Heddiw fe benderfynodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd argymell y dylid cau Ysgol y Parc, ger y Bala, fel rhan o gynllun i ad-drefnu addysg gynradd yn yr ardal. Bydd y cynlluniau hyn yn golygu codi ysgol newydd gydol-oes yn y Bala ei hun, ac Ysgol y Parc yw'r unig un o'r ysgolion gwledig o amgylch y dref sydd wedi ei chlustnodi i gau. Hon yw'r ysgol leiaf yng Ngwynedd, gyda dim ond 18 o ddisgyblion.
Beth bynnag, pan basiodd yr argymelliad i gau, cafwyd ymddygiad cyfangwbl warthus gan nifer o bobl yn yr oriel gyhoeddus. Cododd Ffred Ffransis ar ei draed, gan ein galw ni (hynny yw y rhai ohonom a bleidleisiodd dros gau) yn fradwyr, a thaflu tegan meddal oen bach atom ni - i gynrychioli'r modd y mae'r Ysgol y Parc yn "oen i'r lladdfa", chwedl Ffred. Gwaeddodd un arall o'r dorf enw un o'm cyd-gynghorwyr, gan ei alw yn "fochyn". A dechreuodd Osian Jones, trefnydd y Gogledd, Cymdeithas yr Iaith - ffrind i mi ers pan dwi tua 15 oed - alw enwau'r cynghorwyr Plaid Cymru a oedd wedi pleidleisio dros gau, gan eu galw yn fradwyr.
Pan soniais am hyn ar Twitter, fe benderfynodd Rhys Llwyd, aelod amlwg arall o'r Gymdeithas, y byddai'n fy enllibio yn gyhoeddus.
A phan ysgrifennais at Ffred i fynegi fy anfodlonrwydd, fe gefais ymateb gan ei ferch yn fy nghymharu gyda aelod o Gyngor Lerpwl a bleidleisiodd i foddi Tryweryn. Dwi wedi cynnwys y negesuon hynny isod, yn hytrach na ail-adrodd fy nadleuon.
Dyfrig Jones wrote:Annwyl Ffred,Rydw i'n hynod, hynod o siomedig gyda eich ymddygiad chi yn Siambr Cyngor Gwynedd heddiw. Mae gennych chi hawl i'ch barn, a hawl i fynegi'r farn honno yn gyhoeddus. Yn wir, fe gawsoch fynegi eich barn yn uniongyrchol i'r panel adolygu dalgylch, ac fe fu un o swyddogion Cyngor Gwynedd yn barod i ddosbarthu eich taflen i holl aelodau'r pwyllgor cyn dechrau'r cyfarfod. Beth bynnag fo'n barn ni ynglŷn a'ch sylwadau, fe gawsoch eich trin yn gwrtais a pharchus.Mae'r ffaith i chi ymateb i'r parch a'r cwrteisi yma mewn modd mor amharchus ac anghwrtais yn fy nhristau. Mae hefyd yn tanseilio eich hachos. Yn y dyfodol, gai ofyn yn garedig i chi beidio ac ymateb i benderfyniadau yr ydych yn anghytuno a nhw drwy darfu ar waith y Cyngor?Dyfrig
Shwmae Mr Jones
Dwi'n ofni nad yw'n nhad yn y swyddfa heddiw gan ei fod, yn dilyn y cyfarfod y bore yma, yn teithio o amgylch Cymru gyda'i waith. Gofynodd i mi edrych ar ei ebyst rhagofn fod neges brys yn dod trwyddo. Roeddwn i'n teimlo fod yn rhaid i mi ymateb gan i mi yn wir gael fy nhristau wrth ddarllen eich sylwadau. Cofiaf fy nhadcu (Gwynfor Evans) yn son am ei brotest yn Nghyngor Lerpwl adeg y bygythiad i gymuned Cymraeg arall yn ardal y Bala a'r modd "amharcus ac anghwrtais" y gwnaeth ef darfu ar waith y Cyngor y diwrnod hynny. Y trueni yw fod y gelyn pryd hynny mor glir ond erbyn hyn fod cymunedau Cymraeg yn cael eu bradychu gan aelodau o Blaid Cymru!!!
Yn Ddiffuant
Angharad Clwyd
(3ydd Merch Ffred)
Annwyl Angharad,
Mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng yr hyn a ddigwyddodd heddiw parthed Y Parc, a'r hyn a ddigwyddodd yn siambr Cyngor Dinas Lerpwl. Roedd boddi Cwm Celyn yn rhywbeth a ddigwyddodd o ganlyniad i benderfyniad gan sefydliadau gwleidyddol tu allan i Gymru. Ni chafodd trigolion Cymru yr hawl i ddylanwadu yn ddemocrataidd ar y penderfyniad hwnw, ac felly roedd yn rhaid troi at brotest er mwyn ceisio newid.
Mae'r penderfyniad i ad-drefnu addysg gynradd yng Ngwynedd yn un sydd wedi ei wneud gan gynrychiolwyr etholedig pobl Gwynedd, nifer helaeth ohonyn nhw yn genedlaetholwyr ymroddedig a didwyll. Mae gwahaniaeth barn rhyngthom ni a rhai chenedlaetholwyr eraill, ond annhegwch o'r mwyaf yw ein cymharu ni a Chyngor Dinas Lerpwl.
Yr hyn a'm tarodd i heddiw oedd ail-ddarllen adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Gyngor Gwynedd i effaith ieithyddol ad-drefnu addysg gynradd. Comisiynnwyd yr adroddiad hwn mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan Gymdeithas yr Iaith - ymhlith eraill - yn y gorffennol. Mae'r adroddiad hwn yn datgan yn gwbl eglur y byddai cau Ysgol y Parc yn cael effaith gadarnhaol ar yr iaith Gymraeg, gan y byddai yn arwain at greu uned fwy, ac felly mwy cynaliadwy, yn Ysgol O.M. Edwards, Llanuwchllyn.
Fe allwch ddarllen adroddiad yr ymgynghorydd annibynnol yma
http://www.gwynedd.gov.uk/upload/public/attachments/1037/ASESIAD_ARDRAWIAD_IEITHYDDOL_ANNIBYNNOL_Y_BERWYN_5.pdf
Cymal 6.11 yw'r un perthnasol.
Rwy'n derbyn efallai eich bod yn anghytuno gyda casgliadau'r arbennigwr annibynnol. Nid dadlau dros yr un cymal penodol hwn yw fy mwriad i. Dim ond gwneud y pwynt syml, fy mod innai yn genedlaetholwr, sydd yn pryderu am yr iaith Gymraeg, a sydd wedi gweithredu mewn modd yr ydw i'n ei gredu fydd yn cryfhau'r iaith ym mro Penllyn.
Gofynwch i chi eich hun - ydw i'n haeddu cael fy ngalw yn "fradwr" ac yn "fochyn" am wneud hyn? Ydw i, fel yr ydych chi'n ei awgrymu yn eich neges, yn gyfystyr a Sais o Lerpwl a foddodd Gwm Celyn?
Dyfrig Jones