3.9.10

Gwneud y pethau bychain

Diolch i Rhodri ap Dyfrig a chriw Pethau Bychain am drefnu'r digwyddiad heddiw. Mae'r blog wedi bod yn ddistaw dros ben yn ddiweddar, ac mae gweithgarwch criw Pethau Bychain, ynghyd a'r ffaith fy mod wedi dod yn syfrdanol o uchel yn rhestr flynyddol Blogiau Cymreig Total Politics wedi codi cywilydd arna i. Pam fy mod i wedi gwneud cyn lleied o ymdrech i flogio yn ddiweddar?
Does dim amheuaeth fy mod i wedi bod yn brysur - gyda fy ngwaith bob dydd ym Mhrifysgol Bangor, ond hefyd gyda amryw bethau eraill yn fy mywyd. Fe briodais ar yr 17eg o Orffennaf, ac fe gymerodd hynny dalp o fy amser ddecrhau'r haf. (Dwi hefyd yn aelod o Awdurdod S4C, ond dwi ddim yn mynd i ddechrau trafod y prysurdeb sydd wedi bod ynghlwm a hynny).
Yn y gwaith, dwi'n defnyddio'r haf yn bennaf i wneud gwaith ymchwil, ac mae'r PhD wedi bod yn symyd ymlaen yn boenus o araf. Serch hynny, fe dderbyniais i newyddion da ychydig wythnosau yn ol, ynglyn a darn arall o waith ymchwil sydd gen i ar y gweill. Dwi wedi derbyn grant i fod yn gwneud darn o waith ar hunaniaeth bechgyn ifanc Cymraeg, a hynny drwy ddefnyddio dulliau sydd wedi eu llunio gan Yr Athro David Gauntlett, o Brifysgol San Steffan.
Fel rhan o'r cynllun hwn, fe fydda i'n ymweld a thair ysgol uwchradd mewn ardaloedd Cymraeg, ac yn gweithio gyda grwp dethol o fechgyn. Y syniad ydi ein bod yn mynd ati i ddychmygu beth fyddai hanes superhero wedi ei fagu yn y Gymru Gymraeg - Spiderman o Gaernarfon, neu Superman o Dregaron. Mae'r grant yn ein galluogi ni i dalu arlunydd proffesiynnol i weithio gyda'r bechgyn i lunio'r cymeriadau, a dwi'n gobeithio gallu defnyddio doniau un arlunydd arbennig sydd wedi gweithio ar rai o gomics mawr Marvel a 2000AD.
Beth bynnag, fe fydd y cymeriadau a'r comics yn cael eu rhoi ar y we pan mae nhw'n barod, ac fe fydd cyfle i'r cyhoedd ein cynorthwyo wrth i ni geisio dehongli beth mae'r cymeriadau yn eu dweud am hunaniaeth y bechgyn. Fe wna i adael mwy o fanylion yn y fan hyn, wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen, gan obeithio bydd gan rai ohonoch chi ddiddordeb mewn cyfrannu at y drafodaeth.

8.6.10

Ysgol y Parc - Ymateb Ffred Ffransis

Mae Ffred, fel finnau, yn ddyn hynod o brysur sydd yn gorfod ffitio gwaith gwleidyddol o amgylch bywyd go iawn. Yn dilyn protestiadau ychydig wythnosau yn ol, a'r drafodaeth a ddilynnodd, mae wedi ysgrifennu neges ataf. Roedd wedi bwriadu ei rhoi yn adran sylwadau'r blog, ond wedi methu a gwneud gan ei bod yn rhy hir. Felly er tegwch iddo (a gyda ei ganiatad) dwi'n atgynhyrchu'r cyfan yma. Os ca'i amser, efallai yr ysgrifenna i ymateb dros yr wythnosau nesaf.


Annwyl Dyfrig
Dyma gyfle o'r diwedd i ymateb i'th sylwadau am Ysgol Parc a'r ddadl yn
siambr Gwynedd. Pwyllgor Craffu oedd hwn i fod, ond doedd fawr dim
gwaith craffu na holi beirniadol ar yr argymhelliad i gau Ysgol Parc.
Byddai llawer iawn o faterion y byddwn yn anghytuno a nhw o ran yr hyn a
ddywedwyd ac na ddywedwyd y diwrnod hwnnw, ond ni byddwn yn torri ar
draws y gweithgareddau onibai egwyddor sylfaenol yn y fantol. Gallwn i
fod wedi aghytuno a lleoliad arwydd ffordd yn y 70au, ond fyddwn i ddim
yn ei symud heblaw am ei fod yn anwybyddu'r Gymraeg.

Yr egwyddor sylfaenol oedd bod y penderfyniad wedi bradychu lles a
gobeithion plant ysgol Parc a'r gymuned Gymraeg y maent yn perthyn iddi.
Rwy'n sicr nad dyna fwriad y cynghorwyr a bleidleisiodd felly - ac felly
nid bradwyr mohonynt - ond dyna effaith ymarferol eu gweithred, ac ni
sefydlwyd Plaid Cymru er mwyn bradychu cymunedau Cymraeg bychain. Mae'n
cymryd dwy funud o ystyriaeth i gynnig gwelliant y dylai'r Cyngor
weithio i gynnal y gymuned wedi cau'r ysgol - ond mae'n cymryd
blynyddoedd o fyw yn Parc (neu, fel fi, mewn pentre gwledig cyffelyb) i
weld mor wag yw geiriau o'r fath. Nid rhywbeth i'w chreu gan Swyddogion
Datblygu yw cymuned ond twf organig i'w hyrwyddo trwy sicrhau fod
ffocysys cymunedol ar gael. Yr ysgol yw'r pwysicaf o'r rhain ar gyfer
plant ac oedolion ifainc o oed rhieni. Trwy'r ffocws hwn maen nhw'n
cyfarfod ac yn rhannu gobeithion a diwylliant byw. Hebddi fe ant ar
chwal i wahanol gyfeiriadau, ac mae cymuned gyfan yn heneiddio wrth fod
rhieni ifainc yn peidio a dewis byw mewn cymuned heb ysgol. Flynyddoedd
yn ol yr oedd sawl ffocws i fywyd cymuned bentrefol, fe erys ychydig.
Mae'r sefyllfa'n fwy unigryw yn Parc gan fod y gymuned wedi mynd trwy'r
frwydr am ei dyfodol yn barod ac fe sefydlwyd, o ganlyniad, bartneriaeth
unigryw rhwng ysgol a chymuned - gyda neuadd yn rhan o'r ysgol a
phrifathro yn cael dyletswydd a chydnabyddiaeth fel arweinydd cymunedol
Cymraeg. Byddai ganwaith anos cynnal adnodd o'r fath heb fod ysgol yn
rhan ohoni - o ran incwm ac o ran cyfranogiad pobl ifainc. O ran yr
effaith ar y Gymraeg, rwyt yn cyfeirio at adroddiad Dylan Bryn. Fe
wnaeth yr hyn y'i gofynwyd ohono - sef ateb y cwestiwn "Petai plant Parc
oll yn mynd i Lanuwchllyn, beth fyddai'r effaith ar eu hiaith ?" Mae'r
ateb gweddol hunan-amlwg yn y fformiwla mathemategol simplistaidd -
"Byddai deirgwaith fwy o blant Cymraeg, ac felly deirgwaith mwy o
gyfleon i ddefnyddio'r iaith !!!" Ond mae rhagdyb y cwestiwn yn
anghywir. Fyddai plant Parc ddim yn mynd yn otomatig i Lanuwchllyn
oherwydd mai dyna gynllun biwrocrat yng Nghaernarfon. O chwalu'r cyswllt
rhwng ysgol a chymuned a thanseilio ymdeimlad rhieni o berchnogaeth ar
eu hysgol, byddai rhieni'n anfon eu plant at amrywiaeth o lefydd yn ol
cyfleustra personol, teuluol a gwaith. Yn ol yr ymdrafod lleol, byddai
rhyw 6 yn debyg o fynd i Lanuwchllyn, cwpwl i Ysgol Bro Tryweryn a'r
mwyafrif i'r Bala. O roi cwestiwn neu senario felly, byddai'r awdur wedi
dweud y byddai'r symudiad yn ddinistriol i iaith y plant. Yn llawer
pwysicach, byddai'n ehangach niweidiol i'r Gymraeg trwy danseilio
cymuned bentrefol Gymraeg arall.

Dwi'n eitha siomedig yn dy syniad cul iawn - o ddarllen dy flog - o beth
yw diben addysg a'r meddylfryd adrannol ynghylch sut y dylid gweinyddu
cyllid. Mae cyfranogiad rhieni a chymuned yn addysg y plant yn ffactorau
o werth addysgol yn yr oedran gynnar, ac mae golwg holistaidd ar
weinyddu cyllid yn cynnig atebion llai simplistaidd nag eiddo swyddogion
y Cyngor. Yn ol ffigurau'r swyddogion, byddai cau Ysgol Parc yn arbed
£59,000 (neu £2.65 y pen i bob disgybl yng Ngwynedd). Byddai'r ffigur yn
gostwng yn sylweddol os ystyriwch werth ariannol y cymorth gwirfoddol a
roddir gan drigolion Parc i'r addysgu, ac hefyd cost gwaith unrhyw
swyddogion datblygu sy'n ceisio codi'r darnau wedi cau ysgol. Ond yn
bwysicach, mae'r swyddogion yn ystyried arbedion mewn cymhariaeth a'r
status quo (nad oes neb yn ei bledio) yn hytrach na chydag opsiynau
eraill. Fe roddwyd i'r pwyllgor cam-wybodaeth ddybryd gan swyddog am
ystyr a goblygiadau ffederasiynau yn ol y rheoliadau newydd a gyhoeddwyd
yn derfynol ddeufis yn ol (ond a fodolent am 18 mis cyn hynny ar ffurf
drafft). Am ryw reswm, mae Gwynedd o hyd yn edrych ar ffederasiwn fel
posibiliad rhwng 2 neu 3 o ysgolion bach. Mae ymchwil Ynys Mon yn dangos
fod y gwir arbedion sylweddol i'w canfod o greu ffederasiwn rhwng
sefydliad mawr canolog a'r ysgolion bach cylchynnol - ond dyw Gwynedd
byth yn edrych ar fodel o'r fath.

Dyma'r wir siom i ni - nad ystyriwyd y model arloesol ac uchelgeisiol a
gynigwyd gan Gymdeithas yr Iaith ac a roddodd fod i'r holl drafod yn y
lle cyntaf. Cynigiodd y Gymdeithas yn 2008 y dylid creu ffederasiwn - ar
y ffurf newydd o ysgolion, nid safleoedd - rhwng Ysgol Uwchradd y Berwyn
a'r ysgolion cynradd o'i chwmpas ac y dylai'r uned addysgol
integreiddiedig hon gael mewnbwn gan CMD a chynnig cyfleusterau newydd
yn gymunedol ac yn gelfyddydol yn y safle canolog newydd yn Y Bala. Trwy
gydlynu defnydd adnoddau dynol a materol, byddai modd gwneud arbedion
sylweddol - lawer mwy na'r £59,000 a gynigir o aberthu Ysgol Parc. Ar y
pryd, ymatebodd llywodraethwyr Ysgol Y Berwyn yn gadarnhaol iawn i
strategaeth y Gymdeithas - gymaint felly nes iddyn nhw gysylltu a'r
Swyddfa Addysg a gofyn am gael eu cynnwys yn y trafodaethau dalgylch.
Dyna roddodd fodd ar natur y trafod presennol. Ond yn y cyfamser, ni
thrafodwyd model integreiddiedig y Gymdeithas hyd yn oed fel un o'r 7
opsiwn. Yn lle hynny, setlwyd ar gyfaddawd nad sydd iddi werth strategol
- sef cymryd y syniad o Ysgol Gydol Oes i'r Bala, cau'r Parc a gofyn i'r
3 arall gario mlaen ore fedran nhw mewn rhyw ffurf annelwig o "gydweithio".

Mor eironig, Dyfrig, yw dy eiriau y byddai'r Cyngor yn aberthu ei
"strategaeth" pe na chaeid Parc. Y gwrthwyneb sy'n wir. Cyfaddawd sy
gyda ni yn lle strategaeth. Mae'n achos tristwch fod Parc i gael ei
aberthu - mewn ymdrech (ofer o bosib) i ddangos i'r Cynulliad fod
"rhywbeth yn cael ei wneud" - heb hyd yn oed ystyried yr ateb strategol
a allsai fod wedi denu cefnogaeth pawb ym Mhenllyn yn lle creu'r fath
ddrwgdeimlad. Ni chawsom hyd yn oed gyfle i drafod gyda swyddogion y
model hwn - er bod ein hargymhelliad gwreiddiol wedi rhoi cychwyn i'r
holl drywydd hwn.

Dwi wedi mynd ymlaen yn ddigon hir, ac felly ni byddaf yn manylu mwy ar
dwyll dadl y llefydd gwag yn achos Penllyn. Digon yw dweud, yn ol y
tafluniadau, y bydd tua 25 o ddisgyblion o fewn 2/3 blynedd yn Ysgol
Parc - sef 8 lle gwag yn unig ac yr ydym wedi cynnig i'r Cyngor ddulliau
o ymwneud a hyn a allent o bodsibl ddod a derbyniadau scyfalaf sylweddol
i'r Cyngor heb aberthu ysgol a chymuned Gymraeg.

Mewn gair, byddai cau'r ysgol heb fod yn fodlon trafod yn fanwl y
posibiliadau hyn yn bradychu ymddiriedaeth y plant a'u cymuned

--
Ffred Ffransis

24.5.10

Cymdeithas yr Iaith - Cau Ysgol y Parc

Heddiw fe benderfynodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd argymell y dylid cau Ysgol y Parc, ger y Bala, fel rhan o gynllun i ad-drefnu addysg gynradd yn yr ardal. Bydd y cynlluniau hyn yn golygu codi ysgol newydd gydol-oes yn y Bala ei hun, ac Ysgol y Parc yw'r unig un o'r ysgolion gwledig o amgylch y dref sydd wedi ei chlustnodi i gau. Hon yw'r ysgol leiaf yng Ngwynedd, gyda dim ond 18 o ddisgyblion.
Beth bynnag, pan basiodd yr argymelliad i gau, cafwyd ymddygiad cyfangwbl warthus gan nifer o bobl yn yr oriel gyhoeddus. Cododd Ffred Ffransis ar ei draed, gan ein galw ni (hynny yw y rhai ohonom a bleidleisiodd dros gau) yn fradwyr, a thaflu tegan meddal oen bach atom ni - i gynrychioli'r modd y mae'r Ysgol y Parc yn "oen i'r lladdfa", chwedl Ffred. Gwaeddodd un arall o'r dorf enw un o'm cyd-gynghorwyr, gan ei alw yn "fochyn". A dechreuodd Osian Jones, trefnydd y Gogledd, Cymdeithas yr Iaith - ffrind i mi ers pan dwi tua 15 oed - alw enwau'r cynghorwyr Plaid Cymru a oedd wedi pleidleisio dros gau, gan eu galw yn fradwyr.
Pan soniais am hyn ar Twitter, fe benderfynodd Rhys Llwyd, aelod amlwg arall o'r Gymdeithas, y byddai'n fy enllibio yn gyhoeddus.
A phan ysgrifennais at Ffred i fynegi fy anfodlonrwydd, fe gefais ymateb gan ei ferch yn fy nghymharu gyda aelod o Gyngor Lerpwl a bleidleisiodd i foddi Tryweryn. Dwi wedi cynnwys y negesuon hynny isod, yn hytrach na ail-adrodd fy nadleuon.

Dyfrig Jones wrote:
Annwyl Ffred,
Rydw i'n hynod, hynod o siomedig gyda eich ymddygiad chi yn Siambr Cyngor Gwynedd heddiw. Mae gennych chi hawl i'ch barn, a hawl i fynegi'r farn honno yn gyhoeddus. Yn wir, fe gawsoch fynegi eich barn yn uniongyrchol i'r panel adolygu dalgylch, ac fe fu un o swyddogion Cyngor Gwynedd yn barod i ddosbarthu eich taflen i holl aelodau'r pwyllgor cyn dechrau'r cyfarfod. Beth bynnag fo'n barn ni ynglŷn a'ch sylwadau, fe gawsoch eich trin yn gwrtais a pharchus.
Mae'r ffaith i chi ymateb i'r parch a'r cwrteisi yma mewn modd mor amharchus ac anghwrtais yn fy nhristau. Mae hefyd yn tanseilio eich hachos. Yn y dyfodol, gai ofyn yn garedig i chi beidio ac ymateb i benderfyniadau yr ydych yn anghytuno a nhw drwy darfu ar waith y Cyngor?
Dyfrig

Shwmae Mr Jones

Dwi'n ofni nad yw'n nhad yn y swyddfa heddiw gan ei fod, yn dilyn y cyfarfod y bore yma, yn teithio o amgylch Cymru gyda'i waith. Gofynodd i mi edrych ar ei ebyst rhagofn fod neges brys yn dod trwyddo. Roeddwn i'n teimlo fod yn rhaid i mi ymateb gan i mi yn wir gael fy nhristau wrth ddarllen eich sylwadau. Cofiaf fy nhadcu (Gwynfor Evans) yn son am ei brotest yn Nghyngor Lerpwl adeg y bygythiad i gymuned Cymraeg arall yn ardal y Bala a'r modd "amharcus ac anghwrtais" y gwnaeth ef darfu ar waith y Cyngor y diwrnod hynny. Y trueni yw fod y gelyn pryd hynny mor glir ond erbyn hyn fod cymunedau Cymraeg yn cael eu bradychu gan aelodau o Blaid Cymru!!!

Yn Ddiffuant
Angharad Clwyd
(3ydd Merch Ffred)

Annwyl Angharad,
Mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng yr hyn a ddigwyddodd heddiw parthed Y Parc, a'r hyn a ddigwyddodd yn siambr Cyngor Dinas Lerpwl. Roedd boddi Cwm Celyn yn rhywbeth a ddigwyddodd o ganlyniad i benderfyniad gan sefydliadau gwleidyddol tu allan i Gymru. Ni chafodd trigolion Cymru yr hawl i ddylanwadu yn ddemocrataidd ar y penderfyniad hwnw, ac felly roedd yn rhaid troi at brotest er mwyn ceisio newid.
Mae'r penderfyniad i ad-drefnu addysg gynradd yng Ngwynedd yn un sydd wedi ei wneud gan gynrychiolwyr etholedig pobl Gwynedd, nifer helaeth ohonyn nhw yn genedlaetholwyr ymroddedig a didwyll. Mae gwahaniaeth barn rhyngthom ni a rhai chenedlaetholwyr eraill, ond annhegwch o'r mwyaf yw ein cymharu ni a Chyngor Dinas Lerpwl.
Yr hyn a'm tarodd i heddiw oedd ail-ddarllen adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Gyngor Gwynedd i effaith ieithyddol ad-drefnu addysg gynradd. Comisiynnwyd yr adroddiad hwn mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan Gymdeithas yr Iaith - ymhlith eraill - yn y gorffennol. Mae'r adroddiad hwn yn datgan yn gwbl eglur y byddai cau Ysgol y Parc yn cael effaith gadarnhaol ar yr iaith Gymraeg, gan y byddai yn arwain at greu uned fwy, ac felly mwy cynaliadwy, yn Ysgol O.M. Edwards, Llanuwchllyn.

Fe allwch ddarllen adroddiad yr ymgynghorydd annibynnol yma

http://www.gwynedd.gov.uk/upload/public/attachments/1037/ASESIAD_ARDRAWIAD_IEITHYDDOL_ANNIBYNNOL_Y_BERWYN_5.pdf

Cymal 6.11 yw'r un perthnasol.

Rwy'n derbyn efallai eich bod yn anghytuno gyda casgliadau'r arbennigwr annibynnol. Nid dadlau dros yr un cymal penodol hwn yw fy mwriad i. Dim ond gwneud y pwynt syml, fy mod innai yn genedlaetholwr, sydd yn pryderu am yr iaith Gymraeg, a sydd wedi gweithredu mewn modd yr ydw i'n ei gredu fydd yn cryfhau'r iaith ym mro Penllyn.

Gofynwch i chi eich hun - ydw i'n haeddu cael fy ngalw yn "fradwr" ac yn "fochyn" am wneud hyn? Ydw i, fel yr ydych chi'n ei awgrymu yn eich neges, yn gyfystyr a Sais o Lerpwl a foddodd Gwm Celyn?

Dyfrig Jones



7.5.10

Canlyniadau 2010 - Targedau Plaid Cymru

Ychydig iawn o gyfle ydw i wedi ei gael i flogio dros yr wythnosau diwethaf, a hynny oherwydd pwysau gwaith, yn bennaf. Ond yn dilyn canlyniadau neithiwr, mae fy mhen i'n troi braidd, a dwi'n teimlo'r hen awydd 'na i chwydu popeth allan ar y blog. Mae 'na lot dwi ishio'i ddweud, ond efallai mae'r lle callaf i gychwyn yw efo seddi targed Plaid Cymru (nid yn eu trefn flaenoriaeth, gyda llaw)

1. Arfon

Dwi'n byw ym Methesda, a dyma'r tro cyntaf i ni fod i mewn gyda gweddill Arfon ar lefel San Steffan. Fe fum i allan yn canfasio a dosbarthu taflenni rhywfaint dros yr wythnosau diwethaf, a doeddwn i ddim yn disgwyl iddi fod mor agos yma. Yn ol yr adroddiadau o'r cyfri, roedd hi'n agos rhwng Llafur a Phlaid Cymru yng Nghaernarfon, Llafur a mwyafrif eithaf clir ym Mangor, a Phlaid Cymru a mwyafrif eithaf clir yn Nyffryn Ogwen, Dyffryn Nanlle, a'r pentrefi gwledig (Bethel, Llanrug, Deiniolen ayyb). Mae'n amlwg felly bod angen gwaith ym Mangor, yn enwedig o ystyried bod nifer helaeth o fyfyrwyr yn byw yno, ond nid o anghenrhaid yn pleidleisio.

2. Aberconwy

Tan eleni, roedd Bethesda a Bangor yn etholaeth Conwy, a dwi wedi fy magu yn gwylio'r brwydro yma - roedd fy nhad yn asiant i Rhodri Davies yn 1987 a 1992. Roeddwn i'n wirioneddol grediniol y byddai Plaid Cymru yn ail cryf yma, a bod posib gwirioneddol i ni ei chipio - mi es i gyn belled a rhoi £10 ar Blaid Cymru i enill, brynhawn ddoe. Yn fy marn i, mae'n ddamniol ein bod ni wedi cael ein arwain i obeithio cymaint o Phil Edwards. Dyw bod yn or-optimistaidd ddim wastad yn dacteg dda, gan ei fod yn gwneud i ni edrych yn wan pan mae ein "ail cryf" ni yn troi yn bedwerydd safle ar y noson. Siom fawr.

3. Ceredigion

Os oedd Aberconwy yn siom, roedd Ceredigion yn dorcalonus. Dwi ddim yn adnabod yr etholaeth yn ddigon da i wybod beth aeth o'i le, ond mae'r canlyniad yn codi cwestiynnau pwysig. Yn sicr, roedd y dadleuon teledu yn ffactor bwysig. Ond mae Plaid Cymru wedi bod yn gweithio yn hynod o galed yn Ceredigion, yn gyson ers siom fawr 2005. Ac mae Mark Williams yn cael ei adnabod fel AS digon cyffredin, i ddweud y lleiaf. Sut felly y trowyd mwyafrif Lib-Dem o ychydig gannoedd yn fwyafrif o 9000?

4.

Mae Ynys Mon yn dipyn nes at adref, ac yn etholaeth dwi'n lled gyfarwydd a hi. Efallai nad oedd y mwyafrif Llafur yn agos at un y Lib-Dems yng Ngheredigion, ond mae hon yn ergyd yr un mor drom. Yn ystod teyrnasiad Albert Owen, mae cyflogwr mwya'r ynys wedi cau, gan roi cannoedd o etholwyr ar y clwt - a hynny yng Nghaergybi, power-base Albert. Sut felly y llwyddodd i ddal ei sedd gyda chymaint o fwyafrif?
Efallai bod gwleidyddiaeth fewnol yr ynys yn ffactor. Mae Cyngor Mon yn shambles llwyr, ac er nad aelodau Plaid Cymru sydd yn euog o dynnu enw da'r Cyngor drwy'r baw, fe fyddwn i'n dychmygu eu bod wedi eu heintio drwy fod yn rhy agos at sefydliad llwgr a phlentynaidd.
Dwi hefyd yn credu bod y Blaid ym Mon wedi dewis yr ymgeisydd anghywir i'r etholaeth. Fe weithiodd Dylan Rees yn galed iawn, ond dwi ddim yn credu fod ganddo'r grym personoliaeth sydd ei angen. Heb fynd i swnio yn gul, roeddwn i'n siomedig iawn gyda'r ffaith ei fod mor barod i droi at y Saesneg. Bob tro dwi wedi ei glywed yn siarad yn gyhoeddus, mae wedi mentro brawddeg neu ddwy yn y Gymraeg, cyn troi at y Saesneg. Mewn etholaeth draddodiadol iawn fel Mon, dwi'n credu bod hyn yn wendid sylfaenol.
Serch hynny, mae ymyl disglair i bob cwmwl du, chwedl y Sais. Dwi ddim eisiau codi cywilydd arni yn ormodol, ond i mi mae'n amlwg fod gan Ynys Mon ymgeisydd perffaith ar gyfer yr etholiad nesaf - Heledd Fychan. Fe weithiodd Heledd yn aruthrol o galed yn Maldwyn, a oedd yn sedd nad oedd gan y Blaid unrhyw obaith o'i henill - a cynyddodd ein pleidlais, gan ddod yn drydedd. Merch o Fon yw Heledd yn wreiddiol, ac mae ei theulu yn dal i fyw yno, ac yn weithgar o fewn y Blaid yn lleol. Byddai Heledd yn ymgeisydd heb ei hail, a dwi'n mawr obeithio y bydd yn ceisio'r enwebaid y tro nesaf.

4. Llanelli

Efallai ein bod wedi ein siomi yn Aberconwy, Mon a Cheredigion, ond dwi'n credu bod canlyniad Llanelli yn hwb i ni gyd. Roedd Myfanwy Davies yn ymgeisydd gwych, a dwi'n mawr obeithio y bydd yn parhau i geisio cael ei hethol. Byddai'n gaffaeliad enfawr i Blaid Cymru yn Llundain neu Gaerdydd. Roedd y ffaith iddi ddod o fewn 2000 o bleidleisiau i Nia Griffiths mewn etholaeth sydd mor draddodiadol driw i'r Blaid Lafur yn ganlyniad gwych, yn enwedig o ystyried yr hinsawdd Brydeinig. Gyda'r gwynt y tu ol iddi, fe allai Myfanwy gymeryd Llanelli. Targed realistig ar gyfer y dyfodol.

5. Meirion-Dwyfor a Dinefwr

Diolch byth bod y ddwy sedd hon wedi bod yn weddol ddi-drafferth i ni. Chafodd Elfyn Llwyd ddim trafferthion, ac mae ei fwyafrif anferth yn tystio i'w allu fel aelod, a cryfder y gefnogaeth yn yr ardal. Y syndod fwyaf oedd bod Louise Hughes wedi cael cymaint o gefnogaeth.
Dwi'n credu bod Jonathan Edwards hefyd wedi cael hwyl dda iawn. Roedd gan Adam Price bleidlais bersonol gref, a doedd dim disgwyl i Jonathan gynnal honno i gyd. Ond fe gafodd ganlyniad anrhydeddus iawn, a phob dymuniad da iddo.

15.3.10

Plaid Cymru a'r LCO iaith

Ar ei ffrwd Twitter, gofynnodd Rhys Llwyd pan nad oes mwy o aelodau amlwg Plaid Cymru wedi arwyddo deiseb Cymdeithas yr Iaith yn galw am ail-wampio'r LCO iaith. Fy ateb syml i oedd y bod modd i genedlaetholwr wrthwynebu galwad y Gymdeithas am resymau egwyddorol. Arweiniodd hynny yn anorfod at drafodaeth, ond gan nad ydw i'n un sydd yn gallu defnyddio un gair pan y galla i ddefnyddio dwsin, dwi ddim yn credu bod modd i mi amlinellu fy nadl mewn 140 llythyren.

I fod yn onest, nid ochri gyda Phlaid Cymru ydw i yn y fan hyn. Does gen i ddim syniad pam nad oes mwy o aelodau amlwg y blaid wedi arwyddo'r ddeiseb. Ond dwi'n berffaith eglur ynglyn a pham nad ydw i wedi gwneud hynny. Tydw i ddim yn credu ei bod hi'n ddefnyddiol na'n synhwyrol trafod dyfodol yr iaith Gymraeg yn nhermau "hawliau ieithyddol". Tra 'roeddwn i'n olygydd Barn, fe amlinellais i fy safbwynt fwy nac unwaith - dyma engrheifftiau o Fawrth 2009 a Hydref 2008

Craidd fy nadl i yw bod y Gymdeithas yn trafod "hawliau ieithyddol" mewn modd sydd yn gwbl wrthun i mi. Wrth gwrs y dylai fod gan unigiolyn yr hawl i siarad Cymraeg, ond yn yr un modd, mae gan unigolyn arall yr hawl i beidio ai ateb - neu i'w ateb yn y Saesneg, os y myn. Dyna yw natur hawliau dynol; maent yn bethau sydd yn perthyn i'r unigolyn, a nid i ddiwylliant neu gymuned. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod gan bob un ohonom ni'r hawl i siarad Cymraeg, ac yr hawl i gael ateb yn y Gymraeg.

I mi mae'r peth yn nonsens. Nid oes gan y Sais yr "hawl" hon i'r iaith. Fe allai Gordon Brown ei hun gerdded i mewn i fwyty Tseiniaidd yn Soho, ac os nad yw'r waiter yn dymuno ei ateb yn Saesneg, yna does dim oll y gall hyd yn oed Prif Weinidog Prydain ei wneud i newid hynny.

Nawr, fe allwn ni basio cyfreithiau sydd yn rhoi dyletswydd cyfreithiol ar gwmniau i gynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i'w chwsmeriaid. A coeliwch neu beidio, dwi'n digwydd cefnogi'r egwyddor hwnw. Ond nid creu hawl i'r Gymraeg ydi peth felly. Creu system o reoleiddio busnesau er lles y gymuned yw hynny, fel sydd eisoes yn digwydd mewn sawl maes arall.

Ai hollti blew ydi hyn? Efallai wir. Ond mae hawliau dynol yn hanfodol bwysig i mi - bron cyn bwysiced a fy nghenedlaetholdeb. A dyna pam fy mod i'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni gyd yn eglur ynglyn a beth yn union ydi ystyr hawl dynol. Bwriad sylfaenol hawliau dynol yw gwarchod yr unigolyn yn erbyn gormes - boed hynny yn ormes y wladwriaeth neu ormes y mwyafrif. Unwaith yr ydym ni'n rhoi "hawl" i un garfan o bobl orchymyn unigolyn i weithredu mewn ffordd benodol, rydym ni'n tanseilio'r egwyddor cwbl hanfodol hwnw. Ymestynwch allu y llywodraeth i ymyrryd ym myd busnes ar bob cyfrif, ond nid drwy herwgipio a chamddefnyddio ieithwedd hawliau dynol y mae gwneud hynny.

31.1.10

Y ding-dong arferol

Os nad oes gennych chi ddiddordeb yn y frwydr rhwng Llais Gwynedd a Phlaid Cymru yng Ngwynedd, yna does dim diben i chi ddarllen ymhellach. I fod yn onest, dwi'n diflasu fy hun ar adegau, ac mae 'na berygl weithiau bod y blog yma yn troi yn rhyw fath o rapid rebuttal site i flog Gwilym Euros. Neu not-so-rapid rebuttal site, efallai.
Beth bynnag, i Cai, Alwyn, Guto, HoR a'r hanner dwsin arall sydd yn dal efo fi, dyma'r diweddaraf. Wythnos diwethaf, daeth argymelliad ger bron Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd i gau Unedau Addysg Anghenion Arbennig y Sir, er mwyn sefydlu trefn newydd a fydd yn gallu ymestyn y gwasanaeth gwych y mae Gwynedd yn ei ddarparu i fwy o blant y sir.
Roeddwn i ar y gweithgor a luniodd yr argymellion hyn, ond oherwydd dryswch gweinyddol dwi wedi methu mynychu'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd. (Roedd swyddog wedi cam-ddeallt neges, ac yn credu mod i wedi ymddiswyddo o'r gweithgor, ac felly wedi rhoi'r gorau i fy ngwahodd i'r cyfarfodydd).
Beth bynnag, mae Gwilym Euros yn cyhuddo'r Gweithgor o weithredu mewn modd amhriodol ac anrhyloyw (oes na fath air?), gan ddadlau ein bod ni wedi methu a ymgynghori gyda rhieni. Dwi wedi ceisio ateb rhai o'i bwyntiau draw ar ei flog ef, ond dwi'n credu bod dau bwynt pwysig i'w hystyried yn y fan hyn.
Mae'r cyntaf yn ymwneud yn benodol a'r gweithgor yma. Y gwir amdani yw bod y gweithgor yn cynnwys swyddogion y Cyngor, nifer helaeth o athrawon a phenaethiaid, a Chynghorwyr etholedig. Ond mae hefyd yn cynnwys cynrychiolydd o SNAP, elusen sy'n gweithio gyda phant a rhieni i warchod eu buddianau o fewn y system addysg. Rhoddwyd gwahoddiad i SNAP eistedd ar y gweithgor yn benodol oherwydd ein bod ni'n awyddus i ymgynghori gyda rhieni a phlant, ac i sicrhau bod eu llais nhw yn cael ei glywed.
Ar ben hyn, mae'r argymellion a wnaed i'r Pwyllgor Craffu yn cynnwys ymrwmiad i wneud gwaith ymgynghori pellach wrth symyd ymlaen i gynllunio trefn newydd. Dyma'r union eiriad a roddwyd ger bron y pwyllgor

"Cyflawnir gwaith pellach o dan arweiniad Angharad Jones, SNAP Cymru, i ganfod barn croes-doriad o rieni am y ddarpariaeth bresennol a’r cyfeiriad newydd a argymhellir."

Sut mae modd i Lais Gwynedd gyhuddo'r Cyngor o anwybyddu safbwyntiau rhieni a phlant yn y cyd-destun yma? Dwn i ddim.

Ond mae'r modd y mae Llais Gwynedd wedi ymdrin a'r Unedau Addysg Anghenion Arbennig (AAA) yn dangos yn glir sut y maent yn gweithredu ar y Cyngor. Pan drafodwyd gwneud newidiadau i'r Unedau AAA nol yn 2008, y nhw a bwysodd am gael creu gweithgor a fyddai'n gwneud rhagor o waith i ddatblygu polisi ar y pwnc - a chwarae teg iddyn nhw am hynny. Ond yn syth ar ol sefydlu y gweithgor, fe ddiflanodd eu diddordeb. Roedd ganddyn nhw gynrychiolydd ar y gweithgor, ond mae wedi methu a mynychu y mwyafrif llethol o'r cyfarfodydd. Yn wir, dau aelod o Blaid Cymru - Selwyn Griffiths ac RH Wyn Williams - sydd wedi gwneud y mwyafrif llethol o'r gwaith o lywio cwrs y gweithgor.
Aelodau Plaid Cymru sydd wedi bod wrthi - gyda'r athrawon, swyddogion a phenaethiaid - yn ceisio llywio dyfodol y gwasanaeth AAA, a hynny am 14 mis. Rhoddwyd cyfle i Lais Gwynedd ddylanwadu ar y broses yma, ond doedd ganddyn nhw ddim ddiddordeb mewn rhoi'r amser a'r ymdrech i wneud hynny. Ond rwan bod y gweithgor wedi dod i gasgliad ynglyn a'r ffordd ymlaen, maent yn llawn cyhuddiadau a honiadau ynglyn a'r modd dieflig y mae Plaid Cymru yn gweithredu.
Nid ymosodiad ar unigolyn ydi hyn. Fe wn fy hun pam mor anodd ydi dod o hyd i amser i fynychu cyfarfodydd niferus y Cyngor. Ond os yw Cynghorydd unigol yn methu a dygymod a'r pwysau ar ei amser, yna mae dyletsydd arno i ildio ei le, a gofyn i'r gweithgor ethol aelod arall. Yn sicr mae dyletswydd ar blaid neu grwp gwleidyddol i sicrhau bod un o'u haelodau yn bresennol, er mwyn sicrhau bod eu llais hwy yn cael ei glywed wrth i'r Cyngor fynd ati i lunio polisi.
Ond ar ddiwedd y dydd, does gan Llais Gwynedd ddim diddordeb mewn llunio polisi. Fel y mae'r engraifft hon yn ei ddangos yn berffaith, y mae Llais Gwynedd yn fwy na bodlon gadael i weddill y Cyngor wneud y gwaith caled o osod cyfeiriad strategol y Cyngor - ac yna i waeddi a strancio pan mae penderfyniadau yn cael eu gwneud.

6.1.10

Clirio'r ucheldiroedd a Chyngor Gwynedd

Blwyddyn newydd dda, un ac oll. A hithau'n bumed diwrnod o'r mis, mae'n amlwg bod tymor ewyllys da byd blogiau Gwynedd wedi dod i ben. A'r berl hon sydd wedi tanio ergyd gyntaf 2011. Rhag i chi orfod darllen y llith cyfan, datganiad i'r wasg sydd yno, wedi ei gyfansoddi gan Owain "Now Gwynys" Williams, arweinydd Llais Gwynedd. Ynddo, mae'n cyhuddo Plaid Cymru a'r Blaid Lafur o ymddwyn fel landlordiaid trefedigaethol yr Alban yn ol yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, a fu'n gyfrifol am gymaint o ddioddefaint drwy erlid trigolion yr ucheldiroedd o'u cartrefi.
Mae Cai ar Blogmenai wedi tynnu sylw at y gagendor anferth rhwng yr hyn a ddigwyddodd yn yr Alban ganrif a hanner yn ol, a'r hyn sydd yn digwydd yng Ngwynedd heddiw. Does dim rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno ag ef, a bod y cam-ddefnydd o bennod dywyll iawn yn hanes Prydain i sgorio pwyntiau gwleidyddol yn blentynaidd ac eithafol. (Owain Williams, eithafol? Beth nesaf?)
Ond mae Alwyn ap Huw yn gwneud pwynt digon teg wrth ymateb i neges Cai. Nid y gymharieth gyda chlirio'r uchelfannau sydd yn bwysig, ond byrdwn neges Owain Williams. Y mae Plaid Cymru, yn ol Llais Gwynedd, yn arddel polisiau sydd yn fwriadol niweidiol i gefn gwlad Gwynedd. Rydym ni'n "dwysau all-lifiaid a gwanychu ymhellach gadarnleoedd yr iaith Gymraeg" i ddefnyddio eu geiriau hwy.
Y mae strategaeth etholiadol Llais Gwynedd yn gorwedd yn gyfangwbl ar berswadio etholwyr Gwynedd mae dyma sydd yn digwydd. Does dim mymrun o ots os ydi hyn yn wir neu beidio, drwy ei ail-adrodd drosodd a throsodd am y ddwy flynedd a hanner nesaf, mae Llais Gwynedd yn gobeithio y gwnaiff hi wreiddio ym meddwl yr etholwyr.
Ydi hi'n debygol o wneud hynny? Ydi, mewn ambell i ardal. Mae 'na gymunedau gwledig sydd yn teimlo o dan warchae ers dwy neu dair cenhedlaeth, a sydd yn gweld eu ffordd o fyw draddodiadol yn diflannu. Maent yn chwilio am rhywun i'w feio, ac mae gweld bai ar Blaid Cymru fawr ddrwg yn haws na wynebu realiti'r sefyllfa - sef bod dirywiad cefn gwlad yn digwydd yn bennaf oherwydd cyfres o ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd sydd ymhell tu hwnt i ddylanwad Plaid Cymru.
Yn hytrach na chynnal trafodaeth gadarnhaol, agored ac aeddfed maent yn ceisio troi popeth yn frwydr syml rhwng y da a'r drwg, gan rannu pawb yn elynion neu gyfeillion. Mae Cai wedi disgrifio hyn fel Gwleidyddiaeth yr Anterliwt ond dwi am ddewis term ychydig yn agosach at y pridd. Fe glywch chi bobl yn siarad am "blisman drama" weithia, wrth drafod heddwas gwael. I mi, Gwleidyddion Pantomeim ydi aelodau Llais Gwynedd.

DIWEDDARIAD

Mae Gwilym wedi bod draw yn darllen fy neges, ond mae'n rhaid ei fod wedi anghofio ei sbectol. Mae hi'n berl o neges. Slogan etholiadol nesaf Llais Gwynedd: "Gwyn yw Du".

4.1.10

Hywel Teifi Edwards

Newydd glywed y newyddion hynod o drist ynglyn a marwolaeth Hywel Teifi Edwards. Cefais y fraint o gyfarfod Hywel nifer o weithiau, drwy fy ngwaith gyda Ffilmiau'r Bont a Barn, ac roedd yn ddyn hynod o ddifyr i fod yn ei gwmni. Roedd hefyd yn genedlaetholwr i'r carn, ac yn fath o genedlaetholwr sydd yn mynd yn prinhau gyda diwedd pob blwyddyn. Fel arfer, byddai gwr 75 wedi hen roi heibio ei waith, ond roedd Hywel yn dal i wneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd y genedl. Ychydig flynyddoedd yn unig sydd ers iddo gwblhau campwaith anorffenedig Dewi Z Phillips, Ffiniau. Y mae colli Hywel Teifi Edwards yn golled wirioneddol i genedl y Cymry Cymraeg, ac yn un sydd yn peri tristwch gwirioneddol i mi.