar, dwi wedi dechrau teimlo bod lefel y drafodaeth wleidyddol ar y blogosffer Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol. Ond mae'n rhaid bod yr Eisteddfod wedi bod yn donic i ni gyd, oherwydd mae 'na drafodaeth hynod o ddifyr yn digwydd ar y funud rhwng Blog Menai, Hen Rech Flin, Hogyn o Rachub a Gwilym Euros.
Hen Rech Flin a ddechreuodd bethau, wrth edrych ar ragolygon ymgeisydd Llais Gwynedd yn etholiadau Cynulliad 2011. Trafododd y posibilrwydd (hynod anhebygol) o gyd-weithio rhwng Llais Gwynedd a Llais y Bobl ym Mlaenau Gwent.
Arweiniodd hyn, yn ei dro, at gofnod ar Blog Menai yn trafod y tensiwn rhwng y lleol/ranbarthol a'r cenedlaethol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Dadl Cai yw bod 'na rai Cymru sydd yn gadael i'w ymlyniad at eu bro danseilio eu cenedlaetholdeb, ac yn fwy difrifol, danseilio gobeithion y mudiad cenedlaethol ehangach.
Daeth dau ymateb hynod ddifyr gan Hen Rech Flin a Hogyn o Rachub, yn dadlau bod bro-garwch yn ran hanfodol o genedlaetholdeb Cymraeg, ac wedi bod yn ddylanwad pwysig ar ddatblygiad Plaid Cymru ei hun.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn dueddol o sefyll rhwng y ddau safbwynt. Mae plwyfoldeb yn rhywbeth dwi'n ei gasau a chas perffaith. Y peth mwyaf di-galon am fod ar Gyngor Gwynedd yw gweld obsesiwn rhai Cynghorwyr gyda "gwarchod" eu wardiau unigol hwy, ar draul pawb a phopeth arall.
Ond rheswm dwi'n gwylltio gyda'r Cynghorwyr hyn yw fy mod i'n credu bod hollti Gwynedd yn 75 brenhiniaeth sydd yn ymladd yn erbyn eu gilydd yn fygythiad i fuddiannau Gwynedd gyfan. Ac mae bygythiad i Wynedd - yn fy marn i - yn fygythiad i'r iaith Gymraeg. A'r awydd i weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu sydd yn gyrru fy ngwleidyddiaeth i, yn y bon.
Er nad ydw i'n rhannu bro-garwch HRF a HoR, tydw i chwaith ddim yn rhywun sydd yn rhoi y genedl gyntaf. I mi, mae anghenion Cymru gyfan yn eilradd i anghenion yr iaith Gymraeg. Cerbyd ar gyfer diogelu'r Gymraeg yw Cynulliad/Senedd/Annibynniaeth i mi. Pe na byddai'r iaith Gymraeg yn bodoli, dwi ddim yn siwr os y bydda gen i fymrun o ddiddordeb mewn cenedlaetholdeb.
Felly fe allai rhywun ddadlau mai budd un cymuned, yn hytrach na chenedl gyfan, sydd wrth wraidd fy ngwleidyddiaeth i. Dim ond bod y gymuned honno yn un ehangach na un pentref, neu ward etholiadol, neu sir, unigol.
11.8.09
Gwlad a bro
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
2 comments:
Mae Hogyn o Rachub wedi gwneud sylw teilwng iawn ar y mater yma drwy nodi rhywbeth i'r perwyl fod brogarwch yn arwain at wladgarwch...fedrai ddim anghytuno o gwbwl gyda hynny gan mai dyna ydi seiliau y mae fy nghedlaetholdeb a'm wladgarwch personnol i wedi ei seilio arnynt.
Dwi'n meddwl fod dadl Cai (os dwi wedi deallt hi'n iawn?)yn groes i ddatganoli . hyw...datgnoli grym ddim ond mor bell a Chaerdydd ac dim ond yno all pethau newid gyda mwyfrif o aelodau Plaid Cymru? Pam felly mae o, ti a fi (epan yn aelod o'r Blaid) wedi ymgyrchu i yrru llond llaw o Aelodau Plaid Cymru i San Steffan...doedd y ddadl gall nhw ddim newid dim ddim yn bodoli tro hynny OND rwan fod Llais am gynnig ymgeisyr, mae hynny yn groes i genedlaetholdeb ayb.
Mae'r achos cenedlaethol fel da chi yn cyfeirio ato yn niweido ei hunain drwy'r Blaid mwy na neb pan fydd o'n anghofio'r elfen o brogarwch drwy dynnu wasanaethau a dewis o'r broydd gwledig yn enwedig. Os a phan parheir hynny yna yn naturiol fydd seiliau'r achos yn wanach gan fod hynny yn effeithio'n uniongyrchol ar pobl yn y broydd hynny.
Pan ddechreuais fel cynghorydd,derbyniais gair o gyngor gan y diweddar Dafydd Orwig, ddywedodd wrthai am "ddechrau wrth fy nhraed" mae'n ymddangos wrth geisio gael grym fod y Blaid wedi anghofio'r pethau pwysig hynny ac oherwydd hynny mae pobl yn cefny arni ac yn chwilio am eraill yw cynrychioli a gwarchod ei buddiannau.
Dwi'n cytuno i raddau efo Gwilym Euros bod Plaid wedi anghofio lot o'i egwyddorion llawr gwlad (er diffyg ffordd well o'i ddweud), ond dwi'n meddwl dy fod tithau'n codi pwynt hynod ddiddorol hefyd, sef cenedlaetholdeb heb y Gymraeg - yn benodol o safbwynt Cymry Cymraeg ... edrych ymlaen i'r ddadl honno gychwyn!
Post a Comment