18.5.12

Clymblaid Cyngor Gwynedd

Ddoe fe gyfarfu Cyngor newydd Gwynedd am y tro cyntaf, yn bennaf i ethol swyddogion, proses a fydd yn arwain ar greu Cabinet ddechrau'r wythnos nesaf. Ers 1996, mae Cyngor Gwynedd wedi gweithredu o dan drefn Bwrdd, yn wahanol i'r 21 o gynghorau eraill yng Nghymru. O dan y drefn hon, roedd pob grwp gwleidyddol ar y Cyngor yn cael eu cynrychioli ar Fwrdd y Cyngor - y corff a oedd yn gosod cyfeiriad polisi - yn unol a'u cynrychiolaeth ar y Cyngor Llawn. Felly, cyn yr etholiad eleni roedd Plaid Cymru yn dal 7 o'r 15 sedd ar y Bwrdd (gan fod gennym ychydig dros hanner aelodau'r Cyngor) gyda'r 8 sedd arall wedi eu rhannu rhwng y pleidiau eraill. Ond, yn eu doethineb, fe benderfynnodd Llywodraeth y Cynulliad y dylid newid y system hon, ac o ddoe ymlaen, bydd Cyngor Gwynedd yn cael ei redeg gan Gabinet, fel gweddill cyngorau Cymru.

O dan y drefn newydd, mae'r Cyngor Llawn yn ethol Arweinydd, ac mae'r Arweinydd yn dewis 10 aelod i eistedd yn y Cabinet - corff sy'n llawer iawn mwy grymus na'r hen fwrdd. Yr unig benderfyniadau y gall y Cyngor Llawn eu gwneud yw ethol Arweinydd, gosod cyllideb, a gosod strategaeth hir-dymor. Mae pob penderfyniad arall yn cael ei wneud gan y 10 aelod sydd yn y Cabinet, ac yna yn cael eu craffu gan weddill yr aelodau etholedig, mewn pwyllgorau. Gall yr aelodau eraill gynnig gwellianau, neu argymell peidio a dilyn trywydd arbennig, ond nid ydynt yn gallu gwyrdroi penderfyniad y Cabinet.

Roedd dewis Arweinydd yn fater o bwys, felly. Fel y gwyr y rhan fwyaf ohonoch chi, does gan Blaid Cymru ddim mwyafrif ar y Cyngor, ac felly doedd hi ddim yn bosib i ni ethol Dyfed Edwards yn Arweinydd - ac felly sicrhau rheolaeth Plaid Cymru o'r Cabinet - heb gymorth un o'r grwpiau eraill. Rhoddwyd gwahoddiad i bob un o'r grwpiau eraill gynnig syniadau ar gyfer cyd-weithio, ond dim ond gyda dau grwp, Llafur a'r Grwp Annibynnol, y bu unrhyw drafodaethau difri. Daeth yn amlwg nad oedd hi'n bosib dod i gytundeb gyda'r Grwp Annibynnol cyfan, ac felly yr unig ddewis i Blaid Cymru oedd clymbleidio gyda Llafur. Tra fod anesmwythder o fewn grwp Plaid Cymru ynglyn a mynd i'r gwely gyda plaid sydd wedi bod yn elyn traddodiadol i ni yng Ngwynedd am genhedlaeth, roedd y grwp yn credu bod pobl Gwynedd yn haeddu llywodraeth effeithlon, ac felly fe ddaethom i ddealltwriaeth a'r grwp Llafur.

Mae 'na ambell un wedi gofyn pam na fyddai Plaid Cymru a Llais Gwynedd wedi dod i gytundeb, gan awgrymu fod 'na fwy yn uno ein dwy blaid nac unrhyw ddau grwp arall ar y Cyngor. Er nad ydw i bellach yn prynnu Golwg, cefais gip arno ddoe, a gweld fod llythyr yn galw ar ddwy garfan genedlaetholgar Gwynedd i gymodi, a cyd-arwain y Cyngor. Roedd Rhys Llwyd ar Twitter yn cynnig yr un ddadl. Ac i rywun o'r tu allan, dwi'n gallu deallt pam ei bod yn apelgar. Maent yn gweld Llais Gwynedd fel rhyw fath o fersiwn mwy radical o Blaid Cymru; yn llai sefydliadol, yn fwy cymunedol, ond yn hanfodol genedlaetholgar. Y broblem ydi fod y dehongliad yma o Lais Gwynedd yn gwbl anghywir.

Tydw i ddim yn gwybod i ba raddau y gellir disgrifio Llais Gwynedd fel grwp cenedlaetholgar. Does dim amheuaeth bod 'na dri cenedlaetholwr amlwg - Now Gwynus, Alwyn Gruffydd a Seimon Glyn - yn perthyn i'r grwp (a dwi'n cymeryd y gellid ychwanegu enw merch Seimon, Gwenno, at y rhestr honno). Ond nhw yw'r unig rhai (o fewn grwp o 13 Cynghorydd) sydd yn arddel unrhyw fath o genedlaetholdeb agored. Fe fyddwn i'n tybio bod llond dwrn o'r 10 sydd ar ol yn arddel rhai o nodweddion cenedlaetholdeb yn breifat, ond nid yw'n rhan o'u disgwrs gwleidyddol fel aelodau o'r Cyngor. Ac mae 'na leiafrif ar y pegwn arall i Seimon, Now ac Alwyn sydd yn gwthio agenda sydd yn gwbl wrthun i'r math o genedlaetholdeb flaengar sydd yn nodweddu Plaid Cymru; maent yn geidwadol, yn blwyfol, yn wrth-ddeallusol, yn negyddol, ac yn aml yn Saesnig dros ben. Edrychwch ar dudalen Facebook y grwp  neu flog Aeron Jones os ydych am weld y tueddiad yma ar ei waethaf. Yn syniadaethol, mae Llais Gwynedd yn nes at UKIP na Phlaid Cymru.

Cangymeriad yw credu fod Llais Gwynedd yn grwp cenedlaetholgar. Maent yn grwp gwleidyddol sydd yn cynnwys amrediad helaeth o safbwyntiau, gan gynnwys peth cenedlaetholdeb. Yr unig beth sydd yn eu huno yw eu gwrthwynebiad i Blaid Cymru, a'u negyddiaeth tuag at y drefn bresenol o lywodraeth leol. Ar lefel syniadaethol, does 'na ddim rheswm da pam y dylai Plaid Cymru ystyried clymbleidio gyda Llais Gwynedd. A phetai Llais Gwynedd yn llwyddo i glymbleidio gyda unrhyw un i reoli Cyngor Gwynedd, byddai'n arwain yr Awdurdod i lawr yr un llwybr a Chyngor Mon. Am y ddau reswm yma, mae clymblaid rhwng Plaid Cymru a Llais Gwynedd yn gyfangwbl amhosibl.

5 comments:

Rhys Llwyd said...

Cywir iawn, ti wedi fy argyhoeddi chware teg. Ond dwi dal i gredu fod angen strategaeth ar Blaid Cymru er mwyn ail-gysylltu gyda'r bobl bleidleisiodd dros Lais Gwynedd. Drwy Lywodraethu yn effeithiol medde ti? Iawn, ond os mae'r dehongliad o "lywodraethu'n effeithiol" yw parhau i wthio'r agenda lle gwelwyd torri nol ar wasanaethau cymunedol gwledig oedd ddim yn gwneud synwyr ariannol (er eu gwerth amhrisiadwy cymunedol) yna rwy'n pryderu braidd.

Dyfed said...

Ydw i'n iawn yn credu fod LG wedi pleidleisio o blaid cau ysgolion unwaith yr oeddent ar y Cyngor?

Be fyddet ti am ei dorri, Rhys? Yn ôl eu natur gwasanaethau lleol mae cyngor lleol yn ei redeg. Mae unrhyw doriad yn mynd i effeithio ar y gymuned leol. Felly be ddylai fynd?

Rhys Llwyd said...

Mae dy gwestiwn du a gwyn Dyfed yn gor symleiddio'r peth. Y broblem ydy fod Cyngor Gwynedd yn gweithredu y gorau medra nhw gyda'r cariau mae nhw wedi cael o lywodraeth ganolog. Mae angen ail-feddwl sut mae ariannu cymunedau gwledig/isel eu poblogaeth. Mae'n amhosib cael polisiau one size fit's all i Gymru gan fod gwahaniaeth mawr rhwng ardaloedd trefol a gwledig Gwynedd heb sôn am y gwahaniaeth rhwng ardaloedd gwledig y gogledd a'r gorllewin i gymharu ac ardaloedd trefol y de-ddwyrain ar lefel genedlaethol. Mae angen ail edrych ar y darlun mawr. Mae'r papur cynhwysawf yma yn gam i'r cyfeiriad dwi'n meddwl er ei fod wedi dyddio fymryn erbyn hyn: http://cymdeithas.org/pdf/Ysgolion-Pentre-Me08.pdf

Un o Eryri said...

HOffwn anghytuno a chdi ar dri mater Dyfrig. 'Rwyt yn cyfeirio at Now, Alwyn a Seimon, fel cenedlaetholwyr. Mae Cenedlaetholwyr yn rhoi eu gwlad yn gyntaf, nid eu hunain. Buasai llawer iawn o bobl yn disgrifio y tri yma fel bradwyr o'r radd flaenaf nid fel cenedlaetholwyr. Deffrwch Gymry wir Dduw

menaiblog said...

Mi ddylet ti flogio'n amlach Dyfrig.