15.3.10

Plaid Cymru a'r LCO iaith

Ar ei ffrwd Twitter, gofynnodd Rhys Llwyd pan nad oes mwy o aelodau amlwg Plaid Cymru wedi arwyddo deiseb Cymdeithas yr Iaith yn galw am ail-wampio'r LCO iaith. Fy ateb syml i oedd y bod modd i genedlaetholwr wrthwynebu galwad y Gymdeithas am resymau egwyddorol. Arweiniodd hynny yn anorfod at drafodaeth, ond gan nad ydw i'n un sydd yn gallu defnyddio un gair pan y galla i ddefnyddio dwsin, dwi ddim yn credu bod modd i mi amlinellu fy nadl mewn 140 llythyren.

I fod yn onest, nid ochri gyda Phlaid Cymru ydw i yn y fan hyn. Does gen i ddim syniad pam nad oes mwy o aelodau amlwg y blaid wedi arwyddo'r ddeiseb. Ond dwi'n berffaith eglur ynglyn a pham nad ydw i wedi gwneud hynny. Tydw i ddim yn credu ei bod hi'n ddefnyddiol na'n synhwyrol trafod dyfodol yr iaith Gymraeg yn nhermau "hawliau ieithyddol". Tra 'roeddwn i'n olygydd Barn, fe amlinellais i fy safbwynt fwy nac unwaith - dyma engrheifftiau o Fawrth 2009 a Hydref 2008

Craidd fy nadl i yw bod y Gymdeithas yn trafod "hawliau ieithyddol" mewn modd sydd yn gwbl wrthun i mi. Wrth gwrs y dylai fod gan unigiolyn yr hawl i siarad Cymraeg, ond yn yr un modd, mae gan unigolyn arall yr hawl i beidio ai ateb - neu i'w ateb yn y Saesneg, os y myn. Dyna yw natur hawliau dynol; maent yn bethau sydd yn perthyn i'r unigolyn, a nid i ddiwylliant neu gymuned. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod gan bob un ohonom ni'r hawl i siarad Cymraeg, ac yr hawl i gael ateb yn y Gymraeg.

I mi mae'r peth yn nonsens. Nid oes gan y Sais yr "hawl" hon i'r iaith. Fe allai Gordon Brown ei hun gerdded i mewn i fwyty Tseiniaidd yn Soho, ac os nad yw'r waiter yn dymuno ei ateb yn Saesneg, yna does dim oll y gall hyd yn oed Prif Weinidog Prydain ei wneud i newid hynny.

Nawr, fe allwn ni basio cyfreithiau sydd yn rhoi dyletswydd cyfreithiol ar gwmniau i gynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i'w chwsmeriaid. A coeliwch neu beidio, dwi'n digwydd cefnogi'r egwyddor hwnw. Ond nid creu hawl i'r Gymraeg ydi peth felly. Creu system o reoleiddio busnesau er lles y gymuned yw hynny, fel sydd eisoes yn digwydd mewn sawl maes arall.

Ai hollti blew ydi hyn? Efallai wir. Ond mae hawliau dynol yn hanfodol bwysig i mi - bron cyn bwysiced a fy nghenedlaetholdeb. A dyna pam fy mod i'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni gyd yn eglur ynglyn a beth yn union ydi ystyr hawl dynol. Bwriad sylfaenol hawliau dynol yw gwarchod yr unigolyn yn erbyn gormes - boed hynny yn ormes y wladwriaeth neu ormes y mwyafrif. Unwaith yr ydym ni'n rhoi "hawl" i un garfan o bobl orchymyn unigolyn i weithredu mewn ffordd benodol, rydym ni'n tanseilio'r egwyddor cwbl hanfodol hwnw. Ymestynwch allu y llywodraeth i ymyrryd ym myd busnes ar bob cyfrif, ond nid drwy herwgipio a chamddefnyddio ieithwedd hawliau dynol y mae gwneud hynny.