20.8.09

Wel wir

Synod a rhyfeddod oedd darganfod bod y blog hwn wedi cyrraedd rhif 42 yn rhestr Total Politics o flogiau gorau Cymru. Fel y mae HRF wedi ei nodi, mae nifer o'r blogiau yn y 60 uchaf wedi eu cyhoeddi yn uniaith Gymraeg, neu yn bennaf yn y Gymraeg. A'r hyn sydd wedi fy synnu fwyaf yw fod y blog yma wedi ei osod un safle tu ol i'r blog hynod raenus, Wales Home.
Blogiwr digon diog ydw i, ar y gorau. Ond fel pawb, dwi'n licio dipyn o glod. Ella bydd yr anrhydedd yma yn hwb i mi flogio yn amlach dros y flwyddyn nesa. Diolch o galon i bawb wnaeth bleidleisio drostaf.

2 comments:

Hogyn o Rachub said...

Byddwn i ddim yn cymryd gormod o sylw ohono ... dwi ar y peth, er fy mod i heb fyth glywed amdano nac ychwaith yn flog gwleidyddol (am wn i!)

Hogyn o Rachub said...

Ei Dyfrig, mi hoffwn hefyd pan gei amser, sydd yn amlwg yn brin, yn enwedig rhwng cynrychnioli etholaethwyr gwych Rachub, gweld dy farn am fy sylwadau am y gwahaol fath o genedlaetholdeb. Gobeithio'n wir y cawn gwrdd yn y croen yn fuan hefyd, rhaid i rywun adnabod ei gynghorydd!
Jason