21.5.08

Thatcher yn y Senedd

Fe glywais i bwt o Taro'r Post ddoe, yn trafod a oedd hi'n addas cynnwys delwedd o Margaret Thatcher yng nghyntedd y Cynulliad (neu'r Senedd-nad-yw'n-senedd, i roi iddo'i enw llawn). Fel y gellid disgwyl, roedd Bethan Jenkins yn gwrthwynebu, ac Alun Cairns yn amddiffyn.
Dwi ddim yn credu bod angen mynd dros y dadleuon ynglyn a pham bod y darlun yn hollol briodol. Mae 'na lawer un wedi cyhuddo rhai Aelodau Cynulliad ifanc (ahem) o "student union politics" yn y gorffennol, a dyma yn union yw hyn. Pan oeddwn i yn y brifysgol yn Leeds, fe fuo 'na ymgyrch hir i rwystro'r Undeb Myfyrwyr rhag gwerthu y Sun, oherwydd ei fod yn anghydnaws ac anian gwleidyddol-gywir yr Undeb. Ac mae dadleuon Bethan Jenkins yn swnio yn debyg iawn i'r dadleuon a oedd yn cael eu gwyntyllu yn Undeb Leeds ddeng mlynedd yn ol.
Myth yw'r syniad fod Cymru yn wlad "wrth-geidwadol". Mae 'na nifer helaeth o Gymry wedi cefnogi'r Ceidwadwyr dros y blynyddoedd, ac - yn ol beth oedd gan John Davies i'w ddweud ddoe - fe enillon nhw rhyw 1/3 o'r bleidlais boblogaidd yn etholiad cyffredinol 1983. Ydi, mae Toriaid Cymreig yn leiafrif. Ond roeddwn i wastad wedi credu bod Bethan Jenkins a'i thebyg yn frwd dros amddiffyn hawliau lleiafrifoedd - heb son am warchod rhyddid mynegiant.

2 comments:

Helen said...

Yn y bôn, dwy ddim yn gweld dim byd o'i le ar gael cerflun/ portread o Dori yn y Senedd, ochr yn ochr â gwleidydd o bwtys o'r Blaid Lafur, ond Magi? O gofio'r dinistr a achosodd Magi yng Nghymru trwy ei pholisïau, dwy ddim yn credu y dylai hi fod ar gyfyl y Senedd - os oes raid cael Tori, beth am Winston Churchill? O leiaf, bu e'n gymorth i gadw'r natsïaid draw!

Dyfrig said...

Rhydd i bawb ei farn, ac i bob barn ei llafar. Nid lle i genedlaetholwyr na sosialwyr yw dewis pa Dori sydd yn dderbyniol i ni.