10.12.09

Diolch o galon, Aeron

Dwi am sgwenu rhywbeth difri ynglyn a'r hyn ddigwyddodd yng nghyfarfod Cyngor Gwynedd heddiw, pan fydd gen i'r nerth a'r amynedd. Roedd y penderfyniad a wnaed parthed Bro Dysynni yn un cadarnhaol, a fydd yn cryfhau addysg wledig yn y fro, ac yn sicrhau ei fodolaeth i'r dyfodol. Mae 'na ambell un sydd yn anghytuno, wrth gwrs, ac fe geisiai fynd i berfedd y ddadl dros y dyddiau nesaf.
Un darn o newyddion da yw bod Aeron Jones wedi penderfynnu cefnogi Plaid Cymru yn hytrach na Llais Gwynedd heddiw. Roedd Llais Gwynedd wedi rhoi gwelliant ger bron y Cyngor, a oedd yn galw am beidio cau 4 o'r 5 ysgol a oedd wedi eu clustnodi yn yr adroddiad. Yn ol eu harfer, mynodd Llais Gwynedd gael pleidlais gofrestredig, sy'n golygu bod cofrestr o enw pawb yn cael ei galw, gyda phob cynghorydd yn ymateb "O blaid" neu "yn erbyn" wedi i'w enw gael ei alw. Pan ddaeth hi yn dro i Aeron ymateb, er mawr syndod i bawb, datganodd ei fod yn erbyn y gwelliant a oedd wedi ei gynnig gan ei gyd-aelod, y dihafal Gwilym Euros.
Wrth gwrs, cangymeriad oedd hyn, yn hytrach na throedigaeth. A chwarae teg i Aeron, nid y fo yw'r unig un i syrthio i'r fagl hon o ddrysu "er plaid" gyda "yn erbyn". Mae rhai o wleidyddion mwyaf disglair Cymru wedi gwneud yr un fath, fel y tystia hanes cyn-AC Llafur Conwy, ac un o gewri'r Cynulliad, Denise Idris Jones.

O.N.
Yn bersonol, dwi'n credu y dylai Aeron ddiweddaru'r llun ar ei flog, gan ei fod bellach wedi tyfu mwsdash reit "fetching", sydd yn llawn haeddu cael ei weld gan drigolion y blogosffer Cymraeg.

5 comments:

Aeron M Jones said...

Diolch am dy eiriau caredig Dyfrig (ydi'r tywydd wedi cael effaith arnat da?). O ran cywirdeb, mi gefnogais Gwilym Euros yn y gwelliant ond gwneud cangymeriad yn y cynnig gwreiddiol, felly mae'r datganiad yn ffeithiol anghywir a chamarweiniol.

Hefyd dwi ddim yn "tyfu mwstash", tyfu ei hun mae o heb gymorth gennyf I, tywydd oer yi'n gweld (er wrth gwrs tybiwn fod Besda lalwer oerach).

Efallai cei yr un teimlad pan weli tyfiant o flewiach ar dy wyneb un diwrnod.

Hogyn o Rachub said...

Hah, geiriau nodweddiadol o sbeitllyd gan y dyn ei hun!

Plaid Gwersyllt said...

Llongyfarchiadau ar wneud y Daily Post! Fel mater o ddiddordeb eglurhad Aeron oedd ei fod yn brysur cyfiethu i rywyn, oes na ddim cyfiethu ar y pryd yng Nghyngor Gwynedd?

Dyfrig said...

Wrth gwrs bod cyfieithu ar y pryd. Ond roedd Aeron yn ddyfn mewn trafodaeth gyda ei gyd-aelod, Louise Hughes, sydd yn digwydd dod yn syth o'i flaen yn y wyddor. Beth oedd testun y drafodaeth? Efallai eu bod yn pwyso a mesur penderfyniad Louise i bleidleisio ar fater lle roedd ganddi ddiddordeb oedd yn rhagfarnu; a priodoldeb hynny yn nghyd-destun cod ymarfer y Cyngor.

Plaid Gwersyllt said...

O diar LlG yn y baw eto, a'i dynna y cyfeiriad ar blog Aeron yn son am Dyfed yn ei riportio fo eto!
Oes gan Louise Hughes blant yn un o ysgolion Bro Dysynni? Twt, twt!!