27.5.08

Plaid Cymru - dewis ymgeiswyr Ewropeaidd

Dros y mis neu ddau nesaf, fe fydd Plaid Cymru yn dewis ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop. Jill Evans oedd ar ben y rhestr y tro diwethaf, a hi yw unig ASE Plaid Cymru. Ond er ei bod eisoes yn aelod o'r senedd, dyw hi ddim yn cael mynd i ben y rhestr yn ddi-wrthwynebiad. Mae etholiad mewnol yn cael ei gynnal i ddewis pwy fydd ar ben y rhestr, ac felly pwy fydd yn mynd i Frwsel. Ac mae'r etholiad hwnw wedi ennyn llid llawer o aelodau'r gogledd a'r gorllewin.
Mae Plaid Cymru yn dewis ymgeiswyr mewn hystings agored. Mae pob aelod yn cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod hystings lleol, gan fwrw pleidlais ar ddiwedd y cyfarfod. Mewn etholiad cenedlaethol fel hwn (un "sedd" sydd gan Gymru yn Senedd Ewrop, gyda 4 aelod yn cynrychioli'r sedd honno), mae'r pleidleisiau sy'n cael eu bwrw ym mhob cyfarfod lleol yn cael eu rhoi at eu gilydd, a'r llefydd ar y rhestr yn cael eu dosrannu yn ol y cyfanswm cenedlaethol.
Dwi'n dweud "cyfarfodydd lleol", ond mae'n anodd gwybod os mai dyna'r disgrifiad cywir. Mae 7 cyfarfod yn cael ei gynnal i gyd, mewn 7 lleoliad. A lle yw'r lleoliadau hyn, meddai chi? Bangor, Wrecsam, Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe, Caerdydd a'r Coed Duon. Felly os ydych chi'n byw yng Nghaerdydd mae'r cyfarfodydd yn dipyn yn fwy lleol nac os ydych chi'n byw yn.....Nolgellau, dyweder.
Nawr petai'r etholiad hwn yn etholiad cyhoeddus, yna fe fyddai disgwyl i dde-ddwyrain Cymru gael rhagor o gyfarfodydd. Wedi'r cyfan, yn y de-ddwyrain mae 2/3 o boblogaeth y wlad yn byw. Ond yr hyn sydd wedi osgoi sylw trefnwyr yr etholiad yw nad yw'r un cyfran o aelodau Plaid Cymru yn byw yn y de-ddwyrain. Fel y gwyddom ni i gyd, y gwrthwyneb sydd yn wir, gyda mwyafrif aelodau'r blaid yn byw yn y gorllewin (a'r gogledd orllewin yn benodol).
Mae 1500 o aelodau Plaid Cymru yn byw yn rhanbarth Meirion-Dwyfor. Ond does dim hystings yn cael ei gynnal yno. Os ydych chi'n byw yn Nolgellau, mae'n rhaid gyrru awr i gyrraedd yr hystings agosaf - gan ddewis rhwng Bangor neu Aberystwyth. Faint o aelodau'r rhanbarth yma sydd yn debygol o fwrw pleidlais, felly?
Dwi'n credu bod y sefyllfa yn un warthus, ac yn un sydd yn mynd i danseilio (ymhellach) hyder aelodau Plaid Cymru yn yr arweinyddiaeth. Mae aelodau Meirion-Dwyfor yn benodol yn mynd i deimlo eu bod wedi cael eu hamddifadu o'r cyfle i gyfrannu at ddewis aelod i'w cynrychioli yn Senedd Ewrop. Mae aelodau'r gogledd yn gyffredinol yn mynd i deimlo, unwaith eto, bod ystyriaethau y cadarnleoedd traddodiadol yn dod yn ail i ddymuniadau'r pencadlys yng Nghaerdydd. Ac fe ddylai bob aelod deimlo siom bod y blaid yn ymddwyn mewn modd mor amlwg annemocrataidd.
Yn y pen draw, mae'r penderfyniad i arddel y drefn hon o ddewis ymgeisydd yn ddyfais fwriadol sydd wedi ei chynllunio i wneud yn siwr bod yr ymgeisydd cywir yn cyrraedd top y rhestr. Rydym ni'n ffieiddio pan mae Llafur yn "parasiwtio" pobl i mewn i seddi saff. Oni ddylai aelodau'r blaid fod yr un mor uchel eu cloch pan mae arweinyddiaeth Plaid Cymru yn jerimandro er mwyn sicrhau canlyniad ffafriol mewn etholiad?

(Dwi wedi addasu'r neges hon, gan i mi ddweud yn wreiddiol i Jill Evans gael ei rhoi ar ben y rhestr oherwydd polisi Plaid Cymru o roi merched ar ben pob rhestr gyfrannol. Mae rhywun wedi cysylltu i ddweud bod hynny yn ffeithiol anghywir.)

3 comments:

Rhys Llwyd said...

Diolch am dynny sylw at hyn Dyfri. Mae yn warth o beth.

John Dixon said...

Dyfrig,

Sori, ond mae'r awgrym o gynllwyn yn gwbl anghywir. Dwi'n derbyn nad yw pawb yn hapus gyda'r penderfyniad, wrth gwrs. Ond gwnaed y penderfyniad yn unfrydol gan y Pwyllgor Gwaith, ac mae'r Pwyllgor yna'n cynnwys cynrychiolyddion o bob rhan o Gymru, a gwaned y penderfyniad ar ôl i bawb gael cyfle i ddweud ei ddweud.

Rhys Llwyd said...

Ymateb Jill Evans i dy bryfocio Dyfrig:

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7430000/newsid_7433100/7433157.stm