22.9.09

Torri Cytundeb Cymru'n Un

Dwi'n dal i fod yn gandryll ynglyn a phenderfyniad y Llywodraeth i beidio ac adeiladu carchar yng Nghaernarfon. Roedd y swyddi arfaethedig yn cynnig achubiaeth economaidd i ardal sydd gyda'r Cymreiciaf, a hefyd y mwyaf di-freintedig, yng Nghymru. Mae'n bosib iawn y bydd y tro pedol yma yn cael effaith niweidiol ar yr iaith Gymraeg, yn y tymor hir.
Y ffaith amdani yw mae penderfyniad gan y Blaid Lafur yw'r penderfyniad yma. Efallai mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llundain sydd yn uniongyrchol gyfrifol, ond erys y ffaith mae aelodau o'r un blaid yw Maria Eagle AS a Rhodri Morgan AC.
Ar sawl ystyr, mae Cytundeb Cymru'n Un wedi bod yn llwyddiant. Ond mae hi'n dod yn gynyddol amlwg i mi bod Plaid Cymru yn cyfranu llawer iawn mwy at y bartneriaeth nac yr ydym ni'n ei gael yn ei ol. Beth bynnag fo agwedd yr aelodau Llafur yng Nghaerdydd, mae ein dyheadau ni fel plaid - boed hynny yn ddyhead am Ddeddf Iaith Newydd, neu am garchar i Gaernarfon - yn cael eu tanseilio gan eu meistri yn Llundain.
Dwi'n credu, felly, ei bod hi'n bryd i ni droi ein cefn ar y bartneriaeth gyda phlaid fethedig, golledig, sydd wedi ei rheoli gan hunanonldeb giwed fechan o Aelodau Seneddol Prydeinig. Fy marn bersonol i yw ei bod hi'n bryd i Blaid Cymru ddiddymu Cytundeb Cymru'n Un, ac edrych ar y dewisiadau eraill ar gyfer llywodraethu Cymru rhwng rwan a Mai 2011. Er lles ein cenedl a'n plaid, dwi'n gobeithio bod rhywun yn gwrando.

2 comments:

Guto Bebb said...

Difyr i ti ddweud hyn Dyfrig. Ar stepan drws heno dwi wedi cael tystiolaeth gadarn, ac nid am y tro cyntaf, o unigolion oedd wedi eu cofnodi ganddom yn 2007 fel Plaid yn troi atom a hynny mewn niferoedd. Bu i sawl un nodi penderfyniad Gareth Jones i chwalu ei addewid na fyddai yn clymbleidio gyda Llafur a hynny o fewn mis i'w ethol. Dwi'n credu fod y bartneriaeth gyda Llafur yn mynd i wneud drwg i Blaid Cymru mewn amryw o seddi lle mae'r etholwyr yn geidwadol o ran anian.

O ran y carchar - siom enbyd ond dim syndod. Gweler fy sylw ar flog menai.

glynygof said...

Fyddai ddim yn cytuno efo chdi pob tro Dyfrig ond rwyf yn cytuno gyda chdi cant y cant ar hyn.Tydio ddim yn syndod o gwbwl i mi fod y llywodraeth lafur yn Llundain wedi newid eu meddyliau ar ddod a;r carcghar i Gaernarfon .Does ganddynt ddim syniad na chydymdeimlad a Chymru .Cyn gynted a fod y sefyllfa ariannol yn tynnhau Cymru yw y cyntaf i ddioddef pob tro.A gorau bo gyntaf i Blaid Cymru roi terfyn ar y cytudeb un ochrog maent ynddo yn y Cynilliad.