Ychydig iawn o gyfle ydw i wedi ei gael i flogio dros yr wythnosau diwethaf, a hynny oherwydd pwysau gwaith, yn bennaf. Ond yn dilyn canlyniadau neithiwr, mae fy mhen i'n troi braidd, a dwi'n teimlo'r hen awydd 'na i chwydu popeth allan ar y blog. Mae 'na lot dwi ishio'i ddweud, ond efallai mae'r lle callaf i gychwyn yw efo seddi targed Plaid Cymru (nid yn eu trefn flaenoriaeth, gyda llaw)
1. Arfon
Dwi'n byw ym Methesda, a dyma'r tro cyntaf i ni fod i mewn gyda gweddill Arfon ar lefel San Steffan. Fe fum i allan yn canfasio a dosbarthu taflenni rhywfaint dros yr wythnosau diwethaf, a doeddwn i ddim yn disgwyl iddi fod mor agos yma. Yn ol yr adroddiadau o'r cyfri, roedd hi'n agos rhwng Llafur a Phlaid Cymru yng Nghaernarfon, Llafur a mwyafrif eithaf clir ym Mangor, a Phlaid Cymru a mwyafrif eithaf clir yn Nyffryn Ogwen, Dyffryn Nanlle, a'r pentrefi gwledig (Bethel, Llanrug, Deiniolen ayyb). Mae'n amlwg felly bod angen gwaith ym Mangor, yn enwedig o ystyried bod nifer helaeth o fyfyrwyr yn byw yno, ond nid o anghenrhaid yn pleidleisio.
2. Aberconwy
Tan eleni, roedd Bethesda a Bangor yn etholaeth Conwy, a dwi wedi fy magu yn gwylio'r brwydro yma - roedd fy nhad yn asiant i Rhodri Davies yn 1987 a 1992. Roeddwn i'n wirioneddol grediniol y byddai Plaid Cymru yn ail cryf yma, a bod posib gwirioneddol i ni ei chipio - mi es i gyn belled a rhoi £10 ar Blaid Cymru i enill, brynhawn ddoe. Yn fy marn i, mae'n ddamniol ein bod ni wedi cael ein arwain i obeithio cymaint o Phil Edwards. Dyw bod yn or-optimistaidd ddim wastad yn dacteg dda, gan ei fod yn gwneud i ni edrych yn wan pan mae ein "ail cryf" ni yn troi yn bedwerydd safle ar y noson. Siom fawr.
3. Ceredigion
Os oedd Aberconwy yn siom, roedd Ceredigion yn dorcalonus. Dwi ddim yn adnabod yr etholaeth yn ddigon da i wybod beth aeth o'i le, ond mae'r canlyniad yn codi cwestiynnau pwysig. Yn sicr, roedd y dadleuon teledu yn ffactor bwysig. Ond mae Plaid Cymru wedi bod yn gweithio yn hynod o galed yn Ceredigion, yn gyson ers siom fawr 2005. Ac mae Mark Williams yn cael ei adnabod fel AS digon cyffredin, i ddweud y lleiaf. Sut felly y trowyd mwyafrif Lib-Dem o ychydig gannoedd yn fwyafrif o 9000?
4.
Mae Ynys Mon yn dipyn nes at adref, ac yn etholaeth dwi'n lled gyfarwydd a hi. Efallai nad oedd y mwyafrif Llafur yn agos at un y Lib-Dems yng Ngheredigion, ond mae hon yn ergyd yr un mor drom. Yn ystod teyrnasiad Albert Owen, mae cyflogwr mwya'r ynys wedi cau, gan roi cannoedd o etholwyr ar y clwt - a hynny yng Nghaergybi, power-base Albert. Sut felly y llwyddodd i ddal ei sedd gyda chymaint o fwyafrif?
Efallai bod gwleidyddiaeth fewnol yr ynys yn ffactor. Mae Cyngor Mon yn shambles llwyr, ac er nad aelodau Plaid Cymru sydd yn euog o dynnu enw da'r Cyngor drwy'r baw, fe fyddwn i'n dychmygu eu bod wedi eu heintio drwy fod yn rhy agos at sefydliad llwgr a phlentynaidd.
Dwi hefyd yn credu bod y Blaid ym Mon wedi dewis yr ymgeisydd anghywir i'r etholaeth. Fe weithiodd Dylan Rees yn galed iawn, ond dwi ddim yn credu fod ganddo'r grym personoliaeth sydd ei angen. Heb fynd i swnio yn gul, roeddwn i'n siomedig iawn gyda'r ffaith ei fod mor barod i droi at y Saesneg. Bob tro dwi wedi ei glywed yn siarad yn gyhoeddus, mae wedi mentro brawddeg neu ddwy yn y Gymraeg, cyn troi at y Saesneg. Mewn etholaeth draddodiadol iawn fel Mon, dwi'n credu bod hyn yn wendid sylfaenol.
Serch hynny, mae ymyl disglair i bob cwmwl du, chwedl y Sais. Dwi ddim eisiau codi cywilydd arni yn ormodol, ond i mi mae'n amlwg fod gan Ynys Mon ymgeisydd perffaith ar gyfer yr etholiad nesaf - Heledd Fychan. Fe weithiodd Heledd yn aruthrol o galed yn Maldwyn, a oedd yn sedd nad oedd gan y Blaid unrhyw obaith o'i henill - a cynyddodd ein pleidlais, gan ddod yn drydedd. Merch o Fon yw Heledd yn wreiddiol, ac mae ei theulu yn dal i fyw yno, ac yn weithgar o fewn y Blaid yn lleol. Byddai Heledd yn ymgeisydd heb ei hail, a dwi'n mawr obeithio y bydd yn ceisio'r enwebaid y tro nesaf.
4. Llanelli
Efallai ein bod wedi ein siomi yn Aberconwy, Mon a Cheredigion, ond dwi'n credu bod canlyniad Llanelli yn hwb i ni gyd. Roedd Myfanwy Davies yn ymgeisydd gwych, a dwi'n mawr obeithio y bydd yn parhau i geisio cael ei hethol. Byddai'n gaffaeliad enfawr i Blaid Cymru yn Llundain neu Gaerdydd. Roedd y ffaith iddi ddod o fewn 2000 o bleidleisiau i Nia Griffiths mewn etholaeth sydd mor draddodiadol driw i'r Blaid Lafur yn ganlyniad gwych, yn enwedig o ystyried yr hinsawdd Brydeinig. Gyda'r gwynt y tu ol iddi, fe allai Myfanwy gymeryd Llanelli. Targed realistig ar gyfer y dyfodol.
5. Meirion-Dwyfor a Dinefwr
Diolch byth bod y ddwy sedd hon wedi bod yn weddol ddi-drafferth i ni. Chafodd Elfyn Llwyd ddim trafferthion, ac mae ei fwyafrif anferth yn tystio i'w allu fel aelod, a cryfder y gefnogaeth yn yr ardal. Y syndod fwyaf oedd bod Louise Hughes wedi cael cymaint o gefnogaeth.
Dwi'n credu bod Jonathan Edwards hefyd wedi cael hwyl dda iawn. Roedd gan Adam Price bleidlais bersonol gref, a doedd dim disgwyl i Jonathan gynnal honno i gyd. Ond fe gafodd ganlyniad anrhydeddus iawn, a phob dymuniad da iddo.
7.5.10
Canlyniadau 2010 - Targedau Plaid Cymru
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
4 comments:
Noson siomedig yn wir. Dwi'm yn siwr am Lanelli - roedd mwyafrif Llafur yn agosach at 5,000 na'r 2,000 ti'n ei nodi ac ro'n i ychydig yn siomedig.
Byddai Heledd Fychan yn ymgeisydd perffaith i Fôn. Dwi'm isho bod yn gas ond ers ymadawiad IWJ mae Plaid Cymru wedi dewis ymgeiswyr gwan, anaddas neu ddi-fflach bob tro'n ddi-ffael. O edrych ar y modd y cynhaliodd ei hymgyrch, byddai rhywun fel Heledd Fychan yn berffaith o ymgeisydd.
Ti'n berffaith gywir HoR. Rhyw 5000 oedd mwyafrif Nia Griffiths. Diffyg cwsg yn deud arna fi.
Ynghylch Fon, tydi y mwyafrif sylweddol ddim yn cysylltu trychineb y cyngor a phlaid cymru. Rees oedd y problem.
Roedd Dylan Rees yn enwebiad uffernol o wael, a oherwydd hynnu mi wnes i gwrthod ymgyrchu i'r plaid flwyddyn yma er mi wnes i dal pleidisio i'r dyn. Dwi mynd i fod yn blwmp ac yn blaen (achos dwi mor flin ynghylych y sefyllfa), toedd o ddim yn ddyn deallus, clyfar nac yn gallu siarad yn dda yn gyhoeddus.
Oedd on paldaruo am "crime" trwy'r amser, mae "crime" tua rhif 89 ar rhestr problemau sir fon. Traw ti efo Albert Owen sydd efo IQ dwbl PC Rees ag yn hynod poblogaidd trwy fon fel rhywun sydd yn gweithio yn galed i'r ynys ac yn pleidleisio yn erbyn y chwip llafuraidd pam fydd angen. Mae'n hollol sarhaus pan ma selogion y plaid yn deud "holyheaders i gyd yn votio am fo" ac mae'n neud fi'n wyllt gacwn. Fi oedd yr unig berson nath peidio pleidleisio llafur yn fy nheulu i a yn fy nghrwp o ffrindia agos (gyd yn nghymru gymraeg o de orllewin yr ynys un o ardaloedd fwya cymreig yng nghymru gyfan).
Ella neith pobl y rhondda pleidleisio am mochyn yn gwisgo rosette coch ond ni wneith trigolion Fon a un wyrdd!
Os PC Rees ydi'r gora fedrith y plaid wneud yn Fon (3 etholiad 'wan ma wbath eitha debyg di digwydd er y lembo yma yw'r gwaethaf), fydd llawer o ieuenctid deallus o naws gwleidyddol yr ynys yn diffygu ac yn troi at llafur. Portillo moment i IWJ flwyddyn nesa, a dwi ddim yn fod yn nghellweirus.
Parthed etholaeth Ynys Môn:
Y patrwm ers hanner canrif a mwy yw bod y Monwysion yn cadw'n driw i gynrychiolydd seneddol y maent wedi cymryd ato, hyd yn oed pan fo'r hinsawdd barn waelodol yn newid. Cofier y modd y cadwodd Cledwyn Hughes afael ar y sedd nes iddo ddewis ymddeol, er bod patrymau mewnfudo'n newid cydbwysedd gwleidyddol yr etholaeth i gyfeiriad mwy ceidwadol.
Bron na ellid dweud bod aelod seneddol sy'n weithgar dros etholwyr yr ynys yn debygol o gadw'r swydd hyd ei fedd, oni bai iddo gael ei ddal â'i law yn y til (fel y gwnaeth Keith Best). Bu Albert Owen yn gyson weithgar dros yr etholaeth, gan ddangos peth annibyniaeth barn ar brydiau, ac mae wedi datblygu gwledigaeth eitha clir ar gyfer datblygiad economiadd yr ardal. A bwrw ei fod yn cadw ei ddwylo'n lân, mae'n debyg gen i ei fod yn AS Môn Am Oes.
Cofier un gwirionedd sylfaenol: ar Ynys Môn, personol yw gwleidyddiaeth. Mae ymrwymiadau plaid yn llai pwysig o lawer. Dyna pam y mae'r grwpiau gwleidyddol ar y Cyngor Sir yn gallu newid mor rhwydd ac mor aml.
Post a Comment