15.3.10

Plaid Cymru a'r LCO iaith

Ar ei ffrwd Twitter, gofynnodd Rhys Llwyd pan nad oes mwy o aelodau amlwg Plaid Cymru wedi arwyddo deiseb Cymdeithas yr Iaith yn galw am ail-wampio'r LCO iaith. Fy ateb syml i oedd y bod modd i genedlaetholwr wrthwynebu galwad y Gymdeithas am resymau egwyddorol. Arweiniodd hynny yn anorfod at drafodaeth, ond gan nad ydw i'n un sydd yn gallu defnyddio un gair pan y galla i ddefnyddio dwsin, dwi ddim yn credu bod modd i mi amlinellu fy nadl mewn 140 llythyren.

I fod yn onest, nid ochri gyda Phlaid Cymru ydw i yn y fan hyn. Does gen i ddim syniad pam nad oes mwy o aelodau amlwg y blaid wedi arwyddo'r ddeiseb. Ond dwi'n berffaith eglur ynglyn a pham nad ydw i wedi gwneud hynny. Tydw i ddim yn credu ei bod hi'n ddefnyddiol na'n synhwyrol trafod dyfodol yr iaith Gymraeg yn nhermau "hawliau ieithyddol". Tra 'roeddwn i'n olygydd Barn, fe amlinellais i fy safbwynt fwy nac unwaith - dyma engrheifftiau o Fawrth 2009 a Hydref 2008

Craidd fy nadl i yw bod y Gymdeithas yn trafod "hawliau ieithyddol" mewn modd sydd yn gwbl wrthun i mi. Wrth gwrs y dylai fod gan unigiolyn yr hawl i siarad Cymraeg, ond yn yr un modd, mae gan unigolyn arall yr hawl i beidio ai ateb - neu i'w ateb yn y Saesneg, os y myn. Dyna yw natur hawliau dynol; maent yn bethau sydd yn perthyn i'r unigolyn, a nid i ddiwylliant neu gymuned. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod gan bob un ohonom ni'r hawl i siarad Cymraeg, ac yr hawl i gael ateb yn y Gymraeg.

I mi mae'r peth yn nonsens. Nid oes gan y Sais yr "hawl" hon i'r iaith. Fe allai Gordon Brown ei hun gerdded i mewn i fwyty Tseiniaidd yn Soho, ac os nad yw'r waiter yn dymuno ei ateb yn Saesneg, yna does dim oll y gall hyd yn oed Prif Weinidog Prydain ei wneud i newid hynny.

Nawr, fe allwn ni basio cyfreithiau sydd yn rhoi dyletswydd cyfreithiol ar gwmniau i gynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i'w chwsmeriaid. A coeliwch neu beidio, dwi'n digwydd cefnogi'r egwyddor hwnw. Ond nid creu hawl i'r Gymraeg ydi peth felly. Creu system o reoleiddio busnesau er lles y gymuned yw hynny, fel sydd eisoes yn digwydd mewn sawl maes arall.

Ai hollti blew ydi hyn? Efallai wir. Ond mae hawliau dynol yn hanfodol bwysig i mi - bron cyn bwysiced a fy nghenedlaetholdeb. A dyna pam fy mod i'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni gyd yn eglur ynglyn a beth yn union ydi ystyr hawl dynol. Bwriad sylfaenol hawliau dynol yw gwarchod yr unigolyn yn erbyn gormes - boed hynny yn ormes y wladwriaeth neu ormes y mwyafrif. Unwaith yr ydym ni'n rhoi "hawl" i un garfan o bobl orchymyn unigolyn i weithredu mewn ffordd benodol, rydym ni'n tanseilio'r egwyddor cwbl hanfodol hwnw. Ymestynwch allu y llywodraeth i ymyrryd ym myd busnes ar bob cyfrif, ond nid drwy herwgipio a chamddefnyddio ieithwedd hawliau dynol y mae gwneud hynny.

6 comments:

bed123 said...

Cytuno Dyfrig. Er rwyf yn edmygu gwaith Cym yr Iaith, nid hawliau iaith sy'n bwysig ond sut mae ehangu defnydd o'r Gymraeg yn ymarferol yn ein bywydau pob dydd.

Rhys Llwyd said...

Diolch am esbonio dy resymeg yn fanwl Dyfrig. Maen dda gwybod mae peidio arwyddo deiseb CYIG ar egwyddor wyt ti yn hytrach na pheidio ei arwyddo am resymau pleidiol wleidyddol fel y gwn y mae rhai yn gwneud yn anffodus.

Wedi dweud hynny, dydw i ddim yn cytuno gyda dy ddadl di yr holl ffordd. Mae'r gymhariaeth gyda hawl y Sais yn Soho i gael gwasanaeth Saesneg yn wan, oherwydd y Saesneg yw'r lingua franca yn y fan honno a'r Saesneg yw'r lingua franca yng Nghymru a dyna pam fod angen cysail gyfreithiol i roi hawliau ieithyddol i'r lleiafrif o fewn y diriogaeth benodol hon.

O'i roi mewn cyd-destun gwahanol. Os wyt ti'n dweud fod hawl gan rywun wrthod rhoi gwasanaeth Cymraeg i rywun sy'n ei hawlio wyt ti hefyd yn credu fod hawl gan rywun wrthod rhoi mynediad i berson anabl sy'n mynnu ei hawliau? Gobeithio na fydde ti'n dadle felly, ond dyna yw dy ddadl yn y cyd-destun ieithyddol ynte?

Dwi'n falch dy fod di yn cefnogi galwad y Gymdeithas i ddwyn gorfodaeth ar gorfforaethau mawr (cyhoeddus a phreifat) i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Mae'n annodd deall pam nad ydy'r Blaid yn cefnogi hyn gan eu bod nhw yn cefnogi ymyraeth o fathau eraill megis isafswm cyflog, deddf anabledd, cyflogaeth gyfartal ayyb... Yr esboniad, maen bur debyg, yn achos rhai o aelodau'r Blaid ydy fod nhw'n cyfri'r peth yn rhywbeth gellid cyfaddawdu o'i gylch i blesio Llafur mewn clymblaid. Ond mae lle i gredu fod llawer o arweinwyr y Blaid yn gwrthwynebu gorfodaeth breifat beth bynnag.

Dafydd Tomos said...
This comment has been removed by the author.
Hywel said...

Diolch am y post diddorol a gonest yma Dyfrig. Wyt ti'n cytuno felly nad yw'r mesur fel y mae yn sicrhau hawliau dynol i bobl dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg? Os felly, beth yw dy farn am holl ddatganiadau'r Blaid sydd wedi datgan bod y mesur yn sicrhau hawliau, pan nad oes un cyfeiriad atynt ynddo mewn gwirionedd? Mae'r mesur yn rhoi hawl i sefydliadau apelio yn erbyn 'safonau''r Comisynydd, ond nid yw'n rhoi hawl i'r plaintiff fel petai. Ar fater gwahanol, does dim datganiad o statws swyddogol - dywedir bod y mesur yn cadarnhau ac adeiladu ar statws sydd yn bodoli yn barod. Ni cheir datganiad amlwg o'r statws yna yn unrhyw ddeddf flaenorol. Dyna gwyn y Blaid a'r Gymdeithas, a'r Bwrdd Iaith, yn erbyn deddf 1993! Mae nifer o resymau pwysig dros ei ddatgan, rhai ymarferol a rhai symbolaidd (ill dau yr un mor bwysig a'i gilydd).

Hedd said...

Falle bod y dolenni yma o ddiddordeb:

http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2010/03/18/lawyers-seek-to-expose-flaws-in-new-welsh-language-laws-55578-26056617/

http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2010/03/18/legal-figures-warn-plans-fail-to-guarantee-language-rights-91466-26056663/

claude said...

2010: ddadl etholiad erthygl am Plaid Cymru.