5.12.09

Newid hinsawdd, eto

Yn syth ar ol sgwenu'r cofnod dwytha, fe es am dro o amgylch y blogosffer Cymraeg, a dod ar draws y cofnod yma gan Hen Rech Flin. Mae'n gwneud y pwynt diddorol yma

"Gan nad ydwyf yn wyddonydd nac yn fab i wyddonydd y mae'n anodd imi wneud sylw teg am y ddadl wyddonol"

Rwan, tydw i ddim yn wyddonydd, chwaith, er bod gen i ddiddordeb lleyg yn y maes. Ond does dim rhaid bod yn wyddonydd i allu dod i gasgliad ynglyn a newid hinsawdd. Mae gennym ni system o arolygu ysgolheictod ar draws pob maes, sydd yn golygu bod haeriadau unrhyw ymchwilydd yn cael ei werthuso gan ei gyd-ymchwilwyr, er mwyn gweld os oes sail iddynt.
"Peer Review" yw'r enw Saesneg ar y broses. Yn syml, pan mae unrhyw ymchwilydd academaidd yn gyrru papur i'w gyhoeddi mewn cyfnodolyn, mae bwrdd golygyddol y cyfnodolyn hwnw yn gyrru'r papur yn ei flaen at nifer o arbenigwyr cydnabyddedig eraill yn y maes - yn ddi-enw, wrth reswm. Mae'r arbenigwyr hynny yn edrych ar yr ymchwil i weld os yw'n dal dwr. Ym myd gwyddoniaeth, maent yn astudio'r data, a'r dull y mae'r data wedi ei gasglu a'i ddadansoddi. Ac yna mae pob arbenigwr ar y panel "peer review" yn gyrru ei sylwadau yn ol at y bwrdd golygyddol (sydd eu hun yn gasgliad o arbenigwyr yn y maes).
Mae pob un darn o waith ymchwil o werth ar newid hinsawdd yn gorfod mynd trwy'r broses drylwyr yma - a hynny er mwyn dynion fel y fi a HRF, y lleygwyr. Os ydym ni'n darllen bod ymchwil wedi ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn cydnabyddedig, yna fe allwn ni fod yn ffyddiog bod yr ymchwil hwnw o ansawdd, ac y gallwn ni ymddiried yn y casgliadau sydd i'w canfod ynddo.
A'r ffaith syml yw bod y mwyafrif llethol o waith ymchwil ysgolhegaidd i newid hinsawdd yn datgan ei fod yn digwydd, ei fod yn cael ei achosi gan y ddynol ryw, ac ei fod yn berygl gwirioneddol i batrwm byw presennol dynoliaeth.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Cyfeiriad Beiblaidd, Dyfrig at Amos 7:14/15

Ond atebodd Amos a dweud wrth Amaseia, "Nid oeddwn i'n broffwyd, nac yn fab i broffwyd chwaith; bugail oeddwn i, a garddwr coed sycamor; ond cymerodd yr ARGLWYDD fi oddi wrth y praidd, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, 'Dos i broffwydo i'm pobl Israel.'

Hynny yw hwyrach dy fod yn credu fy mod yn gwybod dim am y pwnc dan sylw ond yr wyf am ddweud fy nweud ta waeth!

O ran "peer review" yr wyf yn ddigon hen i gofio'r sgandal am gwmnïau baco yn talu ffortiwn i wyddonwyr i wrthod unrhyw dystiolaeth, beth bynnag bo'i rhinwedd, os ydoedd yn ddweud bod baco yn peryglu iechyd ac i basio tystiolaeth gwan a oedd yn cefnogi'r myth bod baco yn llesol i'r iechyd.

Rhan o'r ddadl bresennol parthed newid hinsawdd yw'r honiad bod llywodraethau yn cefnogi gwyddonwyr sydd yn wfftio'r gwadwyr a bod y gwadwyr yn cael eu talu gan y cwmnïau sy'n llygru'r amgylchedd, felly does dim modd ymddiried ym marn y gwyddonwyr o'r naill ochor na'r llall gan fod dwy ochor y ddadl yn cannu gan yr un sy'n talu.

Byrdwn fy neges oedd nad oes ots gennyf am y dadleuon gwyddonol o'r naill ochor na'r llall. Fel nyrs bach cyffredin, (yn hytrach na bugail a garddwr coed sycamor), 'rwy'n gwybod bod llygredd yn beth ych a fi ac yr wyf am gael gwared a llygredd a phethau ych a fi os ydynt yn creu newid hinsawdd neu beidio.

Dyfrig said...

Ymddiheuriadau am fethu'r cyfeiriad Beiblaidd. Er mod i'n anffyddiwr erbyn hyn, fe ges i flynyddoedd lawer o Ysgol Sul, a dwi'n hoffi meddwl mod i'n nabod fy Meibl yn o lew.
Wrth gwrs nad yw'r system "peer review" yn anffaeledig. Mae'r frigad sy'n honni nad yw cynhesu byd-eang yn bodoli yn ceisio dadlau bod cynllwyn celwyddog ymysg gwyddonwyr, er mwyn tanseilio gwerth peer review. Ond y gwir amdani yw nad oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi eu dadleuon. Dyna pam eu bod mor barod i neidio ar unrhyw awgrym o fistimanars - fel yn achos "climategate".
Serch hynny, dwi'n falch nad oes rhaid dy ddarbwyllo di. Am unwaith, dwi'n gweld ochr gadarnhaol ffydd ddall.