14.9.09

Araith Adam Price

Yn anffodus, roeddwn i'n eistedd mewn car yn teithio i lawr yr A55 tra 'roedd Adam Price yn traddodi ei araith ddydd Sadwrn, felly chefais i ddim mo'r cyfle i'w chlywed yn fyw. Ac oherwydd esgeulusdod yn gosod y Sky+, dim ond ychydig eiliaidau o'i diwedd y clywais ar y teledu. Ond diolch i flog Up the Valleys, dwi wedi cael y cyfle i ddarllen trawsgrifiad ohoni.
Mae fy naliadau gwleidyddol i ac Adam yn bur wahanol, mewn sawl ystyr. Sosialydd asgell-chwith yw Adam, sydd yn gweld Plaid Cymru fel yr ymgorfforiad diweddaraf o'r traddodiad radical Cymreig, a arferai berthyn i'r Blaid Lafur, a chyn hynny, y Blaid Ryddfrydol. Dwinnau'n ystyried fy hun ar y chwith, ond ar y chwith gymhedrol, democrataidd-gymdeithasol. Ond eilbeth ydi'r cwestiwn o dde a chwith i mi - cenedlaetholwr ydw i, sydd yn credu bod yn rhaid ystyried pob dadl wleidyddol yng ngoleuni ei heffaith bosib ar anniybynniaeth i Gymru, ac yn bwysicach, parhad y Gymraeg.
Serch hynny, dwi'n cefnogi byrdwn ei neges ddydd Sadwrn, hyd yn oed os nad ydw i'n cytuno yn llwyr gyda ei ddadansoddiad o rol y Ceidwadwyr yng ngwleidyddiaeth Cymru. O safbwynt y Gymraeg, mae'n rhaid cydnabod bod y Ceidwadwyr wedi bod yn fwy parod i hybu ei buddianau - drwy sefydlu S4C, drwy basio Deddf Iaith 1993, ac yn bwysicaf un, drwy basio Deddf Addysg 1988 - na fu Llafur erioed. Tydw i ddim yn rhannu casineb Adam tuag at y Ceidwadwyr.
Ond dwi yn rhannu ei weledigaeth ynglyn a dyfodol gwleidyddol Cymru. Y mae'r Blaid Lafur. bellach, yn gwbl amherthnasol. Ein prif nod ni fel plaid yw ei hysgubo oddi ar y tir etholiadol, a chymeryd ei lle fel plaid flaengar Cymru. Dylem ni anelu tuag at greu sefyllfa lle mae pobl Cymru yn gweld dewis rhwng Plaid Cymru a'r Toriaid fel yr unig ddewis.
Sut mae cyrraedd y fan hon yw'r her i ni fel plaid. Mae Adam yn credu bod angen canolbwyntio ein hymdrechion ar yr ardaloedd hynny sydd wedi aros yn driw i Lafur ers cenhedlaethau lawer. Ac os ydym ni am lwyddo, mae'n rhaid i ni allu cipio'r seddi hyn. Ond rhaid bod yn ofalus nad ydym ni'n anghofio am ardaloedd lle mae Plaid Cymru wedi bod yn rym etholiadol ers blynyddoedd. Er mwyn bod yn rym cenedlaethol, mae'n rhaid dal gafael ar Sir Gaer, Ceredigion, Gwynedd a Mon - ardaloedd lle mae cefnogaeth draddodiadol y Blaid o dan fygythiad. A thrwy ymateb i bryderon trigolion yr ardaloedd hyn y mae cadw eu cefnogaeth.
Rhaid i ni, fel plaid, ochel rhag dilyn trywydd Llafur Newydd. Trodd y Blaid Lafur ei chefn ar ei chefnogwyr traddodiadol, er mwyn denu cefnogwyr newydd. Erbyn hyn, mae'r cefnogwyr newydd hynny wedi mudo at y Ceidwadwyr, ac mae Llafur yn gorfod dibynnu ar "Hen Lafur" i gynnal ei breichiau. Ond oherwydd i "Hen Lafur" gael ei thrin mor wael ers 1997, mae prin yw'r cefnogwyr traddodiadol sydd yn fodlon rhoi o'u hamser i gefnogi.
Wrth i ni geisio llunio Plaid Cymru ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain, felly, rhaid bod yn ofalus nad ydyn ni'n ail-adrodd cangymeriad Blair a Brown. Rhaid denu cefnogwyr newydd, ond nid ar draul y cadarnleoedd mae gwneud hynny.

5 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Dyfrig,
Newydd ddarllen dy flog a chytuno gant y cant gyda chdi. Ond mae angen i ni fel Cymru Cymraeg ymladd yn ol i gael mwy o ddylanwad cenedlaetholgar o fewn y Blaid. Mae nifer ohonom yn teimlo'n gryf yn y fan yma, Alwyn ap Huw, Morgan Brobyn, Dave Raybould ac eraill sydd fwy i'r dde na'r cyfryw. Mae hi hefyd yn bwysig ein bod ddim yn diffinio ein hunain dim ond ar y sbectrwm de a chwith.

Dyfrig said...

Yn sicr. Fel dwi'n dweud, dwi ar y chwith, ond dim ond jysd. Fy marn bersonol yw bod y farchnad rydd a gwladwriaeth fechan yn gallu bod yn fodd o hybu cyfiawnder cymdeithasol, o'i reoleiddio yn iawn. Dwi hefyd yn credu bod lle i ddefnyddio'r sector breifat wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae'r rhain i gyd yn safbwyntiau cwbl ymylol o fewn Plaid Cymru.
Efallai byddai'n syniad ceisio trefnu trafodaeth ar y mater ar gyfer y Gynhadledd Wanwyn.

Plaid Gwersyllt said...

Barod o fod yn gymorth unryw adeg. Diolch.

Plaid Whitegate said...

Dyfrig

Os dan ni am gwffio'r Ceidwadwyr yn effeithiol, mae'n rhaid gwneud o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol. Dwi'n rhyfeddu fod unrhyw Bleidiwr am weld y farchnad rydd yn tyfu yn y sector gyhoeddus - BUPA i redeg yr NHS? Crapita i redeg ein gwsanaethau cymdeithasol? Dyna realiti defnyddio'r sector breifat i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Pan breifateiddwyd tai cyngor Conwy, be oedd y peth cynta wnaeth pennaethiaid y cymdeithas dai newydd wneud... cynnyddu cyflogau eu hunain. Nuff sed.

O safbwynt y Gymraeg, nid y farchnad rydd sydd am achub y Gymraeg ac yn sicr nid y Toriaid sy'n fwya' blaengar. Anufudd-dod suful torfol achosodd geni S4C yn 1982 nid Margaret Thatcher. Y farchnad rydd a diffyg rheolaeth drosto sy wedi dinistrio llawer i gymuned Gymraeg drwy or-ddatblygu a diffyg swyddi.

Dwi'm am funud yn dadlau na fedrwn ni ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell - mae nhw'n gywilyddus mewn rhai mannau.

Ond, wedi gweithio yn y sector breifat llawer mwy na'r sector gyhoeddus, mae meddwl fod y sector breifat yn fwy effeithiol neu efo rhyw fath o magic wand yn nonsens llwyr.

Un gwendid mwya cynghorau ydi'r diffyg menter a chymryd risg - mae angen newid y mentaliti yna'n sicr. Ond maen nhw hefyd yn gwario pres cyhoeddus - does ryfedd fod na geidwadaeth ar adegau.

Mae'r blynyddoedd nesa am weld gwasgfa enfawr ar wasanaethau cyhoeddus yn ogystal a swyddi yn y sector breifat. Mae gennon ni gyfrifoldeb i ffendio ffyrdd newydd llawn dychymyg i oroesi.

Plaid Whitegate said...

Un peth bach arall... y chwith ac nid y dde o fewn y blaid sy wedi bod gryfaf o ran arddel annibyniaeth. Mae ceisio creu stereotypes o'r chwith - fel mae'r rhyddfrydwr Alwyn ap Huw - yn wrth-genedlaetholgar a Phrydeinig yn siwtio naratif gwrth-Bleidiol.