28.1.08

Menter newydd

Efallai mai fi yw'r person olaf sydd angen blog, a finnau'n meddu ar golofn fisol yn Barn. Ond er fod lle i bob math o erthyglau yn y cylchgrawn, mae'n rhaid i mi fod yn ymwybodol mai dim ond hyn-a-hyn o dudalennau sydd ym mhob rhifyn, a bod trafod gwleidyddiaeth, materion cyfoes a'r celfyddydau yn cymeryd blaenoriaeth dros rai pethau eraill.

A diwylliant poblogaidd yw'r peth sydd yn mynd a fy mryd i yn y fan hyn. Wrth gwrs, mae diwylliant poblogaidd yn cael ei drafod yn helaeth yn y cylchgrawn, ond cyfrifoldeb pobl eraill yw pasio barn ar faesydd megis teledu a cherddoriaeth. Dwi ddim yn cael y cyfle i ddweud fy marn ar yr hyn dwi'n ei wylio neu yn wrando arno. Ystyriaeth arall yw bod Barn yn ymdrin yn bennaf a diwylliant Cymru. Ac eithrio colofn ffilm fyr-hoedlog, mae'r drafodaeth o ddiwylliant poblogaidd wedi ei gyfyngu i'r hyn sy'n cael ei gynhyrchu yr ochr hon i Glawdd Offa, neu sy'n cael ei gynhyrchu gan Gymry alltud. Ac mi ydw i, fel pob un ohonom ni (ac eithrio Emyr Llewelyn, efallai) yn gwylio, yn gwrando, ac yn mwynhau, diwylliant poblogaidd o dramor. Ac o un wlad dramor yn arbennig.....

Sydd yn dod a ni at fy ngwendid pennaf. Dwi'n treulio llawer iawn, iawn o amser yn gloddesta ar ddiwylliant poblogaidd Americanaidd, y bwci-bo mawr o ochr draw Mor yr Iwerydd. I ddweud y gwir, dwi'n addoli rhai agweddau o ddiwylliant poblogaidd America. A felly mae'r blog yma yn gyfle i mi gael traethu am The Wire, comics Marvel a recordiau The Decemberists, a pethau isel-ael eraill. A dwi'n eithaf sicr na chai'r cyfle i wneud hynny yn nhudalennau Barn.

1 comment:

Rhys Wynne said...

Croeso i'r rhithfro. Edrych ymlaen i ddarllen dy flog. Mantais arall blogio yw:
1. Galli di flogio'n amlach nag unwaith y mis (gobeithio os dio'n un da!)
2. Galli di ymateb i sylwadau darllenwyr dy gofnod, ac mae rhwyunyn fwy tebygol o ymateb trwy adael sylw blog na thrwy ysgrifennu llythyr neu sgwennu e-bost hyd yn oed.