28.8.08

Teitlau agoriadol The Kingdom

Fues i'n gwylio The Kingdom, ffilm action am Sawdia Arabia neithiwr. Digon arwynebol oedd y ffilm ei hun, ond roedd y teitlau agoriadol yn wych. Fe fum i'n gyfarwyddwr rhaglenni teledu ffeithiol am 7 mlynedd cyn dechrau efo Barn, a dwi'n dal i wneud gwaith achlysurol yn cyfarwyddo. Ar raglenni hanes y bum i'n gweithio am flynyddoedd, genre sydd wedi newid yn aruthrol yn ddiweddar. Ar ol degawdau o wneud rhaglenni mewn un ffordd benodol - talking heads/deunydd archif neu ail-greu dramatig/lincs gan gyflwynydd - mae'r diwydiant teledu wedi newid y ffordd y mae'n trafod hanes. Mae llawer iawn o'r newid yma wedi ymwneud a strwythr a fformat rhaglenni - naratif personol yn null Who do you think you are?, neu roi pobl gyffredin mewn sefyllfa hanesyddol, e.e. 1940s House - ond mae newidiadau technegol wedi golygu bod rhagor o ddefnydd yn cael ei wneud o graffeg cyfrifiadurol. Erbyn hyn, mae graffeg o ansawdd uchel iawn yn rhywbeth sydd o fewn cyrraedd cynhyrchwyr teledu - hyd yn oed y rhai sydd yn gweithio o fewn cyllidebau S4C. Ac mae pwysau ar gyfarwyddwyr rhaglenni hanes i gynnwys elfennau graffeg cryf.
Gallwch wylio teitlau agoriadol The Kingdom yn y fan yma. Mae 'na gyllideb Hollywood wedi talu am hwn, wrth reswm. Ond yn ogystal a chyllideb sylweddol, mae 'na lot o ddychymyg, dyfeisgarwch a chreadigrwydd wedi mynd i mewn i'r dilyniant yma. Parhau i ostwng y gwnaiff cost meddalwedd graffeg, ac o fewn dim, fe fydd y gorau o gynhyrchwyr a chyfarwyddwyr rhaglenni ffeithiol yn ei gynnwys yn eu rhaglenni. Dyma'r safon y bydd yn rhaid i gyfarwyddwyr ei gyrraedd yn fuan iawn.

27.8.08

Dail y Post

Newydd weld bod y Daily Post wedi lansio gwefan Gymraeg heddiw. O be dwi'n ei ddeallt, dyw'r papur heb dderbyn ceiniog o arian cyhoeddus i wneud hyn. Menter fasnachol yn cefnogi'r iaith yw hi, felly. Gwych o beth yw bod cwmniau mawr yn fodlon rhoi parch dyledus fel hyn i'r Gymraeg. Dwi'n dymuno pob llwyddiant i'r fenter newydd.

26.8.08

Blogio dros Blaid Cymru?

Fues i draw i edrych ar wefan Plaid Cymru gynna, a sylwi mod i yn cael fy rhestru fel un o "Flogwyr Plaid". Dwi ddim yn cofio cytuno i fod yn "Flogiwr Plaid", ond gan mod i'n cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, ella y byddai ychydig bach yn grintachlyd gwrthod. A petawn i'n gwrthod, fe fyddai'r ganran sydd yn blogio yn Gymraeg dros ein plaid genedlaethol yn syrthio yn is byth. Pam fod cymaint o flogwyr Plaid Cymru yn dewis gwneud hynny yn Saesneg, sgwn i? Ai yw'r aelodau sydd yn dal i deimlo cariad tuag at y Gymraeg yn rhy hen ffasiwn i ddeall y cysyniad o flogio? Ta ydi hyn yn adlewyrchu agwedd gyffredinol aelodau Plaid Cymru at yr iaith?
Os ydw i am fod yn un o fintai electronaidd y Blaid, mi fyswn i'n licio cael fy nisgrifio fel "Blogiwr Plaid Cymru" petai modd, os gwelwch yn dda? Dwi wedi gwrthwynebu'r ymgais amaturaidd ac anobeithiol i ail-frandio Plaid Cymru yn "Plaid" ers y cychwyn. Fel nifer fawr o ymgeiswyr eraill, fydda i wastad yn defnyddio enw llawn y blaid ar bob taflen a phoster, a gan bod gen i barch sylfaenol at yr iaith, a dymuniad i'w siarad hi mor gywir ac y gallaf, dwi ddim yn meddwl mod i erioed wedi cyfeirio at Blaid Cymru fel "Plaid". "Y Blaid" droeon, ond erioed "Plaid". Mae o'n ramadegol anghywir, heb son am fod yn ymgais dila, arwynebol, i greu rhyw fath o hollt artiffisial a'r gorffennol.
Beth bynnag, yr un peth dwi yn ei hoffi ynglyn a'r ffaith mod i'n "blogio dros Plaid" yw bod gwefan swyddogol Plaid Cymru yn cymeryd feed RSS o'r fan hyn. Felly mae popeth dwi'n ei gyhoeddi yn ymddangos ar wefan swyddogol Plaid Cymru. Sgwn i oes oes rhywun yn darllen y sylwadau cyn iddyn nhw ymddangos ar y wefan swyddogol? Taswn i'n llai cyfrifol, ac yn fwy plentynaidd, fe allwn i ddefnyddio hyn fel cyfle perffaith i gael bod yn ddireudus.............

22.8.08

Wanted

Fe wylies i Wanted neithiwr, un o ffilmiau diweddar Angelina Jolie. Addasiad o gomic gwych Mark Miller oedd hon i fod, ond ac eithrio'r chwarter awr cyntaf, doedd 'na fawr ddim o'r stori wreiddiol wedi goroesi. Yr hyn sy'n gwneud y comic yn wych yw ei ddiffyg moesoldeb. Yn y comic, mae'r dihirod wedi trechu'r arwyr unwaith ac am byth, a nhw sydd bellach yn rhedeg y byd - yn ddiarwybod i drwch y boblogaeth. Pan mae Wesley, yr arwr, yn ymuno a'r dihirod, mae'n rhedeg reiat drwy'r byd, gan ladd a phoenydio fel y mynna. Mae'n stori digon plentynaidd - mae un o'r dihirod yn ddyn wedi ei wneud o gachu - ond mae'n rhoi gwedd newydd ar y stori superhero. Wedi'r cyfan, a fyddai'r mwyafrif o bobl yn dewis troedio'r llwybr cul, o wybod bod ganddyn nhw'r grym i drechu pob awdurdod?
Yn nhraddodiad gorau Hollywood, fodd bynnag, mae'r neges greiddiol hon yn cael ei thaflu o'r neilltu, er mwyn troi'r cyfan yn ffilm action gonfensiynnol. A dyw hi ddim yn ffilm action gonfensiynnol arbennig o dda. Petai wedi ei rhyddhau ddeng mlynedd yn ol, fe fyddai wedi edrych yn eithaf arloesol. Ond erbyn hyn, rydyn ni wedi gweld y triciau gwledol a oedd yn brithio'r ffilm gannoedd o weithiau. Roedd yr holl beth wedi mynd yn chwerthinllyd erbyn y diwedd. Dwi'n argymell bod pawb yn osgoi y ffilm hon ar bob cyfri.

20.8.08

Ffarwel i Leo Abse

Doedd Leo Abse, y cyn AS Llafur a fu farw heddiw, ddim yn ddyn poblogaidd iawn ymhlith cenedlaetholwyr. Wedi'r cyfan, bu'n flaenllaw yn yr ymgyrch yn erbyn datganoli grym i Gymru nol ym 1997, a doedd ganddo fawr o ddim i'w ddweud wrth y Gymraeg (er fod ei gwmni cyfreithiol, Leo Abse and Cohen, yn hysbysebu eu gwasanaeth ar S4C erbyn hyn). Ond er fod ei agwedd tuag at Gymru a'r Gymraeg yn wrthun i mi, roedd Abse yn ddyn yr oeddwn yn ei edmygu yn fawr.
Roedd Abse yn "gymeriad gwleidyddol", ac fe fydd sawl un yn dewis ei gofio am ei ddillad fasiynnol a'i hiwmor ffraeth. Ond yr hyn y mae'n haeddu cael ei gofio amdano yw y gwaith aruthrol o bwysig y gwnaeth yn ol yn y 60au i gynyddu rhyddid yr unigolyn ym Mhrydain. Abse, yn fwy na neb arall, fu'n gyfrifol am ei gwneud hi'n gyfreithlon i ddynion gael perthynas hoyw a'u gilydd. Bu hefyd yn flaenllaw yn y frwydr i'w gwneud hi'n haws i gael ysgariad, a gweithiodd dros fwy o hawliau i blant a oedd wedi eu geni tu allan i briodas.
Cywaith yw polisi llywodraethol yn amlach na pheidio. Mae'r cyfreithiau sydd yn rheoli ein bywydau yn ffrwyth llafur gweinidogion, cadeiryddion pwyllgor, aelodau cyffredin a gweision sifil. Peth prin yw Aelod Seneddol unigol sydd yn gallu cael y maen i'r wal, heb gefnogaeth gadarn ei blaid. Ond i raddau helaeth, llwyddodd Abse i wneud hyn yng nghyd-destun cyfreithloni perthnasau hoyw. Heb ei ddycnwch a'i unplygrwydd, fe allai'r gyfraith ormesol a oedd yn gwneud perthynas hoyw yn drosedd fod wedi aros ar y llyfr statud am yn llawer iawn hirach. Beth bynnag fo'i ran yn nhrychineb refferendwm 1979, mae Leo Abse yn haeddu cael ei gofio fel arwr.

15.8.08

Georgia ac Irac

Er ei fod i ffwrdd ar ei wylia, dyw GT ddim yn gallu cadw'n glir o'i flog - a da o beth yw hynny. Heddiw, mae ganddo neges yn trafod Rwsia a Georgia, sydd yn codi cwestiwn hynod o ddifyr. Mae GT yn dadlau nad oes gan Bush a Brown le i fod yn collfarnu Rwsia am ymosod ar Georgia, oherwydd eu bod nhw wedi gwneud union yr un fath yn Irac.
Mae gen i a GT farn wahanol iawn am Irac, ond dwi yn gweld ei bwynt yn y fan hyn. Y rheswm pam yr oeddwn i yn lled-gefnogol i ryfel Irac oedd oherwydd ei fod yn fodd o ddod a democratiaeth i wlad a oedd yn cael ei llywodraethu gan unben gormesol. Dwi'n ymwrthod a'r syniad bod yn rhaid parchu sofraniaeth pob gwlad fel ei gilydd. I mi, mae sofraniaeth yn deillio o'r bobl, ac os nad yw llywodraeth yn un ddemocrataidd, yna dwi ddim yn credu fod ar unrhyw wlad arall gyfrifoldeb i barchu ei ffiniau. Hynny yw, heb atebolrwydd democrataidd, does lywodraeth ddim sofraniaeth gwerth son amdano. Gwendid mwyaf ein trefn ryngwladol ni heddiw yw'r ffaith bod cyrff fel y Cenhedloedd Unedig yn gwrthod cydnabod y ffaith hon. Dwi'n llawer mwy cysurus gyda chyrff fel yr Undeb Ewropeaidd - sydd yn mynnu bod pob aelod yn cydymffurfio a safonau hawliau dynol - na chorff fel y Cenhedloedd Unedig, sydd yn credu bod Tsieina ac America yn haeddu yr un llais mewn materion rhyngwladol.
Dadl Rwsia yw bod pobl yn Ne Osetia - sydd yn ystyried eu hunain yn Rwsiaid - yn cael eu bygwth gan y wladwriaeth Georgaidd (Sioraidd?), a bod yn rhaid i Rwsia ymyrryd er mwyn gwarchod yr unigolion hyn. O dderbyn fy nadl i ynglyn a sofraniaeth, yna mae rhywun yn gallu gweld sut y mae dadl Rwsia - a dadl GT - yn rhyw hanner ddal dwr. Ond mae'n anwybyddu'r ffaith bod Georgia yn wladwriaeth ddemocrataidd, sydd yn parchu hawliau dinasyddion lleiafrifol - megis cymuned "Rwsiaidd" De Osetia.
Dyw'r gyfundrefn lywodraethol yn Georgia ddim yn un berffaith, o bell ffordd. Ond yn dilyn "Chwyldro'r Rhosod" nol yn 2003, mae pethau wedi gwella yn sylweddol yno. I ddweud y gwir, fe fyddwn i'n dadlau bod y sefyllfa ddiweddar yn Georgia dipyn iachach na'r sefyllfa yn Rwsia, lle mae cwestiynnau difri i'w gofyn ynglyn a natur eu democratiaeth.
Felly, i fynd yn ol at sylw GT, a oes modd cymharu Rwsia yn Georgia, ac America yn Irac? Wel, mae modd cymharu unrhywbeth, ond i mi, dyw'r gymhariaeth arbennig hon ddim yn dal dwr o gwbl. I ddweud y gwir, mae hi'n gymhariaeth ben-ucha'n-isa. Yn Irac, fe ymosododd America ar wlad ormesol, mewn rhyfel a arweiniodd at gryfhau'r drefn ddemocrataidd, a gwarchod hawliau dynol. Yn Georgia, mae Rwsia wedi gwneud y gwrthwyneb. Canlyniad y rhyfel hwn yw tanseilio democratiaeth a hawliau dynol.