27.5.08

Plaid Cymru - dewis ymgeiswyr Ewropeaidd

Dros y mis neu ddau nesaf, fe fydd Plaid Cymru yn dewis ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop. Jill Evans oedd ar ben y rhestr y tro diwethaf, a hi yw unig ASE Plaid Cymru. Ond er ei bod eisoes yn aelod o'r senedd, dyw hi ddim yn cael mynd i ben y rhestr yn ddi-wrthwynebiad. Mae etholiad mewnol yn cael ei gynnal i ddewis pwy fydd ar ben y rhestr, ac felly pwy fydd yn mynd i Frwsel. Ac mae'r etholiad hwnw wedi ennyn llid llawer o aelodau'r gogledd a'r gorllewin.
Mae Plaid Cymru yn dewis ymgeiswyr mewn hystings agored. Mae pob aelod yn cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod hystings lleol, gan fwrw pleidlais ar ddiwedd y cyfarfod. Mewn etholiad cenedlaethol fel hwn (un "sedd" sydd gan Gymru yn Senedd Ewrop, gyda 4 aelod yn cynrychioli'r sedd honno), mae'r pleidleisiau sy'n cael eu bwrw ym mhob cyfarfod lleol yn cael eu rhoi at eu gilydd, a'r llefydd ar y rhestr yn cael eu dosrannu yn ol y cyfanswm cenedlaethol.
Dwi'n dweud "cyfarfodydd lleol", ond mae'n anodd gwybod os mai dyna'r disgrifiad cywir. Mae 7 cyfarfod yn cael ei gynnal i gyd, mewn 7 lleoliad. A lle yw'r lleoliadau hyn, meddai chi? Bangor, Wrecsam, Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe, Caerdydd a'r Coed Duon. Felly os ydych chi'n byw yng Nghaerdydd mae'r cyfarfodydd yn dipyn yn fwy lleol nac os ydych chi'n byw yn.....Nolgellau, dyweder.
Nawr petai'r etholiad hwn yn etholiad cyhoeddus, yna fe fyddai disgwyl i dde-ddwyrain Cymru gael rhagor o gyfarfodydd. Wedi'r cyfan, yn y de-ddwyrain mae 2/3 o boblogaeth y wlad yn byw. Ond yr hyn sydd wedi osgoi sylw trefnwyr yr etholiad yw nad yw'r un cyfran o aelodau Plaid Cymru yn byw yn y de-ddwyrain. Fel y gwyddom ni i gyd, y gwrthwyneb sydd yn wir, gyda mwyafrif aelodau'r blaid yn byw yn y gorllewin (a'r gogledd orllewin yn benodol).
Mae 1500 o aelodau Plaid Cymru yn byw yn rhanbarth Meirion-Dwyfor. Ond does dim hystings yn cael ei gynnal yno. Os ydych chi'n byw yn Nolgellau, mae'n rhaid gyrru awr i gyrraedd yr hystings agosaf - gan ddewis rhwng Bangor neu Aberystwyth. Faint o aelodau'r rhanbarth yma sydd yn debygol o fwrw pleidlais, felly?
Dwi'n credu bod y sefyllfa yn un warthus, ac yn un sydd yn mynd i danseilio (ymhellach) hyder aelodau Plaid Cymru yn yr arweinyddiaeth. Mae aelodau Meirion-Dwyfor yn benodol yn mynd i deimlo eu bod wedi cael eu hamddifadu o'r cyfle i gyfrannu at ddewis aelod i'w cynrychioli yn Senedd Ewrop. Mae aelodau'r gogledd yn gyffredinol yn mynd i deimlo, unwaith eto, bod ystyriaethau y cadarnleoedd traddodiadol yn dod yn ail i ddymuniadau'r pencadlys yng Nghaerdydd. Ac fe ddylai bob aelod deimlo siom bod y blaid yn ymddwyn mewn modd mor amlwg annemocrataidd.
Yn y pen draw, mae'r penderfyniad i arddel y drefn hon o ddewis ymgeisydd yn ddyfais fwriadol sydd wedi ei chynllunio i wneud yn siwr bod yr ymgeisydd cywir yn cyrraedd top y rhestr. Rydym ni'n ffieiddio pan mae Llafur yn "parasiwtio" pobl i mewn i seddi saff. Oni ddylai aelodau'r blaid fod yr un mor uchel eu cloch pan mae arweinyddiaeth Plaid Cymru yn jerimandro er mwyn sicrhau canlyniad ffafriol mewn etholiad?

(Dwi wedi addasu'r neges hon, gan i mi ddweud yn wreiddiol i Jill Evans gael ei rhoi ar ben y rhestr oherwydd polisi Plaid Cymru o roi merched ar ben pob rhestr gyfrannol. Mae rhywun wedi cysylltu i ddweud bod hynny yn ffeithiol anghywir.)

21.5.08

Thatcher yn y Senedd

Fe glywais i bwt o Taro'r Post ddoe, yn trafod a oedd hi'n addas cynnwys delwedd o Margaret Thatcher yng nghyntedd y Cynulliad (neu'r Senedd-nad-yw'n-senedd, i roi iddo'i enw llawn). Fel y gellid disgwyl, roedd Bethan Jenkins yn gwrthwynebu, ac Alun Cairns yn amddiffyn.
Dwi ddim yn credu bod angen mynd dros y dadleuon ynglyn a pham bod y darlun yn hollol briodol. Mae 'na lawer un wedi cyhuddo rhai Aelodau Cynulliad ifanc (ahem) o "student union politics" yn y gorffennol, a dyma yn union yw hyn. Pan oeddwn i yn y brifysgol yn Leeds, fe fuo 'na ymgyrch hir i rwystro'r Undeb Myfyrwyr rhag gwerthu y Sun, oherwydd ei fod yn anghydnaws ac anian gwleidyddol-gywir yr Undeb. Ac mae dadleuon Bethan Jenkins yn swnio yn debyg iawn i'r dadleuon a oedd yn cael eu gwyntyllu yn Undeb Leeds ddeng mlynedd yn ol.
Myth yw'r syniad fod Cymru yn wlad "wrth-geidwadol". Mae 'na nifer helaeth o Gymry wedi cefnogi'r Ceidwadwyr dros y blynyddoedd, ac - yn ol beth oedd gan John Davies i'w ddweud ddoe - fe enillon nhw rhyw 1/3 o'r bleidlais boblogaidd yn etholiad cyffredinol 1983. Ydi, mae Toriaid Cymreig yn leiafrif. Ond roeddwn i wastad wedi credu bod Bethan Jenkins a'i thebyg yn frwd dros amddiffyn hawliau lleiafrifoedd - heb son am warchod rhyddid mynegiant.

Sibrydion

Dwi wedi clywed bod cefnogwyr y Coleg Ffederal Cymraeg ar fin cael siom. Yn ol pob tebyg, mae un arall o addewidion dogfen Cymru'n Un ar fin cael ei dorri. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld pa spin gaiff ei rhoi ar y penderfyniad hwn.

16.5.08

Gyda llaw...


Mae rhifyn Mai 2008 yn y siopau nawr. Llond gwlad o bethau difyr, gan gynnwys Hywel Williams yn trafod nawdd a chelfyddyd, Heini Gruffydd yn bwrw golwg ar ymateb Plaid Cymru i brotestiadau yn erbyn lladd y papur dyddiol Cymraeg, nifer o adolygiadau, a'r holl golofnwyr gwych sy'n ysgrifennu pob mis. A fel y gwelwch chi o'r clawr, dwi'n edrych ar gyflwr llyfrau plant Cymru (gyda help Cadwgan, y llygoden o'r Lleuad).

Dau begwn Plaid Cymru

Mae gan Vaughan Roderick erthygl ddifyr ar ei flog heddiw, yn trafod sefyllfa Plaid Cymru yng Nghaerdydd. A dwi'n credu ei fod yn codi pwynt diddorol. Mae'r blaid yng Nghaerdydd wedi gorfod mabwysiadu polisi digon chwithig ar godi ysgol Gymraeg newydd yn Nhreganna - polisi sydd wedi ei lunio i geisio ennill cefnogaeth y trigolion di-Gymraeg tra'n peidio ac ypestio'r Cymry Cymraeg yn ormodol. Wrth gwrs, dyw'r polisi heb fod yn llwyddiant llwyr, ac mae nifer o rieni Cymraeg yr ardal yn teimlo bod Plaid Cymru wedi rhoi buddianau'r di-Gymraeg o flaen buddianau ei chefnogwyr traddodiadol.
Rwan, dwi'n ymwybodol bod llunio polisi addysg sydd yn plesio pawb - yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol bresennol - yn dipyn o her. Felly dwi ddim am basio barn ar wendidau na ffaeleddau yr hyn mae grwp Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd yn ei wneud. Ond mae ei strategaeth yn amlygu rhywbeth sydd yn debygol o greu problemau tymor hir i'r blaid, dwi'n credu.
Yn araf bach, mae Plaid Cymru yn ennill tir mewn ardaloedd lle nad oes ganddi draddodiad o gefnogaeth gref - gyda Chaerdydd ar flaen y gad. Mae 'na nifer o fewnfudwyr o'r ardaloedd Cymraeg sydd wedi cyfrannu at y twf hwn - Gwenllian Landsdown ei hun, yn fwyaf amlwg - ond ar y cyfan, mae'r twf yma yn deillio o'r ffaith fod y blaid wedi llwyddo i ddenu cefnogwyr traddodiadol Llafur, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig. Bu'r gwrthwynebiad i'r Rhyfel yn Irac yn gymorth, wrth reswm, a dwi'n siwr bod ethol Mohammed Ashgar yn helpu i gryfhau statws y blaid ymhlith y gymuned Foslemaidd.
Tra mod i'n falch o weld Plaid Cymru yn llwyddo yn y brifddinas, mae ei strategaeth yn gwneud i mi bryderu rhyw ychydig. Fy ofn i yw bod y cefnogwyr newydd hyn yn cael ei denu at Blaid Cymru am resymau gwahanol i mi. Dwi'n aelod o'r blaid oherwydd mod i'n genedlaetholwr, ac yn benodol oherwydd fy mod i eisiau gwarchod dyfodol yr iaith Gymraeg. Mae'n anodd gen i gredu bod rhai o gefnogwyr newydd Plaid Cymru yng Nghaerdydd yn rhannu yr un blaenoriaethau a mi.
Nawr ar lefel leol, dyw hyn ddim yma nac acw. Fe all cynghorwyr Caerdydd wneud beth sydd orau i Gaerdydd, a chynghorwyr Gwynedd yr un fath yng Ngwynedd. Ond mae gan ganghenau lleol rol allweddol i'w chwarae yng ngwleidyddiaeth genedlaethol plaid, hefyd. Mae llwyddiant mewn etholiad cyffredinol yn dibynnu - i raddau helaeth - ar fyddin o weithwyr lleol sydd yn mynd allan i guro drysau a dosbarthu taflenni. A gan fod y cangenau lleol yn cyfrannu at lwyddiant cenedlaethol, mae ganddyn nhw hefyd yr hawl i gyfrannu at gyfeiriad cenedlaethol y blaid.
Mae hanes diweddar y Democratiaid Rhyddfrydol yn dangos peryglon dilyn y trywydd mae Plaid Cymru arno ar y funud. Mae'r blaid honno yn gweithredu yn gwbl wahanol o ardal i ardal. Yn ne-orllewin Lloegr, y Lib-Dems yw'r blaid sy'n herio cryfder traddodiadol y Toriaid, ac felly mae'n pwysleisio ei hagweddau rhyddfrydol traddodiadol. Yn ninasoedd mawr y gogledd a'r canolbarth, mae'n brwydro yn erbyn plaid Lafur gref, ac felly mae'n pwysleisio y traddodiad democrataidd-gymdeithasol, gan osod ei hun i'r chwith o Lafur.
Ond diffyg mawr y Lib-Dems yw ei anallu i ieuo'r ddwy adain at eu gilydd. Yn genedlaethol, mae hyn yn creu problemau dirfawr. Mae'n methu a saernio neges syml ynglyn a beth yw pwrpas y blaid. Yn fwy difrifol - fel y gwelwyd yma yn Nghymru wrth geisio llunio clymblaid yn y Cynulliad - mae'n methu a chymeryd penderfyniadau pwysig ynglyn a sut i lywodraethu. Ac mae hyn wedi golygu ei bod hi'n cael trafferth ail-adrodd ei llwyddiannau lleol yn genedlaethol.
Fy mhryder i yw bod Plaid Cymru mewn perygl o ddilyn yr un trywydd. Drwy ddenu mwy o etholwyr ac aelodau sydd a blaenoriaethau gwahanol i'r aelodau traddodiadol, fe fydd hi'n anoddach i'r blaid weithredu yn effeithiol ar y lefel genedlaethol. Mae perygl pellach y bydd hunaniaeth sylfaenol y blaid yn cael ei wanhau wrth i'w neges fynd yn un cymysg. Ac mae gen i ofn y bydd ei hymlyniad at nifer o egwyddorion craidd - ymlyniad digon bregus yn barod, o edrych ar weithredoedd ein Gweinidog Treftadaeth - yn cael ei tanseilio ymhellach.

(Wedi darllen hwn yn ol, dwi yn ymwybodol ei fod yn swnio ychydig yn grintachlyd. Nid dyma fy mwriad - dwi yn falch o weld Plaid Cymru yn llwyddo yn genedlaethol. Ond mi ydw i'n credu mai cario neges draddodiadol Plaid Cymru i'r ardaledd di-Gymraeg sydd angen ei wneud, yn hytrach na chwarae'r ffon ddeubig o geisio bod yn bopeth i bawb).

5.5.08

Buddugoliaeth annisgwyl

Wel, fe ennillais i'r etholiad, sydd yn gymaint o syndod i mi a neb arall. Rhyw wythnos ynghynt, roeddwn i'n obeithiol, ond erbyn dechrau wythnos dwytha, roeddwn i'n argyhoeddedig mai colli fyswn i. I ddeud y gwir, roeddwn i wedi dechrau poeni y byswn i'n colli yn wael, a roeddwn i ofn y byswn yn siomi fy nghyd-aelodau, a oedd wedi bod yn gweithio mos galed ar fy rhan.
Yn y diwedd, fe ddiflanodd pleidlais Llafur. Yn 2004, roedd Godfrey Northam wedi cael 474 o bleidleisau, ac Arthur Rowlands (fy rhagflaenydd) wedi cael 438. Y tro yma, fe gefais i 485, ond syrthiodd pleidlais Mr Northam yn ddramatig, i 338.
Efallai bod y cwymp enfawr yma yn adlewyrchu amhoblogrwydd Llafur yn genedlaethol. Ond petai pleidlais Mr Northam wedi aros yr un fath a'r tro diwethaf, fe fyswn i wedi ennill o 11 pleidlais. Felly er nad amhoblogrwydd Gordon Brown a ennillodd y sedd i mi, dwi'n credu ei bod hi'n deg dweud mai i'r Prif Weinidog y dyliwn i ddiolch am fy mwyafrif sylweddol.
Nawr mae'r gwaith caled yn cychwyn, wrth reswm. Ar lefel sirol, mae'n rhaid i Blaid Cymru nawr benderfynnu sut i lywodraethu heb fwyafrif - ym maes addysg, ynghyd a phopeth arall. Fel y gallwch ddychmygu, mae gen i ddiddordeb yn yr elfen hon o fod yn gynghorydd, a dwi'n edrych ymlaen at gael cyfrannu at y drafodaeth.
Ond mae fy nghyfrifoldeb cyntaf i fy etholwyr. Dwi wedi cnocio ar gannoedd o ddrysau dros y mis diwethaf, ac mae llawer i un wedi gofyn am fy help i ddatrys problemau lleol. Dyma'r flaenoriaeth i mi ar y funud, felly.
Mae'r gwaith lleol yma yn rhan o orchwyl arall sydd gen i. Fel y mae Hogyn o Rachub wedi ei nodi, Llafur sydd wedi rheoli Rachub ers blynyddoedd maith - fel y dywedodd un o fy nghefnogwyr yn y pentref "Mae Rachub yn goch fel tan, cofia". Roedd Gerlan a Rachub yn arfer bod yn ddwy ward arwahan, yn ethol dau gynghorydd. Unwyd y ddwy ward wedi etholiad 2004, gan ddod a'r ddau bentref o dan reolaeth un cynghorydd - sef Godfrey Northam. Mae'r ffaith fy mod i wedi ennill y tro hwn yn golygu bod Rachub yn cael ei chynrychioli (ar lefel sirol) gan gynghorydd Plaid Cymru am y tro cyntaf............erioed, am wn i. Un her yw sicrhau nad tan siafins yw fy muddugoliaeth, drwy ddangos y gall Plaid Cymru gynrychioli buddianau'r pentref gystal a Llafur - a dal gafael ar y sedd mewn 4 blynedd. Mae ymgyrch etholiadol dda yn dechrau ar y bore ar ol yr etholiad, cofiwch. Dwi'n edrych ymlaen at 2012 yn barod.