30.12.08

Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd

Os ydych chi wedi bod yn darllen rhai o'r blogiau gwleidyddol dros y dyddiau diwethaf, fe wyddoch chi fod 'na ambell un sydd a'i gyllell ym Mhlaid Cymru yn dweud bod nifer o aelodau'r blaid ar Gyngor Gwynedd yn paratoi i adael y grwp. Mae Gwilym Euros Roberts - Cynghorydd Llais Gwynedd ym Mlaenau Ffestiniog - yn awgrymu y gallai 3 aelod o'r Blaid adael yn y flwyddyn newydd, tra bo Hen Rech Flin yn creu y gallai hyd at 7 aelod "groesi'r llawr". Does gen i ddim bwriad mynd i drafod fy nghyd-aelodau mewn fforwm gyhoeddus fel hon. Ond dwi yn credu bod 'na graciau go helaeth ym mheli crisial y ddau broffwyd gwae.
Wrth gwrs bod 'na wahaniaeth barn yn bodoli o fewn Plaid Cymru yng Ngwynedd - a fuo 'na blaid wleidyddol erioed lle 'roedd pob aelod yn gwbl gytun ar bob pwnc? A yw pob aelod o Lais Gwynedd yn gwbl gytun ar bopeth? Mae'n anodd gen i ddychmygu bod cenedlaetholwyr tanbaid fel Alwyn Gruffydd ac Owain Williams yn gweld lygaid-yn-llygaid a mewnfudwraig fel Louise Hughes ar bob pwnc. Ond dyna natur pleidiau gwleidyddol. Mae eu polisiau cyhoeddus yn aml yn ffrwyth trafodaeth fewnol ffyrnig.
Felly gai gynnig cyngor i unrhyw un sydd yn bwriadu mynd i osod bet ar y nifer o gynghorwyr sydd yn bwriadu gadael Plaid Cymru yng Ngwynedd? Ewch i ddarllen cofnodion cyfarfodyd y Cyngor dros y 7 mis diwethaf. Codwch y ffon am sgwrs ac un neu ddau o gynghorwyr Gwynedd. Gofynwch iddyn nhw sawl gwaith mae aelod o Blaid Cymru wedi pleidleisio yn erbyn y chwip mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn. Dwi wedi bod yn crafu fy mhen dros hyn, a dim ond 4 achos y medra i ei gofio. Hynny yw, os yw fy nghof i yn gywir, mae 'na 4 cynghorydd wedi pleidleisio yn erbyn y chwip un waith yr un. Gofynwch i chi eich hun, beth mae'r ffaith foel hon yn ei ddweud wrthych chi am undod Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd?

Newid cyfeiriad

Yn y gorffennol, bu'r blog yma yn ymdrin yn bennaf a materion yn ymwneud a fy ngwaith fel golygydd cylchgrawn Barn. Ers rhai misoedd, bellach, mae gan Barn wefan newydd, ac mae gen i flog swyddogol yn rhedeg ar y wefan honno. Felly o hyn ymlaen, bydd y blog yma yn un cwbl answyddogol, yn ymwneud a phopeth heblaw am fy ngwaith gyda Barn.

7.11.08

Is-Etholiad Glenrothes

Fe dreuliais i ddoe yn teithio o gwmpas etholaeth Glenrothes gyda rhai o weithwyr yr SNP. Mae adroddiad llawn i'w ganfod ar wefan newydd Barn. Dewch draw am sbec.

8.10.08

Gwefan newydd Barn

Fel y gwyr unrhyw un sydd a diddordeb yn nyfodol y wasg Gymraeg, mae 'na ddipyn o drafodaeth wedi bod yn ddiweddar ynglyn a chyhoeddi cylchgronnau ar-lein. Mae Golwg wedi derbyn arian mawr - £600,000 dros dair blynedd - i ddatblygu gwasanaeth newyddion ar-lein newydd.
Dyw Barn heb dderbyn unrhyw nawdd anferth, ond nid pres ydi popeth. O heddiw ymlaen, fe fydd gan Barn wefan newydd sbon danlli, fydd yn cynnig llawer iawn mwy na hen wefan y cylchgrawn. Yn wahanol i'r hen wefan, fe fydd erthyglau cyfan yn ymddangos ar Barn 2.0, yn ogystal a blogiau, erthyglau ecsglwsif i'r wefan, a sawl peth cyffrous arall.
Ar hyn o bryd, mae 'na rhywfaint o gynnwys rhifyn Hydref i fyny, a'r bwriad ydi y bydd 'na fwy yn cael ei ychwanegu wrth i'r dyddiau a'r wythnosau fynd yn eu blaenau.
(Gyda llaw, mae'r wefan newydd yn byw yn www.cylchgrawnbarn.info ar y funud, ond fe fydd yn symyd draw i'w gartref parhaol - www.cylchgrawnbarn.com - o fewn y dyddiau nesaf.)

30.9.08

Enllib Gwilym Euros

Efallai bod ambell un ohonoch wedi darllen am yr honiadau bod Gwilym Euros Roberts - cynghorydd Llais Gwynedd yng Ngwynedd - wedi enllibio Dyfrig Siencyn - cynghorydd Plaid Cymru, a hynny ar raglen radio Wythnos Gwilym Owen. Mae Gwilym yn honni nad yw hi'n bosib ei fod wedi cyflawni enllib, gan mai dim ond gofyn cwestiwn y gwnaeth o, a nid gwneud datganiad.
Dwi ddim yn gyfreithiwr, ond fel newyddiadurwr mae'n rhaid i mi gael rhyw grap ar ddefau enllib. Ac mae'r hyn y mae Gwilym yn ei ddweud yn gwbl anghywir. Gall unigolyn gyflawni beth sy'n cael ei alw yn "Libel by implication", sef drwy wneud ensyniadau a allai arwain y darllenydd/gwyliwr/gwrandawr i gredu anwiredd am rhywun.
Beth bynnag am hynny, mae Gwilym Euros yn honni yn ei flog na chafodd ateb i'w gwestiwn enllibus. Roeddwn i'n gwrando ar y rhaglen, a dwi'n cael hynny'n anodd i'w gredu. Roedd y drafodaeth yn troi o amgylch agwedd Plaid Cymru a Llais Gwynedd at dai fforddiadwy. Wedi trafodaeth fywiog ynglyn a'r ffaith bod Gwilym Euros wedi gwrthod gosod cytundeb tai fforddiadwy ar bedwar ty yr oedd am ei adeiladu ym Mlaenau Ffestiniog, aeth y ddau ymlaen i drafod cynllunio yn fwy cyffredinol.
Cafodd Plaid Cymru dipyn o gyhoeddusrwydd negyddol yn ddiweddar oherwydd i nifer o'r aelodau bleidleisio yn erbyn cais cynllunio i godi ty yn Y Parc, ger y Bala. Cafodd hyn ei gyflwyno - yn gwbl gyfeiliornus - fel "Plaid Cymru yn erbyn tai fforddiadwy". Ond y gwir ydi bod polisi cynllunio cenedlaethol yn datgan na ddylid caniatau adeiladu tai tu allan i ffin datblygu pentref. Roedd y cais yma tu allan i'r ffin datblygu, a petai'r cyngor (neu'r Parc Cenedlaethol yn yr achos yma) wedi caniatau y cais, fe fyddai'r Cynulliad wedi gwyrdroi'r penderfyniad, ar gost sylweddol i'r Cyngor.
Esboniwyd hyn gan Dyfrig Siencyn, a dyma lle aeth pethau'n fudur. Cyfeiriodd Gwilym Euros at gais cynllunio diweddar arall, gan honni bod Plaid Cymru wedi caniatau codi ty tu allan i ffin datblygu. Y cwestiwn - cwbl enllibus - oedd "A wnaed y penderfyniad hwn oherwydd mai mab i aelod amlwg o Blaid Cymru oedd yr ymgeisydd?". Gofynodd Gwilym Owen i Gwilym Euros dynnu yr honiad yn ol, ond gwrthododd.
Ond beth am yr ateb i'r cwestiwn? Wel, fe roddodd Dyfrig Siencyn ateb llawn, ond mae'n amlwg bod Gwilym Euros yn drwm ei glyw, oherwydd mae nawr yn honi ei fod yn dal i ddisgwyl am ateb. Er ei fwyn ef, felly, fe wna i ail-adrodd yr hyn a ddywedodd Dyfrig Siencyn. Roedd mab yr aelod amlwg o Blaid Cymru (pwy bynnag oedd hwnw) wedi gwneud cais i godi ty ar lain o dir a oedd yn gyfochrog a'r ffin ddatblygu - hynny yw, ar ddarn o dir a oedd yn gorwedd ar y ffin. Yn wahanol i geisiadau cynllunio sydd tu allan i'r ffin datblygu, mae'r Cynulliad yn caniatau i Gwynedd godi tai ar safleoedd sydd yn gyfochrog a'r ffin datblygu, cyn belled a bod y tai hynny yn rhai fforddiadwy. Felly, roedd y cais yn Y Parc yn gwbl groes i bolisi cynllunio cenedlaethol - ac fe'i wrthodwyr - tra bo'r cais arall yn cydymffurio a pholisi cynllunio, ac felly fe'i caniatawyd.
Dyna dy ateb, felly, Gwilym. Wyt ti'n fodlon cyfaddef nad oes unrhyw sail i dy honiadau?

2.9.08

Rhifyn Medi o Barn

Fe fydd rhifyn Medi o Barn yn mynd ar werth yn y dyddiau nesaf. Ac mae gennym ni stori fawr ar eich cyfer chi. Cofiwch alw draw i'ch siop lyfrau Cymraeg dros y penwythnos........

28.8.08

Teitlau agoriadol The Kingdom

Fues i'n gwylio The Kingdom, ffilm action am Sawdia Arabia neithiwr. Digon arwynebol oedd y ffilm ei hun, ond roedd y teitlau agoriadol yn wych. Fe fum i'n gyfarwyddwr rhaglenni teledu ffeithiol am 7 mlynedd cyn dechrau efo Barn, a dwi'n dal i wneud gwaith achlysurol yn cyfarwyddo. Ar raglenni hanes y bum i'n gweithio am flynyddoedd, genre sydd wedi newid yn aruthrol yn ddiweddar. Ar ol degawdau o wneud rhaglenni mewn un ffordd benodol - talking heads/deunydd archif neu ail-greu dramatig/lincs gan gyflwynydd - mae'r diwydiant teledu wedi newid y ffordd y mae'n trafod hanes. Mae llawer iawn o'r newid yma wedi ymwneud a strwythr a fformat rhaglenni - naratif personol yn null Who do you think you are?, neu roi pobl gyffredin mewn sefyllfa hanesyddol, e.e. 1940s House - ond mae newidiadau technegol wedi golygu bod rhagor o ddefnydd yn cael ei wneud o graffeg cyfrifiadurol. Erbyn hyn, mae graffeg o ansawdd uchel iawn yn rhywbeth sydd o fewn cyrraedd cynhyrchwyr teledu - hyd yn oed y rhai sydd yn gweithio o fewn cyllidebau S4C. Ac mae pwysau ar gyfarwyddwyr rhaglenni hanes i gynnwys elfennau graffeg cryf.
Gallwch wylio teitlau agoriadol The Kingdom yn y fan yma. Mae 'na gyllideb Hollywood wedi talu am hwn, wrth reswm. Ond yn ogystal a chyllideb sylweddol, mae 'na lot o ddychymyg, dyfeisgarwch a chreadigrwydd wedi mynd i mewn i'r dilyniant yma. Parhau i ostwng y gwnaiff cost meddalwedd graffeg, ac o fewn dim, fe fydd y gorau o gynhyrchwyr a chyfarwyddwyr rhaglenni ffeithiol yn ei gynnwys yn eu rhaglenni. Dyma'r safon y bydd yn rhaid i gyfarwyddwyr ei gyrraedd yn fuan iawn.

27.8.08

Dail y Post

Newydd weld bod y Daily Post wedi lansio gwefan Gymraeg heddiw. O be dwi'n ei ddeallt, dyw'r papur heb dderbyn ceiniog o arian cyhoeddus i wneud hyn. Menter fasnachol yn cefnogi'r iaith yw hi, felly. Gwych o beth yw bod cwmniau mawr yn fodlon rhoi parch dyledus fel hyn i'r Gymraeg. Dwi'n dymuno pob llwyddiant i'r fenter newydd.

26.8.08

Blogio dros Blaid Cymru?

Fues i draw i edrych ar wefan Plaid Cymru gynna, a sylwi mod i yn cael fy rhestru fel un o "Flogwyr Plaid". Dwi ddim yn cofio cytuno i fod yn "Flogiwr Plaid", ond gan mod i'n cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, ella y byddai ychydig bach yn grintachlyd gwrthod. A petawn i'n gwrthod, fe fyddai'r ganran sydd yn blogio yn Gymraeg dros ein plaid genedlaethol yn syrthio yn is byth. Pam fod cymaint o flogwyr Plaid Cymru yn dewis gwneud hynny yn Saesneg, sgwn i? Ai yw'r aelodau sydd yn dal i deimlo cariad tuag at y Gymraeg yn rhy hen ffasiwn i ddeall y cysyniad o flogio? Ta ydi hyn yn adlewyrchu agwedd gyffredinol aelodau Plaid Cymru at yr iaith?
Os ydw i am fod yn un o fintai electronaidd y Blaid, mi fyswn i'n licio cael fy nisgrifio fel "Blogiwr Plaid Cymru" petai modd, os gwelwch yn dda? Dwi wedi gwrthwynebu'r ymgais amaturaidd ac anobeithiol i ail-frandio Plaid Cymru yn "Plaid" ers y cychwyn. Fel nifer fawr o ymgeiswyr eraill, fydda i wastad yn defnyddio enw llawn y blaid ar bob taflen a phoster, a gan bod gen i barch sylfaenol at yr iaith, a dymuniad i'w siarad hi mor gywir ac y gallaf, dwi ddim yn meddwl mod i erioed wedi cyfeirio at Blaid Cymru fel "Plaid". "Y Blaid" droeon, ond erioed "Plaid". Mae o'n ramadegol anghywir, heb son am fod yn ymgais dila, arwynebol, i greu rhyw fath o hollt artiffisial a'r gorffennol.
Beth bynnag, yr un peth dwi yn ei hoffi ynglyn a'r ffaith mod i'n "blogio dros Plaid" yw bod gwefan swyddogol Plaid Cymru yn cymeryd feed RSS o'r fan hyn. Felly mae popeth dwi'n ei gyhoeddi yn ymddangos ar wefan swyddogol Plaid Cymru. Sgwn i oes oes rhywun yn darllen y sylwadau cyn iddyn nhw ymddangos ar y wefan swyddogol? Taswn i'n llai cyfrifol, ac yn fwy plentynaidd, fe allwn i ddefnyddio hyn fel cyfle perffaith i gael bod yn ddireudus.............

22.8.08

Wanted

Fe wylies i Wanted neithiwr, un o ffilmiau diweddar Angelina Jolie. Addasiad o gomic gwych Mark Miller oedd hon i fod, ond ac eithrio'r chwarter awr cyntaf, doedd 'na fawr ddim o'r stori wreiddiol wedi goroesi. Yr hyn sy'n gwneud y comic yn wych yw ei ddiffyg moesoldeb. Yn y comic, mae'r dihirod wedi trechu'r arwyr unwaith ac am byth, a nhw sydd bellach yn rhedeg y byd - yn ddiarwybod i drwch y boblogaeth. Pan mae Wesley, yr arwr, yn ymuno a'r dihirod, mae'n rhedeg reiat drwy'r byd, gan ladd a phoenydio fel y mynna. Mae'n stori digon plentynaidd - mae un o'r dihirod yn ddyn wedi ei wneud o gachu - ond mae'n rhoi gwedd newydd ar y stori superhero. Wedi'r cyfan, a fyddai'r mwyafrif o bobl yn dewis troedio'r llwybr cul, o wybod bod ganddyn nhw'r grym i drechu pob awdurdod?
Yn nhraddodiad gorau Hollywood, fodd bynnag, mae'r neges greiddiol hon yn cael ei thaflu o'r neilltu, er mwyn troi'r cyfan yn ffilm action gonfensiynnol. A dyw hi ddim yn ffilm action gonfensiynnol arbennig o dda. Petai wedi ei rhyddhau ddeng mlynedd yn ol, fe fyddai wedi edrych yn eithaf arloesol. Ond erbyn hyn, rydyn ni wedi gweld y triciau gwledol a oedd yn brithio'r ffilm gannoedd o weithiau. Roedd yr holl beth wedi mynd yn chwerthinllyd erbyn y diwedd. Dwi'n argymell bod pawb yn osgoi y ffilm hon ar bob cyfri.

20.8.08

Ffarwel i Leo Abse

Doedd Leo Abse, y cyn AS Llafur a fu farw heddiw, ddim yn ddyn poblogaidd iawn ymhlith cenedlaetholwyr. Wedi'r cyfan, bu'n flaenllaw yn yr ymgyrch yn erbyn datganoli grym i Gymru nol ym 1997, a doedd ganddo fawr o ddim i'w ddweud wrth y Gymraeg (er fod ei gwmni cyfreithiol, Leo Abse and Cohen, yn hysbysebu eu gwasanaeth ar S4C erbyn hyn). Ond er fod ei agwedd tuag at Gymru a'r Gymraeg yn wrthun i mi, roedd Abse yn ddyn yr oeddwn yn ei edmygu yn fawr.
Roedd Abse yn "gymeriad gwleidyddol", ac fe fydd sawl un yn dewis ei gofio am ei ddillad fasiynnol a'i hiwmor ffraeth. Ond yr hyn y mae'n haeddu cael ei gofio amdano yw y gwaith aruthrol o bwysig y gwnaeth yn ol yn y 60au i gynyddu rhyddid yr unigolyn ym Mhrydain. Abse, yn fwy na neb arall, fu'n gyfrifol am ei gwneud hi'n gyfreithlon i ddynion gael perthynas hoyw a'u gilydd. Bu hefyd yn flaenllaw yn y frwydr i'w gwneud hi'n haws i gael ysgariad, a gweithiodd dros fwy o hawliau i blant a oedd wedi eu geni tu allan i briodas.
Cywaith yw polisi llywodraethol yn amlach na pheidio. Mae'r cyfreithiau sydd yn rheoli ein bywydau yn ffrwyth llafur gweinidogion, cadeiryddion pwyllgor, aelodau cyffredin a gweision sifil. Peth prin yw Aelod Seneddol unigol sydd yn gallu cael y maen i'r wal, heb gefnogaeth gadarn ei blaid. Ond i raddau helaeth, llwyddodd Abse i wneud hyn yng nghyd-destun cyfreithloni perthnasau hoyw. Heb ei ddycnwch a'i unplygrwydd, fe allai'r gyfraith ormesol a oedd yn gwneud perthynas hoyw yn drosedd fod wedi aros ar y llyfr statud am yn llawer iawn hirach. Beth bynnag fo'i ran yn nhrychineb refferendwm 1979, mae Leo Abse yn haeddu cael ei gofio fel arwr.

15.8.08

Georgia ac Irac

Er ei fod i ffwrdd ar ei wylia, dyw GT ddim yn gallu cadw'n glir o'i flog - a da o beth yw hynny. Heddiw, mae ganddo neges yn trafod Rwsia a Georgia, sydd yn codi cwestiwn hynod o ddifyr. Mae GT yn dadlau nad oes gan Bush a Brown le i fod yn collfarnu Rwsia am ymosod ar Georgia, oherwydd eu bod nhw wedi gwneud union yr un fath yn Irac.
Mae gen i a GT farn wahanol iawn am Irac, ond dwi yn gweld ei bwynt yn y fan hyn. Y rheswm pam yr oeddwn i yn lled-gefnogol i ryfel Irac oedd oherwydd ei fod yn fodd o ddod a democratiaeth i wlad a oedd yn cael ei llywodraethu gan unben gormesol. Dwi'n ymwrthod a'r syniad bod yn rhaid parchu sofraniaeth pob gwlad fel ei gilydd. I mi, mae sofraniaeth yn deillio o'r bobl, ac os nad yw llywodraeth yn un ddemocrataidd, yna dwi ddim yn credu fod ar unrhyw wlad arall gyfrifoldeb i barchu ei ffiniau. Hynny yw, heb atebolrwydd democrataidd, does lywodraeth ddim sofraniaeth gwerth son amdano. Gwendid mwyaf ein trefn ryngwladol ni heddiw yw'r ffaith bod cyrff fel y Cenhedloedd Unedig yn gwrthod cydnabod y ffaith hon. Dwi'n llawer mwy cysurus gyda chyrff fel yr Undeb Ewropeaidd - sydd yn mynnu bod pob aelod yn cydymffurfio a safonau hawliau dynol - na chorff fel y Cenhedloedd Unedig, sydd yn credu bod Tsieina ac America yn haeddu yr un llais mewn materion rhyngwladol.
Dadl Rwsia yw bod pobl yn Ne Osetia - sydd yn ystyried eu hunain yn Rwsiaid - yn cael eu bygwth gan y wladwriaeth Georgaidd (Sioraidd?), a bod yn rhaid i Rwsia ymyrryd er mwyn gwarchod yr unigolion hyn. O dderbyn fy nadl i ynglyn a sofraniaeth, yna mae rhywun yn gallu gweld sut y mae dadl Rwsia - a dadl GT - yn rhyw hanner ddal dwr. Ond mae'n anwybyddu'r ffaith bod Georgia yn wladwriaeth ddemocrataidd, sydd yn parchu hawliau dinasyddion lleiafrifol - megis cymuned "Rwsiaidd" De Osetia.
Dyw'r gyfundrefn lywodraethol yn Georgia ddim yn un berffaith, o bell ffordd. Ond yn dilyn "Chwyldro'r Rhosod" nol yn 2003, mae pethau wedi gwella yn sylweddol yno. I ddweud y gwir, fe fyddwn i'n dadlau bod y sefyllfa ddiweddar yn Georgia dipyn iachach na'r sefyllfa yn Rwsia, lle mae cwestiynnau difri i'w gofyn ynglyn a natur eu democratiaeth.
Felly, i fynd yn ol at sylw GT, a oes modd cymharu Rwsia yn Georgia, ac America yn Irac? Wel, mae modd cymharu unrhywbeth, ond i mi, dyw'r gymhariaeth arbennig hon ddim yn dal dwr o gwbl. I ddweud y gwir, mae hi'n gymhariaeth ben-ucha'n-isa. Yn Irac, fe ymosododd America ar wlad ormesol, mewn rhyfel a arweiniodd at gryfhau'r drefn ddemocrataidd, a gwarchod hawliau dynol. Yn Georgia, mae Rwsia wedi gwneud y gwrthwyneb. Canlyniad y rhyfel hwn yw tanseilio democratiaeth a hawliau dynol.

31.7.08

Homer Simpson a Llais Gwynedd

Mae 'na bennod o'r Simpsons lle mae Homer yn ffraeo gyda'r dynion sydd yn hel ei sbwriel, ac yn penderfynnu sefyll etholiad i fod yn Gomisiynydd Sbwriel Springfield. Wrth gwrs, mae'n ennill yr etholiad, ac yn mynd ati i gynnig y gwasanaeth casglu sbwriel gorau erioed. Mae'r dynion bin yn gwisgo lifrau ysglennydd, yn caglu'r sbwriel bob dydd, ac yn mynd i mewn i dai y trigolion i wagio bin y gegin. Y drafferth yw bod Homer yn llwyddo i wario cyllideb flynyddol Adran yr Amgylchedd mewn mis, ac wrth geisio datrys y broblem mae'n boddi Springfield mewn sbwriel.
Ar adegau, dwi'n meddwl mai Homer yw un o brif ffynhonellau ysbrydoliaeth Llais Gwynedd. Heddiw, daeth y blaid a chynnig ger bron Cyngor Gwynedd, yn gofyn am ddiddymu tal sydd yn cael ei godi gan Adran yr Amgylchedd am gasglu eitemau mawr o sbwriel - rhwegelloedd, matresi ayyb. Mae'r adran yn gorfod dod o hyd i £600,000 o arbedion o'i chyllideb eleni, ac fe fydd codi tal am y gwasanaeth yma yn llwyddo i arbed £60,000. Fe fyddai'n braf gallu cynnig y gwasanaeth am ddim, wrth reswm. Ond fe fyddai'n braf gallu cynnig pob math o bethau am ddim.
Y gwir ydi bod Cyngor Gwynedd yn wynebu 3 (os nad 6) mlynedd o wasgfa ariannol. Mae'n rhaid dod o hyd i arbedion sylweddol, sydd yn golygu torri'n nol ar wariant. Os ydym ni'n dewis gwario £60,000 ar gasglu rhewgelloedd, mae'n golygu gwario £60,000 yn llai ar wasanaeth arall. Petai Llais Gwynedd yn gallu dod o hyd i £60,000 o arbedion o rhywle arall, a dadlau bod yr arbedion hynny yn fwy derbyniol i'r trethdalwyr, yna gorau oll. Ond nid dyna sydd yn digwydd. Fel Homer, mae Llais Gwynedd yn gwneud addewidion i'r etholwyr heb ystyried am eiliad o lle mae'r arian yn dod i wireddu'r addewidion hyn. Diolch byth bod mwyafrif o aelodau'r cyngor wedi ymddwyn yn synhwyrol, a phleidleisio yn erbyn y cynnig.

(Mae 'na bwynt arall i'w wneud ynglyn a sut mae'r Cyngor yn gweithredu. Tacteg Llais Gwynedd yw gwneud cynnigion brys ger bron y Cyngor llawn, yn hytrach na thrafod y mater yn y dull priodol pan y mae'n dod ger bron y Pwyllgorau Craffu a'r Bwrdd. Er, o edrych ar record presenoldeb rhai o'r Pwyllgorau Craffu, mae'n anodd gwybod a yw Llais Gwynedd yn ymwybodol o'u bodolaeth. Bid a fo am hynny, dwi'n fodlon rhoi bet ar y ffaith y bydd un o aelodau LlG yn gwneud cynnig brys yn y Cyngor nesaf yn galw am ail-ddecrhau casglu biniau yn wythnosol.)

25.7.08

Llongyfarchiadau

Llongyfarchiadau gwresog i John Mason, AS diweddaraf yr SNP, a gipiodd sedd Dwyrain Glasgow neithiwr. Dyw gweld y ceidwadwyr yn curo Llafur yn Crewe ddim yn rhoi rhyw foddhad mawr i mi. Ond mae gweld sedd draddodiadol Lafur yn syrthio i blaid genedlaetholgar a blaengar fel yr SNP yn llonni fy nghanol.

21.7.08

Llywyddiaeth Plaid Cymru

Mae hi'n dipyn bach o stretch i ddeud bod mod i'n ffrindiau clos mynwesol ac Elfyn Llwyd, ond mae 'na gysylltiad teuluol yn mynd yn ol flynyddoedd. I ddweud y gwir, dwi'n hoff iawn o Elfyn, fel person a fel gwleidydd. Yn wahanol i sawl Aelod Seneddol, mae wedi llwyddo i wasanaethu ei etholaeth - a'i genedl - yn San Steffan heb anghofio sut i fod yn berson normal.
Ar y llaw arall, dwi ddim yn adnabod Dafydd Iwan yn dda iawn. Hynny yw, dwi'n ei adnabod yn well, efallai, na mae'r diarhebol Mrs Jones Llanrug, ond perthynas broffesiynnol sydd gennym ni, a nid un bersonol. Serch hynny, fe fydda i'n pleidleisio dros Dafydd yn yr etholiad i ddewis llywydd i Blaid Cymru, a hynny oherwydd mod i'n credu mai ef yw'r person gorau i wneud y swydd.
Pan edrychwyd eto ar swyddogaeth y Llywydd yn dilyn dienyddiad ac atgyfodiad Ieuan Wyn Jones rai blynyddoedd yn ol, penderfynwyd mai pwrpas y Llywydd yw bod yn bont rhwng yr aelodaeth a'r arweinyddiaeth. Dwi'n credu bod Elfyn a Dafydd a'r potensial i allu gwneud hyn yn effeithiol dros ben, ond fedra i ddim mewn difri calon weld sut - yn gwbl ymarferol - mae modd i Elfyn Llwyd feithrin cysylltiad gyda'r aelodau ar lawr gwlad tra'n gwasanaethu yn San Steffan. Fe wyddom fod bywyd Aelod Seneddol yn un prysur ar y gorau, heb son am fod yn AS i blaid fach sydd yn gorfod rhannu cyfrifoldeb am yr holl fydysawd gwleidyddol rhwng 3 aelod. Ond ar ben hyn, mae'r ffaith bod Elfyn yn treulio'r rhan fwyaf o'i wythnos yn Llundain, gannoedd o filltiroedd o drwch yr aelodau. I mi, fe fyddai'n rhaid i Elfyn Llwyd roi'r gorau i'w waith fel AS - rhywbeth a fyddai'n amddifadu'r blaid o flynyddoedd o brofiad a mynydd o allu - er mwyn bod yn lywydd effeithiol ar y blaid. Felly Dafydd Iwan fydd yn cael fy mhleidlais i, yn ddi os.

19.7.08

Gwarth S4C

Fe fydd nifer ohonoch chi'n ymwybodol o gynlluniau S4C i gynnig sylwebaeth Saesneg ar rai o raglenni chwaraeon y Sianel, drwy gyfrwng y botwm coch. Am y tro cyntaf mewn dros chwarter canrif, felly, fe fydd y Gymraeg yn ddewisol ar S4C.
Mae chwaraeon yn faes hynod o bwysig i S4C. Efallai mai drwy gyfrwng y rhaglenni hyn y mae'r Sianel yn gwneud y gwaith cenhadu gorau dros yr iaith, gan eu bod yn denu nifer fawr o wylwyr di-Gymraeg. Mae'r gwylwyr di-Gymraeg hyn - ar y funud - yn dod i gysylltiad a'r iaith, ac yn dod i'w hadnabod hi fel peth byw, cyfoes, sydd yn berthnasol i'r byd modern. Drwy wneud hyn, mae'r Gymraeg yn cael ei normaleiddio ym meddwl llawer iawn o bobl sydd a dim cyswllt arall a hi ar lefel bob dydd. Bydd yr effaith bositif sylweddol yma yn cael ei golli yn llwyr os oes gan y bobl hyn y dewis o ddiffodd y Gymraeg. Bydd yn atgyfnerthu'r syniad mai rhywbeth i bobl eraill, mewn rhyw ran anghysbell o Gymru, yw'r Gymraeg.
Ond yn ogystal a'r ffaith bod yr elfen genhadol hon yn cael ei cholli, mae penderfyniad S4C yn gosod cynsail peryglus dros ben. Bydd gweithredu'r stratgaeth hon yn agor y drws i lawer iawn mwy o Saesneg ar yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd. Os yw'r strategaeth yn llwyddo i ddenu mwy o wylwyr - ac mae'n bur debyg y bydd - yna mae'n golygu y bydd pwysau ar i S4C gynnig gwasanaeth tebyg ar raglenni eraill. Dyma agor y drws ar sianel ddwy-ieithog y diweddar annwyl Rhodri Glyn Thomas.
Does gen i ddim gwrthwynebiad i sefydlu sianel deledu Gymreig, ddwy-ieithog. Ond yn rhy aml o lawer, mae dwy-ieithrwydd yn golygu gofyn i'r Cymry Cymraeg ildio mwy a mwy o dir, er mwyn gwneud lle i'r di-Gymraeg. Os ydym ni am weld sianel deledu Gymraeg, gadewch i'r llywodraeth sicrhau bod digon o gyllid yn bodoli i achub BBC 2W, gan ychwanegu rhaglenni Cymraeg a dwy-ieithog at ddarpariaeth y sianel honno. Peidiwch a disgwyl i'r Cymry sydd wedi brwydro yn hir a chaled i gael sianel Gymraeg ei haberthu hi ar allor dwy-ieithrwydd.

Ffarwel, annwyl weinidog

Wna i ddim smalio am eiliad fy mod yn drist o weld Rhodri Glyn Thomas yn mynd. Ond mae amgylchiadau ei ymadawiad yn anffodus dros ben, ac yn dweud cyfrolau am ein gwleidyddiaeth ni. Mae'n anodd gwybod beth yn union oedd y rhesymeg tu ol i'w benderfyniad, ac mae ambell un wedi awgrymu bod mwy iddi na dim ond helynt tila y sigar (ac ennillydd Llyfr y Flwyddyn). Ond beth bynnag fo'r union resymau, mae hi'n anodd gen i gredu bod 'na sgandal o sylwedd yn llechu yng nghwpwrdd trons Rhodri Glyn. Fel yn achos Alun Cairns, mae RhGT wedi gorfod gadael ei swydd am iddo wyro un fodfedd o'r llwybr arbennig o gul y mae rhai pobl yn disgwyl i'n gwleidyddion ni ei droedio.
Beth sydd yn eironig - a dwi ddim yn dymuno bod yn angharedig yn y fan hyn - yw bod 'na nifer o resymau proffesiynnol da pam na ddylai Rhodri Glyn Thomas fod yn Weinidog Treftadaeth. Onid yda ni'n byw mewn byd ben-ucha'n-isa pan mae Gweinidog yn gorfod ymddiswyddo am gerdded i mewn i dafarn yn smocio sigar, ond ddim am dorri addewid maniffesto?

11.7.08

Ac yn ganol y gwaith......

....dwi wedi esgeuluso fy mywyd diwylliannol. Ond yr fy ychydig eiliadau sbar, dyma dwi wedi bod yn ei wneud

Gwrando ar...

Dengue Fever
Last Shadow Puppets
Albym newydd Beck (sydd yn o lew, heblaw am Chemtrails, sy'n anhygoel)

Darllen...

The British Constitution - Anthony King (adoygiad llawn yn y cylchgrawn)
Runaways - Brian K. Vaughan (Comic gwych am griw o blant sy'n darganfod bod eu rhieni yn griw o super-villans sy'n rhedeg Los Angeles, o stabl Marvel)
Gotham Central (Comic am swyddfa'r heddlu yn Gotham, dinas Batman. Police procedural wedi ei groesi efo story super-heroes)

Gwylio....

Criminal Justice. Ond peidiwch a deud wrtha fi sut mae'n gorffen, dwi heb wylio'r bennod olaf.

Tynnu tua'r terfyn

Wedi llawer iawn o waith caled, gwibdaith dynnu lluniau i Gaerdydd, a'r ffliw yn ymosod ar y teulu, mae rhifyn Gorffennaf/Awst o Barn yn agosau at fod yn barod. Hwn yw rhifyn dwbl mawreddog yr haf, felly mae'n llawn danteithion. Gan bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld a Chaerdydd, mae 'na dipyn am ein prifddinas, gan gynnwys adran yn cyflwyno out-of-towners fel fi i'r llefydd gorau i fwyta, meddwi, a chael dos o ddiwylliant.

Ac o son am yr Eisteddfod, gai dynnu eich sylw chi gyd at y ffaith fod ail ddarlith flynyddol Barn yn cael ei chynnal ar Faes yr Eisteddfod am 5 o'r gloch, dydd llun y 4ydd o Awst. Carwyn Jones fydd yn ei thraddodi, ac mae mor top-secret fel nad ydw i, hyd yn oed, yn gwybod beth yw'r testun.

Ac i orffen..... Fe fydd Barn yn gwneud newidiadau pell-gyrhaeddol i'n gwefan swyddogol yn fuan iawn. Fe gewch fwy o wybodaeth unwaith mae'r rhifyn wedi ei gyhoeddi.

17.6.08

Cyngor Llawn 19/06/08

Fel y gwyr rhai ohonoch chi, mae Cyngor Gwynedd yn cyfarfod eto ddydd iau, ac fe fydd ad-drefnu ysgolion ar yr agenda unwaith eto. Am ryw reswm, mae penderfyniad y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn cael ei drafod gan y Cyngor llawn.
Fe fydda i'n mynd i mewn i gyfarfod dydd iau a meddwl agored, a rhag ofn i mi ragfarnu'r drafodaeth, wna i ddim mynd i ormod o fanylder yn y fan hyn ynglyn a'r cynnig dan sylw. Ond - rhag ofn bod mater trefniadol llywodraeth leol o ddiddordeb i rywun - fe wna i drafod ychydig ar y penderfyniad i drafod hyn ger bron y Cyngor llawn.
Mae Cyngor Gwynedd wedi ei rannu yn dair rhan. Y Bwrdd yw'r corff sydd yn arwain. Mae'r Bwrdd yn gweithredu fel rhyw fath o gabinet traws-bleidiol, gyda phob grwp gwleidyddol yn cael llefydd ar y bwrdd yn unol a'u cynrychiolaeth ar y Cyngor llawn. Mae'r bwrdd yn cynnwys arweinwyr ac uwch-arweinwyr mewn gwahanol faesydd, swyddi sydd yn cyfateb (yn fras) i weinidogion mewn llywodraeth ganolog.
Pwrpas y Pwyllgorau Craffu yw gweithredu fel gwrthbwynt i'r Bwrdd, gan herio penderfyniadau'r arweinwyr a'r uwch-arweinwyr. Ym maes addysg, mae'r arweinydd portffolio addysg yn amlinellu polisi, sydd wedyn yn dod ger-bron y Pwyllgor Craffu. Mae'r Pwyllgor Craffu wedyn yn edrych ar y polisi hwnw, gan wneud argymellion. Mae'r argymellion hynny yn cael eu pasio yn ol i'r arweinydd portffolio, sydd yn eu hystyried. Wedi i hyn ddigwydd, mae'r polisi yn cael ei addasu (neu beidio) yn unol ac awgrymiadau'r Pwyllgor Craffu, ac yn dod ger bron y Cyngor llawn, sydd yn pleidleisio ar y polisi.
Mae'r Pwyllgorau Craffu, felly, i fod yn gyrff cwbl annibynnol. Ac fel corff annibynnol, mae'r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc wedi penderfynnu mabwysiadu safbwynt penodol. Pam, felly, bod hyn yn cael ei drafod ger bron y Cyngor llawn? Drwy wneud hyn, mae annibynniaeth y Pwyllgor Craffu yn cael ei danseilio. A gan fod annibynniaeth yn hanfodol i waith bob Pwyllgor Craffu, mae holl bwrpas y Pwyllgor Craffu yn cael ei danseilio.
Nid dadl ynglyn a rhinweddau neu ffaeleddau y cynllun ad-drefnu yw hon. Er mwyn i ddemocratiaeth weithio yn iawn, mae angen yr hyn sy'n cael ei alw yn Saesneg yn checks and balances. Hynny yw, mae angen i wahanol ganghenau'r system lywodraethau allu herio eu gilydd. Y broblem ym Mhrydain yw bod ein system genedlaethol ni (h.y. San Steffan) yn hynod ddiffygiol yn y maes yma, ac felly dyw'r cysyniad o checks and balances ddim yn gyfarwydd i bobl - hyd yn oed o fewn y maes gwleidyddol. Ond mae yn berthnasol i ddadl dydd iau. Wrth geisio gwyrdroi penderfyniad un "cangen" o'r Cyngor, mae hygrededd yr holl system yn cael ei danseilio.

5.6.08

Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc 5/6/08

Heddiw oedd cyfarfod cyntaf Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc newydd Cyngor Gwynedd. I'r rhai ohonoch chi sydd yn byw tu allan i Wynedd, mae'r pwyllgor hwn yn cyfrannu at yr adolygiad o drefniant addysg gynradd y sir, ac felly yn trafod y cynllun ad-drefnu sydd wedi bod yn fater cryn ddadlau dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.
Mae'r cynllun ad-drefnu wedi bod drwy broses o ymgynghori cyhoeddus dros y misoedd diwethaf, a heddiw roeddem ni'n gorfod trafod adroddiad yn deillio o'r ymgynghoriad hwnw. Gan fod 'na dipyn o wrthwynebiad i'r cynllun ad-drefnu wedi bod, roedd swyddogion y cyngor yn awgrymu llunio gweithgor i edrych eto ar rai agweddau ohono.
Er mod i'n credu fod y ddogfen flaenorol yn un gadarn a blaengar, roeddwn i'n barod iawn i gefnogi'r cynnig. Wedi'r cyfan, roedd yn gynnig a oedd yn adeiladu ar y gwaith a wnaed cynt, ac yn ymateb i farn y gyfran honno o'r cyhoedd a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Ond daeth gwelliant gan Lais Gwynedd yn galw am ehangu maes llafur y gweithgor. Yn hytrach na adolygu agweddau penodol o'r cynllun yn sgil yr ymgynghori, roedden nhw eisiau edrych o'r newydd ar yr holl faes, gan ffurfio gweithgor a oedd a remit cwbl benagored.
Trechwyd y gwelliant hwnw o drwch blewyn. A diolch byth am hynny. Ond fel anffyddiwr, a rhywun sydd yn arddel safbwyntiau seciwlar, roeddwn i'n hynod o anhapus bod y bleidlais wedi bod mor agos. O dan ddeddf gwlad, mae gan gynrychiolwyr eglwysig, yn ogystal a chynrychiolwyr llywodraethwyr rhieni, yr hawl i eistedd ar y gweithgor - ac i bleidleisio. Ac fe bleidleisiodd y rhelyw o'r rhain o blaid gwelliant Llais Gwynedd. Felly bu bron i ddymuniadau cynrychiolwyr democrataidd pobl Gwynedd gael eu trechu gan ddymuniadau cynrychiolwyr anetholedig yr eglwysi.
Does dim bai ar neb ynglyn a hyn, wrth reswm. Y system sydd yn caniatau i'r cynrychiolwyr eglwysig bleidleisio. Ond dwi yn teimlo ei fod yn sylfaenol annemocratiadd bod y sefyllfa yma yn bodoli. Mae sawl un ar y chwith yn barod iawn i edrych lawr ei drwyn ar wleidyddiaeth America, ond mae'n rhaid edmygu y modd haearnaidd y mae'r weriniaeth honno yn gwarchod y rhanniad hanfodol a ddylai fodoli rhwng y wladwriaeth a chrefydd.

4.6.08

27.5.08

Plaid Cymru - dewis ymgeiswyr Ewropeaidd

Dros y mis neu ddau nesaf, fe fydd Plaid Cymru yn dewis ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop. Jill Evans oedd ar ben y rhestr y tro diwethaf, a hi yw unig ASE Plaid Cymru. Ond er ei bod eisoes yn aelod o'r senedd, dyw hi ddim yn cael mynd i ben y rhestr yn ddi-wrthwynebiad. Mae etholiad mewnol yn cael ei gynnal i ddewis pwy fydd ar ben y rhestr, ac felly pwy fydd yn mynd i Frwsel. Ac mae'r etholiad hwnw wedi ennyn llid llawer o aelodau'r gogledd a'r gorllewin.
Mae Plaid Cymru yn dewis ymgeiswyr mewn hystings agored. Mae pob aelod yn cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod hystings lleol, gan fwrw pleidlais ar ddiwedd y cyfarfod. Mewn etholiad cenedlaethol fel hwn (un "sedd" sydd gan Gymru yn Senedd Ewrop, gyda 4 aelod yn cynrychioli'r sedd honno), mae'r pleidleisiau sy'n cael eu bwrw ym mhob cyfarfod lleol yn cael eu rhoi at eu gilydd, a'r llefydd ar y rhestr yn cael eu dosrannu yn ol y cyfanswm cenedlaethol.
Dwi'n dweud "cyfarfodydd lleol", ond mae'n anodd gwybod os mai dyna'r disgrifiad cywir. Mae 7 cyfarfod yn cael ei gynnal i gyd, mewn 7 lleoliad. A lle yw'r lleoliadau hyn, meddai chi? Bangor, Wrecsam, Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe, Caerdydd a'r Coed Duon. Felly os ydych chi'n byw yng Nghaerdydd mae'r cyfarfodydd yn dipyn yn fwy lleol nac os ydych chi'n byw yn.....Nolgellau, dyweder.
Nawr petai'r etholiad hwn yn etholiad cyhoeddus, yna fe fyddai disgwyl i dde-ddwyrain Cymru gael rhagor o gyfarfodydd. Wedi'r cyfan, yn y de-ddwyrain mae 2/3 o boblogaeth y wlad yn byw. Ond yr hyn sydd wedi osgoi sylw trefnwyr yr etholiad yw nad yw'r un cyfran o aelodau Plaid Cymru yn byw yn y de-ddwyrain. Fel y gwyddom ni i gyd, y gwrthwyneb sydd yn wir, gyda mwyafrif aelodau'r blaid yn byw yn y gorllewin (a'r gogledd orllewin yn benodol).
Mae 1500 o aelodau Plaid Cymru yn byw yn rhanbarth Meirion-Dwyfor. Ond does dim hystings yn cael ei gynnal yno. Os ydych chi'n byw yn Nolgellau, mae'n rhaid gyrru awr i gyrraedd yr hystings agosaf - gan ddewis rhwng Bangor neu Aberystwyth. Faint o aelodau'r rhanbarth yma sydd yn debygol o fwrw pleidlais, felly?
Dwi'n credu bod y sefyllfa yn un warthus, ac yn un sydd yn mynd i danseilio (ymhellach) hyder aelodau Plaid Cymru yn yr arweinyddiaeth. Mae aelodau Meirion-Dwyfor yn benodol yn mynd i deimlo eu bod wedi cael eu hamddifadu o'r cyfle i gyfrannu at ddewis aelod i'w cynrychioli yn Senedd Ewrop. Mae aelodau'r gogledd yn gyffredinol yn mynd i deimlo, unwaith eto, bod ystyriaethau y cadarnleoedd traddodiadol yn dod yn ail i ddymuniadau'r pencadlys yng Nghaerdydd. Ac fe ddylai bob aelod deimlo siom bod y blaid yn ymddwyn mewn modd mor amlwg annemocrataidd.
Yn y pen draw, mae'r penderfyniad i arddel y drefn hon o ddewis ymgeisydd yn ddyfais fwriadol sydd wedi ei chynllunio i wneud yn siwr bod yr ymgeisydd cywir yn cyrraedd top y rhestr. Rydym ni'n ffieiddio pan mae Llafur yn "parasiwtio" pobl i mewn i seddi saff. Oni ddylai aelodau'r blaid fod yr un mor uchel eu cloch pan mae arweinyddiaeth Plaid Cymru yn jerimandro er mwyn sicrhau canlyniad ffafriol mewn etholiad?

(Dwi wedi addasu'r neges hon, gan i mi ddweud yn wreiddiol i Jill Evans gael ei rhoi ar ben y rhestr oherwydd polisi Plaid Cymru o roi merched ar ben pob rhestr gyfrannol. Mae rhywun wedi cysylltu i ddweud bod hynny yn ffeithiol anghywir.)

21.5.08

Thatcher yn y Senedd

Fe glywais i bwt o Taro'r Post ddoe, yn trafod a oedd hi'n addas cynnwys delwedd o Margaret Thatcher yng nghyntedd y Cynulliad (neu'r Senedd-nad-yw'n-senedd, i roi iddo'i enw llawn). Fel y gellid disgwyl, roedd Bethan Jenkins yn gwrthwynebu, ac Alun Cairns yn amddiffyn.
Dwi ddim yn credu bod angen mynd dros y dadleuon ynglyn a pham bod y darlun yn hollol briodol. Mae 'na lawer un wedi cyhuddo rhai Aelodau Cynulliad ifanc (ahem) o "student union politics" yn y gorffennol, a dyma yn union yw hyn. Pan oeddwn i yn y brifysgol yn Leeds, fe fuo 'na ymgyrch hir i rwystro'r Undeb Myfyrwyr rhag gwerthu y Sun, oherwydd ei fod yn anghydnaws ac anian gwleidyddol-gywir yr Undeb. Ac mae dadleuon Bethan Jenkins yn swnio yn debyg iawn i'r dadleuon a oedd yn cael eu gwyntyllu yn Undeb Leeds ddeng mlynedd yn ol.
Myth yw'r syniad fod Cymru yn wlad "wrth-geidwadol". Mae 'na nifer helaeth o Gymry wedi cefnogi'r Ceidwadwyr dros y blynyddoedd, ac - yn ol beth oedd gan John Davies i'w ddweud ddoe - fe enillon nhw rhyw 1/3 o'r bleidlais boblogaidd yn etholiad cyffredinol 1983. Ydi, mae Toriaid Cymreig yn leiafrif. Ond roeddwn i wastad wedi credu bod Bethan Jenkins a'i thebyg yn frwd dros amddiffyn hawliau lleiafrifoedd - heb son am warchod rhyddid mynegiant.

Sibrydion

Dwi wedi clywed bod cefnogwyr y Coleg Ffederal Cymraeg ar fin cael siom. Yn ol pob tebyg, mae un arall o addewidion dogfen Cymru'n Un ar fin cael ei dorri. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld pa spin gaiff ei rhoi ar y penderfyniad hwn.

16.5.08

Gyda llaw...


Mae rhifyn Mai 2008 yn y siopau nawr. Llond gwlad o bethau difyr, gan gynnwys Hywel Williams yn trafod nawdd a chelfyddyd, Heini Gruffydd yn bwrw golwg ar ymateb Plaid Cymru i brotestiadau yn erbyn lladd y papur dyddiol Cymraeg, nifer o adolygiadau, a'r holl golofnwyr gwych sy'n ysgrifennu pob mis. A fel y gwelwch chi o'r clawr, dwi'n edrych ar gyflwr llyfrau plant Cymru (gyda help Cadwgan, y llygoden o'r Lleuad).

Dau begwn Plaid Cymru

Mae gan Vaughan Roderick erthygl ddifyr ar ei flog heddiw, yn trafod sefyllfa Plaid Cymru yng Nghaerdydd. A dwi'n credu ei fod yn codi pwynt diddorol. Mae'r blaid yng Nghaerdydd wedi gorfod mabwysiadu polisi digon chwithig ar godi ysgol Gymraeg newydd yn Nhreganna - polisi sydd wedi ei lunio i geisio ennill cefnogaeth y trigolion di-Gymraeg tra'n peidio ac ypestio'r Cymry Cymraeg yn ormodol. Wrth gwrs, dyw'r polisi heb fod yn llwyddiant llwyr, ac mae nifer o rieni Cymraeg yr ardal yn teimlo bod Plaid Cymru wedi rhoi buddianau'r di-Gymraeg o flaen buddianau ei chefnogwyr traddodiadol.
Rwan, dwi'n ymwybodol bod llunio polisi addysg sydd yn plesio pawb - yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol bresennol - yn dipyn o her. Felly dwi ddim am basio barn ar wendidau na ffaeleddau yr hyn mae grwp Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd yn ei wneud. Ond mae ei strategaeth yn amlygu rhywbeth sydd yn debygol o greu problemau tymor hir i'r blaid, dwi'n credu.
Yn araf bach, mae Plaid Cymru yn ennill tir mewn ardaloedd lle nad oes ganddi draddodiad o gefnogaeth gref - gyda Chaerdydd ar flaen y gad. Mae 'na nifer o fewnfudwyr o'r ardaloedd Cymraeg sydd wedi cyfrannu at y twf hwn - Gwenllian Landsdown ei hun, yn fwyaf amlwg - ond ar y cyfan, mae'r twf yma yn deillio o'r ffaith fod y blaid wedi llwyddo i ddenu cefnogwyr traddodiadol Llafur, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig. Bu'r gwrthwynebiad i'r Rhyfel yn Irac yn gymorth, wrth reswm, a dwi'n siwr bod ethol Mohammed Ashgar yn helpu i gryfhau statws y blaid ymhlith y gymuned Foslemaidd.
Tra mod i'n falch o weld Plaid Cymru yn llwyddo yn y brifddinas, mae ei strategaeth yn gwneud i mi bryderu rhyw ychydig. Fy ofn i yw bod y cefnogwyr newydd hyn yn cael ei denu at Blaid Cymru am resymau gwahanol i mi. Dwi'n aelod o'r blaid oherwydd mod i'n genedlaetholwr, ac yn benodol oherwydd fy mod i eisiau gwarchod dyfodol yr iaith Gymraeg. Mae'n anodd gen i gredu bod rhai o gefnogwyr newydd Plaid Cymru yng Nghaerdydd yn rhannu yr un blaenoriaethau a mi.
Nawr ar lefel leol, dyw hyn ddim yma nac acw. Fe all cynghorwyr Caerdydd wneud beth sydd orau i Gaerdydd, a chynghorwyr Gwynedd yr un fath yng Ngwynedd. Ond mae gan ganghenau lleol rol allweddol i'w chwarae yng ngwleidyddiaeth genedlaethol plaid, hefyd. Mae llwyddiant mewn etholiad cyffredinol yn dibynnu - i raddau helaeth - ar fyddin o weithwyr lleol sydd yn mynd allan i guro drysau a dosbarthu taflenni. A gan fod y cangenau lleol yn cyfrannu at lwyddiant cenedlaethol, mae ganddyn nhw hefyd yr hawl i gyfrannu at gyfeiriad cenedlaethol y blaid.
Mae hanes diweddar y Democratiaid Rhyddfrydol yn dangos peryglon dilyn y trywydd mae Plaid Cymru arno ar y funud. Mae'r blaid honno yn gweithredu yn gwbl wahanol o ardal i ardal. Yn ne-orllewin Lloegr, y Lib-Dems yw'r blaid sy'n herio cryfder traddodiadol y Toriaid, ac felly mae'n pwysleisio ei hagweddau rhyddfrydol traddodiadol. Yn ninasoedd mawr y gogledd a'r canolbarth, mae'n brwydro yn erbyn plaid Lafur gref, ac felly mae'n pwysleisio y traddodiad democrataidd-gymdeithasol, gan osod ei hun i'r chwith o Lafur.
Ond diffyg mawr y Lib-Dems yw ei anallu i ieuo'r ddwy adain at eu gilydd. Yn genedlaethol, mae hyn yn creu problemau dirfawr. Mae'n methu a saernio neges syml ynglyn a beth yw pwrpas y blaid. Yn fwy difrifol - fel y gwelwyd yma yn Nghymru wrth geisio llunio clymblaid yn y Cynulliad - mae'n methu a chymeryd penderfyniadau pwysig ynglyn a sut i lywodraethu. Ac mae hyn wedi golygu ei bod hi'n cael trafferth ail-adrodd ei llwyddiannau lleol yn genedlaethol.
Fy mhryder i yw bod Plaid Cymru mewn perygl o ddilyn yr un trywydd. Drwy ddenu mwy o etholwyr ac aelodau sydd a blaenoriaethau gwahanol i'r aelodau traddodiadol, fe fydd hi'n anoddach i'r blaid weithredu yn effeithiol ar y lefel genedlaethol. Mae perygl pellach y bydd hunaniaeth sylfaenol y blaid yn cael ei wanhau wrth i'w neges fynd yn un cymysg. Ac mae gen i ofn y bydd ei hymlyniad at nifer o egwyddorion craidd - ymlyniad digon bregus yn barod, o edrych ar weithredoedd ein Gweinidog Treftadaeth - yn cael ei tanseilio ymhellach.

(Wedi darllen hwn yn ol, dwi yn ymwybodol ei fod yn swnio ychydig yn grintachlyd. Nid dyma fy mwriad - dwi yn falch o weld Plaid Cymru yn llwyddo yn genedlaethol. Ond mi ydw i'n credu mai cario neges draddodiadol Plaid Cymru i'r ardaledd di-Gymraeg sydd angen ei wneud, yn hytrach na chwarae'r ffon ddeubig o geisio bod yn bopeth i bawb).

5.5.08

Buddugoliaeth annisgwyl

Wel, fe ennillais i'r etholiad, sydd yn gymaint o syndod i mi a neb arall. Rhyw wythnos ynghynt, roeddwn i'n obeithiol, ond erbyn dechrau wythnos dwytha, roeddwn i'n argyhoeddedig mai colli fyswn i. I ddeud y gwir, roeddwn i wedi dechrau poeni y byswn i'n colli yn wael, a roeddwn i ofn y byswn yn siomi fy nghyd-aelodau, a oedd wedi bod yn gweithio mos galed ar fy rhan.
Yn y diwedd, fe ddiflanodd pleidlais Llafur. Yn 2004, roedd Godfrey Northam wedi cael 474 o bleidleisau, ac Arthur Rowlands (fy rhagflaenydd) wedi cael 438. Y tro yma, fe gefais i 485, ond syrthiodd pleidlais Mr Northam yn ddramatig, i 338.
Efallai bod y cwymp enfawr yma yn adlewyrchu amhoblogrwydd Llafur yn genedlaethol. Ond petai pleidlais Mr Northam wedi aros yr un fath a'r tro diwethaf, fe fyswn i wedi ennill o 11 pleidlais. Felly er nad amhoblogrwydd Gordon Brown a ennillodd y sedd i mi, dwi'n credu ei bod hi'n deg dweud mai i'r Prif Weinidog y dyliwn i ddiolch am fy mwyafrif sylweddol.
Nawr mae'r gwaith caled yn cychwyn, wrth reswm. Ar lefel sirol, mae'n rhaid i Blaid Cymru nawr benderfynnu sut i lywodraethu heb fwyafrif - ym maes addysg, ynghyd a phopeth arall. Fel y gallwch ddychmygu, mae gen i ddiddordeb yn yr elfen hon o fod yn gynghorydd, a dwi'n edrych ymlaen at gael cyfrannu at y drafodaeth.
Ond mae fy nghyfrifoldeb cyntaf i fy etholwyr. Dwi wedi cnocio ar gannoedd o ddrysau dros y mis diwethaf, ac mae llawer i un wedi gofyn am fy help i ddatrys problemau lleol. Dyma'r flaenoriaeth i mi ar y funud, felly.
Mae'r gwaith lleol yma yn rhan o orchwyl arall sydd gen i. Fel y mae Hogyn o Rachub wedi ei nodi, Llafur sydd wedi rheoli Rachub ers blynyddoedd maith - fel y dywedodd un o fy nghefnogwyr yn y pentref "Mae Rachub yn goch fel tan, cofia". Roedd Gerlan a Rachub yn arfer bod yn ddwy ward arwahan, yn ethol dau gynghorydd. Unwyd y ddwy ward wedi etholiad 2004, gan ddod a'r ddau bentref o dan reolaeth un cynghorydd - sef Godfrey Northam. Mae'r ffaith fy mod i wedi ennill y tro hwn yn golygu bod Rachub yn cael ei chynrychioli (ar lefel sirol) gan gynghorydd Plaid Cymru am y tro cyntaf............erioed, am wn i. Un her yw sicrhau nad tan siafins yw fy muddugoliaeth, drwy ddangos y gall Plaid Cymru gynrychioli buddianau'r pentref gystal a Llafur - a dal gafael ar y sedd mewn 4 blynedd. Mae ymgyrch etholiadol dda yn dechrau ar y bore ar ol yr etholiad, cofiwch. Dwi'n edrych ymlaen at 2012 yn barod.

28.4.08

Pedwar diwrnod i fynd......

Mae'r ymgyrch etholiadol yn tynnu tua'r terfyn, ac mae'r glaw wedi dod. Mae gen i rhyw 50 o dai dwi angen ymweld a nhw rhwng rwan a dydd iau, er mwyn sicrhau bod y cefnogwyr i gyd wedi cael o leiaf un ymweliad. Felly gwlychu fydd rhaid.
Ges i ddianc o'r ward prynhawn dydd sadwrn, ac ymweld a Porthmadog. Un o'r pethau anoddaf efo sefyll etholiad ydi gorfod bod yn neis efo pawb. Dwi'n greadur digon surbwch ar adegau, a mae pethau'n medru mynd ar fy nerfau fi'n hawdd. Ond fedra i ddim fforddio gwneud dim bod yn gwenu a bod yn glen efo pawb yn Gerlan, rhag ofn i mi golli pleidlais. Braf oedd cael mynd i Port, a bod yn rhydd i ganu corn a codi dau fys ar yrrwyr gwael, unwaith eto.

24.4.08

Blinder etholiadol

Wythnos sydd 'na tan yr etholiad, a dwi wedi ymla^dd. Dwi bron a gorffen mynd rownd y ward yn cnocio drysau, ond dwi heb gael ateb yn llawer iawn o'r tai, felly mae angen mynd yn ol. Ac ar ben popeth, mae angen sicrhau bod rhifyn nesaf Barn yn barod. Ar y funud, dwi'n codi ben bore, cerdded i lawr i'r swyddfa, gweithio tan ddiwedd y prynhawn ar Barn, mynd adref i weld y teulu am rhyw awr neu ddwy, ac yna canfasio am ddwy awr a hanner. Mae 'nghefn i'n brifio ar ol cerdded i fyny'r holl elltydd, a dwi'n breuddwydio am ffurflenni canfas.

Wrth gwrs, canlyniad hyn yw y bydd colli'r etholiad yn siom anferth i mi. Pan gychwynais i ar fy ymgyrch, roeddwn i'n derbyn y byddau Gerlan yn ward anodd i'w hennill, ac fe geisiais ddarbwyllo fy hun bod colli yn debygol iawn. Ond wrth i mi gyfarfod yr etholwyr, dwi wedi cael llawer iawn mwy o gefnogaeth nac yr oeddwn i'n disgwyl. Erbyn hyn, dwi'n argyhoeddedig bod modd ennill, ond yn bwysicach na hynny, dwi wirioneddol eisiau ennill.

12.4.08

Hwre!

Mae Battlestar Galactica yn ei ol. Mae cyfres 4 yn dechrau ar Sky nos fawrth, ond dwi wedi llwyddo i'w gwylio hi yn barod. Ac, fel arfer, mae'n wych.

Cynhyrchwyd y gyfres gyntaf o BSG (fel yr ydym ni geeks yn ei hadnabod hi) nol ar ddiwedd y 70au, ond fe'i hatgyfodwyd hi rhyw bedair blynedd yn ol, gan roi gwedd wahanol iawn iddi. Mae'r gyfres wedi ei lleoli mewn rhan anghysbell o'r bydysawd, lle mae'r ddynol ryw yn byw mewn gweriniaeth anferth sy'n rheoli 12 planed. Un dydd, daw hil o robotiaid deallus - y Cylons - a dinistrio'r 12 blaned hyn, gan adael dim ond 50,000 o bobl yn dal yn fyw. Mae'r 50,000 yma yn dianc, wedi eu gwarchod gan yr unig long ofod sydd wedi goroesi'r ymosodiad, y Battlestar Galactica. Mae chwedloniaeth y ddynol ryw yn son am blaned o'r enw Earth, ac felly mae'r lynges-ofod yn cychwyn ar daith i chwilio am y ddaear, gyda'r Cylons ar ei gwarthau.

Yn hyn o beth, mae'r gyfres newydd yn dilyn yr un premise a'r gyfres wreiddiol. Ond tra bo'r BDG gwreiddiol yn raglen hwyliog, deuluol, mae'r fersiwn newydd yn alegori dywyll sydd yn trafod y rhyfel yn erbyn terfysgaeth. Wrth i'r llynges deithio ar hyd y gofod, mae'n rhaid iddyn nhw wynebu cwestiynnau dwys ynglyn a hawliau dynol, llywodraeth filwrol, a phroblemau llywodraethu mewn amser o ryfel. Dwi'n digwydd gwybod - drwy gyfaill i mi - mai hon yw hoff raglen deledu pennaeth Amnesty UK. Nid lol blentynaidd yw'r darn yma o sci-fi, coeliwch fi. Dyma ddarn o ddrama wleidyddol, ddifrifol, sydd yn digwydd bod wedi ei leoli yn y gofod.

Wedi dweud hynny, dwi'n dueddol o gytuno a Charlie Brooker yn y Guardian heddiw. Os nad ydych chi wedi gwylio'r gyfres hon o'r cychwyn, does fawr o bwrpas dechrau gyda'r gyfres newydd yma. Prynnwch y DVDs os oes gennych awydd dechrau dilyn y gyfres gwyddonias orau ers blynyddoedd maith.

Crefydd Gerlan

Pan oeddwn i tua 13 oed, daeth hi'n bryd i mi gael fy nerbyn fel aelod llawn o fy nghapel lleol. Wedi dwys ystyried am rhyw bum munud, fe benderfynias i bod y cam mawr hwnw'n gyfle da i mi gael torri'n rhydd, ac fe ddywedais wrth fy rhieni nad oeddwn i'n bwriadu cael fy nerbyn, oherwydd mod i'n anffyddiwr. Ac ers hynny, dyw crefydd heb boeni rhyw lawer arna fi, a tydw i heb boeni crefydd.
Ond wrth gerdded o gwmpas Gerlan a Rachub yn canfasio ar gyfer yr etholiad, dwi wedi sylwi ar rywbeth rhyfedd. Petai dyn bach o mars yn glanio ar y ddaear, ac yn penderfynnu mynd am dro o gwmpas Gerlan a Rachub, fe fyddai'n debygol o feddwl mai Buddhism (Bwdiaeth?) yw prif grefydd yr ardal. Dwi wedi cnocio ar gannoedd o ddrysau dros yr wythnosau diwethaf, a heb weld yr un symbol Cristnogol (na Hindw, na Mwslemaidd chwaith). Ond mae 'na ddwsinau - yn llythrenol - o drigolion yr ardal wedi penderfynnu plannu Bwda bach tew tu allan i'w drws cefn, neu yn yr ardd. Ydi'r bobl yma i gyd yn Buddhists? Ta ydi'r Bwda wedi troi yn rhyw fath o fersiwn gyfoes o'r corach gardd? Oes 'na berygl bydd y ddau beth yn cael ei gyfuno rhyw ddydd, ac y bydd gerddi pobl yn llenwi gyda Bwdas yn pysgota, neu'r gwthio berfa. Neu, duw a'm helpo ni, Bwdas "powld" yn dangos eu tinau?

O.N.
Cyfeirio at yr erchyllbeth hwn ydw i
















yn hytrach na awgrymu dim byd cas am y Bwda a'i ddilynwyr. Dwi ddim ishio ffwndamentalydd Bwdaidd yn dod draw i drio torri mhen i ffwrdd.

9.4.08

Methiant pwy?

Mae 'na stori ddifyr ar wefan Cymru'r Byd bora 'ma. 'Methiant i ddenu cynghorwyr iau' yw'r pennawd, ac mae hi'n trafod oed pobl sy'n aelodau o gyngorau dosbarth Cymru. Digon teg. Ond yr hyn dwi'n fethu ei ddeallt yw'r gymhariaeth (feirniadol) sy'n cael ei gwneud yn yr erthygl. Mae Guto Thomas, yr awdur yn datgan "does dim newid wedi bod yn yr oedran ar gyfartaledd ers cyn yr etholiadau lleol diwetha yn ôl yn 2004". Onid ydi hyn yn hunan-amlwg? Hynny yw, yr un bobl sydd yn eistedd ar y cyngor heddiw ac oedd yn eistedd ar y cyngor ar ddechrau mis Mai 2004. Does 'na ddim etholiad wedi bod yn cyfamser, felly sut mae disgwyl i'r cyfartaledd oed newid? Onid ar ol etholiadau mis Mai yma y dylid gwneud y gymhariaeth?

Fel mae'n digwydd, mae gen i ddiddordeb personol yn y stori hon. Dwi'n ymgeisydd yn etholiadau Cyngor Sir Gwynedd eleni ar ran Plaid Cymru, a dwi'n meddwl mod i'n iawn i ddweud mai fi yw'r ieuengaf sy'n sefyll yn y sir. Fe sefais i bedair blynedd yn ol, ym Mangor; ond y tro yma dwi'n sefyll yn Gerlan, lle dwi'n byw erbyn hyn. Cyn 2004 roedd Gerlan ym meddiant Plaid Cymru. Newidwyd ffiniau'r ward, ac fe enillodd yr ymgeisydd Llafur o rhyw 30 pleidlais. Ond y tro hwnw, roedd 'na ddau incumbent yn brwydro yn erbyn eu gilydd. Y tro hwn, dwi'n newydd ddyfodiad, ac yn gorfod cystadlu gyda cynghorydd sydd yn uchel iawn ei barch yn lleol. Fe fydd hi'n dalcen caled i ddweud y lleiaf. Ond yr hyn sy'n fy nghysuro fi ydi mod i wedi cael nifer o bobl yn dweud eu bod am fwrw pleidlais drosta fi, oherwydd fy mod i'n wyneb newydd, ac yn perthyn i'r genhedlaeth iau. Gobeithio bod 'na ddigon ohonyn nhw i mi allu creu ypset ar Fai'r 1af.

29.3.08

Cerddoriaeth newydd

Mae'r cofnod hwn yn dangos sut yr ydw i wedi syrthio ar ei hol hi efo cerddoriaeth. Roedd 'na gyfnod pan oeddwn i'n prynnu hanner dwsin o recordiau newydd bob penwythnos, a fyddai 'na ddim byd wedi llwyddo i lithro drwy fy rhwyd. Erbyn hyn, dwi'n dad i ddau o blant, mae pres yn brin, a dwi'm yn cofio'r tro dwytha i mi brynnu copi o Word, yr NME na unrhyw un o'r cylchgronnau hynod fasiynnol oedd yn pentyrru wrth ochr fy ngwely fi bum mlynedd yn ol (Comes with a Smile? Vice? ).
Cael hyrddiau o brynnu recordiau newydd ydw i dyddiau yma. Dwi'n cael rhyw banic, wrth feddwl bod yr obsesiwn sydd wedi fy nghynnal i ers bron i ugain mlynedd yn pylu. Pan ddaw'r panic, dwi'n rhuthro allan i brynnu (neu lawrlwytho) popeth y galla i.
Mi dorrodd fy iPod i wythnos dwytha, a diolch i haelioni'r cwmni yswiriant, mae 'na un newydd sbon wedi cyrraedd yn y post ddoe - sydd yn ysgogiad i mi fynd i chwilio am gerddoriaeth newydd i fynd arno fo.
Un o'r pethau sydd wastad wedi fy mhoeni fi ydi fy mod i wedi syrthio ar ei hol hi gyda chwilio am artistiaid newydd. Mae 'na rhyw faint o falchder yn perthyn i fod y cyntaf mewn criw i ddarganfod band gwych, neu gan arbennig. Peth trist iawn yw cyfaddae mod i'n dal i gofio mai fi oedd y cyntaf o'n criw ni o ffrindiau i sylweddoli mor wych yw 'First we take Manhattan' Leonard Cohen, neu mai fi oedd y cyntaf i brynnu albym gyntaf Phoenix. Erbyn heddiw, dwi'n gorfod dibynnu ar fy ffrindiau i awgrymu pethau i mi wrando arnyn nhw.
Efallai ei bod hi'n arwydd o pam mor ar-ei-hol-hi ydw i mai rwan dwi'n gwrando yn iawn ar Sufjan Stevens am y tro cyntaf. Dwi wedi clywed pytiau o'r blaen, a wedi hoffi yr hyn yr oeddwn i'n ei glywed. Ond tan i mi lawrlwytho The Avalanche wythnos yma, nes i ddim sylweddoli pam mor wych yw ei gerddoriaeth. Neu yn hytrach, pam mor berffaith mae ei gerddoriaeth yn gweddu fy chwaeth i. Er bod gen i gasgliad helaeth o gerddoriaeth, yn mynd o techno i tountry, indie kid ydw i yn y bon, ac indie kid eithaf fussy.
Mae bandiau indie pync yn iawn, ond y bandiau dwi'n wirioneddol wirioni arnyn nhw ydi bandiau indie "gwlyb" (fel y mae un ffrind yn mynnu eu disgrifio) - Bandiau indie pop, sy'n canu caneuon gyda alawon catchy, offerynnau 70au, a geiriau am gael eich bwlio yn yr ysgol a methu ffeindio cariad. Ar dop y rhestr mae Belle and Sebastian, gyda The Smiths, The Decemberists, The Shins, a Herman Dune yn dod yn eithaf agos ar ei hol. Ac mae Sufjan Stevens yn ffitio yn berffaith i mewn i'r categori yma.
Wrth gwrs, mae Sufjan Stevens o gwmpas ers blynyddoedd, ac mae pawb call wedi bod yn gwrando arno ers ymhell cyn fi. A does 'na neb yn mynd i fod yn impressed mod i wedi ei ddarganfod bum mlynedd yn ddiweddarach. Ond yn y pen draw, dyw hynny ddim yn newid y ffaith bod gwrando ar 'Chicago (acoustic version)' neu 'No Man's Land' wedi llwyddo i roi gwen anferth ar fy ngwyneb i droeon dros y dyddiad dwytha.

27.3.08

Just in case.......

......you've wandered over here from Pop Culture Shock, this blog is written entirely in Welsh. So unless you're one of the fortunate 500,000 who speak the language of heaven, you're not going to understand much. But thanks for boosting my (rather pathetic) stats.

(Ymddiheuriadau i bawb arall am orfod troi at yr iaith fain)

Erthygl am Alan Moore

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb, dwi wedi ysgrifennu adolygiad o lyfr diweddaraf Alan Moore - The League of Extraordinary Gentlemen : The Black Dossier - sydd i'w ganfod ar wefan Pop Culture Shock.

Adolygiad Saesneg yw hwn, wrth reswm, ac mae wedi ei anelu at bobl sydd eisoes yn eithaf cyfarwydd a byd comics. Ond os oes gennych chi ddiddordeb yn y maes, ac os ydych chi'n gyfarwydd a gwaith Moore, yna cerwch draw am sbec.

24.3.08

Llyfr y flwyddyn eto

Gyda llaw, fe anghofiais i longyfarch Gareth Miles am gyrraedd rhestr hir llyfr y flwyddyn - mae yntau'n un o golofnwyr Barn, ac yn un o awduron gorau Cymru. Diolch byth ei fod yn cael y gydnabyddiaeth mae'n ei haeddu.

Y llefydd rhyfeddaf

Dwi newydd orffen darllen y bennod olaf o Y : The Last Man, sef cyfres gomics wych gan Brian K. Vaughan, awdur 32 oed o Cleveland, Ohio. Ym mhennod gyntaf Y, mae pla yn lladd pob mamal gwrywaidd ar y ddaear, ac eithrio Americanwr ifanc o'r enw Yorick Brown a'i fwnci Ampersand. Dros y 60 rhifyn nesaf, mae Yorick ac Ampersand yn teithio i bedwar ban y byd newydd benywaidd, yng ngwmni secret agent benywaidd - 355 - ac arbenigwraig mewn clonio, Dr Alison Mann. Mae Mann yn chwilio am ffordd i greu'r genhedlaeth nesaf o bobl, tra bo Yorick yn ceisio dod o hyd i'w gariad, oedd yn Awstralia pan ddaeth y pla.
Mae'n gomic gwych, yn llawn dychymyg a ffraethineb. Ond yr hyn a ddaliodd fy sylw i ynglyn a'r rhifyn olaf oedd y ddau banel canlynol. (Cliciwch ar y llun er mwyn ei wneud yn ddigon mawr i allu darllen y testun)



Sut mae bachgen o Cleveland, sy'n gweithio yn Efrog Newydd, drwy cyfrwng y Saesneg, ar gyfer cynulleidfa rhyngwladol yn dod i wybod am hen draddodiadau'r Cymry? Taswn i'n gofyn i ddwsin o fy ffrindia i, dwi ddim yn credu y byddai un ohonyn nhw'n gyfarwydd a'r traddodiad hwn, ac eto, rhywsut mae wedi gwneud argraff ar Brian K. Vaughan. Rhyfeddol.

12.3.08

Llyfr y Flwyddyn

Gai fod y cyntaf i longyfarch dau o golofnwyr Barn - Richard Wyn Jones ac Elin Llwyd Morgan - am gyrraedd rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2008. Dwi'n credu bod y ddau ohoyn nhw yn llawn haeddu'r wobr, ac yn dymuno pob lwc iddynt.

Rhifyn diweddaraf Barn

Dwi newydd dderbyn fy nghopi fi o rifyn Mawrth 2008 o Barn, felly fe ddylai gyrraedd tanysgrifwyr a'r siopau yn y diwrnod neu ddau nesaf. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb, dyma'r clawr (gwaith Marc Rees Jones)

7.3.08

Tal aelodau

Mae 'na ffrae od wedi codi yn y Cynulliad heddiw, a hynny ynglyn a chyflogau'r aelodau. Mae Vaughan Roderick yn nes at y peth na fi, felly am esboniad llawn o beth sydd wedi digwydd, ewch draw i'w flog ef.

Dwi'n dweud ei bod hi'n ffrae od oherwydd fy mod i'n crafu fy mhen ynglyn a pham ei bod hi wedi codi. Mae 6 o aelodau Plaid Cymru wedi penderfynnu beirniadu'r codiad cyflog, gan greu rhwyg rhyngthyn nhw a gweddill yr aelodau. Dwi ddim yn synnu bod aelodau megis Bethan Jenkins, Nerys Evans a Leanne Wood wedi dewis gwneud hyn. Mae'n gwbl gydnaws a'u hanian gwleidyddol, y nhw yw awkward squad y blaid, a does ganddyn nhw ddim parch at y chwip. Mae enw Alun Ffred Jones yn syndod, fodd bynnag. Er nad yw Alun Ffred yn weinidog, mae yn un o ffigyrau pwysicaf Plaid Cymru, ac mae'n gyfrifol am gyd-lynnu llawer o bolisiau'r blaid yng Nghaerdydd. I fod yn blaen, dyw Alun Ffred ddim yn rebel naturiol.

Nawr dwi'n gweld dwy ochr y ddadl yn y fan hyn. Fy marn bersonol i yw bod ACau yn cael tal cymharol isel, o ystyried natur eu gwaith. Mae'r swydd yn un galed, yn aml yn syrffedus, dyw rhywun ddim yn cael llawer o seibiant. Ydi, mae £50,000 ( a lot o gostau) yn arian da i ni bobl gyffredin, ond dwi ddim yn credu ei fod yn adlewyrchu'r gwaith sydd yn cael ei wneud. Fe fyddai aelodau megis Alun Ffred (cyn-gynhyrchydd teledu) neu Dai Lloyd (cyn-feddyg teulu) wedi cymeryd gostyngiad yn eu cyflog i fynd i'r Cynulliad.

Ac mae'r gymhariaeth gyda'r gwasanaethau cyhoeddus yn un wirion. Pwrpas codiad cyflog yn y sector gyhoeddus yw sicrhau bod chwyddiant ddim yn di-brisio incwm dros amser. Mae codiad cyflog arfaethedig yr ACau yn lawer mwy na hynny - mae'n fodd o gydnabod y ffaith bod gwaith yr aelodau wedi cynyddu, diolch i bwerau newydd Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Gan fod y gwaith o fod yn AC wedi newid yn sylfaenol yn y flwyddyn ddiwethaf, a'r baich wedi cynyddu, mae'n berffaith rhesymol bod eu cyflogau yn codi hefyd. Tal newydd am wneud joban newydd yw hyn, yn y bon.

Wedi deud hyn i gyd, dwi yn deallt gwerth gwneud safiad ar y mater. Dyma'r tro cyntaf i Blaid Cymru lywodraethu, ac mae gwrthod codiad cyflog yn help i sefydlu delwedd y blaid fel un sydd yn gwrthod cael ei llygru gan wobrwyon materol grym. Drwy wrthod cyflog uwch, mae'r ACau yma yn tanlinellu'r syniad mai cyflawni gwasanaeth cymdeithasol mae nhw, yn hytrach na troi'r dwr i'w melinau eu hunain. Strategaeth ddigon craff, o ystyried bod llawer o'u cefnogwyr traddodiadol eisoes wedi bod yn cyhuddo Plaid Cymru o gael ei llygru gan lywodraeth.

Y broblem yw bod Plaid Cymru wedi bod yn hynod ofalus i sicrhau undod y glymblaid lywodraethol. Rwan, beth bynnag mae'r cyhoedd yn ei feddwl o safiad yr AC yma, mae'n sicr o fod yn amhoblogaidd ymhlith nifer o'u cyd-aelodau. Mae 'na bwysau nawr ar i'r aelodau eraill i wrthod derbyn y codiad cyflog, a bydd unrhyw un sydd yn ei dderbyn yn edrych fel fat cat. Petawn i'n AC, fe fyddwn i'n eithaf blin o weld fy nghodiad cyflog yn cael ei aberthu er mwyn i Bethan Jenkins allu ennill tipyn o kudos gyda'r werin.

Felly mae'r safiad hwn yn un problemataidd i Blaid Cymru, ac yn un sydd yn debyg o greu rhwygiadau carfannol yn y llywodraeth. Fel un sydd a amheuon dwfn ynglyn a'r glymblaid, dwi ddim yn credu bod hyn yn drychineb yn ei hun. Ond pam dewis peryglu'r status quo dros bwnc sydd mor ymylol i fywydau'r rhan fwyaf o bobl? Onid oes 'na frwydrau llawer iawn mwy teilwng y gallai rebeliaid Plaid Cymru fod yn eu hymladd gyda'r llywodraeth? Hyn-a-hyn o weithiau y bydd modd rhoi cic fach gyhoeddus i'r glymblaid er mwyn helpu i gael y maen i'r wal ar bwnc arbennig. Heb fynd i swnio fel ton gron, oni fyddai wedi bod yn ddoethach gwneud stwr ynglyn a pholisi llywodraethol yr oedd pobl yn wirioneddol aniddig yn ei gylch......megis y papur dyddiol Cymraeg, efallai?

5.3.08

Pam darllen comics?

Mae 'na sawl un yn gofyn pam mod i'n darllen comics. Dwi'n rhywun sydd yn ymddiddori mewn pethau uchel-ael fel gwleidyddiaeth a llenyddiaeth "go iawn" yn trafferth efo straeon plant bach. Yn wreiddiol, dwi'n credu mai'r cynnwys, a nid y cyfrwng oedd yn apelio. I mi, mae straeon am ddynion gyda phwerau goruwchnaturiol yn gweithio yn well mewn cyfrwng gweledol. I ddefnyddio'r engrhaifft enwocaf, dwi ddim yn credu y byddai'r llenor mwyaf yn gallu cyfleu yr olygfa hon




gystal ac y gwnaeth Siegel a Shuster yn rhifyn cyntaf Action Comics. Dwi'n siwr y byddai modd sgwenu nofel dda am Superman, ond yn y pen draw, dwi'n credu bod ymdriniaeth weledol yn gweithio yn well nac un eiriol.

Y broblem gyda'r esboniad hwn yw nad darllen comics am superheroes yn unig y bydda i. Dwi wastad wedi bod yn hoff o waith Gilbert Hernandez (Love and Rockets) a Daniel Clowes (Ghost World) - comics sydd yn ymdrin a bywyd bob dydd yn America. Yn ddiweddar, dwi wedi gwirioni ar waith Adrian Tomine, sy'n ysgrifennu straeon byrion am bobl ifanc unig, misanthropic - eto yn America. Does neb yn taflu ceir drwy'r awyr yn y comics hyn, ac fe fyddai modd iddyn nhw weithio lawn gystal fel nofelau neu straeon byrion. Pam felly mod i'n cael y fath foddhad o weld y straeon yma wedi eu darlunio?

Dwn i ddim os ydw i'n gwybod yr ateb. Mae'r ffaith eu bod nhw wedi eu darlunio yn dda yn help, mae'n siwr. Ond efallai fy mod i - sydd wedi fy magu ar deledu, ffilm a gemau cyfrifiadur - yn licio'r ffaith bod comics yn cynnig ffordd gynt o ddarllen straeon. Dwi wastad wedi bod yn un di-amynedd, a dwi wastad wedi bod yn ddarllenwr barus. Os ydw i'n mwynhau nofel, yna dwi'n llamu dros y geiriau yn aml, yn ysu i gael gwybod beth sy'n digwydd nesaf. Fues i rioed yn or-hoff o nofelwyr stylistic - cymeriadau a phlot da sydd yn gwneud nofel werth chweil i mi. Felly mae 'na rhywbeth delfrydol am gomic. Yn hytrach na darllen disgrifiad o sefyllfaoedd, dwi'n eu gweld o flaen fy llygaid. A does dim rhanniad rhwng y ddeialog a'r disgrifiad - rhywsut dwi'n llwyddo i dreulio'r ddau beth ar yr un pryd, gan neidio o un panel i'r llall. Mae darllen comic wedi ei sgwenu yn dda yn gallu bod fel dilyn sgwrs go iawn - mae rhythm naturiol y geiriau yn dod i'r amlwg.

Dwi'n dal i ddarllen digon o nofelau, cofiwch, ac yn eu mwynhau yn arw. Ond mae 'na bleser arbennig i'w gael o allu codi comic, a'i ddarllen o'i gychwyn i'w ddiwedd mewn awr neu ddwy.

3.3.08

Mad Men

Dwi newydd orffen gwylio pennod gyntaf Mad Men, cyfres newydd o America sy'n cael ei darlledu ar BBC 4. Un o awduron The Sopranos sydd yn gyfrifol am ddyfeisio'r syniad, ac am y sgript, ac mae'n dilyn hanes criw o ddynion yn gweithio mewn cwmni hysbysebion yn Efrog Newydd ar ddechrau'r 60au.
Roedd y bennod gyntaf yn addawol iawn. Am unwaith, doedd hi ddim yn dioddef yn ormodol o pilot-itis. Yn America, mae nifer fawr o raglenni peilot yn cael eu cynhyrchu bob blwyddyn, a dim ond canran fechan o'r rhain sydd yn tyfy o fod yn un pennod i fod yn gyfres lawn. Felly mae 'na dueddiad i bennodau cyntaf cyfresi geisio gwasgu cymaint a sy'n bosib i mewn i awr o deledu. Trafferth hyn yw bod pob syniad da wedi eu pentrynnu ar bennau eu gilydd yn y bennod gyntaf - sydd yn creu cur pen - a mae'r cynhyrchwyr yn crafu am syniadau i lewni'r 12 neu 24 pennod arall. Gwyliwch gyfresi cyntaf 24 neu Prison Break os ydych chi eisiau gweld be dwi'n ei feddwl.
Felly mantais fawr Mad Men oedd ei bod hi'n codi blys ar rhywun, heb ddangos gormod. Roedd 'na ddigon o stori yn y bennod gyntaf i dynnu rhywun i mewn, ond doedd na'm gormod o bwdin. I mi, hanfod y teledu gorau yw'r gallu i osod tempo stori yn dda. Does dim rhaid i bob llofruddiaeth gael ei datrys mewn awr o deledu, a does dim rhaid i bob pennod orffen gyda cliffhanger. Mae gan y gynulleidfa gof, ac mae posib cynnal diddordeb pobl mewn straeon sydd yn parhau dros gyfres gyfan. Drwy gydnabod hyn, a thrwy adeiladu straeon sydd yn cael amser i ddatblygu yn naturiol, mae cynhyrchwyr cyfresi megis The Wire a Deadwood wedi llwyddo gystal. Ac roeddwn i'n teimlo bod awdur Mad Men wedi llwyddo i strwythuro pennod agoriadol y gyfres hon yn wych.
Y draffeth ydi fy mod i'n wyliwr di-amynedd. Dyw un pennod ar y tro ddim yn ddigon, yn aml iawn. A dwi'n gyndyn o aros wythnos rhwng pennodau. Yn aml iawn wna i ddim gwylio cyfres wrth iddi gael ei darlledu. Fe arhosa i tan mae'r pennodau i gyd wedi eu cadw ar y Sky +, neu tan i'r gyfres ddod allan fel box set DVD, a gwylio'r pennodau i gyd mewn ychydig ddyddiau. Dyw hynny ddim yn bosib gyda Mad Men, felly beth fedra i ei wneud?
Fe allwn i chwilio'r we. Fe wn i nad yw hi'n gyfreithlon i mi lawrlwytho rhaglenni teledu oddi ar y we, oni bai fy mod i'n gwneud hynny drwy wefan swyddogol. Ond pa wahaniaeth mae'n ei wneud os ydw i'n gwylio Mad Men ar BBC4 neu ar fy nghyfrifiadur? Dyw'r BBC ddim yn colli refeniw hysbysebion, am resymau amlwg. Dwi wedi talu am yr hawl i wylio rhaglenni'r BBC drwy fy nhrwydded, felly pa ots os ydw i'n gwneud hynny drwy wefan TV Torrents, yn hytrach nac ar yr iPlayer?

29.2.08

Jennie

Neithiwr bues i'n gwylio Jennie, rhaglen Cambrensis am Jennie Eirian Davies. Fe fues i'n gweithio fel cynhyrchydd/gyfarwyddwr rhaglenni ffeithiol i S4C am flynyddoedd, a dwi'n dal i gymeryd diddordeb yn y maes.
Drama-ddogfen oedd Jennie, ond roedd Arwel Ellis Owen wedi bod yn hynod ddyfeisgar gyda'r gwaith dramateiddio. Yn aml iawn, mae deunydd wedi ei "ail-greu" mewn rhaglenni dogfen yno am reswm penodol - does dim ffilm archif ar gael i ddarlunio'r stori, ac felly mae'r cyfarwyddwr yn gorfod creu ei archif ei hun. Gwendid y dechneg hon yw ei bod hi'n un ddrud i'w gwneud yn iawn, ac o'i gwneud yn wael, mae hi'n tanseilio hygrededd y rhaglen. Osgoi dilyn y trywydd yma wnaeth cynhyrchydd Jennie. Yn hytrach na cheisio ail-greu y cyfnod yn llythrennol, aeth ati i saethu cyfres o fonologau, wedi eu gosod ar set theatr. Roedd hyn yn golygu bod y gwaith wedi ei ddramateiddio yn dod a ni yn nes at hanfod cymeriad Jennie Eirian Davies, yn hytrach na dim ond llenwi tyllau gweledol yn y rhaglen. A diolch i berfformiad da iawn gan Rhian Morgan, roedd y dilyniannau hyn yn bleser i'w gwylio.
Doedd hi ddim yn rhaglen ddi-fai, fodd hynny. Rhwng y darnau wedi eu dramateiddio, roedd cyfres o gyfweliadau gyda theulu, cyfeillion a chydnabod Jennie Eirian. Roedd y rhain wedi eu saethu yn uffernol o wael, heb roi unrhyw ystyriaeth i sut yr oedden wedi eu gosod. Ac yn aml iawn, doedd y cyfweliadau ddim yn llifo i'w gilydd yn rhwydd, nac yn asio yn arbennig o dda gyda'r rhannau wedi eu dramateiddio. Roedd 'na adegau lle roedd angen cryfhau'r naratif a oedd yn gwau'r cwbl at ei gilydd.
Ond er bod 'na wallau technegol i'r rhaglen, roedd ganddi un rhinwedd bendant. Roedd hi'n ddifyr. A trafferth llawer iawn o raglenni S4C ar hyn o bryd yw eu bod nhw'n hynod o aniddorol. Mae nhw'n edrych yn slic iawn, ond mae eu cynnwys yn ddiflas. A rhowch i mi raglen ddifyr, wallus, yn hytrach na rhaglen ddiflas, slic, unrhyw ddydd.

28.2.08

Wel wir....

Yn ol blog Vaughan Roderick mae Peter Hain wedi bod yn galw am leihau dibyniaeth yr economi Gymreig ar y sector gyhoeddus. Dyna'n union y bues i'n ei ddeud yn fy ngholofn olygyddol ddiwethaf, yn Barn mis Chwefror. Sgwn i os yw David Dickinson San Steffan wedi dechrau troi at y wasg Gymraeg am arweiniad?

(Gyda llaw, diolch i bawb sydd wedi bod yn darllen y blog yma hyd yn hyn. Dwi wedi synnu gyda'r ymateb, ac yn wirioneddol werthfawrogi'r sylwadau sydd wedi eu gadael. Ond gai ofyn cwestiwn? Faint ohonoch chi sydd yn darllen Barn bob mis? Mae 'na rifyn newydd ar ei ffordd ddiwedd wythnos nesa - beth am ddangos i Rhodri Glyn Thomas bod defnyddwyr y we hefyd yn darllen y wasg draddodiadol drwy brynnu copi?)

26.2.08

Ac yn waeth byth....

Ydw i wedi sillafu Robyn Lewis yn gywir?

Dwi newydd ystyried.....

Gyda'r holl dantro 'ma am y papur dyddiol Cymraeg dwi wedi bod yn ei wneud - y torri calon, y gweld bai ar genedlaetholwyr egwan, yr anallu i faddau nac anghofio, y methu cysgu'r nos am fy mod i'n llawn casineb - oes 'na berygl mod i'n troi yn fersiwn ifanc o Robyn Lewis?

22.2.08

Rhag dy gywilydd, Bethan Jenkins

Roedd 'na gyfnod pan oedd Bethan Jenkins AC yn blogio yn ddwy-ieithog. Ond o ddarllen ei negeseuon diweddaraf, mae'n ymddangos bod sgwenu yn y Gymraeg yn ormod o drafferth i'r genedlaetholwraig fawr. Felly fe fydd yn rhaid i mi ei dyfynnu hi yn y Saesneg gwreiddiol.

"On another subject- Y Byd- I understand that there will be an interesting piece on this on tonight's Dragon's Eye. I will try and reserve judgment until then. I tend to agree with Adam Price on this one, however. Plaid in Government has almost doubled investment in the Welsh medium press, and the possibility of developing a new Welsh Language daily is still open for debate in that the Government is currently tendering for contracts. I believe that a newspaper on the web is the best way forward at thist stage, but I know that others disagree with me.

I do despair, however of some figures in the Nationalist movement purposfully using their positions to create trouble on this issue. Lets put our heads together and get a successful outcome for the future of the Welsh Language Press instead of making public statements for the sake of making a point."

Dwi'n teimlo fy ngwaed yn berwi wrth ddarllen y sylw hwn. Pwy yw'r "some figures in the Nationalist movement" sydd yn "purposefully using their positions to cause trouble"? Y bobl a arwyddodd y llythyr agored i Rhodri Glyn Thomas? Gadewch i ni edrych ar y rhestr

Anna Brychan
Llinos a Cynog Dafis
Hywel Teifi Edwards
Meredydd Evans
Heini Gruffudd
Emyr Humphreys
Richard Wyn Jones
Gareth Miles
Jan Morris
Wynford Elis Owen
John a Luned Rowlands

Dyma rai o gewri ein cenedl ni. Pobl sydd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i fywyd Cymru; pobl sydd wedi trawsnewid y modd yr ydym ni'n edrych ar ein hunain, ac y mae'r byd yn edrych arnom ni. Bethan, ti'n gwneud cam a nhw drwy honni eu bod yn datgan eu gwrthwynebiad er mwyn "creu trwbl". Y mae'r penderfyniad ynglyn a'r papur dyddiol yn un sydd wedi cynddeiriogi a thristau llawer iawn ohonom ni sydd a chysylltiadau dwfn a'r mudiad cenedlaethol. Paid a bychannu hynnu.

18.2.08

Comics plant mawr

Blog ar gyfer trafod pethau anaddas ar gyfer Barn oedd hwn i fod. Ond rywsut, dwi wedi llwyddo i sgwenu cannoedd o eiriau ar dranc Y Byd, a fawr o ddim am ddim byd arall. Mae 'na elfen o fod eisiau cynulleidfa, mae'n siwr. O sgwenu am Y Byd, dwi wedi llwyddo i gael mensh ym mlog Vaughan Roderick - a hynny o fewn wythnos o fentro i fyd y blog. O ddilyn fy mwriad gwreiddiol, dwi'n siwr bydd diddordeb dipyn yn llai.
Ta waeth, fe gadwa i at fy ngair gwreiddiol. Un bwriad gen i oedd sgwenu pwt am bopeth celfyddydol dwi'n ei wneud - cofnodi pob record, ffilm, llyfr, drama, oriel gelf neu unrhywbeth "celfyddydol" arall sy'n mynd a rhywfaint o fy amser. Drwy wneud hyn, roeddwn i'n rhyw hanner obeithio y byswn i'n codi cywilydd ar fy hun, ac yn gwneud mwy o ymdrech i chwilio am gelfyddyd "go iawn". Hynny yw, dwi ddim ishio i neb edrych yn ol dros y blog yma mewn blwyddyn, a deud " 'Di'r boi 'ma ddim yn ffit i olygu Barn, gan mai dim ond 3 llyfr Cymraeg/llyfr llenyddol/ffilm arthouse/rhaglen S4C mae o wedi ei weld/darllen mewn blwyddyn".
Wedi deud hynny, dwi ddim yn cychwyn pethau'n rhy dda. Ers rhyw dri mis, dwi wedi darllen dwsinau o gomics, a rhyw ddau lyfr "go iawn". Damwain lwyr ydi hyn. Mi es i lawr i Gaerdydd i wyl Swn Huw Stephens, a cyn mynd i ddal y tren adra mi biciais i mewn i Forbidden Planet, gan bod ffrind i mi ffansi mynd yno.
Dwi wedi bod ac obsesiwn ysbeidiol efo super-heroes erioed, ond mae wedi bod yn cysgu ers rhai blynyddoedd, bellach. Yn y brifysgol ces i'r cyfnod mawr dwytha o ddarllen comics, pan es i drwy bob un rhifyn o Sandman Neil Gaiman ( a oedd yn eiddo i un o'r merched oedd yn rhannu ty efo fi). Mae 'na 10 mlynedd ers hynny, ac er bod gen i gasgliad go lew o hen gomics yn dal ar y silff, doeddwn i heb edrych yn iawn arnyn nhw ers oes.
Clywed enw Neil Gaiman wnaeth ail-danio fy niddordeb. Mae Sandman yn un o glasuron byd comics, yn bennaf oherwydd ei fod wedi ei ysgrifennu yn benodol ar gyfer oedolion. Mae'n dweud stori Morpheus, rhyw fath o dduw-frenin sydd yn teyrnasu dros freuddwydion meidrolion cyffredin. Dros sawl cyfrol mae'n llwyddo i wau mytholeg, crefydd a chwedl drwy eu gilydd, gan gyffwrd ar ambell i stori super-hero ar y ffordd. Mae'n enwog yn bennaf oherwydd mai dyma'r comic "mawr" cyntaf i lwyddo i ddenu mwy o ferched i ddarllen na bechgyn.
DC fu'n cyhoeddi Sandman, ond erbyn hyn mae Gaiman yn gweithio i'r prif gwmni cyhoeddi arall, Marvel. Ei waith diweddaraf yw 1602 llyfr sydd yn gosod rhai o gymeriadau enwocaf Marvel - Spiderman, yr Hulk, y Fantastic Four, yr X-Men ayyb - yn ol yn yr Oes Elisabethaidd-Jacobean. Dyma'r comic y prynais i yng Nghaerdydd, ac fe lwyddodd i'm cadw fi'n hapus yr holl ffordd adref ar y tren i Fangor. Mae'r gwaith celf ychydig yn wan, ond mae'r stori yn wych, ac - yn wahanol i'r rhan fwyaf o gomics - yn llwyddo i syfrdanu'r darllenydd.
Felly ers cael fy swyno gan 1602 dwi wedi bod wrthi'n trio dod o hyd i be arall sydd wedi digwydd i fyd comics dros y ddegawd ddiwethaf. Trafferth DC a Marvel yw eu bod yn gwmniau mawr sydd yn cyhoeddi nifer helaeth o wahanol gomics. Fel rheol, mae cymeriadau'r comics hyn yn bodoli o fewn yr un byd, sydd yn golygu bod arwr un stori yn ymddangos fel is-gymeriad mewn stori arall. Dros bron i hanner canrif, mae hyn yn golygu bod gan y rhan fwyaf o brif gymeriadau stori gefndirol chwerthinllyd o gymleth. Felly dwi'n dueddol o osgoi prynnu comics y cymeriadau mawr, os nad oes awdur nodweddiadol o dda yn gweithio ar y stori. Mae'r gwaith gorau yn bodoli ar yr ymylon, fel rheol.
Fe sonia i fwy am rai o'r pethau gorau i mi ddarllen eto. Ond os oes gan rywun ddiddordeb mewn dechrau darllen comics eto, yna fe alla i awgrymu dau neu dri o gasgliadau gwych. Dwi newydd orffen darllen cyfrol gyntaf Alias. Mae'r comic yma wedi ei anelu at oedolion, ac mae'n dilyn helyntion Jessica Jones. Mae Jessica yn gyn-super hero sydd wedi diosg ei chlogyn er mwyn gweithio fel Private Eye. Mae rhai o brif gymeriadau Marvel yn ymddangos yn achlysurol, ond dim ond fel cymeriadau ymylol. Mae'r ddyfais o edrych ar fyd Marvel o'r cyrion yn gweithio'n wych, ac mae 'na hiwmor tywyll i Alias.
Yr un rhinweddau sydd i The Hood. Eto, mae'r prif gymeriad yn byw ar ymylon byd y Super-heros, ond dihiryn yn hytrach nac arwr yw'r Parker Robbins. Mae'n dod o hyd i glogyn sydd yn ei alluogi i hedfan a gwneud ei hun yn anweledig, ac mae'n ei ddefnyddio i herio'r heddlu a'r mob yn Efrog Newydd.
A'r trydydd awgrym sydd gen i yw Wanted gan Mark Miller. Mae Miller yn un o brif awduron Marvel, ond mae'r gyfrol hon wedi ei chyhoeddi gan Top Cow. Does 'na 'run arwr adnabyddus yn ymddangos yn y llyfr hwn, ond mae sawl pastiche o'r enwogion. Hanes waster di-amcan sy'n etifeddu doniau goruwchnaturiol ei ddiweddar dad yw Wanted, ac mae'n ymdrin a byd sydd yn cael ei reoli gan super-villans cyfangwbl anfoesol. Mae Wanted yn wleidyddol anghywir ac yn hynod o dreisgar, ond hefyd yn ffraeth iawn ac yn ddoniol dros ben. Mae ffilm o Wanted - gyda James McAvoy ac Angelina Jolie yn y ddwy brif ran - yn cael ei saethu ar y funud, ond dwi'n awgrymu eich bod chi'n prynnu'r comic cyn i Hollywood gael cyfle i wneud cam a'r deunydd gwreiddiol.
Digon am y tro. Dwi'n gaddo trafod Mihangel Morgan neu rywun tebyg yn fy neges nesa.

15.2.08

Vaughan Roderick

Yn ei flog heddiw, mae Vaughan Roderick yn ystyried cyfeiriad cyffredinol Plaid Cymru yng nghyd-destun tair ffrae, sef y cyhoeddiad ynglyn a'r papur dyddiol, diffyg cefnogaeth y llywodraeth i ariannu Coleg Ffederal, a pholisi Cyngor Gwynedd o gau rhai ysgolion gwledig.
Dwi'n credu ei bod hi'n biti bod y tri peth yma'n cael eu trafod ar y cyd, oherwydd mae dwy ddadl wahanol yn y fan hyn. Mae pob cyngor gwledig yng Nghymru yn wynebu gorfod cau ysgolion bychain, diolch i nifer o ffactorau allanol.Mae Cyngor Gwynedd wedi chwilio am ffordd o wynebu'r her genedlaethol hon, ond dyw nhw heb lwyddo i fodloni carfan fechan ond swnllyd o drigolion Pen Llyn. Dwi'n dadlau bod cynllun Cyngor Gwynedd yn un blaengar a theg, ac ei fod yn gwbl gydnaws ac egwyddorion cenedlaetholgar traddodiadol - wedi'r cyfan, onid oes Cymry Cymraeg yn mynychu ysgolion Caernarfon, Bethesda, Dolgellau ayyb yn ogystal a phentrefi bychain cefn gwlad?
Mae penderfyniad Cyngor Gwynedd yn deillio o fod mewn gwasgfa gwirioneddol. Mae posib esbonio pam ei fod yn digwydd, hyd yn oed os nad ydych chi'n cytuno ag o. Fedra i ddim gweld sut mae modd esbonio penderfyniad Rhodri Glyn ar y papur dyddiol. Mae'r swm o arian sy'n cael ei drafod yn wirioneddol bitw, yng nghyd-destun cyllideb yr adran dreftadaeth. Ac er gwaethaf beth mae'r gweinidog yn ei honni, mae adroddiad Tony Bianchi, maniffesto Plaid Cymru a chytundeb Cymru'n Un i gyd yn cefnogi'r egwyddor o sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Alla i ddim dirnad pam fod gweinidog Plaid Cymru wedi penderfynnu cynddeiriogi cymaint o'i gefnogwyr craidd, a hynny er mwyn arbed £400,000 o bunoedd y flwyddyn.

Cyhoeddiad trist

Dwi newydd edrych ar fy e-bost, ac wedi darganfod neges drist iawn gan Dyddiol Cyf, yn cadarnhau yr hyn yr oeddem ni i gyd yn ei wybod. Mae penderfyniad y llywodraeth i beidio a chynnig cefnogaeth ariannol digonol i'r papur dyddiol wedi rhoi'r farwol i gynlluniau Dyddiol ac Y Byd. Mae Aled Price, y darpar olygydd, wedi ymddiswyddo, ac mae'r cwmni yn ystyried a oes modd defnyddio'r gwaith caled y mae nhw wedi ei wneud i sefydlu menter arall. Dyw hyn ddim yn newyddion syfrdanol, wrth gwrs, ond mae yn newyddion trist. £13 miliwn o bunoedd i dalu overdraft Canolfan y Mileniwm, ond fedr y llywodraeth ddim fforddio £600,000 y flwyddyn i ariannu papur dyddiol.

8.2.08

Papur dyddiol - Barn Maes-e

Mae cyhoeddiad Rhodri Glyn Thomas ynglyn a'r grant i'r wasg Gymraeg wedi gwneud i mi anobeithio ynglyn a chenedlaetholdeb Plaid Cymru ar lefel Gymreig. Ond nid fi yw'r unig un - dyma chi ychydig o sylwadau oddi ar wefan Maes-e. Gobeithio bod y gweinidog treftadaeth yn sylweddoli sut mae llawer iawn o gefnogwyr traddodiadol ei blaid - y bobl sy'n ei gadw mewn gwaith - yn teimlo ynglyn a hyn.

"Ma Plaid Cymru mewn Llywodraeth. Mae llywodraethau'n torri addewidion.

Y tristwch mawr fan hyn yw bo ni'n byw mewn gwlad lle mae'n rhaid brwydro am bob ceiniog am ddatblygiadau i hybu'r iaith. O ran pwysigrwydd y fenter, darllen yw'r ffordd orau i ddysgu, safoni a normaleiddio iaith. Yn lle gimmicks fel brecwastau am ddim (pwy ffac sy ffili rhoi bach o chaff i blentyn cyn mynd a fe i'r ysgol) a laptops am ddim (as if) dyle arian deche gael ei roi i gynllun uchelgeisiol ond gwerth chweil."
- Ray Diota

"Wedi torri'r addewid hwn, bydd rhai ohonom yn cadw'n llygad ar addewid arall: mater o ddiddordeb mwy lleiafrifol mae'n wir, ond mater a fydd yn brawf, terfynol efallai, ar ddidwylledd Plaid Cymru: sef yr addewid i greu Coleg Cymraeg Ffederal. Ai rhywbeth tila tila fydd hi eto, gyda phres mwnci tuag at ei gynnal? Fe gawn ni weld ....

Mae'r hyn a ddigwyddodd yr wythnos hwn yn peri dechrau gofyn, a fydd yr anesmwythyd yng Ngwynedd yn tyfu'n anesmwythyd drwy'r ardaloedd a gynrychiolir yn awr gan y Blaid, ac yn arwain at ei herio yn etholiadau'r Cynulliad, 2011? Ni byddai cam o'r fath yn un i'w gymryd ar chwarae bach, ond mae bellach yn bosibilrwydd y gall rhai ohonom, dros y flwyddyn neu ddwy nesaf, ein cael ein hunain yn meddwl yn ofalus a difrifol yn ei gylch."
- Obi Wan

"Plaid Cymru = Plaid Celwydd"
- Mihangel Macintosh

"Ar Dragon's Eye neithiwr (os fyswn i'n gwbod shwt i greu links mi fyswn i'n rhoi un yma, ond dydw i ddim!) roedd IWJ yn cyfiawnhau'r tor-addewid a wnaed ynghylch papur dyddiol. Mae'n droedig sut mae ganddo wyneb i wneud hynny - 14miliwn i un adeilad, 3 miliwn i ardd a cheiniogau i sefydlu papur Cymraeg a fyddai'n cyfrannu at warchod iaith, sydd cyn lleied o arian fel ei bod hi'n amhosib sefydlu un. Oes 'na gynllwyn yma i wneud yn siwr nad oes 'na bapur dyddiol Cymraeg yn cael ei sefydlu? (Mi fysa'r Blaid Lafur wrth ei bodd yn gweld y Gymraeg yn cael ei rhwymo unwaith eto.) Mae Plaid Cymru wedi troi ei chefn ar yr iaith o dan ddylanwad y Blaid Lafur, a 'dal awennau grym' (ha ha!) wedi mynd i'w phen. Mae ganddi andros o lot o waith codi o'r gwter ddiflas mae hi'n ymdrybaeddu ynddi."
- Lleucu Roberts

"Ie, cachgwn yw Plaid Cymru am beidio gwneud yn glir eu bod yn erbyn papur dyddiol. Os nad Y Byd, yna fydd ddim papur arall. Dyw £200k ddim yn ddigon i Trinity Mirror - 5 aelod newydd o staff efallai? Rhyw supplement Gymraeg eil-radd yng ngolwg pobl, fyddai'r gorau fydde nhw'n wneud."
- Twpsyn

"Y ffaith yw bod y difrod wedi'i wneud: bydd llawer o bobl, fel Hedd (a finnau) yn teimlo nad ydynt yn gallu dibynnu ar y Blaid i ddelifro a bod Llafur yn gwneud ffwliaid ohonom. Embras i fod ym Mlaid Cymru ac embaras perthyn i genedl a gododd capeli, llyfrgelloedd a phrifysgol gynt ond nad yw hi bellach yn gallu codi pris ty am bapur newydd? Gadewch i ni ddadlau am be' mae hyn yn dweud am realiti gwleidyddol a diwylliannol y Gymru sydd ohoni a sut mae mynd ati i newid hyn heb aros trwy'r amser fel plant am gymorth gan y wladwriaeth neu am i eraill newid pethau."
- Efrogwr

Dwi'n credu mai'r peth mwyaf teimladwy dwi wedi ei ddarllen ar y cyfan yw blog Hogyn o Rachub.

http://rachub.blogspot.com/2008/02/ysgaru-o-blaid-cymru.html

Mae o'n dweud na fydd yn adnewyddu ei aelodaeth o Blaid Cymru, oherwydd ei fod wedi cael llond bol ar agwedd y blaid tuag at y Gymraeg. I mi, mae ergyd sylwadau HoR yn llawer caletach nac ergyd geiriau trist Hywel Teifi Edwards ddydd mawrth. Mae Hywel Teifi yn gawr, yn un o ddynion mwyaf y Gymru gyfoes, ond mae hefyd yn ddyn sydd dros ei 70 oed. Fe fyddai'n hawdd i Blaid Cymru ddi-ystyru geiriau Hywel Teifi fel llais y genhedlaeth hyn, amherthnasol. Ond mae Hogyn o Rachub yn 22 oed, ac yn byw yn un o gadarnleoedd y Gymraeg - a'r blaid. Sut ddyfodol sydd 'na i Blaid Cymru os yw ei chefnogwyr naturiol wedi penderfynnu cefnu arni o fewn 4 blynedd o gyrraedd oed pleidleisio?

7.2.08

Golwg

Dwi newydd dderbyn copi wythnos yma o Golwg, a dwi'n falch o weld bod y golofn olygyddol yn dweud yr hyn dwi wedi bod yn ei ddweud - sef bod hi'n amhosib creu papur dyddiol am £200,000 y flwyddyn. Mae'r golofn yn mynd ymlaen i ddweud y bydd Golwg Cyf yn ceisio am beth o'r gronfa newydd, a dwi'n cymeryd y bydden nhw'n gobeithio defnyddio'r pres i ddatblygu'r gwasanaeth ar-lein newydd.
Er mod i'n siomedig ac yn flin gyda agwedd y llywodraeth ar y papur dyddiol, dwi yn cydnabod bod £200,000 yn fuddsoddiad sylweddol a bod hyn yn newyddion da i bawb arall sy'n gweithio yn y maes. A dwi'n dymuno pob lwc i Golwg yn ei menter newydd. Mae gen i barch anferthol at Dylan Iorwerth fel newyddiadurwr, rheolwr-gyfarwyddwr a dyn busnes. Gobeithio bydd y wefan newydd yn llwyddiant, ac yn mynd rhywfaint o'r ffordd at lenwi'r bwlch yn y ddarpariaeth bresennol.

6.2.08

Y Byd ar Bedwar, eto

Dwi'n adnabod Marc Jones rhyw ychydig, gan ei fod wedi cyfrannu fel newyddiadurwr i Barn, ac ein bod ni wedi bod yn trafod amryw bethau pan oedd o'n olygydd Golwg. Wedi iddo weld yr hyn yr ysgrifenais i amdano fo, mae wedi cysylltu a mi i ddweud ei fod yn teimlo mod i'n bod yn anheg.
Dwi ddim yn gweld bai ar Marc am ddweud yr hyn a ddywedodd o ar y Byd ar Bedwar neithiwr. Fe fu'n cymeryd rhan mewn trafodaeth banel ar y wasg Gymraeg yn yr Eisteddfod eleni, ac fe wnaeth lawer o'r un sylwadau am Y Byd ac y gwnaeth ar y rhaglen - a hynny ymhell cyn iddo dderbyn swydd gyda Phlaid Cymru.
Gweld bai ar Y Byd ar Bedwar oeddwn i, a nid ar Marc yn bersonnol. Gan fod Marc yn gweithio i Blaid Cymru, roedd ganddyn nhw gyfrifoldeb i hysbysu'r gwyliwr o'r ffaith yma. Ar y lefel symlaf, roedd hi'n ffeithiol anghywir disgrifio Marc fel newyddiadurwr, bellach, gan ei fod yn cael ei gyflogi fel swyddog y wasg. Ond gan mai Plaid Cymru yw ei gyflogwr, a Phlaid Cymru sydd yn dal y weinidogaeth Dreftadaeth, roedd hi'n bwysicach byth bod y gwyliwr yn cael gwybod y ffeithiau i gyd. Roedd Marc yn siarad yn gwbl bersonol ar y rhaglen, yn hytrach na fel aelod o staff Plaid Cymru. Serch hynny, roedd gan Y Byd ar Bedwar ddyletswydd proffesiynnol i adael i ni wybod am ei gefndir proffesiynnol, er mwyn i ni allu penderfynnu ein hunain a oedd ei sylwadau yn ddi-duedd neu beidio.
Beth bynnag, dwi ishio ymddiheuro i Marc os yr ydw i wedi gwneud cam ag o, a gobeithio ei fod - fel cyn olygydd - yn deallt pam bod fy meirniadaeth i o'r Byd ar Bedwar yn un gwbl ddilys.

Cymorthdal 2

Fe fues i'n gwneud rhywfaint o fathamateg ddoe, yn ceisio dyfalu faint o gymorthdal y copi mae cyhoeddiadau eraill Cymru yn ei dderbyn, er mwyn cymharu gyda ffigwr Barn, sydd yn ymddangos yn adroddiad Tony Bianchi. Roeddwn i wedi defnyddio cyfartaledd gwerthiant holl gyhoeddiadau Saesneg Cymru sy'n derbyn grant gan y Cyngor Llyfrau i amcangyfrif. Fel mae'n digwydd, roeddwn i'n eithaf agos ati gyda'r New Welsh Review, ond ddim gyda Planet. Mae 'na fathamategydd gwell na fi wedi casglu'r ffigyraau cywir, gan ddefnyddio gwerthiant go iawn pob cylchgrawn. Er gwybodaeth, dyma nhw

Barddas - £5.23 y copi
Barn - £9.09 y copi
Poetry Wales - £10.42 y copi
Planet - £12.50 y copi
New Welsh Review - £19.28 y copi

Dwi ddim yn cyhoeddi'r wybodaeth yma i geisio di-frio'r cyhoeddiadau eraill. Dwi ddim yn tanysgrifio i bob un, ond dwi yn eu darllen nhw i gyd yn achlysurol, ac yn credu bod pob un yn rhagori yn ei faes. Mae arbenigwyr allanol sydd wedi bod yn archwilio i'r maes yn cytuno. Fy unig ddiben i wrth gyhoeddi hyn yw nodi dwy ffaith

1) Rydym ni'n byw mewn diwylliant lle mae cymorthdal sylweddol yn rhan angenrheidiol o gyhoeddi cyfnodolion safonol. Gellid damcaniaethu ynglyn a pham bod hyn yn wir, gyda phawb yn dod i gasgliad gwahanol. Ond dwi'n credu bod gwerth i bob un o'r cyhoeddiadau sydd wedi eu rhestru uchod, ac mae nhw i gyd yn haeddu'r grant.

2) Er gwaetha'r argraff sy'n cael ei chreu gan adroddiad Tony Bianchi, mae Barn yn eithaf bargen. Yn sicr, dyw'r grant yr ydym ni'n ei dderbyn ddim dros ben llestri, fel mae rhai wedi ei awgrymu.

5.2.08

Diwedd Y Byd

Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod prysur iawn i mi, ond fedrwn i ddim anwybyddu'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn y Cynulliad. Beth bynnag fo'ch barn chi gynllun busnes Dyddiol Cyf, dwi'n credu bod y cwmni wedi cael ei drin yn siabi iawn gan Rhodri Glyn Thomas.

Does dim amheuaeth bod 'na wendidau sylfaenol yng nghynllun busnes Dyddiol. Roedden nhw'n or-uchelgeisiol wrth amcangyfrif nifer y darllenwyr, ac yn gofyn am ormod o adnoddau i gynnal y fenter. Fyddai yr un gwleidydd wedi medru cyfiawnhau rhoi'r arian yr oedden nhw'n ofyn amdano. Roedd adroddiad Dr Tony Bianchi yn dweud hyn yn blwmp ac yn blaen, ac yn cynghori Dyddiol Cyf i ail-ystyried ei cynllun busnes. Yr awgrym cwbl resymol oedd ei bod hi'n amhosib cefnogi'r cynllun ari ei ffurf presennol, ond y byddai modd cefnogi cynllun diwygiedig. Cyngor doeth a rhesymol.

Y broblem gyda chyhoeddiad heddiw yw fod y ffigwr sydd yn cael ei gynnig gan y Gweinidog Treftadaeth cymaint yn is na'r hyn yr oedd Dyddiol yn gofyn amdano fel ei bod hi'n amhosib iddyn nhw wneud unrhyw newidiadau ymarferol i'w cynllun a fyddai'n dod o hyd i ddigon o doriadau. Does dim lle i gyfaddawdu ar weledigaeth y cwmni. Roedd Dyddiol wedi amacangyfrif y byddai cyhoeddi papur dyddiol Cymraeg yn cosio £1.2 miliwn y flwyddyn, gyda £1 miliwn yn dod o goffrau'r Cynulliad - drwy gyfuniad o grant a gwarant o incwm hysbysebu. Cyhoeddodd Rhodri Glyn Thomas heddiw bod £200,000 ychwanegol ar gael i ariannu'r wasg Gymraeg, gyda phob cyhoeddiad - boed yn bapur dyddiol neu beidio - yn rhydd i geisio am ran o'r arian ychwanegol.

Mae'r ffigwr hwn yn rhoi'r farwol i'r syniad o bapur dyddiol Cymraeg. I'w roi yn ei gyd-destun, mae hi'n costio £100,000 y flwyddyn i gynhyrchu 10 rhifyn o Barn. Fi yw'r unig aelod o staff llawn amser a dwi'n gwneud rhan helaeth o'r gwaith gosod, a tynnu lluniau fy hun, yn ogystal a'r golygu. Mae nifer o bobl eraill yn rhoi ei hamser am ddim neu nesaf peth i ddim, ac mae'r arian yr ydym ni'n ei dalu i gyfranwyr yn gymharol isel. Ac ar ben popeth, du a gwyn yw'r tudalennau mewnol i gyd. Dyna pam mor bell y mae £100,000 yn mynd wrth gyhoeddi, felly fe allwch chi ddychmygu pam mor anymarferol fyddai cynhyrchu papur dyddiol ar £200,000. Does 'na yr un cwmni ar wyneb daear a allai gynhyrchu papur dyddiol Cymraeg am y swm yma.

Nawr fe allwch chi ddadlau nad oes ots. Wedi'r cyfan, mae'r wasg Gymraeg yn gyffredinol wedi derbyn buddsoddiad ychwanegol hael. Beth yw'r ots os ydym ni'n gwario'r arian yma ar wella Golwg, Y Cymro a Barn, ac yn anghofio am Y Byd? Efallai ei bod hi'n ddoethach cryfhau y ddarpariaeth bresennol, er mwyn gwneud papur dyddiol yn fenter mwy realistic mewn blynyddoedd i ddod.

Safbwynt digon teg a rhesymol. Problem y llywodraeth yw ei bod wedi gwneud ymrwymiad pendant i greu papur dyddiol Cymraeg yn nghytundeb Cymru'n Un. Roedd llawer iawn o genedlaetholwyr yn anfodlon iawn gyda'r syniad bod Plaid Cymru am fynd i glymblaid gyda Llafur, ond fe benderfynon nhw gefnogi'r cynllun oherwydd ei fod yn gwarantu y bydden ni'n gweld sefydlu pethau megis papur dyddiol Cymraeg a Choleg Ffederal Cymraeg. Dwi'n rhagweld y bydd 'na lawer iawn o bobl yn teimlo bod y llywodraeth wedi torri addewid heddiw drwy fethu a sicrhau bod cyllideb ddigonol yn bodoli i ariannu'r ymrwymiad penodol hwn. A gan mai AC Plaid Cymru yw'r gweinidog treftadaeth, yna fe fydd 'na lawer o bobl yn beidio Plaid Cymru yn benodol am y siom yma.


Mae Y Byd wedi derbyn cefnogaeth dda gan y dosbarth canol traddodiadol Cymraeg - sef yr union bobl sydd yn pleidleisio yn ddeddfol i Blaid Cymru. Sgwn i beth fydd ei ymateb nhw i'r hyn mae Rhodri Glyn Thomas wedi ei wneud? Yw hyn yn ddigon i gael dylanwad ar bleidlais Plaid Cymru?

Marc Jones, newyddiadurwr?

Dwi newydd fod yn edrych ar raglen y Byd ar Bedwar yn trafod hynt a helynt Y Byd. Un o'r rhai oedd yn siarad oedd cyn-olygydd Golwg Marc Jones, ac roedd yn ddigon beirniadol o Gwmni Dyddiol Cyf, sydd yn gyfrifol am Y Byd. Roedd Marc yn cael ei ddisgrifio ar y rhaglen fel newyddiadurwr. Ond dwi'n credu fod Marc yn gweithio i Blaid Cymru fel swyddog y wasg erbyn hyn. O ystyried mai Rhodri Glyn Thomas, AC Plaid Cymru, sydd wedi rhoi'r farwol i Y Byd, oedd hi'n briodol holi Marc? Onid oedd ei sylwadau yn ffordd o gefnogi penderfyniad ei fos, ac felly yn rhan o'i waith fel sbin doctor?

Cymorthdal

Roeddwn i fod i ymddangos ar Good Morning Wales y bore ma, i drafod y cymorthdal mae Barn yn ei gael gan y Cyngor Llyfrau. Ond gan i fy mab gael ei eni tua'r amser yr oeddwn i fod ar yr awyr, wnes i ddim cyrraedd y sdiwdio.

Beth bynnag, dwi wedi bod yn gwneud dipyn o ymchwil. Roedd Radio Wales am fy holi fi ynglyn a'r ffaith bod pob rhifyn o Barn sy'n cael ei gyhoeddi yn derbyn £9 o gymorthdal gan y Cynulliad - ffigwr a ddaeth i'r amlwg yn adroddiad diweddar Tony Bianchi ar y wasg Gymraeg. Mae 'na sawl un wedi syfrdanu gyda'r ffigwr yma, gan gynnwys y gweinidog treftadaeth ei hun, yn ol y son.

Problem Barn yw ein bod ni wedi cael ein cynnwys mewn arolwg o'r wasg brintiedig Gymraeg, tra bo cyfnodolion tebyg eraill - Taliesyn neu Barddas, er engrhaifft - wedi cael eu heithrio, er mai'r un grant sydd yn ein ariannu ni i gyd. Chwarae teg i Tony Bianchi, mae'n cydnabod yn ei adroddiad bod hyn yn gangymeriad.

Yn yr adroddiad, mae ein ffigwr cymorthdal y rhifyn ni yn cael ei osod ochr yn ochr a ffigyrau'r Cymro a Golwg, sydd yn isel iawn (ceiniogau y rhifyn, yn hytrach na phunnoedd). Ond petai Barn wedi cael ei gymharu gyda nifer o gyfnodolion eraill, fe fyddai'n edrych tipyn yn well.

Cymerwch y ffigyrrau ar gyfer cyfnodolion Saesneg o Gymru. Y Cyngor Llyfrau sy'n ariannu'r rhain hefyd, trwy'r un math o grant a mae Barn yn ei dderbyn. Dyw'r Cyngor ddim yn cyhoeddi ffigyrrau gwerthiant ar gyfer pob cylchgrawn, ond mae'n nodi 650 yw cyfartaledd gwerthiant cylchgronnau lleyddol Saesneg. Mae'r cyngor yn cyhoeddi manylio grantiau'r gwahanol gylchgronnau, fodd bynnag, ac fe allwn ni amcangyfrif beth yw'r cymorthdal/rhifyn drwy ddefnyddio'r cyfartaledd gwerthiant o 650.

Cymerwch y New Welsh Review. Mae'n derbyn £54,440 y flwyddyn i gynhyrchu 4 rhifyn. Os yw pob rhifyn yn gwerthu 650 o gopiau, yna mae pob copi yn derbyn £20.93 o gymorthdal gan y Cyngor Llyfrau.

Neu beth am Planet? Mae planet yn cael £90,170 y flwyddyn i gynhyrchu 6 rhifyn. Eto, os defnyddiwn ni gyfartaledd gwerthiant y Cyngor Llyfrau, mae pob copi o Planet yn derbyn £23.12 gan y Cyngor Llyfrau.

Efallai bod y ffigwr o 650 yn anghywir, a bod y naill neu'r llall o'r cylchgronnau hyn yn gwerthu llawer iawn mwy. Ond os yw fy mathamateg i'n gywir, yna mae'n gwneud i Barn edrych yn dipyn o fargen. Sgwn i os y bydd golygyddion y ddau gyfnodolyn yma yn ymddangos at Good Morning Wales dros y dyddiau nesaf, i amddiffyn lefel eu cymorthdal hwy?