24.5.10

Cymdeithas yr Iaith - Cau Ysgol y Parc

Heddiw fe benderfynodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd argymell y dylid cau Ysgol y Parc, ger y Bala, fel rhan o gynllun i ad-drefnu addysg gynradd yn yr ardal. Bydd y cynlluniau hyn yn golygu codi ysgol newydd gydol-oes yn y Bala ei hun, ac Ysgol y Parc yw'r unig un o'r ysgolion gwledig o amgylch y dref sydd wedi ei chlustnodi i gau. Hon yw'r ysgol leiaf yng Ngwynedd, gyda dim ond 18 o ddisgyblion.
Beth bynnag, pan basiodd yr argymelliad i gau, cafwyd ymddygiad cyfangwbl warthus gan nifer o bobl yn yr oriel gyhoeddus. Cododd Ffred Ffransis ar ei draed, gan ein galw ni (hynny yw y rhai ohonom a bleidleisiodd dros gau) yn fradwyr, a thaflu tegan meddal oen bach atom ni - i gynrychioli'r modd y mae'r Ysgol y Parc yn "oen i'r lladdfa", chwedl Ffred. Gwaeddodd un arall o'r dorf enw un o'm cyd-gynghorwyr, gan ei alw yn "fochyn". A dechreuodd Osian Jones, trefnydd y Gogledd, Cymdeithas yr Iaith - ffrind i mi ers pan dwi tua 15 oed - alw enwau'r cynghorwyr Plaid Cymru a oedd wedi pleidleisio dros gau, gan eu galw yn fradwyr.
Pan soniais am hyn ar Twitter, fe benderfynodd Rhys Llwyd, aelod amlwg arall o'r Gymdeithas, y byddai'n fy enllibio yn gyhoeddus.
A phan ysgrifennais at Ffred i fynegi fy anfodlonrwydd, fe gefais ymateb gan ei ferch yn fy nghymharu gyda aelod o Gyngor Lerpwl a bleidleisiodd i foddi Tryweryn. Dwi wedi cynnwys y negesuon hynny isod, yn hytrach na ail-adrodd fy nadleuon.

Dyfrig Jones wrote:
Annwyl Ffred,
Rydw i'n hynod, hynod o siomedig gyda eich ymddygiad chi yn Siambr Cyngor Gwynedd heddiw. Mae gennych chi hawl i'ch barn, a hawl i fynegi'r farn honno yn gyhoeddus. Yn wir, fe gawsoch fynegi eich barn yn uniongyrchol i'r panel adolygu dalgylch, ac fe fu un o swyddogion Cyngor Gwynedd yn barod i ddosbarthu eich taflen i holl aelodau'r pwyllgor cyn dechrau'r cyfarfod. Beth bynnag fo'n barn ni ynglŷn a'ch sylwadau, fe gawsoch eich trin yn gwrtais a pharchus.
Mae'r ffaith i chi ymateb i'r parch a'r cwrteisi yma mewn modd mor amharchus ac anghwrtais yn fy nhristau. Mae hefyd yn tanseilio eich hachos. Yn y dyfodol, gai ofyn yn garedig i chi beidio ac ymateb i benderfyniadau yr ydych yn anghytuno a nhw drwy darfu ar waith y Cyngor?
Dyfrig

Shwmae Mr Jones

Dwi'n ofni nad yw'n nhad yn y swyddfa heddiw gan ei fod, yn dilyn y cyfarfod y bore yma, yn teithio o amgylch Cymru gyda'i waith. Gofynodd i mi edrych ar ei ebyst rhagofn fod neges brys yn dod trwyddo. Roeddwn i'n teimlo fod yn rhaid i mi ymateb gan i mi yn wir gael fy nhristau wrth ddarllen eich sylwadau. Cofiaf fy nhadcu (Gwynfor Evans) yn son am ei brotest yn Nghyngor Lerpwl adeg y bygythiad i gymuned Cymraeg arall yn ardal y Bala a'r modd "amharcus ac anghwrtais" y gwnaeth ef darfu ar waith y Cyngor y diwrnod hynny. Y trueni yw fod y gelyn pryd hynny mor glir ond erbyn hyn fod cymunedau Cymraeg yn cael eu bradychu gan aelodau o Blaid Cymru!!!

Yn Ddiffuant
Angharad Clwyd
(3ydd Merch Ffred)

Annwyl Angharad,
Mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng yr hyn a ddigwyddodd heddiw parthed Y Parc, a'r hyn a ddigwyddodd yn siambr Cyngor Dinas Lerpwl. Roedd boddi Cwm Celyn yn rhywbeth a ddigwyddodd o ganlyniad i benderfyniad gan sefydliadau gwleidyddol tu allan i Gymru. Ni chafodd trigolion Cymru yr hawl i ddylanwadu yn ddemocrataidd ar y penderfyniad hwnw, ac felly roedd yn rhaid troi at brotest er mwyn ceisio newid.
Mae'r penderfyniad i ad-drefnu addysg gynradd yng Ngwynedd yn un sydd wedi ei wneud gan gynrychiolwyr etholedig pobl Gwynedd, nifer helaeth ohonyn nhw yn genedlaetholwyr ymroddedig a didwyll. Mae gwahaniaeth barn rhyngthom ni a rhai chenedlaetholwyr eraill, ond annhegwch o'r mwyaf yw ein cymharu ni a Chyngor Dinas Lerpwl.
Yr hyn a'm tarodd i heddiw oedd ail-ddarllen adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Gyngor Gwynedd i effaith ieithyddol ad-drefnu addysg gynradd. Comisiynnwyd yr adroddiad hwn mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan Gymdeithas yr Iaith - ymhlith eraill - yn y gorffennol. Mae'r adroddiad hwn yn datgan yn gwbl eglur y byddai cau Ysgol y Parc yn cael effaith gadarnhaol ar yr iaith Gymraeg, gan y byddai yn arwain at greu uned fwy, ac felly mwy cynaliadwy, yn Ysgol O.M. Edwards, Llanuwchllyn.

Fe allwch ddarllen adroddiad yr ymgynghorydd annibynnol yma

http://www.gwynedd.gov.uk/upload/public/attachments/1037/ASESIAD_ARDRAWIAD_IEITHYDDOL_ANNIBYNNOL_Y_BERWYN_5.pdf

Cymal 6.11 yw'r un perthnasol.

Rwy'n derbyn efallai eich bod yn anghytuno gyda casgliadau'r arbennigwr annibynnol. Nid dadlau dros yr un cymal penodol hwn yw fy mwriad i. Dim ond gwneud y pwynt syml, fy mod innai yn genedlaetholwr, sydd yn pryderu am yr iaith Gymraeg, a sydd wedi gweithredu mewn modd yr ydw i'n ei gredu fydd yn cryfhau'r iaith ym mro Penllyn.

Gofynwch i chi eich hun - ydw i'n haeddu cael fy ngalw yn "fradwr" ac yn "fochyn" am wneud hyn? Ydw i, fel yr ydych chi'n ei awgrymu yn eich neges, yn gyfystyr a Sais o Lerpwl a foddodd Gwm Celyn?

Dyfrig Jones



11 comments:

Lleucu Roberts said...

Nid yn unig eich bod yn gallu penderfynu cau Ysgol y Parc yn groes i'r farn gyhoeddus a phob asesiad o ardrawiad ieithyddol a chymdeithasol, ond mae gennych yr wyneb rwan i gyhuddo'r rhai oedd yno heddiw'n eich gwylio'n cyflawni'r fath gyfalafan, o 'gamfihafio' am ddangos eu gofid at golli ysgol sy'n galon i un o'r cymunedau cefn gwlad Cymreiciaf sydd gennym ar ol. Y gwir amdani yw eich bod yn llawer llawer gwaeth na chynghorwyr Lerpwl adeg Tryweryn - o leia, doedd gan y rheini ddim syniad be oedden nhw'n ei ddinsitrio.

Dyfrig said...

Lleucu,

Petai chi wedi darllen fy neges uchod, roedd yr astudiaeth ardrawiad iaith yn datgan yn eithaf clir y gallai cau Ysgol y Parc arwain at gryfhau'r Gymraeg yn ardal Penllyn.

Mae'n wir bod trigolion Y Parc yn gwrthwynebu cau eu hysgol leol. Ond beth am farn pobl Y Bala? A fydden nhw'n fodlon aberthu yr ysgol gydol-oes newydd sydd yn cael ei hargymell, er mwyn achub Ysgol y Parc? Mae'n bur debyg mae dyma fyddai'r canlyniad. Rhaid cymeryd barn y cyhoedd i gyd i ystyriaeth, nid barn y rhai mwyaf llafar yn unig.

Mae'r ffaith eich bod yn disgrifio cau ysgol o 18 o blant yn "gyflafan" yn tanseilio eich hygrydedd a'ch dadleuon. Tristwch i mi yw bod trafodaeth rhwng dwy garfan o genedlaetholwyr yn gynyddol amhosib oherwydd y math yma o rethreg eithafol.

Lleucu Roberts said...

Tristwch i mi yw bod trafodaeth rhwng dwy garfan o genedlaetholwyr yn gynyddol amhosib oherwydd bod un mewn grym, ac yn penderfynu ar ddyfodol y llall.
Mae'r astudiaeth ardrawiad iaith yn datgan y byddai model o gydweithio rhwng y 4 ysgol wledig yr un mor gadarnhaol o safbwynt cryfhau'r Gymraeg yn ardal Penllyn - ond HEB gael gwared ag ysgol sy'n graidd i'w chymuned yn y broses. (pwynt 6.3) Yn bendant, wnaiff cau Ysgol y Parc ddim cryfhau'r Gymraeg yn ardal y Parc.
A dyma chi eto'n ceisio creu rhwyg lle nad oes un: pwy sy'n dweud ei bod hi'n well gan bobl ardal y Bala weld Ysgol y Parc yn cau?
Hefyd, a fyddai pobl y Bala'n fodlon aberthu ysgol y Parc er nad oes affliw o sicrwydd y caiff ysgol gydol-oes ei chodi o gwbl? Ac os byddent, ai trigolion ein trefi ni felly sydd i benderfynu ar ddyfodol ein cymunedau gwledig ni, yn hytrach na'r cymunedau gwledig eu hunain?
Nid wrth ei maint y mae mesur gwerth ysgol - dengys Ysgol y Parc hynny yn well o bosib na'r un ysgol arall drwy'r sir.
Mentraf awgrymu fod y ffaith nad ydych chi'n gallu cydnabod maint y golled fyddai'n dilyn ei chau yn yn fesur o'ch anaddasrwydd chi i bleidleisio ar y mater.

Dyfrig said...

Nid un carfan sydd yn penderfynnu ar ddyfodol carfan arall. Mae pawb yng Ngwynedd yn ethol cynrychiolwyr yn ddemocrataidd, a'r cynrychiolwyr hynny sydd yn gwneud y penderfyniadau - pobl o'r wlad a'r dref, yn genedlaetholwyr ac yn unonliaethwyr.
Un sir yw Gwynedd, ac mae penderfyniadau sydd yn effeithio ar un rhan o'r sir yn siwr o effeithio ar bob rhan arall ohoni. O'r herwydd, mae'n anorfod bod trigolion y trefi yn gwneud penderfyniadau sydd yn effeithio ar drigolion y wlad. Fe allwch chi ddadlau dros ddiddymu'r drefn hon, a rhoi annibynniaeth i gefn gwlad, os y mynnwch. Ond fe fyddai cefn gwlad Gwynedd mewn llawer gwaeth cyflwr nac y mae ar hyn o bryd, oni bai am y cyfraniad ariannol anferthol sydd yn dod gan drigolion y trefi.

O ran Ysgol y Parc, rwy'n cydnabod byddai trefn o gyd-weithio wedi dod a'r un canlyniad ieithyddol a chau Ysgol y Parc, ond byddai cost wedi bod ynghlwm a hynny. A ninnau mewn cyfnod o gynni ariannol ofnadwy, mae'n rhaid cydnabod y gost honno. Nid cost yw'r unig reswm dros gau ysgol, cofier - na'r prif reswm - ond mae yn ystyriaeth.

Nid dweud ydw i fod pobl y Bala yn dymuno gweld Ysgol y Parc yn cau. Ond fe fyddai'n anodd iawn i ni wneud cais am arian i godi ysgol newydd yn y Bala, tra'n parhau i gynnal ysgolion sydd ddim yn hyfyw, megis Ysgol y Parc. Mae Estyn wedi ei gwneud hi'n berffaith glir bod disgwyl i ni leihau niferoedd gwag, a byddai methiant i wneud hynny yn llestweirio ein cais am gyllid i godi ysgol newydd.
Yng ngoleuni hyn, gofyn ydw i a fyddai trigolion Y Bala yn fodlon aberthu eu hysgol newydd hwy er mwyn cadw Ysgol y Parc ar agor?

Unknown said...

Roedd trafodaeth ar hyn ar Taro'r Post yn gynharach, bydd dolen yn ymddangos yma maes o law: http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/rhaglenni/pages/taror_post.shtml

Rhai pwyntiau.

Dyw galw rhywun yn fochyn neu yn fradwr ddim yn dderbynniol, ond rhaid derbyn bod teimladau cryf iawn ar y mater, a bod rhai wedi gwneud sylwadau o'r fath mewn rhwystredigaeth. Dwi'n siwr y byddant yn difaru gwneud sylwadau o'r fath erbyn hyn.

Ar y llaw arall, mae nodi bod gweithred y Cynghorwyr wedi bradychu cymuned y Parc yn dderbyniol, er y byddai rhai yn anghytuno a'r datganiad.

Mae grwpiau pwyso yn gwneud stynts (megis tegan meddal oen bach!) i geisio esbonio pwynt mwy difrifol ar adegau, ac mae'r dacteg yn gallu bod yn effeithiol iawn.

Bilidowcar said...

Dwi'n meddwl fod aelodau y Cymdeithas wedi bod yn blentynaidd iawn yn eu agwedd at y cynghorwyr. Faint o'r aelodau amharchus yma sydd yn nabod neu yn dod o ardal y Parc? Dwi'n credu fe fydd y nifer yn agos at ddim.
Fel rhywyn sydd yn nabod ardal Penllyn fel rhan o'n gwaith. Mae'r nifer o siaradwyr Cymraeg yn eitha isel yn yr ardal.
Dwi'n credu fod syniad y cyngor o symud y plant i ysgol Lanuwchlyn yn mynd i gryfhau addysg yn yr iaith Gymraeg yn yr ardal.

Unknown said...

@ Bilidwocar

Mae'n beryglus iawn cyhoeddi rhagfarn fel ffaith! O'r bobl oedd yno (tua 50 erbyn i mi gyrraedd) roedd pawb yno o'r Parc heblaw am 1 o Fangor (fi), 1 o Ddeiniolen ac 1 o Sir Gaerfyrddin (Ffred - cefnogwr ymgyrch amddiffyn Ysgol y Parc sydd wedi bod yn rhannu profiadau lleol gyda trigolion y Parc). Sut mae cau ysgol y Parc yn mynd i gryfhau cymuned Y Parc? Mewn oes o apathi mae eu hegni'n ryfeddol fel cymuned; dyle'r Cyngor fod yn pweru bobl y Parc, nid eu gwanhau.

Bleddyn said...

Am y tro gyntaf ers 1999, mae'n rhaid imi gytuno hefo Dyfrig. Mae rhanu'r pot o arian, fel petai, yn rhy denau yn arwain at danseilio safon addysg yn gyffredinol, ac oherwydd yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mi fydd y pot yn eithaf gwag ar gyfer y dyfodol agos. Rhaid hefyd ystyried gwerth yr addysg ar cyfleodd mae disgyblion yn eu cael mewn ysgol fach iawn.

Rhys Llwyd said...

Hoffwn ategu'r hyn ddywedodd Menna. Mae beirniadu Cymdeithas yr Iaith yn rhywbeth rhy hawdd i'w wneud gyda'r achos wythnos yma. Mae'n haws beirniadu'r Gymdeithas yn gyhoeddus nag ydy hi i feirniadu pobl Parc!

Rhyw bump o aelodau'r Gymdeithas oedd yno ond roedd degau o bobl ardal Parc. Ymgyrch pobl Parc yw hon ac yr oll mae'r Gymdeithas yn ei wneud ydy rhannu ein adnoddau a nhw yn ôl eu dymuniad a'u gwahoddiad.

Dydy gwerin y Parc, ar y cyfan, ddim ar Twitter a'r Blogiau er mwyn ateb Dyfrig felly dyna pam ydw i'n parhau i geisio ‘dadlau o blaid y mud, a thros achos yr holl rai diobaith’ ys dywed llyfr y Diarhebion!

Mae pawb yn cydnabod mae camgymeriad oedd y gwaeddu enwau ac mae ymddiheuriadau priodol wedi eu gwneud, oes? Os ddim yna dylid trefnu hynny. Ond rhaid i chi gofio fod pobl y Parc dan deimlad ac fod eu hemosiwn nhw wedi cydio ynom ni oedd yno i ddangos cefnogaeth iddynt hefyd.

Dyfrig said...

Rhys,
Y ffaith amdani yw fod y mwyafrif llethol o bobl Y Parc wedi ymddwyn yn berffaith briodol. Ffred ac Osian oedd yn bennaf gyfrifol am darfu ar waith y Cyngor, a dim ond o ddilyn eu harweiniad hwy y cafwyd sylwadau gan drigolion Y Parc.

Heledd Melangell said...

Be ti'n ddisgwyl? Gweithredu yn erbyn be mae'r bobol leol isho, lladd cymuned cymreig ei hiaith... does dim syniad genyt ti