18.7.12

Dafydd El a chwip y Blaid

Fe fydd y rhan fwyaf ohonoch yn gwybod erbyn hyn bod Plaid Cymru wedi tynnu'r chwip oddi ar Dafydd Elis-Thomas, am iddo beidio a mynychu'r Cynulliad heddiw i gymeryd rhan mewn pleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd. Tydw i ddim bob tro yn cytuno a Dafydd El, a dwi wedi mynegi'r anghytundeb hwnw yma, yn y gorffenol. Ond yn yr achos hwn, dwi'n credu ei fod wedi cael ei drin yn shabby iawn.

Un o broblemau Dafydd yw ei fod yn llai na pharchus o egwyddorion collective responsibilty. Pan mae rhywun yn ymuno a grwp gwleidyddol, maent yn cael yr hawl i fynegi barn bersonol o fewn y grwp hwnw. Ond wedi cael y cyfle i fynegi'r farn honno yn fewnol, unwaith y bydd y grwp wedi dod i benderfyniad mae disgwyl i bob unigolyn gefnogi'r penderfyniad hwnnw yn gyhoeddus. Dwi'n tybio y byddai Dafydd wedi cael y cyfle i fynegi ei farn ar y bleidlais o ddiffyg hyder wrth ei gyd-aelodau, ac eu bod wedi anghytuno ag o. Drwy feirniadu safbwynt y grwp yn gyhoeddus, mae Dafydd wedi mynd yn groes i egwyddor collective responsibility, sydd yn dangos amharch tuag at ei gyd-aelodau.

Dwi ddim yn gwybod beth yn union yw rheolau sefydlog grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad, ond mi ydw i'n gyfarwydd a rheolau grwp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd. Mae ein rheolau ni yn cydnabod bod sefyllfaoedd yn codi lle nad yw'r aelod unigol yn gallu cefnogi safbwynt y grwp, sydd yn beth eithaf cyffredin. Does gan aelodau o'r grwp ddim hawl i bleidleisio yn erbyn y chwip, ond mae ganddynt yr hawl i atal eu pleidlais. Mae'r egwyddor yma yn eithaf cyffredin o fewn grwpiau gwleidyddol, dwi'n credu.

Tra mod i'n teimlo y dylai Dafydd Elis-Thomas geisio brathu ei dafod yn achlysurol, dwi ddim yn credu bod ei absenoldeb o'r Cynulliad heddiw yn fater disgyblaethol. Mae wedi anghytuno a safbwynt y grwp, ac wedi dewis atal ei bleidlais. Dwi ddim yn gweld beth sydd yn amhridol yn yr achos yma, ac yn methu deall pam fod y chwip wedi ei thynnu nol.

Mae hyn yn adlewyrchu yn wael iawn ar y Blaid, ac yn debygol o godi gwrychyn sawl un ar lawr gwlad. Tra'i bod yn hawdd iawn gweld bai ar Dafydd, byddai ei erlid o Blaid Cymru - ac i freichiau Llafur - yn golled anferthol i Blaid Cymru.

3 comments:

Dylan said...

Dw i'n gweld dy bwynt, ond mae'n rhaid rhoi ei ymddygiad yn ei gyd-destun. Ers peth amser bellach, mae DET wedi cymryd pob cyfle i danseilio arweinyddiaeth ei blaid ei hun. Fel digwyddiad unigol, mae'n siwr na fyddai atal ei bleidlais heddiw wedi bod mor arwyddocaol, ond mae'n amhosibl anwybyddu'r holl bethau eraill. Gwellt a chefnau camelod ac ati.

Hogyn o Rachub said...

Dyma'r peth callaf imi ddarllen ar y mater hwn. Diolch am fod yn gall.

Corpws Cymraeg said...

Rwy'n aelod o dîm sy'n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a hoffen ni ofyn am eich help. Tybed a fyddai modd i chi anfon eich cyfeiriad ebost ata i fel 'mod i'n gallu anfon mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda?

Cofion,
Dr Dawn Knight, Prifysgol Newcastle