21.7.09

Barn vs. Sylw

Fel y medrwch chi ddychmygu, rydw i'n credu'n gryf mae Barn sydd yn haeddu grant y Cyngor Llyfrau. Dyw'r farn yna heb newid, hyd yn oed ar ol i mi weld y rhifyn engrheifftiol o Sylw. Oes, mae 'na lawer iawn sydd yn dda yng nghylchgrawn Y Lolfa. Ond mae'n rhy dameidiog ac arwynebol ar brydiau - ac yn rhy blwyfol i Aberystwyth.
Ond peidiwch a chymeryd fy ngair un-ochrog i. Aeth Gwilym Owen ati i gynull ei grwp ffocws ei hun ar Radio Cymru ddoe (gwrandewch eto) er mwyn cymharu'r ddau gyhoeddiad. Ac roedd y criw bach yma yn eithaf pendant bod Barn yn rhagori ar Sylw. Ychwanegwch hyn at sylwadau Vaughan Roderick, sydd hefyd yn ffafrio Barn (o rhyw ychydig bach) ar ei flog, ac mae'n dechrau dod yn amlwg bod y farn gyhoeddus yn ffafrio Barn.
Ydych chi wedi cael cyfle i gymharu'r ddau gyhoeddiad? Beth ydych chi'n ei feddwl?

15.7.09

Gwleidyddiaeth iard ysgol

Ddechrau'r wythnos, fe ymunodd Aeron Jones (Llais Gwynedd) a byd bach y blogiau Cymraeg. Ac o fewn diwrnod, mae o wedi penderfynnu troi arna fi - am syndod. Dwi eisoes wedi cael fy ngalw'n goc oen gan Gwilym Euros Roberts (LlG), a rwan mae Aeron yn mynnu bod aelodau eraill y Cyngor yn credu mod i'n dipyn o ffwl. Gwleidyddiaeth iard ysgol ydi hyn, wrth gwrs - galw enwau ar rhywun, yn hytrach na ymateb i'r hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud.
Diolch byth, dwi ddim yn greadur croen-denau. Ac yn wahanol i aelodau Llais Gwynedd, dwi ddim yn gweld gwleidyddiaeth lleol fel rhyw fath o popularity contest. Cynghorydd ydw i, nid carnival queen.
Tydw i ddim yn mynd i ostwng i lefel Aeron drwy ddechrau galw enwau yn ol, ond yng nghyd-destun Tai Fforddiadwy, mae'n rhaid gofyn pwy ydi'r ffwl go iawn. Mae'n amlwg o neges Aeron nad oes ganddo rhyw lawer o syniad beth yn union ydi Ty Fforddiadwy yng nghyd-destun polisi Gwynedd. Efallai nad ydw i'n ffwl, ond mi ydw i'n dipyn o bore pan mae'n dod i bethau fatha polisi y corff dwi'n isda arno. Dwi'n dueddol o neud petha diflas, megis darllen y dogfennau sy'n cael eu gyrru ata ni fel aelodau - gan gynnwys y ddogfen ddrafft yn ymwneud a thai fforddiadwy. Ac mae'r disgrifiad o Dai Fforddiadwy sydd yn y ddogfen honno yn bur wahanol i ddisgrifiad Aeron.
Pan mae rhywun yn dod at Gyngor Gwynedd a gofyn am yr hawl i godi mwy na hyn-a-hyn o dai, mae'r Cyngor yn gallu mynnu bod canran o'r tai hynny - 25% fel arfer - yn dai fforddiadwy. Yn ol Aeron, unig ystyr hyn yw eu bod yn cael eu gwerthu am 30% yn llai na phris y tai eraill. Lol botas maip ydi diffiniad Aeron. Does dim rhaid i'r tai fforddiadwy gael eu gwerthu o gwbl. Gall y datblygwr ddewis gosod y tai, a hynny am rent sydd yn cael ei osod gan y Cynulliad; rhent safonol tai cymdeithasol Cymru. Os yw'r tai yn cael eu gwerthu, mae'n rhaid iddyn nhw gael eu gwerthu am bris sydd yn wirioneddol fforddiadwy i'r gymuned leol. Mae archwiliad fforddiadwyaeth yn cael ei wneud gan y Cyngor, ac mae'r pris yn cael ei osod yn unol a'r archwiliad hwnw. Celwydd noeth yw dweud y gallai rhywun godi ty sydd a gwerth marchnad-agored o £300,000, a'i gynnig fel ty fforddiadwy am £210,000. Mae cyfyngiadau llym ynglyn a maint a dyluniad tai fforddiadwy, er mwyn sicrhau nad yw'r tai sydd yn cael eu dynodi yn dai fforddiadwy yn mynd o afael y gymuned leol.
Fe allwn i fynd ymlaen ac ymlaen am hyn, ond dwi ddim yn credu y byddai rhyw lawer o bwynt. Fel yr yda ni wedi ei weld gan Lais Gwynedd droeon, tydyn nhw ddim yn blaid sydd yn gadael i'r ffeithiau amharu ar stori dda.

Chwarae teg i Alun Davies

Fyddwn i ddim yn disgrifio fy hun fel un o edmygwyr mawr Alun Davies AC, ond dwi'n credu ei fod wedi gwneud peth dewr ac anrhydeddus wrth benderfynnu gadael ei sedd ddiogel ar y rhestr ranbarthol er mwyn ceisio cipio Blaenau Gwent gan Trish Law. Yn fy marn i, llwfrgwn ydi'r holl aelodau Llafur sydd wedi penderfynnu "ymddeol" wedi iddyn nhw sylweddoli eu bod yn wynebu cweir yn yr etholiad nesaf. O leiaf mae Alun Davies yn fodlon ymladd dros ei egwyddorion a'i blaid.

3.7.09

Si ddiddorol

Dwi newydd glywed si hynod o ddiddorol ynglyn a'r Blaid Lafur yng Ngwynedd. Yn ol pob tebyg, maent wedi methu a dod o hyd i unrhyw un i sefyll fel ymgeisydd etholiadol yn yr Etholiad Cyffredinol fydd yn cael ei gynnal rhwng rwan a'r gwanwyn. Ac felly, mae'n rhaid i'r Blaid Lafur yn ganolog "barasiwtio" rhywun i mewn o'r tu allan. Beth mae hyn yn ei ddweud am gyflwr y blaid mewn ardal a oedd, unwaith, yn driw iawn?

2.7.09

Llais Gwynedd a Thai Fforddiadwy

Neithiwr, yng nghyfarfod Pwyllgor Ardal Arfon, fe wnaeth Cyng. Aeron Jones (Llais Gwynedd) ddatgan mae "Spin llwyr yw Tai Fforddiadwy", gan wrthwynebu cais i glirio tomen lechi yn Talysarn er mwyn codi stad o dai yno. Dwi ddim yn siwr beth yn union mae'n ei olygu drwy "spin llwyr". Mae polisi Tai Fforddiadwy Gwynedd - polisi Plaid Cymru - yn sicrhau bod tai ar gael i bobl leol eu rhentu, prynnu neu adeiladu, a hynny am bris sydd yn llai na phris y farchnad. A yw datganiad Aeron neithiwr yn golygu fod Llais Gwynedd yn gwrthwynebu polisi Plaid Cymru o sicrhau tai fforddiadwy i drigolion Gwynedd?