29.3.08

Cerddoriaeth newydd

Mae'r cofnod hwn yn dangos sut yr ydw i wedi syrthio ar ei hol hi efo cerddoriaeth. Roedd 'na gyfnod pan oeddwn i'n prynnu hanner dwsin o recordiau newydd bob penwythnos, a fyddai 'na ddim byd wedi llwyddo i lithro drwy fy rhwyd. Erbyn hyn, dwi'n dad i ddau o blant, mae pres yn brin, a dwi'm yn cofio'r tro dwytha i mi brynnu copi o Word, yr NME na unrhyw un o'r cylchgronnau hynod fasiynnol oedd yn pentyrru wrth ochr fy ngwely fi bum mlynedd yn ol (Comes with a Smile? Vice? ).
Cael hyrddiau o brynnu recordiau newydd ydw i dyddiau yma. Dwi'n cael rhyw banic, wrth feddwl bod yr obsesiwn sydd wedi fy nghynnal i ers bron i ugain mlynedd yn pylu. Pan ddaw'r panic, dwi'n rhuthro allan i brynnu (neu lawrlwytho) popeth y galla i.
Mi dorrodd fy iPod i wythnos dwytha, a diolch i haelioni'r cwmni yswiriant, mae 'na un newydd sbon wedi cyrraedd yn y post ddoe - sydd yn ysgogiad i mi fynd i chwilio am gerddoriaeth newydd i fynd arno fo.
Un o'r pethau sydd wastad wedi fy mhoeni fi ydi fy mod i wedi syrthio ar ei hol hi gyda chwilio am artistiaid newydd. Mae 'na rhyw faint o falchder yn perthyn i fod y cyntaf mewn criw i ddarganfod band gwych, neu gan arbennig. Peth trist iawn yw cyfaddae mod i'n dal i gofio mai fi oedd y cyntaf o'n criw ni o ffrindiau i sylweddoli mor wych yw 'First we take Manhattan' Leonard Cohen, neu mai fi oedd y cyntaf i brynnu albym gyntaf Phoenix. Erbyn heddiw, dwi'n gorfod dibynnu ar fy ffrindiau i awgrymu pethau i mi wrando arnyn nhw.
Efallai ei bod hi'n arwydd o pam mor ar-ei-hol-hi ydw i mai rwan dwi'n gwrando yn iawn ar Sufjan Stevens am y tro cyntaf. Dwi wedi clywed pytiau o'r blaen, a wedi hoffi yr hyn yr oeddwn i'n ei glywed. Ond tan i mi lawrlwytho The Avalanche wythnos yma, nes i ddim sylweddoli pam mor wych yw ei gerddoriaeth. Neu yn hytrach, pam mor berffaith mae ei gerddoriaeth yn gweddu fy chwaeth i. Er bod gen i gasgliad helaeth o gerddoriaeth, yn mynd o techno i tountry, indie kid ydw i yn y bon, ac indie kid eithaf fussy.
Mae bandiau indie pync yn iawn, ond y bandiau dwi'n wirioneddol wirioni arnyn nhw ydi bandiau indie "gwlyb" (fel y mae un ffrind yn mynnu eu disgrifio) - Bandiau indie pop, sy'n canu caneuon gyda alawon catchy, offerynnau 70au, a geiriau am gael eich bwlio yn yr ysgol a methu ffeindio cariad. Ar dop y rhestr mae Belle and Sebastian, gyda The Smiths, The Decemberists, The Shins, a Herman Dune yn dod yn eithaf agos ar ei hol. Ac mae Sufjan Stevens yn ffitio yn berffaith i mewn i'r categori yma.
Wrth gwrs, mae Sufjan Stevens o gwmpas ers blynyddoedd, ac mae pawb call wedi bod yn gwrando arno ers ymhell cyn fi. A does 'na neb yn mynd i fod yn impressed mod i wedi ei ddarganfod bum mlynedd yn ddiweddarach. Ond yn y pen draw, dyw hynny ddim yn newid y ffaith bod gwrando ar 'Chicago (acoustic version)' neu 'No Man's Land' wedi llwyddo i roi gwen anferth ar fy ngwyneb i droeon dros y dyddiad dwytha.

27.3.08

Just in case.......

......you've wandered over here from Pop Culture Shock, this blog is written entirely in Welsh. So unless you're one of the fortunate 500,000 who speak the language of heaven, you're not going to understand much. But thanks for boosting my (rather pathetic) stats.

(Ymddiheuriadau i bawb arall am orfod troi at yr iaith fain)

Erthygl am Alan Moore

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb, dwi wedi ysgrifennu adolygiad o lyfr diweddaraf Alan Moore - The League of Extraordinary Gentlemen : The Black Dossier - sydd i'w ganfod ar wefan Pop Culture Shock.

Adolygiad Saesneg yw hwn, wrth reswm, ac mae wedi ei anelu at bobl sydd eisoes yn eithaf cyfarwydd a byd comics. Ond os oes gennych chi ddiddordeb yn y maes, ac os ydych chi'n gyfarwydd a gwaith Moore, yna cerwch draw am sbec.

24.3.08

Llyfr y flwyddyn eto

Gyda llaw, fe anghofiais i longyfarch Gareth Miles am gyrraedd rhestr hir llyfr y flwyddyn - mae yntau'n un o golofnwyr Barn, ac yn un o awduron gorau Cymru. Diolch byth ei fod yn cael y gydnabyddiaeth mae'n ei haeddu.

Y llefydd rhyfeddaf

Dwi newydd orffen darllen y bennod olaf o Y : The Last Man, sef cyfres gomics wych gan Brian K. Vaughan, awdur 32 oed o Cleveland, Ohio. Ym mhennod gyntaf Y, mae pla yn lladd pob mamal gwrywaidd ar y ddaear, ac eithrio Americanwr ifanc o'r enw Yorick Brown a'i fwnci Ampersand. Dros y 60 rhifyn nesaf, mae Yorick ac Ampersand yn teithio i bedwar ban y byd newydd benywaidd, yng ngwmni secret agent benywaidd - 355 - ac arbenigwraig mewn clonio, Dr Alison Mann. Mae Mann yn chwilio am ffordd i greu'r genhedlaeth nesaf o bobl, tra bo Yorick yn ceisio dod o hyd i'w gariad, oedd yn Awstralia pan ddaeth y pla.
Mae'n gomic gwych, yn llawn dychymyg a ffraethineb. Ond yr hyn a ddaliodd fy sylw i ynglyn a'r rhifyn olaf oedd y ddau banel canlynol. (Cliciwch ar y llun er mwyn ei wneud yn ddigon mawr i allu darllen y testun)



Sut mae bachgen o Cleveland, sy'n gweithio yn Efrog Newydd, drwy cyfrwng y Saesneg, ar gyfer cynulleidfa rhyngwladol yn dod i wybod am hen draddodiadau'r Cymry? Taswn i'n gofyn i ddwsin o fy ffrindia i, dwi ddim yn credu y byddai un ohonyn nhw'n gyfarwydd a'r traddodiad hwn, ac eto, rhywsut mae wedi gwneud argraff ar Brian K. Vaughan. Rhyfeddol.

12.3.08

Llyfr y Flwyddyn

Gai fod y cyntaf i longyfarch dau o golofnwyr Barn - Richard Wyn Jones ac Elin Llwyd Morgan - am gyrraedd rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2008. Dwi'n credu bod y ddau ohoyn nhw yn llawn haeddu'r wobr, ac yn dymuno pob lwc iddynt.

Rhifyn diweddaraf Barn

Dwi newydd dderbyn fy nghopi fi o rifyn Mawrth 2008 o Barn, felly fe ddylai gyrraedd tanysgrifwyr a'r siopau yn y diwrnod neu ddau nesaf. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb, dyma'r clawr (gwaith Marc Rees Jones)

7.3.08

Tal aelodau

Mae 'na ffrae od wedi codi yn y Cynulliad heddiw, a hynny ynglyn a chyflogau'r aelodau. Mae Vaughan Roderick yn nes at y peth na fi, felly am esboniad llawn o beth sydd wedi digwydd, ewch draw i'w flog ef.

Dwi'n dweud ei bod hi'n ffrae od oherwydd fy mod i'n crafu fy mhen ynglyn a pham ei bod hi wedi codi. Mae 6 o aelodau Plaid Cymru wedi penderfynnu beirniadu'r codiad cyflog, gan greu rhwyg rhyngthyn nhw a gweddill yr aelodau. Dwi ddim yn synnu bod aelodau megis Bethan Jenkins, Nerys Evans a Leanne Wood wedi dewis gwneud hyn. Mae'n gwbl gydnaws a'u hanian gwleidyddol, y nhw yw awkward squad y blaid, a does ganddyn nhw ddim parch at y chwip. Mae enw Alun Ffred Jones yn syndod, fodd bynnag. Er nad yw Alun Ffred yn weinidog, mae yn un o ffigyrau pwysicaf Plaid Cymru, ac mae'n gyfrifol am gyd-lynnu llawer o bolisiau'r blaid yng Nghaerdydd. I fod yn blaen, dyw Alun Ffred ddim yn rebel naturiol.

Nawr dwi'n gweld dwy ochr y ddadl yn y fan hyn. Fy marn bersonol i yw bod ACau yn cael tal cymharol isel, o ystyried natur eu gwaith. Mae'r swydd yn un galed, yn aml yn syrffedus, dyw rhywun ddim yn cael llawer o seibiant. Ydi, mae £50,000 ( a lot o gostau) yn arian da i ni bobl gyffredin, ond dwi ddim yn credu ei fod yn adlewyrchu'r gwaith sydd yn cael ei wneud. Fe fyddai aelodau megis Alun Ffred (cyn-gynhyrchydd teledu) neu Dai Lloyd (cyn-feddyg teulu) wedi cymeryd gostyngiad yn eu cyflog i fynd i'r Cynulliad.

Ac mae'r gymhariaeth gyda'r gwasanaethau cyhoeddus yn un wirion. Pwrpas codiad cyflog yn y sector gyhoeddus yw sicrhau bod chwyddiant ddim yn di-brisio incwm dros amser. Mae codiad cyflog arfaethedig yr ACau yn lawer mwy na hynny - mae'n fodd o gydnabod y ffaith bod gwaith yr aelodau wedi cynyddu, diolch i bwerau newydd Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Gan fod y gwaith o fod yn AC wedi newid yn sylfaenol yn y flwyddyn ddiwethaf, a'r baich wedi cynyddu, mae'n berffaith rhesymol bod eu cyflogau yn codi hefyd. Tal newydd am wneud joban newydd yw hyn, yn y bon.

Wedi deud hyn i gyd, dwi yn deallt gwerth gwneud safiad ar y mater. Dyma'r tro cyntaf i Blaid Cymru lywodraethu, ac mae gwrthod codiad cyflog yn help i sefydlu delwedd y blaid fel un sydd yn gwrthod cael ei llygru gan wobrwyon materol grym. Drwy wrthod cyflog uwch, mae'r ACau yma yn tanlinellu'r syniad mai cyflawni gwasanaeth cymdeithasol mae nhw, yn hytrach na troi'r dwr i'w melinau eu hunain. Strategaeth ddigon craff, o ystyried bod llawer o'u cefnogwyr traddodiadol eisoes wedi bod yn cyhuddo Plaid Cymru o gael ei llygru gan lywodraeth.

Y broblem yw bod Plaid Cymru wedi bod yn hynod ofalus i sicrhau undod y glymblaid lywodraethol. Rwan, beth bynnag mae'r cyhoedd yn ei feddwl o safiad yr AC yma, mae'n sicr o fod yn amhoblogaidd ymhlith nifer o'u cyd-aelodau. Mae 'na bwysau nawr ar i'r aelodau eraill i wrthod derbyn y codiad cyflog, a bydd unrhyw un sydd yn ei dderbyn yn edrych fel fat cat. Petawn i'n AC, fe fyddwn i'n eithaf blin o weld fy nghodiad cyflog yn cael ei aberthu er mwyn i Bethan Jenkins allu ennill tipyn o kudos gyda'r werin.

Felly mae'r safiad hwn yn un problemataidd i Blaid Cymru, ac yn un sydd yn debyg o greu rhwygiadau carfannol yn y llywodraeth. Fel un sydd a amheuon dwfn ynglyn a'r glymblaid, dwi ddim yn credu bod hyn yn drychineb yn ei hun. Ond pam dewis peryglu'r status quo dros bwnc sydd mor ymylol i fywydau'r rhan fwyaf o bobl? Onid oes 'na frwydrau llawer iawn mwy teilwng y gallai rebeliaid Plaid Cymru fod yn eu hymladd gyda'r llywodraeth? Hyn-a-hyn o weithiau y bydd modd rhoi cic fach gyhoeddus i'r glymblaid er mwyn helpu i gael y maen i'r wal ar bwnc arbennig. Heb fynd i swnio fel ton gron, oni fyddai wedi bod yn ddoethach gwneud stwr ynglyn a pholisi llywodraethol yr oedd pobl yn wirioneddol aniddig yn ei gylch......megis y papur dyddiol Cymraeg, efallai?

5.3.08

Pam darllen comics?

Mae 'na sawl un yn gofyn pam mod i'n darllen comics. Dwi'n rhywun sydd yn ymddiddori mewn pethau uchel-ael fel gwleidyddiaeth a llenyddiaeth "go iawn" yn trafferth efo straeon plant bach. Yn wreiddiol, dwi'n credu mai'r cynnwys, a nid y cyfrwng oedd yn apelio. I mi, mae straeon am ddynion gyda phwerau goruwchnaturiol yn gweithio yn well mewn cyfrwng gweledol. I ddefnyddio'r engrhaifft enwocaf, dwi ddim yn credu y byddai'r llenor mwyaf yn gallu cyfleu yr olygfa hon




gystal ac y gwnaeth Siegel a Shuster yn rhifyn cyntaf Action Comics. Dwi'n siwr y byddai modd sgwenu nofel dda am Superman, ond yn y pen draw, dwi'n credu bod ymdriniaeth weledol yn gweithio yn well nac un eiriol.

Y broblem gyda'r esboniad hwn yw nad darllen comics am superheroes yn unig y bydda i. Dwi wastad wedi bod yn hoff o waith Gilbert Hernandez (Love and Rockets) a Daniel Clowes (Ghost World) - comics sydd yn ymdrin a bywyd bob dydd yn America. Yn ddiweddar, dwi wedi gwirioni ar waith Adrian Tomine, sy'n ysgrifennu straeon byrion am bobl ifanc unig, misanthropic - eto yn America. Does neb yn taflu ceir drwy'r awyr yn y comics hyn, ac fe fyddai modd iddyn nhw weithio lawn gystal fel nofelau neu straeon byrion. Pam felly mod i'n cael y fath foddhad o weld y straeon yma wedi eu darlunio?

Dwn i ddim os ydw i'n gwybod yr ateb. Mae'r ffaith eu bod nhw wedi eu darlunio yn dda yn help, mae'n siwr. Ond efallai fy mod i - sydd wedi fy magu ar deledu, ffilm a gemau cyfrifiadur - yn licio'r ffaith bod comics yn cynnig ffordd gynt o ddarllen straeon. Dwi wastad wedi bod yn un di-amynedd, a dwi wastad wedi bod yn ddarllenwr barus. Os ydw i'n mwynhau nofel, yna dwi'n llamu dros y geiriau yn aml, yn ysu i gael gwybod beth sy'n digwydd nesaf. Fues i rioed yn or-hoff o nofelwyr stylistic - cymeriadau a phlot da sydd yn gwneud nofel werth chweil i mi. Felly mae 'na rhywbeth delfrydol am gomic. Yn hytrach na darllen disgrifiad o sefyllfaoedd, dwi'n eu gweld o flaen fy llygaid. A does dim rhanniad rhwng y ddeialog a'r disgrifiad - rhywsut dwi'n llwyddo i dreulio'r ddau beth ar yr un pryd, gan neidio o un panel i'r llall. Mae darllen comic wedi ei sgwenu yn dda yn gallu bod fel dilyn sgwrs go iawn - mae rhythm naturiol y geiriau yn dod i'r amlwg.

Dwi'n dal i ddarllen digon o nofelau, cofiwch, ac yn eu mwynhau yn arw. Ond mae 'na bleser arbennig i'w gael o allu codi comic, a'i ddarllen o'i gychwyn i'w ddiwedd mewn awr neu ddwy.

3.3.08

Mad Men

Dwi newydd orffen gwylio pennod gyntaf Mad Men, cyfres newydd o America sy'n cael ei darlledu ar BBC 4. Un o awduron The Sopranos sydd yn gyfrifol am ddyfeisio'r syniad, ac am y sgript, ac mae'n dilyn hanes criw o ddynion yn gweithio mewn cwmni hysbysebion yn Efrog Newydd ar ddechrau'r 60au.
Roedd y bennod gyntaf yn addawol iawn. Am unwaith, doedd hi ddim yn dioddef yn ormodol o pilot-itis. Yn America, mae nifer fawr o raglenni peilot yn cael eu cynhyrchu bob blwyddyn, a dim ond canran fechan o'r rhain sydd yn tyfy o fod yn un pennod i fod yn gyfres lawn. Felly mae 'na dueddiad i bennodau cyntaf cyfresi geisio gwasgu cymaint a sy'n bosib i mewn i awr o deledu. Trafferth hyn yw bod pob syniad da wedi eu pentrynnu ar bennau eu gilydd yn y bennod gyntaf - sydd yn creu cur pen - a mae'r cynhyrchwyr yn crafu am syniadau i lewni'r 12 neu 24 pennod arall. Gwyliwch gyfresi cyntaf 24 neu Prison Break os ydych chi eisiau gweld be dwi'n ei feddwl.
Felly mantais fawr Mad Men oedd ei bod hi'n codi blys ar rhywun, heb ddangos gormod. Roedd 'na ddigon o stori yn y bennod gyntaf i dynnu rhywun i mewn, ond doedd na'm gormod o bwdin. I mi, hanfod y teledu gorau yw'r gallu i osod tempo stori yn dda. Does dim rhaid i bob llofruddiaeth gael ei datrys mewn awr o deledu, a does dim rhaid i bob pennod orffen gyda cliffhanger. Mae gan y gynulleidfa gof, ac mae posib cynnal diddordeb pobl mewn straeon sydd yn parhau dros gyfres gyfan. Drwy gydnabod hyn, a thrwy adeiladu straeon sydd yn cael amser i ddatblygu yn naturiol, mae cynhyrchwyr cyfresi megis The Wire a Deadwood wedi llwyddo gystal. Ac roeddwn i'n teimlo bod awdur Mad Men wedi llwyddo i strwythuro pennod agoriadol y gyfres hon yn wych.
Y draffeth ydi fy mod i'n wyliwr di-amynedd. Dyw un pennod ar y tro ddim yn ddigon, yn aml iawn. A dwi'n gyndyn o aros wythnos rhwng pennodau. Yn aml iawn wna i ddim gwylio cyfres wrth iddi gael ei darlledu. Fe arhosa i tan mae'r pennodau i gyd wedi eu cadw ar y Sky +, neu tan i'r gyfres ddod allan fel box set DVD, a gwylio'r pennodau i gyd mewn ychydig ddyddiau. Dyw hynny ddim yn bosib gyda Mad Men, felly beth fedra i ei wneud?
Fe allwn i chwilio'r we. Fe wn i nad yw hi'n gyfreithlon i mi lawrlwytho rhaglenni teledu oddi ar y we, oni bai fy mod i'n gwneud hynny drwy wefan swyddogol. Ond pa wahaniaeth mae'n ei wneud os ydw i'n gwylio Mad Men ar BBC4 neu ar fy nghyfrifiadur? Dyw'r BBC ddim yn colli refeniw hysbysebion, am resymau amlwg. Dwi wedi talu am yr hawl i wylio rhaglenni'r BBC drwy fy nhrwydded, felly pa ots os ydw i'n gwneud hynny drwy wefan TV Torrents, yn hytrach nac ar yr iPlayer?