Yn wahanol i nifer o'r cynrychiolwyr eraill, dwi wedi dod adref i fy nghartref clyd, yn hytrach na aros yng nghinio Cynhadledd Plaid Cymru heno. Mae mynychu'r Gynhadledd yn beth eithaf newydd i mi, ond mae'n brofiad dwi'n ei fwynhau. I raddau, mae'n debyg iawn i'r Eisteddfod - mae'r digwyddiadau "swyddogol" yn llai pwysig na'r cyfle i sgwrsio a chymdeithasu.
Does gen i ddim amser i sgwenu adroddiad manwl, felly fe wna i fodloni ar ysgrifennu rhestr gryno o uchafbwyntiau. Fe fum i'n Trydar yn gyson drwy'r dydd, felly does gen i ddim byd newydd i'w adrodd i'r rhai ohonoch chi sy'n fy nilyn ar Twitter. Ond dyma fy uchafbwyntiau
- Araith Elin Jones. Bywiog, difyr, doniol - ond yn gwneud pwynt pwysig. Rhaid i Blaid Cymru edrych tu hwnt i Cymru'n Un. Be ddaw ar ol 2011?
- Darlith Richard Wyn Jones. Roedd Richard yn trafod llawer o'r dadleuon sydd yn ei gyfrol ar hanes Plaid Cymru, felly doedd 'na ddim llawer o ddeunydd newydd. Ond roedd y delivery yn wych, ac fe lwyddodd i hoelio fy sylw am hanner awr gyfan. Ac roedd yn rhoi rhywbeth i'r aelodau bori arno dros nos. Trueni nad oedd mwy yn gwrando - ond diolch iddo am beidio a throi at y Saesneg o gwbl. Ai darlith Richard fydd yr unig ddarn o areithio uniaith Gymraeg drwy'r gynhadledd?
- Cyfarfod Caryl Wyn Jones o Cymru X, a dechrau trafod strategaeth i dargedu myfyrwyr Bangor (peidiwch a dweud wrth y bos)
- Trafodaeth Twitter ddifyr dros ben gyda Bethan Jenkins. Roedd y ddau ohona ni'n Trydar ar y cynnigion a ddaeth ger bron y gynhadledd, gan basio barn (wahanol) ar y cynnigion. Dangos potensial y cyfryngau newydd ar gyfer cynhadleddau.
- Cyfraniadau cyson Clayton Jones. Yng nghanol y consensws trendi-leffti, roedd hi'n braf clywed lladmerydd y farchnad rydd a'r wladwriaeth fechan yn tantro yn gwbl ddi-flewyn ar dafod. Cic go iawn yn nhin y gynhadledd.
- Cael fy nisgrifio fel "the best dressed man at conference" gan Adam Price - a finnau mewn hen siaced tweed wedi ei phrynnu ar eBay. Dwi'n fodlon fy myd pan mae rhywun yn seboni.
Yr unig siom oedd gwylio darllediad gwleidyddol diweddaraf Plaid Cymru. Ydi, mae'n slic, ond mae hefyd yn cynnwys y linell "Most Plaid supporters don't speak Welsh". Pam bod angen cynnwys datganiad sydd mor negyddol ynglyn a'r iaith? Beth am "Not all Plaid Cymru supporters are Welsh speakers"? Neu "Plaid Cymru is for everyone, regardless of language"? Y neges dwi'n ei gael o'r datganiad yw bod y Gymraeg i'w ystyried yn eilbeth o fewn Plaid Cymru.
Fe ddoi yn ol at hyn eto, ond a yw'r datganiad yn ffeithiol gywir? Yn sicr, mae mwyafrif o aelodau Plaid Cymru yn siarad Cymraeg. Ond efallai bod "cefnogwyr" yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pawb sydd yn pleidleisio dros y Blaid. Efallai y gwna i geisio profi gwirionedd y "ffaith" amheus hon, pan ga'i gyfle.
Am y tro, dwi'n mynd i gael gwydr o gwrw o flaen y teledu, cyn mynd i'r gwely'n gynnar. Dwi'n picio i'r gynhadledd am ychydig 'fory, er mwyn cadeirio sesiwn holi'r gweinidogion. Dewch i'r brif neuadd erbyn 11:30 os am weld beth sydd ganddyn nhw i'w ddweud.
O.N.
Fe gefais i siom arall, yn ymwneud a sut y cafodd un o ymgeiswyr seneddol y Blaid ei thrin gan y Pwyllgor Gwaith - ond wna i ddim mynd i drafod hynny yn gyhoeddus. Digon yw dweud y dylai'r rhai sy'n gyfrifol fod a chywilydd mawr o'r dull y gwnaethon nhw drin ymgeisydd gweithgar, teyrngar a chydwybodol.
3 comments:
Dyfrig: Mae'r lein "Most Plaid supporters don't speak Welsh" i'w wneud a cheisio "newid y canfyddiad cyhoeddus" am y Blaid yr oedd Ieuan wyn Jones yn son amdano yn ei araith ddoe.Er mod i'n cydnabod bod hon dal yn broblem i'r Blaid a phroblem sy'n rhaid mynd i'r afael a hi, dwi'n cyd-weld a ti i raddau am yr union eiriau sy'n cael ei ddefnyddio. Ond beth am y "canfyddiad cyhoeddus" ymhlith cenedlaetholwyr am arafwch anesboniadwy'r Blaid i afael ynddi o ran paratoi am ymgyrch refferendwm i gael mwy o bwerau i Gymru? Beth am newid hwnnw hefyd?!! Mae gen i ofn y bydd nerfusrwydd PC ar y mater hwn ynghyd a'r awydd i gadw'r ddesgl yn wastad hefo Llafur yn y Bae yn cyflwyno'r momentwm i gyd i adain unoliaethol y Ceidwadwyr!
Mae gen i deimladau cymysg am y slogan. Mae'n hanfodol i'r Blaid dorri'r ddelwedd ei bod yn blaid i'r Cymry Cymraeg yn unig, ond eto roedd y darllediad a'r slogan rhywsut yn awgrymu 'dydi'r rhan fwyaf o bobl sy'n pleidleisio dros Blaid Cymru ddim yn wallgof/eithafwyr/pobl ddrwg'.
Er, i fod yn onest, dwi'n meddwl BOD y rhan fwyaf o bobl sy'n pleidleisio dros Blaid Cymru fwy na thebyg yn siaradwyr Cymraeg.
Dwi'n llawn ddeall yr angen i apelio at y di-Gymraeg. Yr hyn sydd yn gadael blas cas yw'r awgrym negyddol sydd yn cael ei gyfleu drwy'r slogan arbennig hon. Ydi, mae hi'n gyrru neges i'r di-Gymraeg, ond mae hi hefyd yn gyrru neges i'r Cymry Cymraeg - neges sydd yn dweud mae lleiafrif ydyn nhw o fewn yr unig blaid sydd erioed wedi blaenoriaethu eu diddordebau hwy. Efallai bod y slogan yn "ffaith", er bod gen i amheuon dybryd ynglyn a hynny. Ond mae 'na elfen gref o "dog whistle politics" yn fan hyn. Mae is-destun y slogan yr un mor bwerus a'r hyn sydd yn cael ei ddweud yn agored.
Post a Comment