16.5.08

Dau begwn Plaid Cymru

Mae gan Vaughan Roderick erthygl ddifyr ar ei flog heddiw, yn trafod sefyllfa Plaid Cymru yng Nghaerdydd. A dwi'n credu ei fod yn codi pwynt diddorol. Mae'r blaid yng Nghaerdydd wedi gorfod mabwysiadu polisi digon chwithig ar godi ysgol Gymraeg newydd yn Nhreganna - polisi sydd wedi ei lunio i geisio ennill cefnogaeth y trigolion di-Gymraeg tra'n peidio ac ypestio'r Cymry Cymraeg yn ormodol. Wrth gwrs, dyw'r polisi heb fod yn llwyddiant llwyr, ac mae nifer o rieni Cymraeg yr ardal yn teimlo bod Plaid Cymru wedi rhoi buddianau'r di-Gymraeg o flaen buddianau ei chefnogwyr traddodiadol.
Rwan, dwi'n ymwybodol bod llunio polisi addysg sydd yn plesio pawb - yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol bresennol - yn dipyn o her. Felly dwi ddim am basio barn ar wendidau na ffaeleddau yr hyn mae grwp Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd yn ei wneud. Ond mae ei strategaeth yn amlygu rhywbeth sydd yn debygol o greu problemau tymor hir i'r blaid, dwi'n credu.
Yn araf bach, mae Plaid Cymru yn ennill tir mewn ardaloedd lle nad oes ganddi draddodiad o gefnogaeth gref - gyda Chaerdydd ar flaen y gad. Mae 'na nifer o fewnfudwyr o'r ardaloedd Cymraeg sydd wedi cyfrannu at y twf hwn - Gwenllian Landsdown ei hun, yn fwyaf amlwg - ond ar y cyfan, mae'r twf yma yn deillio o'r ffaith fod y blaid wedi llwyddo i ddenu cefnogwyr traddodiadol Llafur, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig. Bu'r gwrthwynebiad i'r Rhyfel yn Irac yn gymorth, wrth reswm, a dwi'n siwr bod ethol Mohammed Ashgar yn helpu i gryfhau statws y blaid ymhlith y gymuned Foslemaidd.
Tra mod i'n falch o weld Plaid Cymru yn llwyddo yn y brifddinas, mae ei strategaeth yn gwneud i mi bryderu rhyw ychydig. Fy ofn i yw bod y cefnogwyr newydd hyn yn cael ei denu at Blaid Cymru am resymau gwahanol i mi. Dwi'n aelod o'r blaid oherwydd mod i'n genedlaetholwr, ac yn benodol oherwydd fy mod i eisiau gwarchod dyfodol yr iaith Gymraeg. Mae'n anodd gen i gredu bod rhai o gefnogwyr newydd Plaid Cymru yng Nghaerdydd yn rhannu yr un blaenoriaethau a mi.
Nawr ar lefel leol, dyw hyn ddim yma nac acw. Fe all cynghorwyr Caerdydd wneud beth sydd orau i Gaerdydd, a chynghorwyr Gwynedd yr un fath yng Ngwynedd. Ond mae gan ganghenau lleol rol allweddol i'w chwarae yng ngwleidyddiaeth genedlaethol plaid, hefyd. Mae llwyddiant mewn etholiad cyffredinol yn dibynnu - i raddau helaeth - ar fyddin o weithwyr lleol sydd yn mynd allan i guro drysau a dosbarthu taflenni. A gan fod y cangenau lleol yn cyfrannu at lwyddiant cenedlaethol, mae ganddyn nhw hefyd yr hawl i gyfrannu at gyfeiriad cenedlaethol y blaid.
Mae hanes diweddar y Democratiaid Rhyddfrydol yn dangos peryglon dilyn y trywydd mae Plaid Cymru arno ar y funud. Mae'r blaid honno yn gweithredu yn gwbl wahanol o ardal i ardal. Yn ne-orllewin Lloegr, y Lib-Dems yw'r blaid sy'n herio cryfder traddodiadol y Toriaid, ac felly mae'n pwysleisio ei hagweddau rhyddfrydol traddodiadol. Yn ninasoedd mawr y gogledd a'r canolbarth, mae'n brwydro yn erbyn plaid Lafur gref, ac felly mae'n pwysleisio y traddodiad democrataidd-gymdeithasol, gan osod ei hun i'r chwith o Lafur.
Ond diffyg mawr y Lib-Dems yw ei anallu i ieuo'r ddwy adain at eu gilydd. Yn genedlaethol, mae hyn yn creu problemau dirfawr. Mae'n methu a saernio neges syml ynglyn a beth yw pwrpas y blaid. Yn fwy difrifol - fel y gwelwyd yma yn Nghymru wrth geisio llunio clymblaid yn y Cynulliad - mae'n methu a chymeryd penderfyniadau pwysig ynglyn a sut i lywodraethu. Ac mae hyn wedi golygu ei bod hi'n cael trafferth ail-adrodd ei llwyddiannau lleol yn genedlaethol.
Fy mhryder i yw bod Plaid Cymru mewn perygl o ddilyn yr un trywydd. Drwy ddenu mwy o etholwyr ac aelodau sydd a blaenoriaethau gwahanol i'r aelodau traddodiadol, fe fydd hi'n anoddach i'r blaid weithredu yn effeithiol ar y lefel genedlaethol. Mae perygl pellach y bydd hunaniaeth sylfaenol y blaid yn cael ei wanhau wrth i'w neges fynd yn un cymysg. Ac mae gen i ofn y bydd ei hymlyniad at nifer o egwyddorion craidd - ymlyniad digon bregus yn barod, o edrych ar weithredoedd ein Gweinidog Treftadaeth - yn cael ei tanseilio ymhellach.

(Wedi darllen hwn yn ol, dwi yn ymwybodol ei fod yn swnio ychydig yn grintachlyd. Nid dyma fy mwriad - dwi yn falch o weld Plaid Cymru yn llwyddo yn genedlaethol. Ond mi ydw i'n credu mai cario neges draddodiadol Plaid Cymru i'r ardaledd di-Gymraeg sydd angen ei wneud, yn hytrach na chwarae'r ffon ddeubig o geisio bod yn bopeth i bawb).

13 comments:

gwe said...

Yn gyntaf, llongyfarchiadau ar dy ethol yn gynghorydd, a phob llwyddiant yn ystod y pedair blynedd nesa!

Dydy 'pegynu' o fewn plaid wleidyddol ddim yn beth newydd, na chwaith yn unigryw i'r Blaid. Medrir creu rhestr hirfaith o'r gwahanol 'garfanau': y chwith a'r dde, monarchwyr a gweriniaethwyr, pobl cefngwlad a'r ddinas, ac ati. Ond eto, yn aml, labeli cyfleus ydy'r 'carfanau' hyn am fod perthynas unigolion ag unigolion eraill, a gyda'r byd o'u cwmpas, yn llawer fwy cymhleth na hyn.

Yn y bon, ry'n ni'n son am hunaniaeth yma. Nid rhywbeth unffurf, na statig o ran hynny, mo hunaniaeth ond rhywbeth sydd a sawl haenen iddi. Medrir cymryd pob un o'r 'carfanau' hyn a'u cymysgu'n ddibendraw, h.y cyfuniad o'r 'carfanu' amrywiol hyn ydyn ni - nid deliaid un nodwedd yn unig, ond yn hytrach nifer fawr o nodweddion.

O dderbyn hyn, sut felly mae dehongli hunaniaeth plaid, neu'n wir, Y Blaid? Oes, mae daliadau craidd, wrth gwrs. Ond y tu hwnt i'r rheiny, pwy sydd i ddweud pa garfanau, pa ffrwd sy'n rhagori? Mae ceisio saernio un weledigaeth, un garfan, allan o'r 'cymunedau o gymunedau' (ar sawl lefel) o Fon i Fynwy yn gwbwl amhosib - yn wir, yn wrthyn.

Dydw i ddim yn dadlau y dylai'r Blaid fod yn rhyw fath o hafan di-egwyddor i ffoaduriaid o bleidiau eraill, ond does dim dwywaith bod peth o'r llwyddiant yng Nghaerdydd yn deillio o'r ffaith bod y Blaid wedi llwyddo i apelio i drwch o'r boblogaeth na fyddai wedi meddwl pleidleisio droston ni bedair blynedd yn ol - a dydw i ddim yn son yn benodol am bobol o leiafrifoedd ethnig.

Nid drwy 'newid' y neges y llwyddwyd gwneud hyn ond drwy gwaith caib a rhaw o ddrws i ddrws, yn raddol ddileu'r hen ragfarnau, yn rhoi cyfle i bobol weld bod y 'neges' yr un mor berthnasol iddyn nhw ag i drigolion Ceredigion neu Chaerffili.

Cwyn nifer o bleidleiswyr dros y blynyddoedd mewn llefydd diffaith i'r Blaid oedd ei bod rhywsut yn amherthnasol. Mae'r canlyniadau yn llefydd fel Caerdydd a Wrecsam yn dangos bod y rhod yn troi. Mae hyn yn destyn llawenydd, nid pryder.

Rhys Llwyd said...

Diolch am y blogiad Dyfrig, dwi'n rhannu dy bryder. Raison d'etre Plaid Cymru ydy Annibyniaeth i Gymru - wrth gwrs fod ennyn cefnogaeth yng Nghaerdydd ac yn enwedig ymysg cymunedau ethnig yn bwysig, ond rhaid cofio pam ei fod yn bwysig sef er mwyn gwireddu raison d'etre Plaid Cymru o Annibyniaeth. Nid yw Plaid Cymru yn blaid i bawb! Ond yn hytrach maen blaid i bawb sydd am weithio tuag at yr raison d'etre o Annibyniaeth i Gymru - tan ein bod ni yn wlad rydd dylai holl waith a pholisiau'r blaid gael eu rheadru i'r pwrpas hwnnw, hyd yn oed agwedd a pholisiau ar lefel llywodraeth leol yng Nghaerdydd. Mi ddylai felly olygu hyrwyddo addysg Gymraeg, yng Nghaerdydd athu hwnt, cyn addysg Saesneg oherwydd dyna fydd yn digwydd ar ôl Annibyniaeth.

Dyfrig said...

"Dydy 'pegynu' o fewn plaid wleidyddol ddim yn beth newydd, na chwaith yn unigryw i'r Blaid. Medrir creu rhestr hirfaith o'r gwahanol 'garfanau': y chwith a'r dde, monarchwyr a gweriniaethwyr, pobl cefngwlad a'r ddinas, ac ati."

Dwi'n credu dy fod ti'n gor-bwyslesio rhanniadau o fewn Plaid Cymru yn y fan hyn. Yn y bon, dwy raniad fawr, sylfaenol, sydd wedi nodweddu hanes Plaid Cymru. Y rhaniad rhwng y sosialwyr a'r rhyddfrydwyr, ac yn llawer iawn mwy arwyddocaol (yn enwedig yng nghyd-destun fy nadl i) y rhaniad rhwng y Cymraeg a'r di-Gymraeg.
Ers cychwyn y blaid, mae 'na drafodaeth wedi bod ynglyn a phriodoldeb ceisio denu'r di-Gymraeg i gorlan Plaid Cymru. Ond yn draddodiadol, roedd y drafodaeth hyn yn ymwneud a cynyddu apel y blaid yn "Welsh Wales" Dennis Balsom. Hynny yw, trafodaeth oedd hi ynglyn a cheisio cynnwys Cymry di-Gymraeg, ond a oedd a hunaniaeth Gymreig gref, yng ngweithgarwch y Blaid.
Mae twf y Blaid yng Nghaerdydd yn codi cwestiwn tra gwahanol. Drwy ennill tir yng Nghaerdydd, rydym ni'n mynd i diriogaeth newydd - nid "Welsh Wales" na "British Wales" mewn gwirionedd, ond "multicultural Wales". Dyw'r bobl yma ddim yn teimlo yr un ymlyniad at y wladwriaeth Brydeinig, ac at syniadau unoliaethol, a mae trigolion de Sir Benfro neu Ddwyrain Sir y Fflint. Ond yn wahanol i drigolion y "Welsh Wales" does ganddyn nhw ddim cysylltiad traddodiadol gyda Chymru na'r Gymraeg.
Sylwer, GWE, mai pryderu ydw i, nid gwrthwynebu. Dwi ddim yn dymuno gweld Plaid Cymru yn gwneud yn wael yng Nghaerdydd. Ond dwi yn credu bod rhaid bod yn wyliadwrus. Does dim pwrpas denu aelodau newydd i Blaid Cymru ar unrhyw gyfri. Os yw rhwyun yn cefnogi'r blaid, mae'n rhaid iddyn nhw ddeallt bod hynny yn golygu cefnogi set penodol o werthoedd ac egwyddorion.

Simon Brooks said...

Fel y gwyddost, Dyfrig, dwi ddim yn siwr y gallwn gytuno gyda dy sylwadau. Yn bersonol, dwi'n credu mai'r Blaid Geidwadol yn y pen draw fydd amddiffynfa gorau'r Cymry Cymraeg am mai syniad adain dde yw "gwarchod" iaith yn y ffordd "fetaffisegol" rwyt ti'n ei awgrymu.

Ond byddwn yn cytuno gyda dy sylwadau parthed Ysgol Treganna gan fy mod wedi symud i'r cylch er mwyn ymgymryd a'r swydd ddarlithio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae gen i blentyn a fydd yn mynychu'r ysgol y flwyddyn nesaf. Mae'r ysgol yn un gwbl anaddas i addysgu plant ynddi.

Er hyn, mae Plaid Cymru'n ymgyrchu yn erbyn ehangu addysg Gymraeg yn Nhreganna mewn modd addas, oherwydd nad ydynt am gael eu cysylltu'n rhy agos a'r gymuned Gymraeg ei hiaith.

Mae hyn oll yn codi cwestiwn diddorol, sef pam y dylai Cymry Cymraeg gefnogi'r blaid hon yn y bwth pleidleisio.

Yn fy marn i, ni ddylid.

gwe said...

Dyfrig,

Diolch am ymateb. Nid ceisio tanlinellu rhaniadau yn y Blaid oeddwn i, ond ceisio dadlau mai tasg anodd ydy didoli'r rhain i unrhywbeth mwy defnyddiol na labeli cyfleus. Er fy mod i'n deall i'r dim beth rwyt ti'n ei olygu, onid safbwynt 'reductionist' iawn sydd yn dehongli'r Blaid yn unig yn nhermau perthynas ddeublyg rhwng y traddodiad rhyddfrydol a'r sosialaidd, neu'r Cymry Cymraeg a'r Cymry Saesneg eu hiaith? Mi faswn i'n dadlau bod bywyd - a gwleidyddiaeth - yn llawer mwy cymhleth na hyn.

Tydw innau chwaith ddim yn credu y dylid denu cefnogwyr newydd ar unrhyw gyfri - dyna pam sgwennais i hyn: "Dydw i ddim yn dadlau y dylai'r Blaid fod yn rhyw fath o hafan di-egwyddor i ffoaduriaid o bleidiau eraill."

Mae Simon Brooks yn codi pwynt diddorol iawn ynglyn a cheidwadaeth gynhennyd diogelu buddianau'r iaith. Eto, dwi'n gweld y pwynt, ond dydw i ddim yn cytuno. Ni ellir sicrhau dyfodol ffyniannus i'r iaith drwy ei 'gwarchod' yn unig, ond drwy greu perthynas mwy cadarnhaol rhwng siaradwyr yr iaith a'r iaith ei hun, a rhwng siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg: mae'r ddau beth yn dibynnol ar godi ymwybyddiaeth, statws, defnydd ac ati. Nid ceidwadaeth mo hyn yn fy nhyb i ond proses flaengar.

Rhydd i Simon ei farn, wrth gwrs - dyna beth sydd mor braf ynglyn a chyfnewid syniadau ar y we. Mae'n bosib - er nid efallai yn debygol - y bydd pobl yn penderfynu taw'r Ceidwadyr ydy cartref 'naturiol' Cymry Cymraeg.

Fodd bynnag, mae ei honiad bod Plaid Cymru rhywsut yn "ymgyrchu yn erbyn ehangu addysg Gymraeg yn Nhreganna" yn gwbwl ddi-sail: gellir anghytuno ynglyn a'r cynlluniau, ond cynlluniau i ehangu'r ddarpariaeth ydynt, nid i'w lleihau. Mae ei honiad arall taw gwneud hyn "oherwydd nad ydynt am gael eu cysylltu'n rhy agos a'r gymuned Gymraeg ei hiaith" hefyd yn un rhyfedd ar y naw, o ystyried bod un o'r ymgeiswyr yn gadeirydd pwyllgor codi arian ar gyfer yr Eisteddfod eleni a wedi bod mor flaenllaw yn cenhadu ymysg y brodorion, gan gynnwys yr union Gymry Cymraeg y mae Simon yn son amdanynt.

Simon Brooks said...

Dyfrig,

Diolch am yr ymateb. Rwy'n credu y gallwn amddiffyn fy safbwyntiau yn ddigon rhesymegol. (Gadawn y ceidwadaeth am y tro, er mor ddifyr yw hynny!)

1. Mae PC yn "ymgyrchu yn erbyn ehangu addysg Gymraeg yn Nhreganna". Mae hyn yn ffaith. Roedd gan y Lib Dems gynllun dichonadwy i atrefnu addysg yn Nhreganna. Amod PC wrth ffurfio clymblaid a'r Lib Dems oedd bod y cynllun hwn yn cael ei ollwng. Yn hytrach, mae PC am weld ysgol newydd yn cael ei chodi. Beth bynnag, ni fydd yn Nhreganna. Bydd yr ochor draw i Barc Fictoria ar bwys Pont Trelai, oddeutu milltir a hanner oddi wrth ganol y gymuned Gymraeg yn Nhreganna. Ni fydd ehangu ar addysg Gymraeg yn Nhreganna mewn unrhyw ystyr gymunedol synhwyrol. Pam fod PC yn meddwl fod gan blant di-Gymraeg fwy o hawl i addysg gymunedol na phlant Cymraeg?

2. Nid yw PC am "gael eu cysylltu'n rhy agos a'r gymuned Gymraeg ei hiaith". Yn wleidyddol, mae hyn hefyd yn ffaith. Yn y bon, mae PC yn wynebu dau grwp o rieni anfodlon posib (rhieni Ysgol Lansdowne, a rhieni Ysgol Treganna) ar y pwnc hwn. Ond cofia: strategaeth y Blaid yn etholiadol yw apelio at y di-Gymraeg. Felly yn etholiadol roedd rhaid cefnogi Lansdowne. Fel sinigiaeth wleidyddol dwi'n gweld hyn, mae arna i ofn.

gwe said...

Simon,

Teimlaf rheidrwydd i ymateb i rai o dy bwyntiau uchod. Gobeithio y byddi'n maddau'r atebiad hir, Mr Olygydd...

Mae honni bod y Blaid yn ymgyrchu YN ERBYN ehangu addysg Gymraeg yn yr ardal yn hollol gamarweiniol. Sut bod modd dehongli codi ysgol newydd fel unrhywbeth heblaw ehangu'r ddarpariaeth?

Mae hefyd yn hynod o gamarweiniol awgrymu bod talgylch Ysgol Treganna yn gyfystyr a'r ardal o'r un enw. Mae'r safle rwyt yn cyfeirio ato yn fillir a hanner o'r ysgol bresennol, ydy, ond dydy'r safle ddim yn filltir a hanner o Dreganna, oherwydd mae'r safle YN ardal Treganna, sy'n cynnwys Victoria Park a Lecwydd, hynny yw lawr tuag at stadiwn pel-droed Cardiff City.

Wrth gael ysgol fwy, mi fydd hefyd angen newid y dalgylch presennol. Mi fydd hyn yr un mor wir os wireddir y cynllun gwreiddiol, sef symud i mewn i ysgol Lansdowne - sydd, fel mae'n digwydd, ddim yn nhalgylch Ysgol Treganna chwaith, er yn agosach at yr ysgol bresennol.

Fel y mae Simon yn gwybod, talgylch fechan iawn sydd gan Ysgol Treganna. Mae plant gweddill ardal Treganna (os am addysg Gymraeg) yn mynychu ysgol arall Treganna, sef Ysgol Pwll Coch. Yn wahannol i Ysgol Treganna, mae disgyblion o ardaloedd Riverside a Grangetown yn teithio iddi yn ogystal - ond mae hi hefyd yn ysgol 'gymunedol' i'r rheiny ohonom sy'n byw yn Nhreganna ond sy tu hwnt i dalgylch Ysgol Treganna.

Yn wir, fel rhywun sydd wedi byw yn Nhreganna ers blynyddoedd maith, dwi'n rhyfeddu at yr ensyniad y byddai ysgol newydd rhywsut yn bell oddi wrth "ganol y gymuned Gymraeg yn Nhreganna".

Mae dau beth sy'n fy mhoeni'n arw ynglyn a'r gosodiad. Yn gyntaf, mae'n diystyru realiti sefyllfa addysg Gymraeg yng Nghaerdydd, sef bod mwyafrif helaeth y rhieni yn ddi-Gymraeg. Dydy Ysgol Treganna ddim yn eithriad.

Yn ail, awgrymir bod canolbwynt y 'gymuned Gymraeg' rhywle yn nhalgylch Ysgol Treganna. Sori, ond dwi'n byw yn nhalgylch Ysgol Pwll Coch ac mae o leiaf chwarter ein stryd ni yn Gymry Cymraeg. Ydy hyn yn ein gwneud ni'n llai o Gymry?!!

Mae'r pwynt nesaf hefyd yn gamarweiniol, ac mae'r ddadl yn anghyson: "Pam fod PC yn meddwl fod gan blant di-Gymraeg fwy o hawl i addysg gymunedol na phlant Cymraeg?". Gellid gofyn cwestiwn tebyg fel hyn - 'Pam fod Simon Brooks yn meddwl fod gan plant Cymraeg fwy o hawl i addysg gymunedol na phlant di-Gymraeg?' Effaith cau Ysgol Lansdowne fyddai'n union hyn, ynghyd a gwasgaru'r disgyblion i dair ysgol wahannol. Pam bod hyn yn dderbyniol a bod adeiladu ysgol newydd Gymraeg ddim?

Fel rhiant o Dreganna (aeth fy mhlant i Ysgol Pwll Coch) dwi'n deall rhwystredigaeth Simon ac mae ganddo berffaith hawl i fynegu ei deimladau. Mae ganddo hefyd berffaith hawl i ladd ar Y Blaid yn y broses. Ond dwi'n eithaf amheus o'i gymhellion, rhaid cyfaddef, ac yntau'n hysbysebu ar ran y Ceidwadwyr!

Fel 'hen' riant o'r ardal, fe fedra i ei sicrhau nad Plaid Cymru sydd wrth wraidd yr sefyllfa hynod anffodus hon ond yn hytrach rhes o weinyddiaethau (Llafur) Caerdydd a ddistyrodd y galw am addysg Gymraeg. Yn sicr, dydy cynghorwyr presennol Llafur Treganna heb godi bys i godi'r ysgol.

Ac fel aelod o'r Blaid, ac a ddarllenodd eu maniffesto ar gyfer Caerdydd, fy argraff i oedd bod eu hymrwymiad i addysg Gymraeg yn gadarn - yn enwedig am eu bod eisiau gweld sustemau sy'n mesur y gwir alw am addysg Gymraeg (megis yng Nghasnewydd a Wrecsam) er mwyn sicrhau bod y twf yn parhau.

Dyfrig said...

Fel un sydd heb fyw yng Nghaerdydd am fwy na ychydig fisoedd, dwi ddim yn or-gyfarwydd a'r drafodaeth ynglyn a chodi ysgol Gymraeg yn Nhreganna. Ond dwi'n falch bod 'na drafodaeth fywiog ar y blog - 7 sylw! Dwi'n credu bod hynny'n record.

Er bod Caerdydd yn le pellenig a diethr iawn i hogyn bach o Wynedd, dwi yn gweld beth yw rhinwedd pwynt cyntaf Simon. Yn ol fy nealltwriaeth i o'r sefyllfa, ymgyrchodd Plaid Cymru yn erbyn y cynllun gwreiddiol, sef sefydlu ysgol Gymraeg ar safle Ysgol Treganna. Mae'n ymddangos eu bod wedi gwneud hyn oherwydd bod y cynllun yn amhoblogaidd gyda'r rhieni (di-Gymraeg) sydd eisoes yn gyrru eu plant yno, ac a oedd yn gwrthwynebu'r cynllun.
Byddai'r cynllun gwreiddiol wedi golygu sefydlu ysgol Gymraeg yn gynt, ac ar safle mwy cyfleus (yn ol rhai), na'r cynllun newydd sydd wedi ei gynnig. Felly er bod y cynllun newydd yn ehangu'r ddarpariaeth, mae'n gynllun gwaeth na'r un gwreiddiol a gynnigwyd gan y Lib-Dems.
Mae Plaid Cymru felly wedi dewis mynd am gynllun eilradd, er mwyn ceisio apelio at etholwyr di-Gymraeg. Sydd yn rhywbeth sydd yn peri pryder i mi, a sawl un arall.

gwe said...

Dyfrig,

Mae'n ddrwg gen i daro 'mhig i mewn unwaith yn rhagor (dwi'n addo peidio ymateb eto!) ond os ga i gywiro camgymeriad eithaf sylfaenol (efallai mai cam deipio wnest di)...

"ymgyrchodd Plaid Cymru yn erbyn y cynllun gwreiddiol, sef sefydlu ysgol Gymraeg ar safle Ysgol Treganna."

Dyliai hyn ddarllen 'ar safle Ysgol Lansdowne' (sef ysgol Saesneg fwya'r ardal).

Mae gweddill dy asesiad yn ddilys, er nad ydw i'n cytuno.

Yn sicr, mae Ysgol Treganna yn haeddu gwell, ac mae sefyllfa druenus yr ysgol yn pery pryder i bawb sydd yn gefnogol i addysg Gymraeg yn ardal, cred ti fi. Yn wir, mae'r sefyllfa yn Nhreganna gyfan yn pery pryder oherwydd o fis Medi 2008 mi fydd Ysgol Pwll Coch yn llawn hefyd.

Ond mae hi hefyd yn drist bod pobl sydd wedi ymgyrchu dros gyfiawnder i addysg Gymraeg - am ddegawdau mewn sawl achos - yn cael eu cyhuddo nawr o anwybyddu buddianau'r iaith er apel etholiadol.

Dyfrig said...

"ymgyrchodd Plaid Cymru yn erbyn y cynllun gwreiddiol, sef sefydlu ysgol Gymraeg ar safle Ysgol Treganna."

Dyliai hyn ddarllen 'ar safle Ysgol Lansdowne' (sef ysgol Saesneg fwya'r ardal).

Dwi'n derbyn y gwelliant. Fel y deudais i, mae Caerdydd yn le pell a diethr i mi.

Plaid Whitegate said...

Dwi'n deall y drwg deimlad mae addysg i blentyn rhywun yn achosi a, gan nad ydwi'n dod o Gaerdydd, dwi'm am ymhelaethu ar sylwadau call Gwe.
Be sy'n ddiddorol yn y sylwadau ydi ymgais Simon Brooks i baentio'r Toriaid fel amddiffynwyr yr iaith Gymraeg a'i barodrwydd i ddefnyddio sefyllfa leol er mwyn lladd ar Blaid Cymru.
Dwi'n siomedig hefyd fod pobol yn trio pwysleisio'r rhaniadau iaith unwaith eto fel rhywbeth dinesig/gwledig. Dydi'r cenedlaetholwyr diwylliannol ddim yn deall eto mai yn y trefi a'r pentrefi diwydiannol y mae achubiaeth yr iaith (yn hanesyddol ac yn y dyfodol)?

Simon Brooks said...

Hoffwn ddod yn ol at bwynt gwe ynghylch addysg gymunedol yng Nghaerdydd, a'i gyfiawnhad o bolisi Plaid Cymru o symud ysgol Gymraeg milltir a hanner er mwyn bodloni rhieni mewn ysgolion cyfrwng Saesneg hanner gweigion.

Pe bawn yn ddaearyddwr proffesiynol (a dydw i ddim!), byddwn yn gweld yn syth fod canol y gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd o safbwynt rhieni yn oedran cael plant ym Mharc Fictoria, Treganna, Pontcanna a darnau o Grangetown a Glanyrafon. Byddwn yn sylwi hefyd fod yn yr ardal hon lawer (8? Wn i ddim yr union ffigwr) iawn o ysgolion cyfrwng Saesneg, nifer ohonynt yn hanner gwag, nifer ohonynt yn gorfod tynnu i mewn plant o'r tu allan i'w talgylch, a phob un ohonynt ynghanol eu cymuned.

Ar y llaw arall, byddwn fel Daearyddwr yn sylwi fod i'r Ysgolion Cymraeg batrwm daearyddol gwahanol. Mae i'r Ysgolion hyn (ac yn fwy felly pe gwireddid cynllun y Blaid) ar gyrion eu cymunedau. Beth tybed yw arwyddocad ideolegol hyn?

Y rheswm, rwy'n credu, yw bod Cyngor Caerdydd wedi caniatau i rieni di-Gymraeg gael blaenoriaeth ar safleoedd addysgol cymunedol. Mae arna i ofn y bu hyn yn achos clir o gamwahaniaethu yn erbyn siaradwyr Cymraeg yn y gorffennol. Ac o symud plant Cymraeg o'u hysgol gymunedol leol yn Ysgol Treganna a'u gwthio ar ryw safle anhydrin yn ymyl Pont Trelai, milltir a hanner oddi wrth ganol y gymuned Gymraeg (Salem, Chapter, safleoedd y cylchoedd meithrin lleol, y siop Gymraeg leol ayyb) mae'r Blaid yn parhau a'r camwahaniaethu hwn yn erbyn siaradwyr Cymraeg.

Mae'r achos dros gau Lansdowne yn glir. Mae'r Ysgol yn hanner gwag. Mae peth wmbreth o ysgolion cyfrwng Saesneg eraill yn y cylch. Mae Ysgol arall yn ei hymyl (sy'n digwydd yn ysgol Gymraeg) yn or-lawn.

Beth felly sydd wedi cymell penderfyniad y Blaid? Rhagfarn wrth-Gymraeg? Siniciaeth etholiadol?

Siniciaeth etholiadol, ddywedwn i.

Dyfrig said...

"Dwi'n siomedig hefyd fod pobol yn trio pwysleisio'r rhaniadau iaith unwaith eto fel rhywbeth dinesig/gwledig. Dydi'r cenedlaetholwyr diwylliannol ddim yn deall eto mai yn y trefi a'r pentrefi diwydiannol y mae achubiaeth yr iaith (yn hanesyddol ac yn y dyfodol)?"

Dwi ddim yn deallt ar ba sail ti'n dweud hyn. Os wyt ti'n son am drefi a phentrefi diwydiannol megis Bethesda neu Llanberis, yna dwi'n gwled y pwynt - ond cofia bod y rhain ynghanol cefn gwlad Cymru.
Os wyt ti'n trio dadlau bod achubiaeth y Gymraeg i'w chanfod yn nhrefi diwydiannol (neu ol-ddiwydiannol) y dwyrain, yna dwi'n credu dy fod yn byw mewn paradwys ffwl.