Fues i draw i edrych ar wefan Plaid Cymru gynna, a sylwi mod i yn cael fy rhestru fel un o "Flogwyr Plaid". Dwi ddim yn cofio cytuno i fod yn "Flogiwr Plaid", ond gan mod i'n cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, ella y byddai ychydig bach yn grintachlyd gwrthod. A petawn i'n gwrthod, fe fyddai'r ganran sydd yn blogio yn Gymraeg dros ein plaid genedlaethol yn syrthio yn is byth. Pam fod cymaint o flogwyr Plaid Cymru yn dewis gwneud hynny yn Saesneg, sgwn i? Ai yw'r aelodau sydd yn dal i deimlo cariad tuag at y Gymraeg yn rhy hen ffasiwn i ddeall y cysyniad o flogio? Ta ydi hyn yn adlewyrchu agwedd gyffredinol aelodau Plaid Cymru at yr iaith?
Os ydw i am fod yn un o fintai electronaidd y Blaid, mi fyswn i'n licio cael fy nisgrifio fel "Blogiwr Plaid Cymru" petai modd, os gwelwch yn dda? Dwi wedi gwrthwynebu'r ymgais amaturaidd ac anobeithiol i ail-frandio Plaid Cymru yn "Plaid" ers y cychwyn. Fel nifer fawr o ymgeiswyr eraill, fydda i wastad yn defnyddio enw llawn y blaid ar bob taflen a phoster, a gan bod gen i barch sylfaenol at yr iaith, a dymuniad i'w siarad hi mor gywir ac y gallaf, dwi ddim yn meddwl mod i erioed wedi cyfeirio at Blaid Cymru fel "Plaid". "Y Blaid" droeon, ond erioed "Plaid". Mae o'n ramadegol anghywir, heb son am fod yn ymgais dila, arwynebol, i greu rhyw fath o hollt artiffisial a'r gorffennol.
Beth bynnag, yr un peth dwi yn ei hoffi ynglyn a'r ffaith mod i'n "blogio dros Plaid" yw bod gwefan swyddogol Plaid Cymru yn cymeryd feed RSS o'r fan hyn. Felly mae popeth dwi'n ei gyhoeddi yn ymddangos ar wefan swyddogol Plaid Cymru. Sgwn i oes oes rhywun yn darllen y sylwadau cyn iddyn nhw ymddangos ar y wefan swyddogol? Taswn i'n llai cyfrifol, ac yn fwy plentynaidd, fe allwn i ddefnyddio hyn fel cyfle perffaith i gael bod yn ddireudus.............
26.8.08
Blogio dros Blaid Cymru?
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
3 comments:
Rydw i wedi sylwi y cyfeiria bobl sy'n siarad â fi yn y Gymraeg at rywbeth a ddarllenwyd ar fy mlog, ond at fy mlog Saesneg cyfeirian nhw ato. Roeddwn i'n arfer meddwl y roedd pobl yn ddarllen fy mlog Saesneg oherwydd doedd fy Nghymraeg yn ddigon safonol i'w deall yn glir. Ond erbyn hyn rydw i'n dechrau meddwl rhywbeth arall. Dwi ddim yn siŵr beth y mae, a dwi ddim eisiau gwneud sweeping generalisation ond mae yna rywbeth am y ffordd y mae'r Cymry yn cysylltu â'r byd o'u cwmpas sy'n achosi nhw defnyddio cyfryngau Saesneg eu iaith.
Yn rhannol dwi'n meddwl taw agwedd o anfodlonrwydd tuag at dechnoleg ymhlith y Cymry yw ar fai. Yr hen broblem o bobl sy'n methu derbyn y byd modern. Ac fel canlyniad, gorfodir pobl sydd eisiau bod yn rhan o weddill y byd defnyddio iaith arall. A achosir "brain drain" sy'n parhau'r broblem. Does dim lle i'r bobl arloesol, felly does dim pobl arloesol.
Dwi ddim yn hoffi'r teitl "Y Blaid" chwaith. Mae'n swnio'n Big Brother-aidd, totalitaraidd: "It will obey the wishes of The Party, or it will get the hose again."
Dwi ddim yn meindio "Y Blaid" cymaint a hynny, oherwydd bod fy nheulu fi yn aelodau erioed, a bod son am "Y Blaid" yn rhywbeth sydd yn gysurus gyfarwydd i mi. "Y Blaid Bach" oedd enw Plaid Cymru ar lawr gwlad Gwynedd am flynyddoedd maith. Dwi'n derbyn bod cyfeirio at "The Party" yn gallu swnio yn sinistr, ond yn y cyd-destun Cymraeg mae ychydig yn wahanol - "Yr Urdd" yw Urdd Gobaith Cymru ayyb.
Ond mae "Plaid" jysd yn ddi-ystyr. "Party" a nid "The Party" yw hynny. "Who are you voting for then?" "Party". Wrth gwrs, y ffaith ydi bod rhai pobl di-Gymraeg yn talfyru Plaid Cymru yn "Plaid", a ceisio apelio atyn nhw oedd Adam Price efo'r ail-frandio gwirion yma.
(Mae hyn yn lot o eiriau i'w sgwenu am rhywbeth ddigwyddodd o leiaf ddwy flynedd yn ol. Beth mae'r ffaith fod hyn yn dal i fy mhoeni fi yn ei ddweud am fy nghymeriad?)
Ie, os oedd y Blaid yn benderfynol o ollwng un gair, nid "Cymru" oedd y gair i'w ollwng, siawns! Gymaint gwell (ac yn gwneud mwy o synnwyr) fyddai "Who are you voting for?" - "Cymru".
Fel rwyt ti'n deud, mae "Plaid" yn gwbl ddiystyr - "a party" - mae pob plaid yn blaid ond dim ond un sydd/oedd yn sefyll dros Gymru. Dros be mae Plaid yn sefyll rwan te?
Post a Comment