Mae 'na sawl un yn gofyn pam mod i'n darllen comics. Dwi'n rhywun sydd yn ymddiddori mewn pethau uchel-ael fel gwleidyddiaeth a llenyddiaeth "go iawn" yn trafferth efo straeon plant bach. Yn wreiddiol, dwi'n credu mai'r cynnwys, a nid y cyfrwng oedd yn apelio. I mi, mae straeon am ddynion gyda phwerau goruwchnaturiol yn gweithio yn well mewn cyfrwng gweledol. I ddefnyddio'r engrhaifft enwocaf, dwi ddim yn credu y byddai'r llenor mwyaf yn gallu cyfleu yr olygfa hon
gystal ac y gwnaeth Siegel a Shuster yn rhifyn cyntaf Action Comics. Dwi'n siwr y byddai modd sgwenu nofel dda am Superman, ond yn y pen draw, dwi'n credu bod ymdriniaeth weledol yn gweithio yn well nac un eiriol.
Y broblem gyda'r esboniad hwn yw nad darllen comics am superheroes yn unig y bydda i. Dwi wastad wedi bod yn hoff o waith Gilbert Hernandez (Love and Rockets) a Daniel Clowes (Ghost World) - comics sydd yn ymdrin a bywyd bob dydd yn America. Yn ddiweddar, dwi wedi gwirioni ar waith Adrian Tomine, sy'n ysgrifennu straeon byrion am bobl ifanc unig, misanthropic - eto yn America. Does neb yn taflu ceir drwy'r awyr yn y comics hyn, ac fe fyddai modd iddyn nhw weithio lawn gystal fel nofelau neu straeon byrion. Pam felly mod i'n cael y fath foddhad o weld y straeon yma wedi eu darlunio?
Dwn i ddim os ydw i'n gwybod yr ateb. Mae'r ffaith eu bod nhw wedi eu darlunio yn dda yn help, mae'n siwr. Ond efallai fy mod i - sydd wedi fy magu ar deledu, ffilm a gemau cyfrifiadur - yn licio'r ffaith bod comics yn cynnig ffordd gynt o ddarllen straeon. Dwi wastad wedi bod yn un di-amynedd, a dwi wastad wedi bod yn ddarllenwr barus. Os ydw i'n mwynhau nofel, yna dwi'n llamu dros y geiriau yn aml, yn ysu i gael gwybod beth sy'n digwydd nesaf. Fues i rioed yn or-hoff o nofelwyr stylistic - cymeriadau a phlot da sydd yn gwneud nofel werth chweil i mi. Felly mae 'na rhywbeth delfrydol am gomic. Yn hytrach na darllen disgrifiad o sefyllfaoedd, dwi'n eu gweld o flaen fy llygaid. A does dim rhanniad rhwng y ddeialog a'r disgrifiad - rhywsut dwi'n llwyddo i dreulio'r ddau beth ar yr un pryd, gan neidio o un panel i'r llall. Mae darllen comic wedi ei sgwenu yn dda yn gallu bod fel dilyn sgwrs go iawn - mae rhythm naturiol y geiriau yn dod i'r amlwg.
Dwi'n dal i ddarllen digon o nofelau, cofiwch, ac yn eu mwynhau yn arw. Ond mae 'na bleser arbennig i'w gael o allu codi comic, a'i ddarllen o'i gychwyn i'w ddiwedd mewn awr neu ddwy.
5.3.08
Pam darllen comics?
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
4 comments:
Mae copi o bron i bob llyfr Asterix Cymraeg gyda fi ers i mi fod yn blentyn a cefais bleser mawr yn eu darllen. Yn rhyfedd iawn fues i erioed mewn i gomics yn fy arddegau e mod i'n hoffi'r math yno a storiau. Benthycodd ffrind gomic o Frasil i mi ond dwi heb ei ddarllen eto rhag fy nghywilydd, ond digwydd bod nos Wener bues i gwsi darafrn codi arian i Eisteddfod Caerydd, ac hanner amser oredd raffl ble cefais lond trol o lyfrau Cymraeg am £10 (oedd werth tua 5 gwaith hynny rhag fy nghywilydd, ond fidiodd neb yn fy erbyn) un o'r llyfrau oedd hanes Arthur gan gwmni Dalen. Yn ogystal a stori dda mewn Cymraeg (sydd ffinio weithiau ar or-)raenus, mae'r grtaffeg yn wych. Addasiad o ferswin Llydaweg neu Ffrengig ydi o dwi'n meddwl. Mae braidd yn ddrud am £10 am ddau stori, ond mae sĂȘl ar hyn o bryd gan Dale.
Dylai'r ddolen wedi bod at yma
Dwi wedi dod ar draws cyhoeddiadau Dalen, a wedi bod yn trafod comics Cymraeg efo sylfaenydd y cwmni. Mae nhw wedi cyhoeddi sdwff gwych, ond comics o Ewrop mae nhw'n eu cyfieithu, a hynny am eu bod yn gweithio yn well yn y Gymraeg. Fy nhrafferth i yw nad ydw i'n darllen ieithoedd heblaw am Gymraeg a Saesneg, a felly dwi ddim yn gyfarwydd a chomics Ewropeaidd.
Love & Rockets ydi enw'r comic ges i fenthyg. Wedi ei ddarllen ychydog rwan, mae rhai o'r straeon reit doniol. Mae fel petai'n cymryd y piss o genre comics mewn ffordd.
Post a Comment