8.12.09

Vote Plaid Cymru, get Tory

Newydd glywed y newyddion am Mohammed Ashgar yn croesi'r llawr at y Toriaid. Dwi ddim am basio barn ynglyn a chymhellion y dyn, na doethineb ei droedigaeth wleidyddol. Ond mae'r pwynt a wnaeth gan Heledd Fychan yn berffaith gywir.
Etholwyd Mohammed Ashgar ar restr ranbarthol Dwyrain De Cymru, yn enw Plaid Cymru. Rydym ni'n ethol yr aelodau sydd ar y rhestr ranbarthol drwy fwrw pleidlais dros blaid, nid unigolyn. Petai gan Mohammed Ashgar fymrun o barch at y drefn ddemocrataidd, felly, fe fyddai'n ildio ei sedd heddiw, ac yn sefyll yn enw ei blaid newydd yn 2011. Fel arall, mae wedi ei ethol i'r Cynulliad drwy dwyll.

1 comment:

Hogyn o Rachub said...

Anhygoel tydi? Mae 'na cymaint i'w ddweud ond y peth cynta un fyddwn i'n awgrymu ydi efallai bod 'na wers bwysig i Blaid Cymru i beidio รข dewis ymgeiswyr yn docenistaidd ond ar sail eu gallu yn y dyfodol - achos fel AC dydi o fawr o gaffaeliad i'r Ceidwadwyr.