Os nad oes gennych chi ddiddordeb yn y frwydr rhwng Llais Gwynedd a Phlaid Cymru yng Ngwynedd, yna does dim diben i chi ddarllen ymhellach. I fod yn onest, dwi'n diflasu fy hun ar adegau, ac mae 'na berygl weithiau bod y blog yma yn troi yn rhyw fath o rapid rebuttal site i flog Gwilym Euros. Neu not-so-rapid rebuttal site, efallai.
Beth bynnag, i Cai, Alwyn, Guto, HoR a'r hanner dwsin arall sydd yn dal efo fi, dyma'r diweddaraf. Wythnos diwethaf, daeth argymelliad ger bron Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd i gau Unedau Addysg Anghenion Arbennig y Sir, er mwyn sefydlu trefn newydd a fydd yn gallu ymestyn y gwasanaeth gwych y mae Gwynedd yn ei ddarparu i fwy o blant y sir.
Roeddwn i ar y gweithgor a luniodd yr argymellion hyn, ond oherwydd dryswch gweinyddol dwi wedi methu mynychu'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd. (Roedd swyddog wedi cam-ddeallt neges, ac yn credu mod i wedi ymddiswyddo o'r gweithgor, ac felly wedi rhoi'r gorau i fy ngwahodd i'r cyfarfodydd).
Beth bynnag, mae Gwilym Euros yn cyhuddo'r Gweithgor o weithredu mewn modd amhriodol ac anrhyloyw (oes na fath air?), gan ddadlau ein bod ni wedi methu a ymgynghori gyda rhieni. Dwi wedi ceisio ateb rhai o'i bwyntiau draw ar ei flog ef, ond dwi'n credu bod dau bwynt pwysig i'w hystyried yn y fan hyn.
Mae'r cyntaf yn ymwneud yn benodol a'r gweithgor yma. Y gwir amdani yw bod y gweithgor yn cynnwys swyddogion y Cyngor, nifer helaeth o athrawon a phenaethiaid, a Chynghorwyr etholedig. Ond mae hefyd yn cynnwys cynrychiolydd o SNAP, elusen sy'n gweithio gyda phant a rhieni i warchod eu buddianau o fewn y system addysg. Rhoddwyd gwahoddiad i SNAP eistedd ar y gweithgor yn benodol oherwydd ein bod ni'n awyddus i ymgynghori gyda rhieni a phlant, ac i sicrhau bod eu llais nhw yn cael ei glywed.
Ar ben hyn, mae'r argymellion a wnaed i'r Pwyllgor Craffu yn cynnwys ymrwmiad i wneud gwaith ymgynghori pellach wrth symyd ymlaen i gynllunio trefn newydd. Dyma'r union eiriad a roddwyd ger bron y pwyllgor
"Cyflawnir gwaith pellach o dan arweiniad Angharad Jones, SNAP Cymru, i ganfod barn croes-doriad o rieni am y ddarpariaeth bresennol a’r cyfeiriad newydd a argymhellir."
Sut mae modd i Lais Gwynedd gyhuddo'r Cyngor o anwybyddu safbwyntiau rhieni a phlant yn y cyd-destun yma? Dwn i ddim.
Ond mae'r modd y mae Llais Gwynedd wedi ymdrin a'r Unedau Addysg Anghenion Arbennig (AAA) yn dangos yn glir sut y maent yn gweithredu ar y Cyngor. Pan drafodwyd gwneud newidiadau i'r Unedau AAA nol yn 2008, y nhw a bwysodd am gael creu gweithgor a fyddai'n gwneud rhagor o waith i ddatblygu polisi ar y pwnc - a chwarae teg iddyn nhw am hynny. Ond yn syth ar ol sefydlu y gweithgor, fe ddiflanodd eu diddordeb. Roedd ganddyn nhw gynrychiolydd ar y gweithgor, ond mae wedi methu a mynychu y mwyafrif llethol o'r cyfarfodydd. Yn wir, dau aelod o Blaid Cymru - Selwyn Griffiths ac RH Wyn Williams - sydd wedi gwneud y mwyafrif llethol o'r gwaith o lywio cwrs y gweithgor.
Aelodau Plaid Cymru sydd wedi bod wrthi - gyda'r athrawon, swyddogion a phenaethiaid - yn ceisio llywio dyfodol y gwasanaeth AAA, a hynny am 14 mis. Rhoddwyd cyfle i Lais Gwynedd ddylanwadu ar y broses yma, ond doedd ganddyn nhw ddim ddiddordeb mewn rhoi'r amser a'r ymdrech i wneud hynny. Ond rwan bod y gweithgor wedi dod i gasgliad ynglyn a'r ffordd ymlaen, maent yn llawn cyhuddiadau a honiadau ynglyn a'r modd dieflig y mae Plaid Cymru yn gweithredu.
Nid ymosodiad ar unigolyn ydi hyn. Fe wn fy hun pam mor anodd ydi dod o hyd i amser i fynychu cyfarfodydd niferus y Cyngor. Ond os yw Cynghorydd unigol yn methu a dygymod a'r pwysau ar ei amser, yna mae dyletsydd arno i ildio ei le, a gofyn i'r gweithgor ethol aelod arall. Yn sicr mae dyletswydd ar blaid neu grwp gwleidyddol i sicrhau bod un o'u haelodau yn bresennol, er mwyn sicrhau bod eu llais hwy yn cael ei glywed wrth i'r Cyngor fynd ati i lunio polisi.
Ond ar ddiwedd y dydd, does gan Llais Gwynedd ddim diddordeb mewn llunio polisi. Fel y mae'r engraifft hon yn ei ddangos yn berffaith, y mae Llais Gwynedd yn fwy na bodlon gadael i weddill y Cyngor wneud y gwaith caled o osod cyfeiriad strategol y Cyngor - ac yna i waeddi a strancio pan mae penderfyniadau yn cael eu gwneud.
31.1.10
Y ding-dong arferol
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
2 comments:
Mwy o rwtsh arferol unllygeidiog gennyt: Me'r sylw diwthaf ar fy mlog yn crisialu'r sefyllfa yn berffaith dwi'n meddwl:
Dyfrig - efallai y galli wirio faint o weithiau mae'r gweithgor yma wedi cyfarfod ers fiasco Haf diwethaf i drafod dyfodol yr unedau? Bu raid i swyddogion addysg ymddiheuro ar y pryd am eu diffyg cysylltiad a'r athrawon a rhieni ynglyn a'u dyfodol. Ni chafodd cynrychilowyr athrawon uned eu gwadd i'r cyfarfod diwethaf - gan fod y "trafodaethau" ynglyn a'r unedau i'w gweld wedi dod i ben. Dwi'n gofyn eto - pa drafodaethau ers Haf diwethaf?
Diolch, Gwilym , am weld yn union beth sy'n digwydd!
Galwa fi'n unllygeidiog os lici di, ond mae'r hyn dwi'n ei ddweud yn wir bob gair.
Post a Comment