Roedd 'na oes pan fyddwn i wedi llunio rhestrau deg uchaf lu ar ddiwedd pob blwyddyn. Erbyn hyn, dwi'n mynd yn hen, ac mae'r cof yn pallu, felly fe fydd rhaid i mi fodloni ar restr blith-drafflith o be' dwi 'di mwynhau.
O ran cerddoriaeth fyw, efallai mae'r band a wnaeth yr argraff orau arna i eleni oedd Slow Club, deuawd gwerin/alt. country/rockabilly o Sheffield. Mae'r albym, Yeah, So yn amherffaith, ond mae 'na berlau gwirioneddol arni, gan gynnwys yr hyfryd I Was Unconscious, It Was a Dream. Fe welais i nhw'n chwarae yn Barfly Caerdydd ychydig fisoedd yn ol, ac mi oedd yn brofiad gwefreiddiol. Doedd y PA ddim yn gweithio yn wych, felly fe benderfynnon nhw chwarae rhan o'r set yn gwbl unplugged. I'r ychydig ddwsinau oedd yn bresennol, roedd yn berfformiad arbennig, gig y flwyddyn yn bendant.
Albym y flwyddyn i mi yw Wall of Arms gan The Macabees. Mi welais i glawr yr albym ar boster anferth yn Llundain, a meddwl eu bod nhw'n edrych fel llwyth o haliwrs. Ond rhyw wythnos neu ddwy yn ddiweddarach mi oeddwn i'n coginio efo'r radio ymlaen, a dyma gân yn dal fy sylw yn syth - Can You Give It? gan yr haliwrs eu hunain.
Dwi'n canfod bod ffans cerddoriaeth indie yn dueddol o rannu yn ddwy garfan. Mae 'na rai sydd yn hoffi i'w cantorion fod yn nadwyr a brefwyr, yn canu yn arddull Liam Gallagher neu Ian Brown. Ac mae'r garfan arall yn dilyn epil Morrissey, cantorion gwrywaidd sydd yn gallu canu go iawn, a sydd a lleisiau yn llawn cymeriad - Radiohead, Guillemots, Wild Beasts, ayyb. I'r ail garfan mae'r Macabees yn perthyn, a bydd yn rhy ferchetaidd i chwaeth yr 'ogia go iawn. Ond mae'n berffaith ar gyfer pansan fel fi.
Y trydydd albym sydd wedi bod ar heavy rotation acw ydi God Help The Girl, prosiect diweddaraf Stuart Murdoch, o Belle and Sebastian. Dyma ei ymgais ef i efelychu pop y 60au hwyr, gan gynull criw o ferched i ganu ar gasgliad o ganeuon hyfryd. Mae rhai o'r caneuon wedi eu recordio o'r blaen, gan Belle and Sebastian eu hunain. Ond mae'r mwyafrif yn ganeuon gwreiddiol, gan gynnwys cân y flwyddyn (i mi o leiaf), Perfection as a Hipster.
Uchafbwyntiau eraill sy'n haeddu sylw ydi albyms gan The XX, (XX) Yo La Tengo (Popular Songs), Cate le Bon (Me Oh My) a The Decemberists (The Hazards of Love). Pob un ohonyn nhw werth ychydig o'ch punnoedd prin.
18.12.09
Pigion cerddorol y flwyddyn
Cyng. Dewi Owen ac Ysgol Aberdyfi
'Dyw'r Cambrian News ddim yn cyrraedd Dyffryn Ogwen, felly dwi'n ddiolchgar i Hen Rech Flin am dynnu fy sylw at y stori bach hyll hon. Yn ol pob tebyg, mae 'na rai o drigolion Aberdyfi wedi rhoi'r gorau i wartio eu harian yn siop cigydd y pentref, a hynny oherwydd fod y perchenol yn perthyn i'r Cynghorydd Dewi Owen, a bleidleisiodd i gau yr ysgol leol.
Yn gyntaf, dwi'n credu bod angen bod yn eglur ynglyn a safbwynt Dewi Owen. Yn y cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar y 10fed o Ragfyr, digwyddodd dau beth. Yn gyntaf, cynigiodd Llais Gwynedd welliant ar gynigion y Cyngor, yn datgan y dylid cadw Ysgol Aberdyfi (a phedair ysgol arall) ar agor yn barhaol, ac fe drechwyd y cynnig hwnw. Yna rhoddodd Dewi Owen welliant pellach ger bron, a fyddai'n cadw Ysgol Aberdyfi yn unig yn agored tan 2014, er mwyn rhoi'r cyfle i niferoedd y plant gynyddu - a felly gwarchod dyfodol yr ysgol. Pleidleisiodd mwyafrif o aelodau'r Cyngor yn erbyn y cynnig hwn, gan gynnwys Llais Gwynedd.
Wedi i'r ddau welliant gael eu trechu, pleidleisiodd y Cyngor i gau Ysgol Aberdyfi. Erbyn y drydedd bleidlais hon, roedd yn berffaith amlwg fod cefnogaeth i'r argymelliad gwreiddiol. Ac yn ystod y drydedd bleidlais hon, felly, pleidleisiodd Dewi Owen i gau Ysgol Aberdyfi.
Er iddo geisio achub ei ysgol leol, mae Llais Gwynedd wedi cyhuddo Dewi Owen o fradychu ei etholwyr. Y gwir ydi bod Dewi wedi ceisio llunio cyfaddawd a fyddai'n gohirio penderfyniad. Beth bynnag fo barn rhywun o'r cynnig hwnw, dwi'n credu ei bod ymhell o fod yn frad. Ymgais oedd hyn i geisio dod o hyd i ateb realistig a pragmataidd i broblemau ysgol sydd a bron i 80% o lefydd gwag, a sydd wedi methu a chyd-weithio ac ysgol cyfagos yn y gorffennol.
Mae'r modd y mae Dewi wedi cael ei drin ar flog Gwilym Euros, yng nghyd-destun ei bleidlais wreiddiol, a stori'r siop cigydd. Yn fy ngwneud i'n wirioneddol drist. Mae Dewi yn gynghorydd cydwybodol, gweithgar, a deallus dros ben. Mae hefyd yn ddyn addfwyn a hoffus, sydd wastad yn bleser i fod yn ei gwmni. Tydi o ddim yn haeddu'r math o driniaeth y mae'n ei gael ar flog Gwilym; gan Gwilym eu hun, na'r giwed o bobl sydd yn rhy llwfr i gyhoeddi eu henwau wrth ochr eu sylwadau ymosodol.
13.12.09
Cau ysgolion Bro Dysynni
Wedi cael fy ngwynt ataf, dwi'n barod i ddweud rhyw bwt ynglyn a'r hyn ddigwyddodd yng ngyfarfod Cyngor Gwynedd ddydd Iau dwytha. Gwnaed penderfyniad i gau 5 ysgol wledig ym Mro Dysynni, de Meirionnydd, gyda mwyafrif llethol y Cynghorwyr yn cefnogi. Wrth gwrs, roedd 'na wrthwynebiad lleol, ac oherwydd nad oedd y cynlluniau i gau yn cael eu cefnogi gan y gymuned leol, roedd Llais Gwynedd hefyd yn gwrthwynebu.
Serch hynny, dwi'n gwbl gyfforddus ein bod ni wedi gwneud penderfyniad cadarnhaol. Pam? Dau reswm, yn y bon
1) Byddai cadw'r ysgolion ar agor wedi bod yn annheg. Roedd nifer fawr o lefydd gweigion yn yr ysgolion, sydd yn golygu bod cost y pen addysgu plant yn yr ysgolion hyn yn uwch nac y gallai fod. Mae'r Cyngor mewn cyfnod o argyfwng ariannol, lle mae pob ysgol yn wynebu toriadau - hyd yn oed y rhai sydd yn denu nifer fawr o ddisgyblion. Mae dyletswydd arnom ni i sicrhau bod pawb o blant y sir yn cael chwarae teg. Gan fod unrhyw arian sydd yn cael ei ennill o gau ysgol yn cael ei fwydo yn ol i mewn i'r system addysg, bydd holl blant Gwynedd yn elwa o gau ysgolion bychain Bro Dysynni.
2) Byddai cadw'r ysgolion ar agor wedi gwanhau addysg wledig yn y tymor hir. Does dim osgoi'r ffaith bod newidiadau demograffig yn golygu mae disgyn a wnaiff y niferoedd sydd yn mynychu ysgolion cefn gwlad. Byddai'r ysgolion, yn fwy na thebyg, yn cau o'u hunain dros y 5-10 mlynedd nesaf. Ond gan y byddai hyn yn digwydd ar hap, fyddai dim modd i Gyngor Gwynedd gynllunio darpariaeth newydd i gymeryd eu lle. Y canlyniad fyddai ysgolion yn cau fesul un, a'r plant yn y pen draw, yn llifio i lawr i gael eu haddysg yn y dref agosaf, Tywyn.
Drwy gau 4 ysgol fach sydd yn agos at eu gilydd, mae gan Gyngor Gwynedd yr adnoddau i godi un ysgol newydd i wasanaethu'r cymunedau yma. Bydd yr ysgol hon ac adnoddau newydd, mwy addas i gwricwlwm yr 21ain ganrif, a nifer uwch o athrawon, a fydd yn gallu cynnig ystod ehangach o brofiadau addysgol. Ond yn bwysicach byth, fe fydd yn fwy cost-effeithiol, sydd yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y gall hi oroesi i'r dyfodol. Drwy gymeryd y cam yma, mae Cyngor Gwynedd wedi creu sefyllfa lle gall trigolion ardal Abergynolwyn, Bryncrug, Llanegryn a Llwyngwril fod yn ffyddiog y bydd addysg wledig ar gael iddyn nhw am o leiaf cenhedlaeth arall.
11.12.09
Cyfieithydd Google
Oce, dwi'n gwbod mod i fisoedd ar ei hol hi. Ond dwi wedi bod yn brysur, a dim ond rwan dwi'n cael y cyfle i chwarae efo'r gwasanaeth cyfieithu Google. Yr hyn dwi'n ei hoffi yw'r ffordd mae'n methu a chyfeitithu rhai geiriau, gan arwain at frawddegau macaronaidd gwych. Mae fatha gwrando ar rhyw hen was ffarm o'r 50au yn trio siarad Saesneg. Fy ffefryn oddi ar y blog hwn yw'r berl ganlynol
"Ordinary members of Plaid Cymru Cymu South East region was responsible for putting it in
second on the list. Yes, they gangymeriad, but that's human nature. We all do cangymeriadau."
10.12.09
Diolch o galon, Aeron
Dwi am sgwenu rhywbeth difri ynglyn a'r hyn ddigwyddodd yng nghyfarfod Cyngor Gwynedd heddiw, pan fydd gen i'r nerth a'r amynedd. Roedd y penderfyniad a wnaed parthed Bro Dysynni yn un cadarnhaol, a fydd yn cryfhau addysg wledig yn y fro, ac yn sicrhau ei fodolaeth i'r dyfodol. Mae 'na ambell un sydd yn anghytuno, wrth gwrs, ac fe geisiai fynd i berfedd y ddadl dros y dyddiau nesaf.
Un darn o newyddion da yw bod Aeron Jones wedi penderfynnu cefnogi Plaid Cymru yn hytrach na Llais Gwynedd heddiw. Roedd Llais Gwynedd wedi rhoi gwelliant ger bron y Cyngor, a oedd yn galw am beidio cau 4 o'r 5 ysgol a oedd wedi eu clustnodi yn yr adroddiad. Yn ol eu harfer, mynodd Llais Gwynedd gael pleidlais gofrestredig, sy'n golygu bod cofrestr o enw pawb yn cael ei galw, gyda phob cynghorydd yn ymateb "O blaid" neu "yn erbyn" wedi i'w enw gael ei alw. Pan ddaeth hi yn dro i Aeron ymateb, er mawr syndod i bawb, datganodd ei fod yn erbyn y gwelliant a oedd wedi ei gynnig gan ei gyd-aelod, y dihafal Gwilym Euros.
Wrth gwrs, cangymeriad oedd hyn, yn hytrach na throedigaeth. A chwarae teg i Aeron, nid y fo yw'r unig un i syrthio i'r fagl hon o ddrysu "er plaid" gyda "yn erbyn". Mae rhai o wleidyddion mwyaf disglair Cymru wedi gwneud yr un fath, fel y tystia hanes cyn-AC Llafur Conwy, ac un o gewri'r Cynulliad, Denise Idris Jones.
O.N.
Yn bersonol, dwi'n credu y dylai Aeron ddiweddaru'r llun ar ei flog, gan ei fod bellach wedi tyfu mwsdash reit "fetching", sydd yn llawn haeddu cael ei weld gan drigolion y blogosffer Cymraeg.
8.12.09
Mohammed Asghar, unwaith eto
Mae 'na ddau beth wedi codi wrth drafod penderfyniad Mohammed Ashgar i groesi'r llawr.
1) Beth ddigwyddith i'w staff?
Mae 'na lawer wedi cyfeirio at y ffaith fod Asghar wedi gwneud tro gwael gyda'i staff. Mae nhw'n cael eu cyflogi gan Asghar fel unigolyn, ond maent yn ffigyrrau amlwg o fewn Plaid Cymru. Yn bersonol, dwi'n gwybod be fyddwn i'n ei wneud taswn i'n eu hesgidiau hwy - dim byd. Yn sicr, fyddwn i ddim yn ymddiswyddo. Fe fyddwn i'n aros yn fy swydd, ac yn disgwyl i Asghar fy ni-swyddo. Ac yna'n mynd ag o i dribiwnlys. Pam y dylai anwadalrwydd gwleidyddol Asghar adael 3 teulu ar y clwt dros y 'Dolig?
2) Beth mae hyn yn ei ddweud am ddulliu Plaid Cymru o ddewis ymgeiswyr?
Yn bersonol, dwi ddim yn gweld bod fawr o'i le gyda'r modd y dewiswyd Asghar. Aelodau cyffredin o Blaid Cymu yn rhanbarth Dwyrain De Cymru oedd gyfrifol am ei roi yn ail ar y rhestr. Do, fe wnaethon nhw gangymeriad, ond dyna'r natur ddynol. Rydym ni gyd yn gwneud cangymeriadau.
Os edrychwn ni ar yr unigolion sydd wedi eu dewis i sefyll yn etholiadau San Steffan 2010, mae'n gyfuniad o'r gwych a'r gwachul. Mae 'na ymgeiswyr gwirioneddol gryf, megis Myfanwy Davies, John Dixon, Heledd Fychan neu Steffan Lewis, ac mae 'na ymgeiswyr gwannach, megis...........wel, efallai y byddai'n well i mi beidio ac agor fy mhig.
Yr hyn sydd yn gyffredin i bawb sy'n sefyll yn enw Plaid Cymru yw eu bod wedi eu dewis gan aelodau eu hetholaeth. Boed nhw'n ymgeiswyr cryf neu wan, mae ganddyn nhw gyswllt gwirioneddol gyda'r bobl y bydden nhw'n ei wasanaethu. Nid pobl wedi eu parasiwtio i mewn o'r tu allan yw ymgeiswyr Plaid Cymru, ond pobl sydd wedi gweithio yn galed i feithrin ffydd a hyder eu cyd-aelodau. Dwi'n gweld dim o'i le gyda'r modd anrhydeddus y mae Plaid Cymru wedi mynd ati i ddewis ymgeiswyr.
Vote Plaid Cymru, get Tory
Newydd glywed y newyddion am Mohammed Ashgar yn croesi'r llawr at y Toriaid. Dwi ddim am basio barn ynglyn a chymhellion y dyn, na doethineb ei droedigaeth wleidyddol. Ond mae'r pwynt a wnaeth gan Heledd Fychan yn berffaith gywir.
Etholwyd Mohammed Ashgar ar restr ranbarthol Dwyrain De Cymru, yn enw Plaid Cymru. Rydym ni'n ethol yr aelodau sydd ar y rhestr ranbarthol drwy fwrw pleidlais dros blaid, nid unigolyn. Petai gan Mohammed Ashgar fymrun o barch at y drefn ddemocrataidd, felly, fe fyddai'n ildio ei sedd heddiw, ac yn sefyll yn enw ei blaid newydd yn 2011. Fel arall, mae wedi ei ethol i'r Cynulliad drwy dwyll.
5.12.09
Newid hinsawdd, eto
Yn syth ar ol sgwenu'r cofnod dwytha, fe es am dro o amgylch y blogosffer Cymraeg, a dod ar draws y cofnod yma gan Hen Rech Flin. Mae'n gwneud y pwynt diddorol yma
"Gan nad ydwyf yn wyddonydd nac yn fab i wyddonydd y mae'n anodd imi wneud sylw teg am y ddadl wyddonol"
Rwan, tydw i ddim yn wyddonydd, chwaith, er bod gen i ddiddordeb lleyg yn y maes. Ond does dim rhaid bod yn wyddonydd i allu dod i gasgliad ynglyn a newid hinsawdd. Mae gennym ni system o arolygu ysgolheictod ar draws pob maes, sydd yn golygu bod haeriadau unrhyw ymchwilydd yn cael ei werthuso gan ei gyd-ymchwilwyr, er mwyn gweld os oes sail iddynt.
"Peer Review" yw'r enw Saesneg ar y broses. Yn syml, pan mae unrhyw ymchwilydd academaidd yn gyrru papur i'w gyhoeddi mewn cyfnodolyn, mae bwrdd golygyddol y cyfnodolyn hwnw yn gyrru'r papur yn ei flaen at nifer o arbenigwyr cydnabyddedig eraill yn y maes - yn ddi-enw, wrth reswm. Mae'r arbenigwyr hynny yn edrych ar yr ymchwil i weld os yw'n dal dwr. Ym myd gwyddoniaeth, maent yn astudio'r data, a'r dull y mae'r data wedi ei gasglu a'i ddadansoddi. Ac yna mae pob arbenigwr ar y panel "peer review" yn gyrru ei sylwadau yn ol at y bwrdd golygyddol (sydd eu hun yn gasgliad o arbenigwyr yn y maes).
Mae pob un darn o waith ymchwil o werth ar newid hinsawdd yn gorfod mynd trwy'r broses drylwyr yma - a hynny er mwyn dynion fel y fi a HRF, y lleygwyr. Os ydym ni'n darllen bod ymchwil wedi ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn cydnabyddedig, yna fe allwn ni fod yn ffyddiog bod yr ymchwil hwnw o ansawdd, ac y gallwn ni ymddiried yn y casgliadau sydd i'w canfod ynddo.
A'r ffaith syml yw bod y mwyafrif llethol o waith ymchwil ysgolhegaidd i newid hinsawdd yn datgan ei fod yn digwydd, ei fod yn cael ei achosi gan y ddynol ryw, ac ei fod yn berygl gwirioneddol i batrwm byw presennol dynoliaeth.
Yr Athro Andrew Watson - Arwr go iawn.
Flynyddoedd yn ol, roeddwn i'n digwydd bod yn gwylio Newsnight pan ddaeth Michael Howard ben-ben a Jeremy Paxman, gyda Paxman yn ail-adrodd yr un cwestiwn 14 o weithiau. Bob tro dwi'n gweld y clip yn cael ei chwarae ar raglenni hanes, dwi'n cofio'r wefr o'i weld yn digwydd yn fyw ar yr awyr.
Fe gefais i wefr debyg neithiwr, wrth wylio Newsnight unwaith eto. Roedd 'na drafodaeth o "Climategate", sef hanes y negeseuon e-bost a gafodd eu dwyn o Uned Ymchwil yr Hinsawdd, Prifysgol Dwyrain Anglia (UEA). Yn trafod y stori dros gysylltiad fideo yr oedd Yr Athro Andrew Watson o UEA a Marc Morano, lobiwr Americanaidd sydd yn rhedeg gwefan yn dadlau yn erbyn bodolaeth newid hinsawdd.
Roedd Watson yn dod drosodd fel y mae nifer fawr o wyddonwyr Prydeinig yn dod drosodd - deallus, digon hoffus, ond yn greadur wedi ei gipio o'i gynhefin naturiol, y labordy. Ar y llaw arall, roedd Morano yn engrhaifft cwbl nodweddiadol o'r math o bundit asgell-dde sydd yn brithio rhaglenni Fox News. Roedd yn ymosodol ac yn wawdlyd, ac yn dangos dim awydd i drafod. Wrth i Martha Kearney ffarwelio a'r ddau gyfranydd ar ddiwedd y sgwrs, fe ddywedodd Andrew Watson..... wel, fe allwch chi wylio'r clip yn y fan hyn
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n cytuno yn llwyr ac ymateb Yr Athro Watson. Mae 'na adegau lle mae angen trafod yn rhesymol a chall gyda ein gwrthwynebwyr. Ond o dro i dro, mae rhywun yn dod wyneb yn wyneb ac unigolyn sydd mor unllygeidiog, mor gwbl gibddall, fel nad oes modd dal pen rheswm a nhw. Weithiau, mae pawb yn teimlo'r awydd i droi at ei gwrthwynebydd a dweud "Jysd ffyc off". Efallai nad dyna'r peth doeth, cyfrifol na aeddfed i'w wneud. Ond o dro i dro, dyna yw'r peth naturiol, dynol, i'w wneud.
Beth bynnag a ddigwydd i'r Athro Watson, mae'n rhaid i mi ddweud y bydd wastad gen i le arbennig ar ei gyfer yn fy nghalon. Arwr go iawn.
1.12.09
Llongyfarchiadau Carwyn Jones
O'r diwedd, fe all Carwyn roi'r gorau i smalio ei fod yn aelod o'r Blaid Lafur, a datgelu mae cynllwyn cenedlaetholgar oedd ei ymgais i gipio'r arweinyddiaeth, er mwyn rhoi Nashi yn swyddfa'r Prif Weinidog.
Wel, ddim cweit. Ond dwi yn falch nad yr un o'r ddau ymgeisydd arall aeth a hi. Fel y nododd Simon Brooks mewn llythyr gwych i Golwg, nod y ffaith bod Edwina Hart yn ddi-Gymraeg sydd yn broblem, ond yn hytrach at hagwedd at yr iaith. Roedd yr ensyniad bod lladmeryddion addysg Gymraeg yn meddu ar dueddiadau hiliol yn gwbl warthus, ac yn nodweddiadol o wrth-Gymreictod Neil Kinnock a'i debyg. Ac mae'r syniad o Gymru wedi ei harwain gan Huw Lewis yn ddigon i roi hunlle i unrhyw un. Felly ochenaid o ryddhad bod Carwyn Jones wrth y llyw, yn hytrach na'r un o'r ddau arall.
28.11.09
Er eglurder
Byd bach yw'r blogosffer Cymraeg, ac mae'r rhan ohono sydd yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth Gwynedd yn llai fyth. Yn ol pob tebyg, os ydych chi'n darllen y blog hwn, rydych chi hefyd yn dilyn sylwadau fy nghyd-aelod o Gyngor Gwynedd, Gwilym Euros Roberts.
Fe fydd y rhan fwyaf ohonoch chi'n ymwybodol, felly, o pam fod Gwilym wedi ei gynddeiriogi cymaint gennyf i, yn ddiweddar. Os nad ydych chi, fe allwch bicio draw i'w gornel ef o'r we, i ddarllen ei ochr ef o'r stori. Er eglurder, dwi am roi fy fersiwn i o'r hyn sydd wedi cynddeiriogi Gwilym.
Dydd Iau, fe sgwenais i gofnod yn ail-adrodd si yr oeddwn i wedi ei glywed ynglyn ac adroddiad Estyn ar Adran Addysg Gwynedd. Mae Arolygwyr Estyn wedi bod draw yn edrych ar wasanaeth addysg ein sir, ac fel rhan o'r broses honno, mae nhw'n edrych ar agweddau penodol o'r gwasanaeth, ac yn rhoi sgor allan o 5 i'r Adran Addysg. Un o'r agweddau dan y chwyddwydr oedd gallu'r Cyngor i weithredu newidiadau angenrheidiol. Y si oedd bod Estyn wedi bwriadu rhoi sgor o 2/5 i Wynedd, ond wedi sgwrs gyda un aelod o'r Cyngor, tynnwyd y sgor honno i lawr i 3. Fe wnes i ail-adrodd y stori - heb enwi'r unigolyn dan sylw - oherwydd fy mod i'n credu ei bod yn dweud cyfrolau am y Cyngor ar hyn o bryd.
Bid a fo am hynny. Y noson honno, ymddangosodd sylw ar fy mlog gan flogiwr arall sy'n aelod o Blaid Cymru yn Arfon, BlogMenai. Yn garedig iawn, fe'm rhybuddiodd y gallem fod yn torri rheolau cyfrinachedd drwy ddatgelu'r sgor a gafodd y Cyngor, cyn bo Estyn wedi cwblhau'r gwaith o arolygu'r gwasanaeth. Roeddwn i wedi cymeryd yn ganiataol bod gennyf i'r hawl i ailadrodd y wybodaeth am yr arolwg. Ond rhag ofn fy mod i wedi gwneud rhywbeth o'i le, fe wnes i ddileu'r sylwadau.
Erbyn i mi dynnu'r sylwadau oddi ar y blog, fodd bynnag, roedd Gwilym wedi eu darllen, a'u hail adrodd ar ei flog ef. Arweiniodd hyn at drafodaeth danbaid, gyda Gwilym yn fy nghyhuddo o ddweud celwydd, a gyda eraill yn penderfynnu mae drwy fod yn nawddoglyd y mae fy rhoi fi yn fy lle. ("Ella sa'n well i [Dyfrig] roi taw arni nes iddo dyfu i fyny ychydig a chael profiad o fywyd go iawn?" - gan rhywun sydd mor aeddfed fel eu bod yn ysgrifennu sylwadau di-enw ar flogiau).
Dwi wedi cael cyfle i siarad efo ambell un erbyn hyn, ac mae'n ymddangos nad ydw i wedi torri unrhyw reol. Mae Estyn wedi gorffen y broses arolygu, ac wedi adrodd yn ol i'r Awdurdod Addysg ar lafar. Os ydw i'n anghywir yn hyn o beth, fi fyddai'r cyntaf i syrthio ar fy mai, ac i dderbyn pa bynnag gosb a fyddai'n addas. Ond fy nealltwriaeth i yw nad ydw i wedi gwneud unrhywbeth amhriodol.
27.11.09
Llongyfarchiadau i Barn
Er nad ydw i'n gysylltiedig a'r cylchgrawn bellach, fe gefais i ddwy flynedd hapus iawn yn golygu Barn, cyn ymuno ac Awdurdod S4C yn gynharach eleni. Felly roedd hi'n bleser clywed bod dyfodol y cylchgrawn wedi ei sicrhau am ddwy flynedd arall. Dwi'n credu bod Vaughan a Menna, y golygyddion presennol, wedi gwneud gwaith rhagorol ar y cylchgrawn, yn ogystal a'r tim rheoli. Llongyfarchiadau gwresog i chi gyd.
Adroddiad Estyn
Roeddwn i wedi cynnwys neges yn y fan hyn ynglyn ac adroddiad Estyn ar Addysg yng Ngwynedd. Ail-adrodd sibrydion oeddwn i, yn hytrach na datgelu gwybodaeth yr oeddwn i wedi cael mynediad ato. Serch hynny, dwi wedi tynnu'r cofnod oddi yma, tan ar ol i'r wybodaeth gael ei gyhoeddi yn swyddogol.
Mae trafodaeth ddiddorol i'w chael ynglyn a'r mater dan sylw, ond efallai y byddai'n syniad aros hyd nes bod y ffeithiau i gyd ar gael cyn mynd i berfedd y mater.
20.11.09
Rhag ofn i mi golli rhagor o dir
Chwarae teg i Golwg 360 am fy nghynnwys ar restr 10 uchaf blogwyr "amatur" y we Gymraeg. A dwi'n llawn haeddu'r cerydd am beidio a blogio yn amlach. Pwysau gwaith sydd yn bennaf ar fai, ond mae 'na reswm da arall.
Ar y funud, mae Cyngor Gwynedd yn wynebu cyfnod hynod o heriol. Ymhen ychydig wythnosau, bydd cyfarfod tyngedfenol o'r Cyngor Llawn, lle bydd gofyn i ni bleidleisio ar gam cyntaf y cynllun diwygiedig i ad-drefnu addysg gynradd y sir, yn ogystal a phenderfynnu ar strategaeth arbedion, sydd yn sicr o olygu toriadau i gyllidebau rhai o'n gwasanaethau.
Yn amlwg, mae gen i farn (gref) ar beth sydd angen ei wneud gyda'r ddau fater yma. Ond fel Cynghorydd, mae gen i ddyletswydd i gadw meddwl agored, hyd nes y bydd y mater yn cael ei drafod yn Siambr y Cyngor. Drwy ddatgan barn gref ar y blog yma, fe ellid dadlau fy mod yn datgan rhagfarn, ac felly yn eithrio fy hun o'r drafodaeth - a'r cyfle i bleidleisio - yn y Siambr.
Felly am y tro, dwi'n bwriad aros yn dawel ar fater yr arbedion a'r ysgolion. Ond dwi'n siwr y bydd gen i rhywbeth i'w ddweud wedi Rhagfyr y 10fed.
30.9.09
Y Blaid Lafur a'r Sun
"We do not need an Australian/American coming to our country with a paper that has never supported one progressive policy and telling us how politics should be run in this country," meddai Tony Woodley o Unite yng nghynhadledd y Blaid Lafur heddiw. Pam, felly, bod eich plaid wedi treulio'r 12 mlynedd ddiwethaf yn hudo'r rhacsyn hyll o bapur i'ch cefnogi. Byddai dyn dewr - a phlaid ddewr - wedi codi dau fys ar Y Sun nol ym 1997.
Dwi wedi bod yn hynod o negyddol ynglyn a Llafur dros yr wythnosau diwethaf, ond mae fy sylwadau yn deillio o dristwch, yn hytrach na chasineb. Nol ym 1997, roeddwn i'n wirioneddol falch o weld llywodraeth Llafur yn cael ei hethol, a dwi'n credu bod tymor cyntaf Blair wedi bod yn un hynod o lwyddianus. Ond mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai gwenwynig, ac mae'r llywodraeth bresennol yn gwneud niwed hir-dymor i'r gyfundrefn wleidyddol Brydeinig.
Er gwaetha'r hyn mae rhai yn ei gredu - gan gynnwys fy mos, a'm galwodd i'n "closet Tory" heddiw - dwi ddim yn awchu i weld llywodraeth Geidwadol. Ond dwi yn ei chael yn anodd gweld sut y bydd teyrnasiad Cameron yn waeth nac un Brown. Brysied y dydd y bydd Cymru'n cael troi ei chefn ar ei lol nhw i gyd.
24.9.09
Carchar i Ynys Mon?
Neithiwr, yn ol fy nealltwriaeth i, bu cyfarfod rhwng Peter Hain ac Albert Owen. Heddiw, mae Peter Hain yn datgan ei fod yn ffafrio Ynys Mon fel safle carchar yng Nghymru. Oes angen dweud mwy?
Mae fy nghofnod blog diwethaf wedi ennyn cryn ddiddordeb ym myd bach blogiau Gwynedd (a Chonwy) gyda Blog Menai, Gwilym Euros, Rhydian, Hogyn o Rachub a Hen Rech Flin yn rhoi sylwadau. Cael cefnogaeth gan fy ngwrthwynebwyr arferol, a gwrthwynebiad fy nghyfeillion gwleidyddol yw'r hanes - ond fe gewch ddarllen eu blogiau hwy er mwyn gweld y darlun cyfan.
Dwi yn credu bod angen i mi egluro rhyw fymrun ar fy sylwadau. Tydw i ddim am eiliad yn dadlau bod penderfyniad Llywodraeth Prydain i beidio ac adeiladu carchar yng Nghaernarfon yn reswm dros dorri Cytundeb Cymru'n Un, a ildio'n lle yn Llywodraeth Cymru. Ond mae'r penderfyniad arbennig hwnw yn dangos yn berffaith beth yw gwendidau'r glymblaid.
Roeddwn i'n amheus o glymbleidio a Llafur o'r cychwyn. Ond fe'i cefnogais am resymau pragmataidd - oherwydd fy mod i'n credu byddai clymbleidio gyda Llafur yn arwain at enillion i Gymru. Ond mae hi bellach yn dod yn amlwg fod Plaid Cymru yn cynnal breichiau y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd, ond nad yw'r Blaid Lafur yn fodlon rhoi unrhywbeth yn ol i ni? Beth ddigwyddodd i'r papur dyddiol? Lle mae'r Coleg Ffederal? Lle mae'r LCO iaith?
Nid dyma ddiwedd y rhestr. Mae 'na nifer o faterion eraill lle mae ymrwymiadau Cymru'n Un yn cael eu tanseilio gan Lafur. Rhoddwyd addewid y byddai rheolau cynllunio yn cael eu newid, er mwyn rhoi lle amlycach i'r iaith Gymraeg fel ffactor - gwantan iawn yw'r drafft ymgynghorol o TAN 20 a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Beth ddigwyddodd i'r ymrwymiad i rwystro pobl rhag prynnu tai cyngor? Llafur yn Llundain yn gwrthod cymeradwyo'r LCO. Beth am yr ymrwymiad i rwystro pobl rhag troi tai preswyl yn dai haf? Dim, unwaith eto.
Dim ond y bennod ddiweddaraf yn hanes ein perthynas gyda'r Blaid Lafur yw carchar Caernarfon. Ond mae'n dangos yn berffaith beth yw gwendidau'r berthynas honno. Yr eiliad y mae Llafur yn sylweddoli nad oes ganddyn nhw obaith o gipio sedd seneddol Arfon, maent yn awgrymu symyd 700 o swyddi newydd o'r etholaeth, i etholaeth ymylol Sir Fon. Does dim mymrun o ystyriaeth yn cael ei roi i anghenion pobl Caernarfon.
Fel rhywun sydd yn sownd mewn priodas dreisgar, mae Plaid Cymru yn dychwelyd at ei chymar yng Nghaerdydd, dro ar ol tro, er mwyn cael ei churo unwaith eto. Ers dwy flynedd bellach, rydym ni'n gweithio gorff ac enaid i gefnogi llywodraeth Rhodri Morgan, ac yn derbyn briwsion am ein ymdrechion. Mae'n bryd i ni wynebu y ffaith bod Llafur wedi methu a chadw ei bargen gyda Phlaid Cymru, a gadael y glymblaid.
22.9.09
Torri Cytundeb Cymru'n Un
Dwi'n dal i fod yn gandryll ynglyn a phenderfyniad y Llywodraeth i beidio ac adeiladu carchar yng Nghaernarfon. Roedd y swyddi arfaethedig yn cynnig achubiaeth economaidd i ardal sydd gyda'r Cymreiciaf, a hefyd y mwyaf di-freintedig, yng Nghymru. Mae'n bosib iawn y bydd y tro pedol yma yn cael effaith niweidiol ar yr iaith Gymraeg, yn y tymor hir.
Y ffaith amdani yw mae penderfyniad gan y Blaid Lafur yw'r penderfyniad yma. Efallai mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llundain sydd yn uniongyrchol gyfrifol, ond erys y ffaith mae aelodau o'r un blaid yw Maria Eagle AS a Rhodri Morgan AC.
Ar sawl ystyr, mae Cytundeb Cymru'n Un wedi bod yn llwyddiant. Ond mae hi'n dod yn gynyddol amlwg i mi bod Plaid Cymru yn cyfranu llawer iawn mwy at y bartneriaeth nac yr ydym ni'n ei gael yn ei ol. Beth bynnag fo agwedd yr aelodau Llafur yng Nghaerdydd, mae ein dyheadau ni fel plaid - boed hynny yn ddyhead am Ddeddf Iaith Newydd, neu am garchar i Gaernarfon - yn cael eu tanseilio gan eu meistri yn Llundain.
Dwi'n credu, felly, ei bod hi'n bryd i ni droi ein cefn ar y bartneriaeth gyda phlaid fethedig, golledig, sydd wedi ei rheoli gan hunanonldeb giwed fechan o Aelodau Seneddol Prydeinig. Fy marn bersonol i yw ei bod hi'n bryd i Blaid Cymru ddiddymu Cytundeb Cymru'n Un, ac edrych ar y dewisiadau eraill ar gyfer llywodraethu Cymru rhwng rwan a Mai 2011. Er lles ein cenedl a'n plaid, dwi'n gobeithio bod rhywun yn gwrando.
Carchar Caernarfon
Newydd ddarllen datganiad ar wefan BBC Cymru yn dweud bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi penderfynnu peidio a bwrw 'mlaen gyda'r carchar yng Nghaernarfon, a hynny oherwydd nad oedd yn cynrychioli'r "gwerth gorau i'r trethdalwr". Mae'r cyhoeddiad yma yn siom anferth i mi, a dwi'n hynod o flin ynglyn a brad y llywodraeth. Dwi'n mawr obeithio nad dyma ddiwedd yr hanes, ac y bydd modd dwyn perswad arnyn nhw i wneud tro pedol.
18.9.09
Ymadawiad Adam
Sioc ar fy nhin, i ddweud y lleiaf, gefais i wrth glywed bod Adam Price yn gadael San Steffan am America. Fe wn ei fod wedi mynegi ei rwystredigaeth ynglyn a Senedd Prydain yn ei araith wythnos diwethaf, ond doeddwn i erioed yn credu y byddai'n ildio ei sedd yno. Roeddwn i'n credu y byddai'n dal ei afael, ceisio am sedd Cynulliad yn 2011, gan ddychwelyd i San Steffan petai'n aflwyddianus.
Ond efallai bod Adam Price yn fwy cyfrwys, ac yn fwy hirben, nac yr oeddwn i'n ei ddisgwyl. Y cwestiwn mawr iddo fo (ac i Ieuan Wyn Jones) yw sut y gall gyrraedd Bae Caerdydd. Fel rhywun sydd yn dymuno arwain y Blaid, dyw sedd restr ddim yn ddelfrydol. Arweinyddion pleidiau eilradd sydd yn cael eu hethol drwy'r rhestr ranbarthol - mae arweinyddion y prif bleidiau Cymreig yn llwyddo i ddal etholaeth.
Trafferth Adam Price oedd bod Rhodri Glyn Thomas wedi ei gwneud hi'n berffaith glir nad yw'n bwriadu symyd o'r ffordd i wneud lle i'r Mab Darogan. Felly mae etholaeth Adam Price yn San Steffan - Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr - allan ohoni.
Mae Betsan Powys wedi darogan mai anelu at Gastell Nedd a wnaiff Adam, ond mae neges ar ei blog diweddaraf yn awgrymu dewis arall. Beth petai modd darbwyllo John Dixon i sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr flwyddyn nesaf. Petai'n llwyddiannus - ac mae hynny'n bur debyg - byddai pwyllgor ymgyrch Gorllewin Caerfyrddin yn sydyn yn chwilio am ymgeisydd. Daeth John Dixon o fewn trwch blewyn o'i chipio y tro diwethaf, ac o ystried cysylltiadau Adam Price gyda'r ardal, byddai ganddo gystal cyfle yno ac unman arall.
Ai dyma gynllwyn Adam? A fydd John Dixon yn well cyfaill iddo nac y bu Rhodri Glyn Thomas?
16.9.09
Y sector breifat a gwasanaethau cyhoeddus
Wedi bod yn cael trafodaeth ddifyr gyda John Dixon draw ar ei flog ef, sydd yn berthnasol i fy nghofnod olaf ar y blog, a rhai o'r sylwadau sydd wedi eu gwneud gan Plaid Whitegate. Wna i ddim ail-adrodd fy safbwynt - ewch draw i ddarllen, a chyfrannu at, y drafodaeth ar flog John Dixon.
Dwi yn credu bod angen i Blaid Cymru edrych mewn mwy o fanylder ar ddefnyddio'r Setor Breifat i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Cangymeriad ydi credu bod mabwysiadu safbwyntiau "Hen Lafur" yn mynd i ennill cefnogaeth i ni bob tro. Gwasanaethau cyhoeddus atebol ac effeithlon mae etholwyr yn ddymuno eu gweld, nid plaid sydd yn glynnu yn dynn i ddogma.
14.9.09
Araith Adam Price
Yn anffodus, roeddwn i'n eistedd mewn car yn teithio i lawr yr A55 tra 'roedd Adam Price yn traddodi ei araith ddydd Sadwrn, felly chefais i ddim mo'r cyfle i'w chlywed yn fyw. Ac oherwydd esgeulusdod yn gosod y Sky+, dim ond ychydig eiliaidau o'i diwedd y clywais ar y teledu. Ond diolch i flog Up the Valleys, dwi wedi cael y cyfle i ddarllen trawsgrifiad ohoni.
Mae fy naliadau gwleidyddol i ac Adam yn bur wahanol, mewn sawl ystyr. Sosialydd asgell-chwith yw Adam, sydd yn gweld Plaid Cymru fel yr ymgorfforiad diweddaraf o'r traddodiad radical Cymreig, a arferai berthyn i'r Blaid Lafur, a chyn hynny, y Blaid Ryddfrydol. Dwinnau'n ystyried fy hun ar y chwith, ond ar y chwith gymhedrol, democrataidd-gymdeithasol. Ond eilbeth ydi'r cwestiwn o dde a chwith i mi - cenedlaetholwr ydw i, sydd yn credu bod yn rhaid ystyried pob dadl wleidyddol yng ngoleuni ei heffaith bosib ar anniybynniaeth i Gymru, ac yn bwysicach, parhad y Gymraeg.
Serch hynny, dwi'n cefnogi byrdwn ei neges ddydd Sadwrn, hyd yn oed os nad ydw i'n cytuno yn llwyr gyda ei ddadansoddiad o rol y Ceidwadwyr yng ngwleidyddiaeth Cymru. O safbwynt y Gymraeg, mae'n rhaid cydnabod bod y Ceidwadwyr wedi bod yn fwy parod i hybu ei buddianau - drwy sefydlu S4C, drwy basio Deddf Iaith 1993, ac yn bwysicaf un, drwy basio Deddf Addysg 1988 - na fu Llafur erioed. Tydw i ddim yn rhannu casineb Adam tuag at y Ceidwadwyr.
Ond dwi yn rhannu ei weledigaeth ynglyn a dyfodol gwleidyddol Cymru. Y mae'r Blaid Lafur. bellach, yn gwbl amherthnasol. Ein prif nod ni fel plaid yw ei hysgubo oddi ar y tir etholiadol, a chymeryd ei lle fel plaid flaengar Cymru. Dylem ni anelu tuag at greu sefyllfa lle mae pobl Cymru yn gweld dewis rhwng Plaid Cymru a'r Toriaid fel yr unig ddewis.
Sut mae cyrraedd y fan hon yw'r her i ni fel plaid. Mae Adam yn credu bod angen canolbwyntio ein hymdrechion ar yr ardaloedd hynny sydd wedi aros yn driw i Lafur ers cenhedlaethau lawer. Ac os ydym ni am lwyddo, mae'n rhaid i ni allu cipio'r seddi hyn. Ond rhaid bod yn ofalus nad ydym ni'n anghofio am ardaloedd lle mae Plaid Cymru wedi bod yn rym etholiadol ers blynyddoedd. Er mwyn bod yn rym cenedlaethol, mae'n rhaid dal gafael ar Sir Gaer, Ceredigion, Gwynedd a Mon - ardaloedd lle mae cefnogaeth draddodiadol y Blaid o dan fygythiad. A thrwy ymateb i bryderon trigolion yr ardaloedd hyn y mae cadw eu cefnogaeth.
Rhaid i ni, fel plaid, ochel rhag dilyn trywydd Llafur Newydd. Trodd y Blaid Lafur ei chefn ar ei chefnogwyr traddodiadol, er mwyn denu cefnogwyr newydd. Erbyn hyn, mae'r cefnogwyr newydd hynny wedi mudo at y Ceidwadwyr, ac mae Llafur yn gorfod dibynnu ar "Hen Lafur" i gynnal ei breichiau. Ond oherwydd i "Hen Lafur" gael ei thrin mor wael ers 1997, mae prin yw'r cefnogwyr traddodiadol sydd yn fodlon rhoi o'u hamser i gefnogi.
Wrth i ni geisio llunio Plaid Cymru ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain, felly, rhaid bod yn ofalus nad ydyn ni'n ail-adrodd cangymeriad Blair a Brown. Rhaid denu cefnogwyr newydd, ond nid ar draul y cadarnleoedd mae gwneud hynny.
11.9.09
Cynhadledd Plaid Cymru - Dydd Gwener, 11/09/2009
Yn wahanol i nifer o'r cynrychiolwyr eraill, dwi wedi dod adref i fy nghartref clyd, yn hytrach na aros yng nghinio Cynhadledd Plaid Cymru heno. Mae mynychu'r Gynhadledd yn beth eithaf newydd i mi, ond mae'n brofiad dwi'n ei fwynhau. I raddau, mae'n debyg iawn i'r Eisteddfod - mae'r digwyddiadau "swyddogol" yn llai pwysig na'r cyfle i sgwrsio a chymdeithasu.
Does gen i ddim amser i sgwenu adroddiad manwl, felly fe wna i fodloni ar ysgrifennu rhestr gryno o uchafbwyntiau. Fe fum i'n Trydar yn gyson drwy'r dydd, felly does gen i ddim byd newydd i'w adrodd i'r rhai ohonoch chi sy'n fy nilyn ar Twitter. Ond dyma fy uchafbwyntiau
- Araith Elin Jones. Bywiog, difyr, doniol - ond yn gwneud pwynt pwysig. Rhaid i Blaid Cymru edrych tu hwnt i Cymru'n Un. Be ddaw ar ol 2011?
- Darlith Richard Wyn Jones. Roedd Richard yn trafod llawer o'r dadleuon sydd yn ei gyfrol ar hanes Plaid Cymru, felly doedd 'na ddim llawer o ddeunydd newydd. Ond roedd y delivery yn wych, ac fe lwyddodd i hoelio fy sylw am hanner awr gyfan. Ac roedd yn rhoi rhywbeth i'r aelodau bori arno dros nos. Trueni nad oedd mwy yn gwrando - ond diolch iddo am beidio a throi at y Saesneg o gwbl. Ai darlith Richard fydd yr unig ddarn o areithio uniaith Gymraeg drwy'r gynhadledd?
- Cyfarfod Caryl Wyn Jones o Cymru X, a dechrau trafod strategaeth i dargedu myfyrwyr Bangor (peidiwch a dweud wrth y bos)
- Trafodaeth Twitter ddifyr dros ben gyda Bethan Jenkins. Roedd y ddau ohona ni'n Trydar ar y cynnigion a ddaeth ger bron y gynhadledd, gan basio barn (wahanol) ar y cynnigion. Dangos potensial y cyfryngau newydd ar gyfer cynhadleddau.
- Cyfraniadau cyson Clayton Jones. Yng nghanol y consensws trendi-leffti, roedd hi'n braf clywed lladmerydd y farchnad rydd a'r wladwriaeth fechan yn tantro yn gwbl ddi-flewyn ar dafod. Cic go iawn yn nhin y gynhadledd.
- Cael fy nisgrifio fel "the best dressed man at conference" gan Adam Price - a finnau mewn hen siaced tweed wedi ei phrynnu ar eBay. Dwi'n fodlon fy myd pan mae rhywun yn seboni.
Yr unig siom oedd gwylio darllediad gwleidyddol diweddaraf Plaid Cymru. Ydi, mae'n slic, ond mae hefyd yn cynnwys y linell "Most Plaid supporters don't speak Welsh". Pam bod angen cynnwys datganiad sydd mor negyddol ynglyn a'r iaith? Beth am "Not all Plaid Cymru supporters are Welsh speakers"? Neu "Plaid Cymru is for everyone, regardless of language"? Y neges dwi'n ei gael o'r datganiad yw bod y Gymraeg i'w ystyried yn eilbeth o fewn Plaid Cymru.
Fe ddoi yn ol at hyn eto, ond a yw'r datganiad yn ffeithiol gywir? Yn sicr, mae mwyafrif o aelodau Plaid Cymru yn siarad Cymraeg. Ond efallai bod "cefnogwyr" yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pawb sydd yn pleidleisio dros y Blaid. Efallai y gwna i geisio profi gwirionedd y "ffaith" amheus hon, pan ga'i gyfle.
Am y tro, dwi'n mynd i gael gwydr o gwrw o flaen y teledu, cyn mynd i'r gwely'n gynnar. Dwi'n picio i'r gynhadledd am ychydig 'fory, er mwyn cadeirio sesiwn holi'r gweinidogion. Dewch i'r brif neuadd erbyn 11:30 os am weld beth sydd ganddyn nhw i'w ddweud.
O.N.
Fe gefais i siom arall, yn ymwneud a sut y cafodd un o ymgeiswyr seneddol y Blaid ei thrin gan y Pwyllgor Gwaith - ond wna i ddim mynd i drafod hynny yn gyhoeddus. Digon yw dweud y dylai'r rhai sy'n gyfrifol fod a chywilydd mawr o'r dull y gwnaethon nhw drin ymgeisydd gweithgar, teyrngar a chydwybodol.
20.8.09
Wel wir
Synod a rhyfeddod oedd darganfod bod y blog hwn wedi cyrraedd rhif 42 yn rhestr Total Politics o flogiau gorau Cymru. Fel y mae HRF wedi ei nodi, mae nifer o'r blogiau yn y 60 uchaf wedi eu cyhoeddi yn uniaith Gymraeg, neu yn bennaf yn y Gymraeg. A'r hyn sydd wedi fy synnu fwyaf yw fod y blog yma wedi ei osod un safle tu ol i'r blog hynod raenus, Wales Home.
Blogiwr digon diog ydw i, ar y gorau. Ond fel pawb, dwi'n licio dipyn o glod. Ella bydd yr anrhydedd yma yn hwb i mi flogio yn amlach dros y flwyddyn nesa. Diolch o galon i bawb wnaeth bleidleisio drostaf.
11.8.09
Gwlad a bro
Yn ddiweddar, dwi wedi dechrau teimlo bod lefel y drafodaeth wleidyddol ar y blogosffer Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol. Ond mae'n rhaid bod yr Eisteddfod wedi bod yn donic i ni gyd, oherwydd mae 'na drafodaeth hynod o ddifyr yn digwydd ar y funud rhwng Blog Menai, Hen Rech Flin, Hogyn o Rachub a Gwilym Euros.
Hen Rech Flin a ddechreuodd bethau, wrth edrych ar ragolygon ymgeisydd Llais Gwynedd yn etholiadau Cynulliad 2011. Trafododd y posibilrwydd (hynod anhebygol) o gyd-weithio rhwng Llais Gwynedd a Llais y Bobl ym Mlaenau Gwent.
Arweiniodd hyn, yn ei dro, at gofnod ar Blog Menai yn trafod y tensiwn rhwng y lleol/ranbarthol a'r cenedlaethol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Dadl Cai yw bod 'na rai Cymru sydd yn gadael i'w ymlyniad at eu bro danseilio eu cenedlaetholdeb, ac yn fwy difrifol, danseilio gobeithion y mudiad cenedlaethol ehangach.
Daeth dau ymateb hynod ddifyr gan Hen Rech Flin a Hogyn o Rachub, yn dadlau bod bro-garwch yn ran hanfodol o genedlaetholdeb Cymraeg, ac wedi bod yn ddylanwad pwysig ar ddatblygiad Plaid Cymru ei hun.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn dueddol o sefyll rhwng y ddau safbwynt. Mae plwyfoldeb yn rhywbeth dwi'n ei gasau a chas perffaith. Y peth mwyaf di-galon am fod ar Gyngor Gwynedd yw gweld obsesiwn rhai Cynghorwyr gyda "gwarchod" eu wardiau unigol hwy, ar draul pawb a phopeth arall.
Ond rheswm dwi'n gwylltio gyda'r Cynghorwyr hyn yw fy mod i'n credu bod hollti Gwynedd yn 75 brenhiniaeth sydd yn ymladd yn erbyn eu gilydd yn fygythiad i fuddiannau Gwynedd gyfan. Ac mae bygythiad i Wynedd - yn fy marn i - yn fygythiad i'r iaith Gymraeg. A'r awydd i weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu sydd yn gyrru fy ngwleidyddiaeth i, yn y bon.
Er nad ydw i'n rhannu bro-garwch HRF a HoR, tydw i chwaith ddim yn rhywun sydd yn rhoi y genedl gyntaf. I mi, mae anghenion Cymru gyfan yn eilradd i anghenion yr iaith Gymraeg. Cerbyd ar gyfer diogelu'r Gymraeg yw Cynulliad/Senedd/Annibynniaeth i mi. Pe na byddai'r iaith Gymraeg yn bodoli, dwi ddim yn siwr os y bydda gen i fymrun o ddiddordeb mewn cenedlaetholdeb.
Felly fe allai rhywun ddadlau mai budd un cymuned, yn hytrach na chenedl gyfan, sydd wrth wraidd fy ngwleidyddiaeth i. Dim ond bod y gymuned honno yn un ehangach na un pentref, neu ward etholiadol, neu sir, unigol.
21.7.09
Barn vs. Sylw
Fel y medrwch chi ddychmygu, rydw i'n credu'n gryf mae Barn sydd yn haeddu grant y Cyngor Llyfrau. Dyw'r farn yna heb newid, hyd yn oed ar ol i mi weld y rhifyn engrheifftiol o Sylw. Oes, mae 'na lawer iawn sydd yn dda yng nghylchgrawn Y Lolfa. Ond mae'n rhy dameidiog ac arwynebol ar brydiau - ac yn rhy blwyfol i Aberystwyth.
Ond peidiwch a chymeryd fy ngair un-ochrog i. Aeth Gwilym Owen ati i gynull ei grwp ffocws ei hun ar Radio Cymru ddoe (gwrandewch eto) er mwyn cymharu'r ddau gyhoeddiad. Ac roedd y criw bach yma yn eithaf pendant bod Barn yn rhagori ar Sylw. Ychwanegwch hyn at sylwadau Vaughan Roderick, sydd hefyd yn ffafrio Barn (o rhyw ychydig bach) ar ei flog, ac mae'n dechrau dod yn amlwg bod y farn gyhoeddus yn ffafrio Barn.
Ydych chi wedi cael cyfle i gymharu'r ddau gyhoeddiad? Beth ydych chi'n ei feddwl?
15.7.09
Gwleidyddiaeth iard ysgol
Ddechrau'r wythnos, fe ymunodd Aeron Jones (Llais Gwynedd) a byd bach y blogiau Cymraeg. Ac o fewn diwrnod, mae o wedi penderfynnu troi arna fi - am syndod. Dwi eisoes wedi cael fy ngalw'n goc oen gan Gwilym Euros Roberts (LlG), a rwan mae Aeron yn mynnu bod aelodau eraill y Cyngor yn credu mod i'n dipyn o ffwl. Gwleidyddiaeth iard ysgol ydi hyn, wrth gwrs - galw enwau ar rhywun, yn hytrach na ymateb i'r hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud.
Diolch byth, dwi ddim yn greadur croen-denau. Ac yn wahanol i aelodau Llais Gwynedd, dwi ddim yn gweld gwleidyddiaeth lleol fel rhyw fath o popularity contest. Cynghorydd ydw i, nid carnival queen.
Tydw i ddim yn mynd i ostwng i lefel Aeron drwy ddechrau galw enwau yn ol, ond yng nghyd-destun Tai Fforddiadwy, mae'n rhaid gofyn pwy ydi'r ffwl go iawn. Mae'n amlwg o neges Aeron nad oes ganddo rhyw lawer o syniad beth yn union ydi Ty Fforddiadwy yng nghyd-destun polisi Gwynedd. Efallai nad ydw i'n ffwl, ond mi ydw i'n dipyn o bore pan mae'n dod i bethau fatha polisi y corff dwi'n isda arno. Dwi'n dueddol o neud petha diflas, megis darllen y dogfennau sy'n cael eu gyrru ata ni fel aelodau - gan gynnwys y ddogfen ddrafft yn ymwneud a thai fforddiadwy. Ac mae'r disgrifiad o Dai Fforddiadwy sydd yn y ddogfen honno yn bur wahanol i ddisgrifiad Aeron.
Pan mae rhywun yn dod at Gyngor Gwynedd a gofyn am yr hawl i godi mwy na hyn-a-hyn o dai, mae'r Cyngor yn gallu mynnu bod canran o'r tai hynny - 25% fel arfer - yn dai fforddiadwy. Yn ol Aeron, unig ystyr hyn yw eu bod yn cael eu gwerthu am 30% yn llai na phris y tai eraill. Lol botas maip ydi diffiniad Aeron. Does dim rhaid i'r tai fforddiadwy gael eu gwerthu o gwbl. Gall y datblygwr ddewis gosod y tai, a hynny am rent sydd yn cael ei osod gan y Cynulliad; rhent safonol tai cymdeithasol Cymru. Os yw'r tai yn cael eu gwerthu, mae'n rhaid iddyn nhw gael eu gwerthu am bris sydd yn wirioneddol fforddiadwy i'r gymuned leol. Mae archwiliad fforddiadwyaeth yn cael ei wneud gan y Cyngor, ac mae'r pris yn cael ei osod yn unol a'r archwiliad hwnw. Celwydd noeth yw dweud y gallai rhywun godi ty sydd a gwerth marchnad-agored o £300,000, a'i gynnig fel ty fforddiadwy am £210,000. Mae cyfyngiadau llym ynglyn a maint a dyluniad tai fforddiadwy, er mwyn sicrhau nad yw'r tai sydd yn cael eu dynodi yn dai fforddiadwy yn mynd o afael y gymuned leol.
Fe allwn i fynd ymlaen ac ymlaen am hyn, ond dwi ddim yn credu y byddai rhyw lawer o bwynt. Fel yr yda ni wedi ei weld gan Lais Gwynedd droeon, tydyn nhw ddim yn blaid sydd yn gadael i'r ffeithiau amharu ar stori dda.
Chwarae teg i Alun Davies
Fyddwn i ddim yn disgrifio fy hun fel un o edmygwyr mawr Alun Davies AC, ond dwi'n credu ei fod wedi gwneud peth dewr ac anrhydeddus wrth benderfynnu gadael ei sedd ddiogel ar y rhestr ranbarthol er mwyn ceisio cipio Blaenau Gwent gan Trish Law. Yn fy marn i, llwfrgwn ydi'r holl aelodau Llafur sydd wedi penderfynnu "ymddeol" wedi iddyn nhw sylweddoli eu bod yn wynebu cweir yn yr etholiad nesaf. O leiaf mae Alun Davies yn fodlon ymladd dros ei egwyddorion a'i blaid.
3.7.09
Si ddiddorol
Dwi newydd glywed si hynod o ddiddorol ynglyn a'r Blaid Lafur yng Ngwynedd. Yn ol pob tebyg, maent wedi methu a dod o hyd i unrhyw un i sefyll fel ymgeisydd etholiadol yn yr Etholiad Cyffredinol fydd yn cael ei gynnal rhwng rwan a'r gwanwyn. Ac felly, mae'n rhaid i'r Blaid Lafur yn ganolog "barasiwtio" rhywun i mewn o'r tu allan. Beth mae hyn yn ei ddweud am gyflwr y blaid mewn ardal a oedd, unwaith, yn driw iawn?
2.7.09
Llais Gwynedd a Thai Fforddiadwy
Neithiwr, yng nghyfarfod Pwyllgor Ardal Arfon, fe wnaeth Cyng. Aeron Jones (Llais Gwynedd) ddatgan mae "Spin llwyr yw Tai Fforddiadwy", gan wrthwynebu cais i glirio tomen lechi yn Talysarn er mwyn codi stad o dai yno. Dwi ddim yn siwr beth yn union mae'n ei olygu drwy "spin llwyr". Mae polisi Tai Fforddiadwy Gwynedd - polisi Plaid Cymru - yn sicrhau bod tai ar gael i bobl leol eu rhentu, prynnu neu adeiladu, a hynny am bris sydd yn llai na phris y farchnad. A yw datganiad Aeron neithiwr yn golygu fod Llais Gwynedd yn gwrthwynebu polisi Plaid Cymru o sicrhau tai fforddiadwy i drigolion Gwynedd?
8.6.09
Etholiadau Ewrop
Fe fum i wrthi yn cnocio drysau a rhannu taflenni ar ran Plaid Cymru dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, ond heb rhyw lawer o frwdfrydedd. Tydw i ddim yn credu bod yr Undeb Ewropeaidd yn gorff llywodraethol sydd yn gweithio yn arbennig o dda, a dwi'n credu mai sham llwyr yw ethol cynrychiolwyr i'r senedd pan fo'r grym yn aros gyda'r Comisiwn. Ond roeddwn yn fodlon mynd i ymgyrchu dros Blaid Cymru oherwydd fy mod yn credu bod canlyniad yr etholiad yn bwysig i'r blaid, yn fwy nac i'r wlad. Byddai canlyniad da wedi rhoi hwb i ni, a chreu momentwm ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.
A oedd neithiwr yn ganlyniad da? Heb weld yr union niferoedd o bob etholaeth (Helo BBC a Golwg 360?) mae'n anodd darogan yn fanwl. Ond dwi'n dueddol o gredu mae canlyniad siomedig a gafwyd i Blaid Cymru.
Rwy'n siwr y bydd rhai yn dadlau ei fod yn ganlyniad positif, oherwydd y gefnogaeth i Blaid Cymru o fewn yr etholaethau sydd yn cael eu targedu ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol. Yn ogystal ac ennill mwyafrif yn Arfon/Caernarfon, Meirion-Dwyfor, a Dinefwr, llwyddodd y Blaid i "gipio" Mon, Ceredigion, Conwy, Gorllewin Caerfyrddin a Llanelli. Petai'r canlyniad yma yn cael ei ail-adrodd yn yr Etholiad Cyffredinol, fe fyddai'n fuddugoliaeth ysgubol i Blaid Cymru.
Felly o gymharu canlyniadau neithiwr gyda chanlyniadau'r Etholiad Cyffredinol (Prydeinig) diwethaf, mae'n un positif. Ond a yw honno'n gymhariaeth ystyrlon? Os ydym ni'n cymharu canlyniadau neithiwr gyda chanlyniadau Etholiad Cynulliad 2007, Gorllewin Caerfyrddin yw'r unig fuddugoliaeth newydd. Hynny yw, mae Plaid Cymru eisoes yn cynrychioli pob un o'r etholaethau eraill yn y Cynulliad. O gymharu neithiwr gyda 2007, felly, "dal" 7 etholaeth, a "cipio" 1 a wnaeth Plaid Cymru, nid "cipio" 5.
Mae'r gwahaniaeth yn un pwysig. Mae patrymau pleidleisio Etholiadau Ewrop yn dueddol o fod yn agosach at batrymau pleidleisio Etholiadau Cynulliad nac ydyn nhw at batrymau pleidleisio Etholiadau Cyffredinol. Mae'r turnout yn isel, ac mae 'na ganfyddiad ymysg rhai etholwyr nad oes arwyddocad i'r etholiad, ac felly yn gyfle i fwrw pleidlais brotest - dwy ffactor sydd wedi ffafrio Plaid Cymru yn draddodiadol.
Wrth gwrs, mae'n bur debygol y bydd Plaid Cymru yn cynyddu nifer ei Haelodau Seneddol yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Ond a fydd 'na 7 pleidiwr yn mynd i San Steffan? Go brin. O ddilyn canlyniadau neithiwr, dwi'n dyfalu y canlynol
Arfon - Dal yn hawdd
Meirion Dwyfor - Dal yn gymharol hawdd
Dinefwr - Dal yn hawdd
Ceredigion - Cipio
Llanelli - Cipio, o fwyafrif bychan
Gorllewin Caerfyrddin - Colli, o fwyafrif bychan
Mon - Colli, o fwyafrif bychan
Gobeithio mod i'n anghywir, ond fe gawn ni weld.
#plaidcymru
11.5.09
Buddugoliaeth i bwy?
Diddorol oedd darllen un o negesuon diweddaraf Gwilym Euros. Dwi'n dueddol o feddwl am Alwyn Gruffydd fel spin doctor Llais Gwynedd, a Gwilym fel yr arweinydd answyddogol. Ond mae'n amlwg fod gan Gwilym ddawn wrth blygu'r gwirionedd.
Mae'r neges yn ymwneud a chyfansoddiad Cyngor Gwynedd. Yn y cyfansoddiad, gall aelodau cyffredin y Cyngor ofyn i benderfyniad sydd wedi ei wneud mewn pwyllgor, neu yn y Bwrdd, gael ei drafod ger bron y Cyngor llawn. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid cael 15 aelod i arwyddo deiseb. Mae rhai ohonom ni yn teimlo bod yr arf yma yn cael ei gam-ddefnyddio, gyda penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud yn draws-bleidiol, a thrwy proses hir o bwyllgor a gweithgor, yn cael eu gohirio am fisoedd er mwyn i rai aelodau o'r Cyngor gael defnyddio'r siambr i chwarae i'r galeri.
O'r herwydd, fe ddaeth cynnig ger bron y Cyngor i ddiwygio'r cyfansoddiad, fel bod angen 25 o aelodau i arwyddo'r ddeiseb, yn hytrach na 15. A dyma lle mae neges Gwilym Euros yn mynd yn ddiddorol. Yn ol Gwilym, roedd Plaid Cymru yn cefnogi codi'r nifer i 25, a Llais Gwynedd yn gwrthwynebu hynny. "Collwyd y bleidlais" meddai Gwilym, a hynny wedi "rhwyg" arall yn rhengoedd y Blaid.
Y gwir ydi mai Seimon Glyn, cynghorydd Llais Gwynedd, a gyflwynodd y cynnig i godi'r nifer i 25. Cafwyd gwelliant gan y Democratiaid Rhyddfrydol a oedd yn galw am godi'r nifer i 21, ac fe gefnogwyd y gwelliant hwnw gan Blaid Cymru. Pleidleisodd mwyafrif o aelodau'r Cyngor i godi'r nifer i 21, sef safbwynt Plaid Cymru. Llais Gwynedd, a oedd yn dadlau dros gadw'r nifer ar 15 a gollodd y bleidlais, felly.
Fe fu ail-bleidlais, a hynny ar welliant pellach a oedd yn ymwneud a rol y swyddogion yn y broses. Ar y mater yma, cafwyd rhaniad yn rhengoedd Plaid Cymru, ac fe bleidleisiodd nifer o aelodau yn groes i'r arweinyddiaeth. Ond eilbeth oedd y mater yma. Ar y mater pwysig - codi'r nifer o aelodau a oedd eu hangen ar gyfer galw mater i fyny - safbwynt Plaid Cymru a gariodd, a safbwynt Llais Gwynedd a gollodd. Ond nid dyna'r argraff sydd yn cael ei roi gan flog Gwilym Euros.
5.5.09
Dwi'n gegrwth
Dwi newydd gael gwahoddiad i ddigwyddiad "Dathlu 10 Mlynedd o Ddatganoli" yn Abertawe, wedi ei drefnu gan Blaid Cymru. A pwy, meddech chi, ydi'r siaradwr gwadd ar y noson arbennig hon? Neb llai na........Gilian Elisa.
8.4.09
Dwi wedi cyrraedd
Yn dilyn fy mlogiad dwy-ieithog, dwi wedi cael y fraint a'r anrhydedd o gael fy nghynnwys yn Dayley Dozen Iain Dale. Enwogrwydd o'r diwedd.
Gyda llaw, fe ddywedais yn y neges olaf mai dyna oedd y tro cyntaf i mi flogio yn Saesneg. Anwiredd oedd hyn - fe ysgrifenais y canlynol nol ym Mawrth llynedd.
7.4.09
Cynhadledd y Blaid - NEGES DDWY-IEITHOG!!!
BILINGUAL POSTING - SCROLL DOWN TO READ THE SECTION WRITTEN IN THE LANGUAGE OF BABYLON
Fe fum i lawr yng nghynhadledd Plaid Cymru dydd Gwener diwethaf, yn bennaf er mwyn cymeryd rhan mewn trafodaeth ar flogiau gwleidyddol yng Nghymru. Y panelwyr eraill oedd John Dixon, Chanticleer, Heledd Fychan, a seren y sioe, Iain Dale - gyda Bethan Jenkins AC yn cadeirio. Er bod 5 o'r 6 oedd ar y panel yn siaradwyr Cymraeg, ac er bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu, cafodd y rhan fwyaf o'r drafodaeth ei chynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Siaradodd Heledd Fychan yn bennaf (80%) drwy gyfrwng y Gymraeg, ac fe lynnais i at y Gymraeg tan y cwestiwn olaf un - a hynny oherwydd bod y cyfieithydd wedi mynd i baratoi at sesiwn arall.
Yn ystod y drafodaeth, fe gododd y cwestiwn o flogio yn ddwy-ieithog. Fi yw'r unig un sydd yn blogio yn y Gymraeg yn unig, a hynny oherwydd fy mod i'n teimlo cyfrifoldeb gwleidyddol i wneud hynny (er dwi'n cydymdeimlo gyda sefyllfa Heledd Fychan a John Dixon, sydd yn ymgeiswyr seneddol, ac felly yn gorfod cyrraedd pob un o'u hetholwyr). Fe ddisgrifiais fy hun - gyda fy nhafod yn fy moch - fel "cenedlaetholwr diwylliannol, hen fasiwn a chul", a dwi'n cydnabod yn agored mod i'n cael anhawster gyda'r cysyniad o ddwy-ieithrwydd. Ond fe ddywedodd Iain Dale ei fod wedi mynd i edrych ar flogiau ei gyd-banelwyr i gyd cyn dydd gwener, ac ei fod yn siomedig nad oedd wedi gallu deall fy negeseuon i. Felly, yn arbennig ar gyfer Iain, dyma neges ddwy-ieithog.
I enjoyed myself at the Spring Conference last Friday, and I thought that the panel on blogging was very enjoyable - certainly more fun than the sessions on Local Government and the EU that I attended. And the question about bi-lingual blogging has impelled me to write this - my first, and probably only - English language posting on the blog.
During the panel discussion, I described myself as a narrow-minded and old-fashioned cultural nationalist. Whilst this was slightly tongue-in-cheek, there is an element of truth in what I said. I am a member of Plaid Cymru for one reason above all others - to work towards the survival of this small and fragile language that I speak with my parents, my partner, and my children. This doesn't mean that I am a one-note politician; far from it - I have views on every political matter under the sun. But while I believe, for instance, in saving the whales or protecting civil liberties, I also realise that there are a lot of people out there who are already fighting for these causes. Welsh speakers are a minority group within a tiny region of a global power. My personal feeling is that if I don't put the language at the top of my political agenda, then who will?
Which brings us to bi-lingualism. Since devolution, there has developed a cosy political consensus around the language. The narrative from the Assembly since 2001 (the last census) goes like this - the number of people speaking Welsh has risen for the first time in 50 years, therefore everything is fine.
The problem with this outlook is that by focusing on the net increase in Welsh speakers, we take a simplistic, reductionist view of the situation. What has actually happened is that the proportion of Welsh speakers living in the traditional Welsh-language communities (Gwynedd, Anglesey, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, parts of Denbighshire, Conwy and Pembroke) has declined in the period 1991 - 2001, but that more young children have been taught the language in the traditionally English-speaking areas of the South-East.
So, while there has been an overall rise in the number of Welsh speakers, there has been a decline in the numbers where it really matters. We know from any number of studies that for a language to survive, it needs to be spoken as a community language. The numbers who have learnt Welsh in the past 10 to 20 years are primarily children, who are learning to speak Welsh as a second language. Some of these children will adopt Welsh as a commonly used language in adulthood - as a first language in some cases - and a minority of them will pass it on to their own children. But for the majority of them, Welsh will remain a second language for the remainder of their lives.
Which brings me to my trenchant position on bi-lingualism. Bi-lingualism, as a policy principle, best serves those Welsh speakers who live outside the traditional Welsh-speaking areas. But it does not serve the interests of those people who are already livung their lives primarily through the medium of Welsh. In many communities, the rhetoric of bi-lingualism serves to undermine Welsh. In the same way as it elevates Welsh in Cardiff or Caerffili, it elevates English in Caernarfon or Tregaron.
I firmly believe that bi-lingualism should be the norm for most of Wales. But I also believe that if the Welsh language is to have any hope of survival, then we need to accept that there are places and situations that should be allowed to opt-out of bi-lingualism; places where Welsh is given primacy over English. Some of these spaces, we can carve out for ourselves, which is why I try and use Welsh wherever it is possible, including this blog (and certainly when addressing the Plaid Cymru conference). But in other areas, we need a government policy that recognises the differing linguistic needs of different communites. This is an unpopular position, within Plaid Cymru as much as any other party, but I think that it is the only way that we can ensure the language's survival.
2.4.09
Blogio dros y Blaid
Dwi wedi fy ngwahodd i fynychu cyfarfod yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru yfory, i siarad am ddylanwad blogio a thechnoleg newydd ar wleidyddiaeth Cymru. Sydd yn golygu y bydd rhaid i mi feddwl am rhywbeth deallus i'w ddweud. Dwi ddim yn flogiwr arbennig o doreithiog, ac yn sicr dwi ddim yn credu mod i'n gwneud y defnydd gorau o'r dechnoleg. Ond dwi yn gwerthfawrogi y dull y mae'r blogosffer yn prysur lenwi y twll sydd yn cael ei adael gan farwolaeth araf y wasg leol.
Yng nghyd-destun Cyngor Gwynedd, dwi'n credu bod blogiau Gwilym Euros Roberts, Blogmenai, a Hen Rech Flin - ynghyd a'r blog yma - yn cynnig fforwm hynod o ddefnyddiol i drafod gwleidyddiaeth y sir, ac yn rhoi darlun llawer iawn mwy cyflawn na'r hyn sydd yn cael ei gynnig yn y papurau lleol, neu ar y BBC.
Neu efallai bod "darlun" yn air amhriodol, gan ei fod yn awgrymu ein bod ni gweld y tirlun cyfan o'n blaenau. Beth mae'r llond dwrn yma o flogiau yn ei wneud ydi rhoi sawl cipolwg sydyn - a cwbl unochrog - o'r hyn sydd yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Gwynedd. Ond mae'n llawer iawn mwy diddorol, a dadlennol, na'r hyn y mae'r cyfryngau "swyddogol" yn eu ddweud am y Cyngor.
26.3.09
Chwilio am raglenni a ffilmiau dogfen da
Dwi'n llawn ymwybodol mai materion gwleidyddol (a gwleidyddiaeth Gwynedd yn fwy na dim arall) sydd wedi teyrnasu ar y blog yma ers tro. Ond y bwriad gwreiddiol oedd y byddai'n le i mi drin a thrafod pethau amrywiol, nad oedd yn addas ar gyfer tudalennau Barn. Un o'r pethau eraill sydd wedi mynd a thipyn go lew o fy amser yn ddiweddar yw fy ngwaith yn y Brifysgol. Dwi'n darlithio ar y cyfryngau yno, ac yn ceisio addasu nifer o gyrsiau sydd wedi bod yn rhedeg o dan oruwchwyliaeth fy rhagflaenydd, Eifion Lloyd Jones.
Ar ol yr haf, fe fydda i'n dysgu cwrs o'r enw "Drama a Dogfen" sydd yn edrych ar ddramau teledu, rhaglenni dogfen, a ffilmiau dogfen. Bob wythnos, bydd y myfyrwyr yn gwylio rhaglen, rhaglenni, neu ffilm sydd yn taflu goleuni ar rhyw agwedd arbennig o'r maes, ac fe fydd gofyn iddyn nhw ddadansoddi'r "testun" hwnw, a chyflwyno ei dadansoddiad i weddill y grwp.
Ar y funud, dwi wrthi'n trio llunio rhestr o destunau addas - sydd yn esgus perffaith i dreulio amser prin yn gwylio'r teledu. Fe ges i wledd neithiwr, wrth wylio ffilm ddogfen wirioneddol wych ynglyn ac ymgyrch wleidyddol i ethol maer i ddinas Newark, New Jersey, nol yn 2002. Street Fight oedd enw'r ffilm, ac mae'n dilyn Cory Booker - dyn ifanc hynod o ddawnus a charismataidd - wrth iddo geisio trechu maer llwgr y ddinas, Sharpe James.
Ond i gwblhau'r cwrs, dwi angen dod o hyd i ddeunydd i lenwi tua 12 wythnos o ddangosiadau. Dwi'n bwriadu dangos mwy nac un rhaglen deledu ochr-yn-ochr, yn y gobaith y bydd modd i mi adlewyrchu sawl agwedd o'r un pwnc. Dwi'n gwybod bod un neu ddau o bobl yn darllen y blog yma sydd a diddordeb yn y maes, felly os oes gan unrhyw un awgrymiadau, mae croeso i chi adael sylw. Ond mae'r person cyntaf i awgrymu Michael Moore yn cael........ wel, nid gwobr, beth bynnag.
23.3.09
Llais Gwynedd a thrigolion Bangor
Difyr oedd clywed bod Llais Gwynedd eisoes wedi cysylltu a threfnwyr protest ym Mangor, i drafod cyd-weithio. Pam? Wel mae trefnwyr y brotest yn hawlio bod dinas Bangor yn cael cam gan Gyngor Gwynedd, a bod y Cyngor yn defnyddio'r ddinas fel "cash machine" i ariannu gweddill y sir, tra'n gwrthod buddsoddi yno. Ar y llaw arall, mae Llais Gwynedd yn hawlio bod Cyngor Gwynedd yn gwario llawer iawn gormod o arian yn ardal Bangor, a bod y rhan hon o'r sir yn derbyn lefel uchel o fuddsoddiad, a hynny ar draul gweddill y sir. Felly mae'n ymddangos bod Llais Gwynedd yn cynnig helpu grwp sydd yn ardell syniadau sydd i'r gwrthwyneb llwyr i'w syniadau hwy fel plaid. Rhyfedd o fyd.
13.3.09
Ad-drefnu ysgolion cynradd
Mae'r broses o edrych eto ar ad-drefnu ysgolion cynradd yng Ngwynedd yn mynd rhagddi yn brysur. Bu gweithgor wrthi yn edrych ar yr holl fater eto, gan gyfarfod yn gyson ers yr haf. Fel aelod o'r pwyllgor craffu Plant a Phobl Ifanc, dwi'n trafod y broses hon yn achlysurol gyda rhai o aelodau'r gweithgor, a dwi'n hapus bod y Cyngor yn symyd ymlaen mewn dull cadarnhaol a blaengar. Nid fi yw'r unig un sydd yn credu hyn - mae hyd yn oed Cymdeithas yr Iaith, sydd wedi arddel safbwynt gwrthwynebus iawn yn y gorffennol, wedi croesawu'r cyfeiriad newydd.
Ond nid pawb sy'n hapus, wrth reswm. Roedd cyfarfod arbennig wedi ei drefnu ddoe, er mwyn rhannu gwybodaeth ynglyn a'r cynllun newydd. Oherwydd ymrwymiadau eraill, doedd dim modd i mi fod yn bresennol, ond mae hanes y cyfarfod yn cael ei adrodd ar flog Gwilym Euros Roberts, arweinydd answyddogol Llais Gwynedd.
Mae Gwilym yn gwneud nifer o gyhuddiadau personol yn erbyn ei gyd-gynghorwyr, a dwi ddim yn bwriadu trafod y rheini. Ond mae'n ddiddorol ei fod yn dewis beirniadu'r modd y mae Gwynedd wedi mynd ati i ail-edrych ar yr ad-drefnu. Mae Gwilym yn gwrthwynebu'r argymellion sydd wedi eu gwneud gan y gweithgor, gan fynnu eu bod yn rhagdybio o blaid cau ysgolion, ac eu bod yn cael eu cyflwyno mewn dull "un ochrog ac un llygeidiog". Ac wrth gwrs, Plaid Cymru sydd yn cael y bai am hyn.
Yr hyn mae Gwilym Euros yn dewis peidio ei grybwyll yw'r ffaith bod aelodau o bob plaid wedi bod yn rhan o lunio'r argymellion newydd - gan gynnwys Llais Gwynedd. I ddweud y gwir, mae nifer o aelodau'r gweithgor wedi tynnu sylw at y cyfraniad pwysig y mae Seimon Glyn (LlG) wedi ei wneud i'r ddogfen derfynnol.
Fel y dywedais eisoes, doeddwn i ddim yn y cyfarfod ddoe, felly dwn i ddim beth oedd gan Seimon i'w ddweud ar y mater. Sgwn i os ydi o'n cytuno efo dehongliad Gwilym Euros, ac felly yn gwrthod cefnogi dogfen y mae wedi bod yn rhan bwysig o'i drafftio? Ynteu ydi hi'n bryd i ni ddechrau son am "ranniadau" o fewn Llais Gwynedd?
3.3.09
Trafferthion Cyngor Abertawe
Mae 'na dipyn wedi ei sgwenu ynglyn a phenderfyniad Cyngor Gwynedd i gau cartref henoed Bryn Llewelyn ar flogiau Blogmenai, Hen Rech Flin a'r dihafal Gwilym Euros Roberts dros y dyddiau dwytha. Dwi ddim am i'r drafodaeth rygnu yn ei blaen, gan fy mod yn credu fod llawer iawn o beth sydd wedi cael ei sgwenu yn creu darlun gwyrdroedig o'r penderfyniad i gau, a hynny am resymau gwleidyddol bwriadol.
Serch hynny, dwi am dynnu sylw at broblemau Cyngor Abertawe, sydd - yn ol y BBC - yn beryglus o agos at golli rheolaeth dros ei gwasanaethau cyhoeddus. Cyhoeddwyd adroddiad yn beirniadu'r Cyngor rhyw 18 mis yn ol, ac mae'r Cynulliad o'r farn bod Abertawe wedi methu a gwneud digon i ddatrys y problemau a nodwyd yn yr adroddiad hwnw. Ar hyn o bryd, mae Gwynedd yn yr union sefyllfa yr oedd Abertawe ynddi hi 18 mis yn ol. Rydym ni wedi cael ein beirniadu yn hallt gan asiantaeth o'r Cynulliad, a rydym ni wedi cael rhybudd bod angen gwella ein gwasanaethau cymdeithasol, neu golli rheolaeth ohonynt.
Fy ngobaith gwirioneddol i yw na fyddwn ni'n mynd i lawr yr un trywydd ac Abertawe. Ymhen 18 mis, rwy'n gobeithio bydd y Cynulliad yn gallu edrych ar ddarpariaeth Gwynedd, ac adrodd bod y sefyllfa wedi gwella yn sylweddol. Hon, efallai, yw'r her fwyaf sy'n ein wynebu ni fel Cyngor. Ond er mwyn cyrraedd y fan honno, mae angen i ni ymateb i'r feirniadaeth sydd wedi dod o Gaerdydd - beirniadaeth sydd wedi tynnu sylw penodol at anallu Cyngor Gwynedd i wneud penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd, megis cau cartrefi'r henoed. Petai'r Cyngor wedi pleidleisio yn erbyn cau Bryn Llewelyn wythnos dwytha, dwi'n credu yn gryf y byddai Gwynedd gam - a cham mawr - yn nes at golli rheolaeth o'i gwasanaethau cymdeithasol. A petai'r Cynulliad wedi cymeryd rheolaeth, mae'n bur debyg y byddai Bryn Llewelyn, a sawl cartref arall, yn cael ei gau gan weision sifil o Gaerdydd. Er gwaetha'r hyn y mae rhai yn ei gredu, roedd y penderfyniad i gau yn un anodd i ni gyd. Ond yn y pen draw, dyma'r unig ddewis ymarferol ar gyfer Gwynedd.
26.2.09
Diwrnod digalon - ond dim rhwyg
Dwi newydd gyrraedd adref o gyfarfod hir a blinedig o Gyngor Gwynedd. I ddweud y gwir, mae heddiw wedi siglo (ymhellach) yr ychydig ffydd sydd gen i mewn llywodraeth leol. Roedd 'na nifer o bynciau pwysig, ond cynhennus, o'n blaenau heddiw - a dwi ddim yn credu y byddai gan y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog unrhyw ddiddordeb mewn gwybod y manylion. Ond yr hyn a ddaeth yn amlwg heddiw oedd bod 'na gyfran helaeth o fy nghyd-Gynghorwyr sydd yn gwrthod cymeryd eu rol fel aelod o awdurdod lleol o ddifri. Mae 'na lawer iawn o gynghorwyr da iawn ar y Cyngor - o bob plaid (gan gynnwys Llais Gwynedd). Ond mae 'na hefyd lawer iawn o bobl sydd yn dewis anwybyddu y ffeithiau sydd yn cael eu gosod o'u blaenau - neu yn methu a deallt y ffeithiau hynny - a sydd yn gweithredu yn blwyfaidd, yn blentynaidd ac yn llethol o geidwadol. Mae'n siwr y cai fy nghyhuddo o fod yn amharchus wrth ddweud hyn, ond mae hi'n amhosib i mi beidio. Er bod llai na blwyddyn ers i mi gael fy ethol, dwi yn anobeithio ynglyn a dyfodol y Cyngor.
Yr unig beth cadarnhaol sydd gen i'w ddweud yw na wnaeth y rhwyg yn rhengoedd Plaid Cymru yr oedd Gwilym Euros Roberts yn ei darogan ymddangos. Oedd, roedd un pleidlais yn arbennig o agos - 28 i 29. Ond dim ond 3 aelod o Blaid Cymru wnaeth bleidleisio yn erbyn yr arweinyddiaeth, gyda 4 arall yn ymatal eu pleidlais. Dwi'n tybio y byddwn ni'n disgwyl yn eithaf hir cyn y gwelwn ni dystiolaeth bod rhwyg Gwilym Euros yn bodoli go iawn.
6.2.09
Carchar i Gaernarfon
Roeddwn i'n teithio o Gaerdydd ar y tren prynhawn ddoe, ac felly chlywais i ddim mo'r newyddion tan i mi fynd i mewn i dacsi ym Mangor. Dwi ddim yn siwr os oedd y gyrrwr yn disgwyl cael y fath ymateb i'r newyddion bod carchar newydd am gael ei adeiladu yng Nghaernarfon, ond dwi yn un sydd yn llawenhau yn arw. Fel aelod o Gyngor Gwynedd, mae hyn yn newyddion gwych i'r sir, a hynny mewn cyfnod o galedi economaidd. Ac fel cenedlaetholwr, dwi'n hynod falch o weld buddsoddiad sylweddol yng Nghaernarfon, gan fod y dref hon mor hanfodol i ddyfodol y Gymraeg.
Ond mae rhai wedi mynegi pryderon ynglyn a chodi'r carchar. Mae Hen Rech Flin yn poeni y bydd swyddi newydd yn dod i Gaernarfon, ond y bydd gweithwyr newydd yn dod i'r dref hefyd, i lenwi'r swyddi hynny. Ac mae'n bwynt dilys - gall twf economaidd sydd yn digwydd yn rhy sydyn fod yn niweidiol i'r ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Dyma wers y Chwyldro Diwydiannol, mewn sawl ystyr. Tyfodd cymoedd y de-ddwyrain ar raddfa aruthrol, ac mewn cyfnod cymharol fyr, a bu'n rhaid mewnforio gweithlu o weddill Prydain i gynnal y glofeydd a'r gweithfeydd dur. Tyfodd y chwareli ar raddfa llawer iawn llai. Roedd chwareli Gwynedd yn fodd o gadw rhan helaeth o weithwyr y gogledd-orllewin mewn gwaith, ond doedden nhw ddim mor fawr nes bod rhaid mewnforio miloedd o bobl o'r tu allan i'w cynnal. Mae'n un o'r ffactorau sydd wedi golygu bod y Gymraeg yn dal yn iaith fyw yng Ngwynedd, ond nid yng Ngwent.
Beth bynnag am hynny, dwi'n dal i feddwl bod y carchar yn debygol o gael effaith bositif ar Wynedd a Chaernarfon. Mae 'na ddau wahanol fath o swyddi sydd yn cael eu creu gan y carchar. Fe fydd y swp cyntaf yn swyddi tymor byr, ar gyfer contractwyr fydd yn codi'r carchar. Drwg swyddi fel hyn yw bod yn rhaid rhoi'r gwaith allan i dendr, a'r cwmni sydd yn ennill y tendr sydd yn penderfynnu pwy sydd yn cael y swyddi. Fel y gwelon ni yn Swydd Lincoln wythnos dwytha, dyw'r cwmniau hyn ddim yn poeni rhyw lawer am gyflogi pobl leol - cadw costau'r gweithlu yn isel yw eu blaenoriaeth. Yn anffodus, does dim llawer y gall gwleidyddion ei wneud i ddatrys hyn, gan fod y broses dendro yn dod o dan rheolau'r Undeb Ewropeaidd. Mae 'na bosibilrwydd, felly, y bydd 'na fewnfudo i Gaernarfon tra bo'r carchar yn cael ei godi - a dwi ddim yn gwybod os y gallwn ni wneud unrhyw beth i rwystro hyn. Ond gwaith tymor byr fydd y gwaith yma, ac mae'n bur debyg y bydd mwyafrif llethol y gweithwyr yma yn gadael yr ardal gyda eu cyflogwr, gan symyd ymlaen at y cynllun mawr nesaf.
Y swyddi sydd o bwys gwirioneddol i'r ardal yw'r rhai parhaol - swyddogion y carchar, a'r staff sydd yn eu cefnogi. Y gweithwyr hyn fydd yn ymgartrefu yng Nghaernarfon yn barhaol, ac yn dod yn rhan o gymuned y dref. A'r her i ni yw sicrhau bydd y rhan fwyaf o'r rhain yn Gymry Cymraeg. Gwasanaeth cyhoeddus yw'r Carchardai, ac mae hyn yn golygu fod gan y llywodraeth lawer iawn mwy o ddylanwad dros bwy sydd yn cael eu cyflogi i wneud y swyddi hyn.
Fe fydd yn rhaid pwyso ar y llywodraeth i wneud yn siwr bod Carchar Caernarfon yn sefydliad cyhoeddus sydd yn mabwysiadu polisi iaith blaengar, er mwyn gwarchod hunaniaeth tref Caernarfon. Does gan y Cynulliad ddim rheolaeth dros gyfraith droseddol yng Nghymru, gan nad yw'n faes sydd wedi ei ddatganoli. Ond mae'r Swyddfa Gartref wedi mabwysiadu polisi iaith Gymraeg sydd yn gosod canllawiau ar gyfer y "gwasanaethau" y maent yn eu darparu yng Nghymru o dan Ddeddf Iaith 1993 - gan gynnwys carchardai. Felly fe fydd y carchar yng Nghaernarfon yn gorfod cydymffurfio ac unrhyw Ddeddf Iaith newydd a ddaw o'r Cynulliad. Fydd y ddeddf ddim yn rhoi'r hawl i lywodraeth osod cwota uniongyrchol ar gyfer cyflogi siaradwyr Cymraeg mewn carchardai, ond efallai - gyda ychydig o ddyfeisgarwch - y bydd modd defnyddio'r Ddeddf Iaith newydd i wneud hyn yn anuniongyrchol.
3.2.09
Barn Chwefror
Mae rhifyn Chwefror Barn yn y siopau erbyn hyn. Ond yn bwysicach i chi sydd yn darllen hwn (a sy'n ei ddarllen ar Blogiadur) mae nifer o'r erthyglau i'w canfod ar y wefan hefyd - gan gynnwys llith Rhys Williams, sydd wedi codi gwrychyn Prysor a Blogmenai.
Ers lansio'r wefan newydd, dwi wedi bod yn brysur iawn efo amryw o bethau, ond o hyn ymlaen dwi'n gobeithio rhoi llawer iawn mwy o fy amser i Barn 2.0. Dwi am gychwyn drwy geisio trwisio rhai o'r man wallau sydd yn codi o dro i dro. Ond wedi gwneud hynny, mae'n fwriad gennym ni fel cwmni i ddatblygu'r wefan, gan ei diweddaru yn amlach, cyhoeddi rhagor o erthyglau, a chyflwyno nifer o nodweddion cwbl newydd. Os oes gennych chi syniadau ynglyn a sut i wella'r wefan, yna gyrrwch neges i cylchgrawnbarn[malwen]gmail.com
15.1.09
Cyng. Louise Hughes
Mae'n ymddangos fo rhywrai wedi cam ddeall byrdwn fy neges olaf (gweler y sylwadau). Tydw i ddim am eiliad yn awgrymu bod Louise Hughes yn "bigmouth", a dwi'n cael trafferth gweld sut bod fy neges yn awgrymu hynny. Y pwynt sylfaenol yr oeddwn i'n ei wneud oedd bod Louise yn ymddangos - i mi o leiaf - i fod yn rhywun sydd yn dod o gefndir gwleidyddol gwahanol iawn i rai o'i chyd-aelodau. Fe wyddom ni gyd fod Owain Williams yn rhywun sydd wedi gweithredu yn filwrol dros ein cenedl, ac rwy'n edmygu ei ymrodiad i Gymru a'r Gymraeg. Gwyddom hefyd fo Simon Glyn yn gyfriol am sbarduno trafodaeth hanfool bwysig ynglyn a dylanwad y mewnlifad ar y Gymraeg; a does neb yn amau cenedlaetholdeb Alwyn Gruffydd. Doeddwn i ddim yn sicr a oedd Louise Hughes yn rhannu cenedlaetholdeb tanbaid y tri dyn yma.
Nid beirniadaeth yw hyn - dwi'n nodi bod amrywiaeth barn yn ran annatod o bob plaid wleidyddol, ac fe fyddwn i'n mynd cyn belled a dweud ei fod yn rinwedd mewn plaid. Plaid farw yw un sydd yn methu a chynnwys amrywiaeth o safbwyntiau o fewn ei rhengoedd.
Serch hynny, fe wnes i un cam a Lousie. Fe gymerais i'n ganiataol mai mewnfudwraig yw hi. Nid yw hynny yn wir, ac fe hoffwn gywiro'r cangymeriad hwnw. Hoffwn nodi hefyd nad oes gen i fymrun o elyniaeth tuag at fewnfudwyr. Wedi'r cyfan, mae nifer o aelodau Plaid Cymru - gan gynnwys o leiaf dau o'n cynghorwyr yng Ngwynedd - yn Saeson sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru. Gobeithio bod hyn yn gwneud fy safbwynt yn gwbl eglur i bawb.