Mae rhifyn Mai 2008 yn y siopau nawr. Llond gwlad o bethau difyr, gan gynnwys Hywel Williams yn trafod nawdd a chelfyddyd, Heini Gruffydd yn bwrw golwg ar ymateb Plaid Cymru i brotestiadau yn erbyn lladd y papur dyddiol Cymraeg, nifer o adolygiadau, a'r holl golofnwyr gwych sy'n ysgrifennu pob mis. A fel y gwelwch chi o'r clawr, dwi'n edrych ar gyflwr llyfrau plant Cymru (gyda help Cadwgan, y llygoden o'r Lleuad).
16.5.08
Gyda llaw...
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
3 comments:
Dwi'n ymwybodol mai nid yr un maes a llyfrau yw'r teledu, ond yn gyffredinol mae safon y cyfyrngau ar gyfer plant wedi dirywio.
Nid yw'r cynnwys yn wreiddiol nac yn ddiddorol. Yn yr 'oes' aur' o raglenni teledu plant a roddodd Swpyrted a Sam Tân, yr oeddent yn gymaint o lwyddiant cafodd nhw eu cyfieithu i'r Saesneg ac i'r Ffrangeg. Nid yn unig oedd hyn yn darparu ar gyfer plant Gymraeg ond yr oedd yn menter busnes.
Amser ar gyfer hysbyseb newydd i maes-e.com felly? ;-)
Dw i wrth fy modd gyda'r cyfar. Gwd stuff.
Post a Comment