26.1.12

Arweinyddiaeth Plaid Cymru - Dafydd Ellis Thomas

Wedi cyfnod hir iawn o beidio blogio, mae'r ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi fy hudo yn ol. Dwi wedi gwneud rhyw sylwadau wrth basio ar Twitter, ond mae cymlethdodau'r ras yn gofyn am fedru dweud mwy nac y gellid ei ffitio mewn i 140 llythyren.

Heb fynd i swnio'n rhy negyddol, dwi ddim yn credu bod y cynnig sydd ger bron yr aelodau yn un arbennig o wefreiddiol. Mae'r broses o ddewis arweinydd - hyd yn hyn - wedi bod yn donic i'r Blaid, yn bennaf oherwydd y cynnwrf mae Leanne Wood wedi llwyddo i'w greu ymysg aelodau newydd, ifanc. Ond y teimlad dwi'n ei gael yw bod pedwar sydd yn y ras yn ddarpar arweinwyr dros dro. Dwi'n gwybod mor syrffedus yw clywed aelodau Plaid Cymru yn trin Adam Price fel Meseia, ond fedra i ddim peidio a theimlo mae cadw'r sedd yn gynnes i Adam fydd gwaith pa bynnag un o'r pedwar fydd yn llwyddianus.

Mae gen i rhyw deimlad efallai bod Dafydd Elis-Thomas yn teimlo 'run fath a fi. Dwi ddim yn argyhoeddedig fod DET yn dymuno bod yn arwain Plaid Cymru i mewn i etholiadau 2019; yn hytrach, dwi'n teimlo ei fod yn gweld yr her i'r Blaid yn y tymor canol, ac yn dymuno rhoi sefydlogrwydd iddi dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Os mae dyna'r bwriad, dwi ddim yn or-wrthwynebus i ymgeisyddiaeth yr Arglwydd. Dwi'n ymwybodol fod DET yn ffigwr dadleuol o fewn y Blaid, ond dwi ddim yn siwr faint o sylwedd sydd 'na i'r feirniadaeth ohono. Ei ddatganiadau ynglyn a chenedlaetholdeb a'r frwydr iaith sydd wedi gwneud niwed iddo, ac mae'r rhain yn deillio o ymgais i gymeryd safbwynt mwy nuanced ar y materion hyn - ymgais sydd wedi methu, i raddau helaeth, a sydd wedi arwain at ganfyddiad o fewn Plaid Cymru ei fod yn wrthwynebol i draddodiad cenedlaetholgar-ddiwylliannol y Blaid.

Dwi'n credu bod 'na wahaniaethau eithaf helaeth rhwng fy ngwleidyddiaeth i a gwleidyddiaeth DET - yn enwedig ar genedlaetholdeb diwylliannol, yr Undeb Ewropeaidd a materion rhyngwladol. Ond mae gen i barch mawr at allu DET, ac yn credu ei fod yn meddu ar y sgiliau cyfathrebu sydd yn angenrheidiol mewn arweinydd. Yng nghyd-destun Gwynedd, mae hefyd wedi bod yn eithriadol o gefnogol i waith y Cyngor. Y peth hawdd i'w wneud fyddai iddo neidio ar bob bandwagon Llais Gwynedd-aidd sydd yn pasio heibio; gwneud ei hun yn boblogaidd ar draul ei gyd-aelodau ar y Cyngor. Mae DET yn haeddu clod am beidio gwneud hyn, a rhoi ei gefnogaeth lawn i'r hyn mae Plaid Cymru yn ei wneud o fewn ei etholaeth.

Y maen tramgwydd mawr i mi yw perthynas Plaid Cymru a phleidiau eraill y Cynulliad. Mae Dafydd Elis-Thomas wedi ei gwneud yn berffaith blaen ei fod yn credu mae lle Plaid Cymru yw cyd-weithio a Llafur yn y Cynulliad i wthio agenda flaengar, Gymreig yn ei blaen. Mae wedi datgan y bydd yn gwthio'r Blaid i fabwysiadu'r egwyddor nad ydynt yn fodlon clymbleidio a'r Ceidwadwyr ar unrhyw gyfrif. Tra mod i'n deallt ei anfodlonrwydd i gyd-weithio a'r Toriaid, mae'n rhaid cofio bod 'na nifer fawr o bobl o fewn Plaid Cymru - minnau yn eu plith - sydd a gwrthwynebiad egwyddorol sylfaenol i glymbleidio gyda unrhyw un o'r pleidiau unoliaethol. Roeddwn i'n anhapus iawn ein bod ni wedi clymbleidio gyda Llafur yn 2007. Yn y tymor hir, mae gen i bryderon anferth am effaith cael un blaid yn tra-arglwyddiaethu dros ddemocratiaeth yng Nghymru, ac roedd Cymru'n Un yn atgyfnerthu'r unbleidiaeth yma. Ond, mi ydw i hefyd yn cydnabod fod Cymru'n Un wedi galluogi Plaid Cymru i gyflawni nifer o addewidion ei maniffesto, a hynny er bydd pobl Cymru. Mae clymbleidio yn rhan annatod o wleidyddiaeth Cymru ers 1999, ac mae'n rhaid i Blaid Cymru gymeryd agwedd bragmataidd at ddewis partneriaid. Mae mabwysiadu egwyddor o eithrio un blaid yn cyfyngu gallu Plaid Cymru i wthio agenda cenedlaetholdeb yn ei blaen.

Dyma pam na fedra i gefnogi Dafydd Elis-Thomas fel dewis cyntaf. Ond, dwi yn gefnogol i'w achos, ac yn credu y byddai'n gwneud arweinydd dros-dro rhagorol. Felly, oni bai fod pethau'n newid yn radical rhwng rwan a derbyn y papur pleidleisio, DET fydd yn cael fy ail-bleidlais i.

Ac o ran darogan y canlyniad? Dwi'n credu mae DET fydd yn yr ail safle ar ddiwedd y ras. Mi roi fy marn ar y 3 ymgeisydd arall dros y dyddiau nesaf.