29.2.08

Jennie

Neithiwr bues i'n gwylio Jennie, rhaglen Cambrensis am Jennie Eirian Davies. Fe fues i'n gweithio fel cynhyrchydd/gyfarwyddwr rhaglenni ffeithiol i S4C am flynyddoedd, a dwi'n dal i gymeryd diddordeb yn y maes.
Drama-ddogfen oedd Jennie, ond roedd Arwel Ellis Owen wedi bod yn hynod ddyfeisgar gyda'r gwaith dramateiddio. Yn aml iawn, mae deunydd wedi ei "ail-greu" mewn rhaglenni dogfen yno am reswm penodol - does dim ffilm archif ar gael i ddarlunio'r stori, ac felly mae'r cyfarwyddwr yn gorfod creu ei archif ei hun. Gwendid y dechneg hon yw ei bod hi'n un ddrud i'w gwneud yn iawn, ac o'i gwneud yn wael, mae hi'n tanseilio hygrededd y rhaglen. Osgoi dilyn y trywydd yma wnaeth cynhyrchydd Jennie. Yn hytrach na cheisio ail-greu y cyfnod yn llythrennol, aeth ati i saethu cyfres o fonologau, wedi eu gosod ar set theatr. Roedd hyn yn golygu bod y gwaith wedi ei ddramateiddio yn dod a ni yn nes at hanfod cymeriad Jennie Eirian Davies, yn hytrach na dim ond llenwi tyllau gweledol yn y rhaglen. A diolch i berfformiad da iawn gan Rhian Morgan, roedd y dilyniannau hyn yn bleser i'w gwylio.
Doedd hi ddim yn rhaglen ddi-fai, fodd hynny. Rhwng y darnau wedi eu dramateiddio, roedd cyfres o gyfweliadau gyda theulu, cyfeillion a chydnabod Jennie Eirian. Roedd y rhain wedi eu saethu yn uffernol o wael, heb roi unrhyw ystyriaeth i sut yr oedden wedi eu gosod. Ac yn aml iawn, doedd y cyfweliadau ddim yn llifo i'w gilydd yn rhwydd, nac yn asio yn arbennig o dda gyda'r rhannau wedi eu dramateiddio. Roedd 'na adegau lle roedd angen cryfhau'r naratif a oedd yn gwau'r cwbl at ei gilydd.
Ond er bod 'na wallau technegol i'r rhaglen, roedd ganddi un rhinwedd bendant. Roedd hi'n ddifyr. A trafferth llawer iawn o raglenni S4C ar hyn o bryd yw eu bod nhw'n hynod o aniddorol. Mae nhw'n edrych yn slic iawn, ond mae eu cynnwys yn ddiflas. A rhowch i mi raglen ddifyr, wallus, yn hytrach na rhaglen ddiflas, slic, unrhyw ddydd.

28.2.08

Wel wir....

Yn ol blog Vaughan Roderick mae Peter Hain wedi bod yn galw am leihau dibyniaeth yr economi Gymreig ar y sector gyhoeddus. Dyna'n union y bues i'n ei ddeud yn fy ngholofn olygyddol ddiwethaf, yn Barn mis Chwefror. Sgwn i os yw David Dickinson San Steffan wedi dechrau troi at y wasg Gymraeg am arweiniad?

(Gyda llaw, diolch i bawb sydd wedi bod yn darllen y blog yma hyd yn hyn. Dwi wedi synnu gyda'r ymateb, ac yn wirioneddol werthfawrogi'r sylwadau sydd wedi eu gadael. Ond gai ofyn cwestiwn? Faint ohonoch chi sydd yn darllen Barn bob mis? Mae 'na rifyn newydd ar ei ffordd ddiwedd wythnos nesa - beth am ddangos i Rhodri Glyn Thomas bod defnyddwyr y we hefyd yn darllen y wasg draddodiadol drwy brynnu copi?)

26.2.08

Ac yn waeth byth....

Ydw i wedi sillafu Robyn Lewis yn gywir?

Dwi newydd ystyried.....

Gyda'r holl dantro 'ma am y papur dyddiol Cymraeg dwi wedi bod yn ei wneud - y torri calon, y gweld bai ar genedlaetholwyr egwan, yr anallu i faddau nac anghofio, y methu cysgu'r nos am fy mod i'n llawn casineb - oes 'na berygl mod i'n troi yn fersiwn ifanc o Robyn Lewis?

22.2.08

Rhag dy gywilydd, Bethan Jenkins

Roedd 'na gyfnod pan oedd Bethan Jenkins AC yn blogio yn ddwy-ieithog. Ond o ddarllen ei negeseuon diweddaraf, mae'n ymddangos bod sgwenu yn y Gymraeg yn ormod o drafferth i'r genedlaetholwraig fawr. Felly fe fydd yn rhaid i mi ei dyfynnu hi yn y Saesneg gwreiddiol.

"On another subject- Y Byd- I understand that there will be an interesting piece on this on tonight's Dragon's Eye. I will try and reserve judgment until then. I tend to agree with Adam Price on this one, however. Plaid in Government has almost doubled investment in the Welsh medium press, and the possibility of developing a new Welsh Language daily is still open for debate in that the Government is currently tendering for contracts. I believe that a newspaper on the web is the best way forward at thist stage, but I know that others disagree with me.

I do despair, however of some figures in the Nationalist movement purposfully using their positions to create trouble on this issue. Lets put our heads together and get a successful outcome for the future of the Welsh Language Press instead of making public statements for the sake of making a point."

Dwi'n teimlo fy ngwaed yn berwi wrth ddarllen y sylw hwn. Pwy yw'r "some figures in the Nationalist movement" sydd yn "purposefully using their positions to cause trouble"? Y bobl a arwyddodd y llythyr agored i Rhodri Glyn Thomas? Gadewch i ni edrych ar y rhestr

Anna Brychan
Llinos a Cynog Dafis
Hywel Teifi Edwards
Meredydd Evans
Heini Gruffudd
Emyr Humphreys
Richard Wyn Jones
Gareth Miles
Jan Morris
Wynford Elis Owen
John a Luned Rowlands

Dyma rai o gewri ein cenedl ni. Pobl sydd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i fywyd Cymru; pobl sydd wedi trawsnewid y modd yr ydym ni'n edrych ar ein hunain, ac y mae'r byd yn edrych arnom ni. Bethan, ti'n gwneud cam a nhw drwy honni eu bod yn datgan eu gwrthwynebiad er mwyn "creu trwbl". Y mae'r penderfyniad ynglyn a'r papur dyddiol yn un sydd wedi cynddeiriogi a thristau llawer iawn ohonom ni sydd a chysylltiadau dwfn a'r mudiad cenedlaethol. Paid a bychannu hynnu.

18.2.08

Comics plant mawr

Blog ar gyfer trafod pethau anaddas ar gyfer Barn oedd hwn i fod. Ond rywsut, dwi wedi llwyddo i sgwenu cannoedd o eiriau ar dranc Y Byd, a fawr o ddim am ddim byd arall. Mae 'na elfen o fod eisiau cynulleidfa, mae'n siwr. O sgwenu am Y Byd, dwi wedi llwyddo i gael mensh ym mlog Vaughan Roderick - a hynny o fewn wythnos o fentro i fyd y blog. O ddilyn fy mwriad gwreiddiol, dwi'n siwr bydd diddordeb dipyn yn llai.
Ta waeth, fe gadwa i at fy ngair gwreiddiol. Un bwriad gen i oedd sgwenu pwt am bopeth celfyddydol dwi'n ei wneud - cofnodi pob record, ffilm, llyfr, drama, oriel gelf neu unrhywbeth "celfyddydol" arall sy'n mynd a rhywfaint o fy amser. Drwy wneud hyn, roeddwn i'n rhyw hanner obeithio y byswn i'n codi cywilydd ar fy hun, ac yn gwneud mwy o ymdrech i chwilio am gelfyddyd "go iawn". Hynny yw, dwi ddim ishio i neb edrych yn ol dros y blog yma mewn blwyddyn, a deud " 'Di'r boi 'ma ddim yn ffit i olygu Barn, gan mai dim ond 3 llyfr Cymraeg/llyfr llenyddol/ffilm arthouse/rhaglen S4C mae o wedi ei weld/darllen mewn blwyddyn".
Wedi deud hynny, dwi ddim yn cychwyn pethau'n rhy dda. Ers rhyw dri mis, dwi wedi darllen dwsinau o gomics, a rhyw ddau lyfr "go iawn". Damwain lwyr ydi hyn. Mi es i lawr i Gaerdydd i wyl Swn Huw Stephens, a cyn mynd i ddal y tren adra mi biciais i mewn i Forbidden Planet, gan bod ffrind i mi ffansi mynd yno.
Dwi wedi bod ac obsesiwn ysbeidiol efo super-heroes erioed, ond mae wedi bod yn cysgu ers rhai blynyddoedd, bellach. Yn y brifysgol ces i'r cyfnod mawr dwytha o ddarllen comics, pan es i drwy bob un rhifyn o Sandman Neil Gaiman ( a oedd yn eiddo i un o'r merched oedd yn rhannu ty efo fi). Mae 'na 10 mlynedd ers hynny, ac er bod gen i gasgliad go lew o hen gomics yn dal ar y silff, doeddwn i heb edrych yn iawn arnyn nhw ers oes.
Clywed enw Neil Gaiman wnaeth ail-danio fy niddordeb. Mae Sandman yn un o glasuron byd comics, yn bennaf oherwydd ei fod wedi ei ysgrifennu yn benodol ar gyfer oedolion. Mae'n dweud stori Morpheus, rhyw fath o dduw-frenin sydd yn teyrnasu dros freuddwydion meidrolion cyffredin. Dros sawl cyfrol mae'n llwyddo i wau mytholeg, crefydd a chwedl drwy eu gilydd, gan gyffwrd ar ambell i stori super-hero ar y ffordd. Mae'n enwog yn bennaf oherwydd mai dyma'r comic "mawr" cyntaf i lwyddo i ddenu mwy o ferched i ddarllen na bechgyn.
DC fu'n cyhoeddi Sandman, ond erbyn hyn mae Gaiman yn gweithio i'r prif gwmni cyhoeddi arall, Marvel. Ei waith diweddaraf yw 1602 llyfr sydd yn gosod rhai o gymeriadau enwocaf Marvel - Spiderman, yr Hulk, y Fantastic Four, yr X-Men ayyb - yn ol yn yr Oes Elisabethaidd-Jacobean. Dyma'r comic y prynais i yng Nghaerdydd, ac fe lwyddodd i'm cadw fi'n hapus yr holl ffordd adref ar y tren i Fangor. Mae'r gwaith celf ychydig yn wan, ond mae'r stori yn wych, ac - yn wahanol i'r rhan fwyaf o gomics - yn llwyddo i syfrdanu'r darllenydd.
Felly ers cael fy swyno gan 1602 dwi wedi bod wrthi'n trio dod o hyd i be arall sydd wedi digwydd i fyd comics dros y ddegawd ddiwethaf. Trafferth DC a Marvel yw eu bod yn gwmniau mawr sydd yn cyhoeddi nifer helaeth o wahanol gomics. Fel rheol, mae cymeriadau'r comics hyn yn bodoli o fewn yr un byd, sydd yn golygu bod arwr un stori yn ymddangos fel is-gymeriad mewn stori arall. Dros bron i hanner canrif, mae hyn yn golygu bod gan y rhan fwyaf o brif gymeriadau stori gefndirol chwerthinllyd o gymleth. Felly dwi'n dueddol o osgoi prynnu comics y cymeriadau mawr, os nad oes awdur nodweddiadol o dda yn gweithio ar y stori. Mae'r gwaith gorau yn bodoli ar yr ymylon, fel rheol.
Fe sonia i fwy am rai o'r pethau gorau i mi ddarllen eto. Ond os oes gan rywun ddiddordeb mewn dechrau darllen comics eto, yna fe alla i awgrymu dau neu dri o gasgliadau gwych. Dwi newydd orffen darllen cyfrol gyntaf Alias. Mae'r comic yma wedi ei anelu at oedolion, ac mae'n dilyn helyntion Jessica Jones. Mae Jessica yn gyn-super hero sydd wedi diosg ei chlogyn er mwyn gweithio fel Private Eye. Mae rhai o brif gymeriadau Marvel yn ymddangos yn achlysurol, ond dim ond fel cymeriadau ymylol. Mae'r ddyfais o edrych ar fyd Marvel o'r cyrion yn gweithio'n wych, ac mae 'na hiwmor tywyll i Alias.
Yr un rhinweddau sydd i The Hood. Eto, mae'r prif gymeriad yn byw ar ymylon byd y Super-heros, ond dihiryn yn hytrach nac arwr yw'r Parker Robbins. Mae'n dod o hyd i glogyn sydd yn ei alluogi i hedfan a gwneud ei hun yn anweledig, ac mae'n ei ddefnyddio i herio'r heddlu a'r mob yn Efrog Newydd.
A'r trydydd awgrym sydd gen i yw Wanted gan Mark Miller. Mae Miller yn un o brif awduron Marvel, ond mae'r gyfrol hon wedi ei chyhoeddi gan Top Cow. Does 'na 'run arwr adnabyddus yn ymddangos yn y llyfr hwn, ond mae sawl pastiche o'r enwogion. Hanes waster di-amcan sy'n etifeddu doniau goruwchnaturiol ei ddiweddar dad yw Wanted, ac mae'n ymdrin a byd sydd yn cael ei reoli gan super-villans cyfangwbl anfoesol. Mae Wanted yn wleidyddol anghywir ac yn hynod o dreisgar, ond hefyd yn ffraeth iawn ac yn ddoniol dros ben. Mae ffilm o Wanted - gyda James McAvoy ac Angelina Jolie yn y ddwy brif ran - yn cael ei saethu ar y funud, ond dwi'n awgrymu eich bod chi'n prynnu'r comic cyn i Hollywood gael cyfle i wneud cam a'r deunydd gwreiddiol.
Digon am y tro. Dwi'n gaddo trafod Mihangel Morgan neu rywun tebyg yn fy neges nesa.

15.2.08

Vaughan Roderick

Yn ei flog heddiw, mae Vaughan Roderick yn ystyried cyfeiriad cyffredinol Plaid Cymru yng nghyd-destun tair ffrae, sef y cyhoeddiad ynglyn a'r papur dyddiol, diffyg cefnogaeth y llywodraeth i ariannu Coleg Ffederal, a pholisi Cyngor Gwynedd o gau rhai ysgolion gwledig.
Dwi'n credu ei bod hi'n biti bod y tri peth yma'n cael eu trafod ar y cyd, oherwydd mae dwy ddadl wahanol yn y fan hyn. Mae pob cyngor gwledig yng Nghymru yn wynebu gorfod cau ysgolion bychain, diolch i nifer o ffactorau allanol.Mae Cyngor Gwynedd wedi chwilio am ffordd o wynebu'r her genedlaethol hon, ond dyw nhw heb lwyddo i fodloni carfan fechan ond swnllyd o drigolion Pen Llyn. Dwi'n dadlau bod cynllun Cyngor Gwynedd yn un blaengar a theg, ac ei fod yn gwbl gydnaws ac egwyddorion cenedlaetholgar traddodiadol - wedi'r cyfan, onid oes Cymry Cymraeg yn mynychu ysgolion Caernarfon, Bethesda, Dolgellau ayyb yn ogystal a phentrefi bychain cefn gwlad?
Mae penderfyniad Cyngor Gwynedd yn deillio o fod mewn gwasgfa gwirioneddol. Mae posib esbonio pam ei fod yn digwydd, hyd yn oed os nad ydych chi'n cytuno ag o. Fedra i ddim gweld sut mae modd esbonio penderfyniad Rhodri Glyn ar y papur dyddiol. Mae'r swm o arian sy'n cael ei drafod yn wirioneddol bitw, yng nghyd-destun cyllideb yr adran dreftadaeth. Ac er gwaethaf beth mae'r gweinidog yn ei honni, mae adroddiad Tony Bianchi, maniffesto Plaid Cymru a chytundeb Cymru'n Un i gyd yn cefnogi'r egwyddor o sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Alla i ddim dirnad pam fod gweinidog Plaid Cymru wedi penderfynnu cynddeiriogi cymaint o'i gefnogwyr craidd, a hynny er mwyn arbed £400,000 o bunoedd y flwyddyn.

Cyhoeddiad trist

Dwi newydd edrych ar fy e-bost, ac wedi darganfod neges drist iawn gan Dyddiol Cyf, yn cadarnhau yr hyn yr oeddem ni i gyd yn ei wybod. Mae penderfyniad y llywodraeth i beidio a chynnig cefnogaeth ariannol digonol i'r papur dyddiol wedi rhoi'r farwol i gynlluniau Dyddiol ac Y Byd. Mae Aled Price, y darpar olygydd, wedi ymddiswyddo, ac mae'r cwmni yn ystyried a oes modd defnyddio'r gwaith caled y mae nhw wedi ei wneud i sefydlu menter arall. Dyw hyn ddim yn newyddion syfrdanol, wrth gwrs, ond mae yn newyddion trist. £13 miliwn o bunoedd i dalu overdraft Canolfan y Mileniwm, ond fedr y llywodraeth ddim fforddio £600,000 y flwyddyn i ariannu papur dyddiol.

8.2.08

Papur dyddiol - Barn Maes-e

Mae cyhoeddiad Rhodri Glyn Thomas ynglyn a'r grant i'r wasg Gymraeg wedi gwneud i mi anobeithio ynglyn a chenedlaetholdeb Plaid Cymru ar lefel Gymreig. Ond nid fi yw'r unig un - dyma chi ychydig o sylwadau oddi ar wefan Maes-e. Gobeithio bod y gweinidog treftadaeth yn sylweddoli sut mae llawer iawn o gefnogwyr traddodiadol ei blaid - y bobl sy'n ei gadw mewn gwaith - yn teimlo ynglyn a hyn.

"Ma Plaid Cymru mewn Llywodraeth. Mae llywodraethau'n torri addewidion.

Y tristwch mawr fan hyn yw bo ni'n byw mewn gwlad lle mae'n rhaid brwydro am bob ceiniog am ddatblygiadau i hybu'r iaith. O ran pwysigrwydd y fenter, darllen yw'r ffordd orau i ddysgu, safoni a normaleiddio iaith. Yn lle gimmicks fel brecwastau am ddim (pwy ffac sy ffili rhoi bach o chaff i blentyn cyn mynd a fe i'r ysgol) a laptops am ddim (as if) dyle arian deche gael ei roi i gynllun uchelgeisiol ond gwerth chweil."
- Ray Diota

"Wedi torri'r addewid hwn, bydd rhai ohonom yn cadw'n llygad ar addewid arall: mater o ddiddordeb mwy lleiafrifol mae'n wir, ond mater a fydd yn brawf, terfynol efallai, ar ddidwylledd Plaid Cymru: sef yr addewid i greu Coleg Cymraeg Ffederal. Ai rhywbeth tila tila fydd hi eto, gyda phres mwnci tuag at ei gynnal? Fe gawn ni weld ....

Mae'r hyn a ddigwyddodd yr wythnos hwn yn peri dechrau gofyn, a fydd yr anesmwythyd yng Ngwynedd yn tyfu'n anesmwythyd drwy'r ardaloedd a gynrychiolir yn awr gan y Blaid, ac yn arwain at ei herio yn etholiadau'r Cynulliad, 2011? Ni byddai cam o'r fath yn un i'w gymryd ar chwarae bach, ond mae bellach yn bosibilrwydd y gall rhai ohonom, dros y flwyddyn neu ddwy nesaf, ein cael ein hunain yn meddwl yn ofalus a difrifol yn ei gylch."
- Obi Wan

"Plaid Cymru = Plaid Celwydd"
- Mihangel Macintosh

"Ar Dragon's Eye neithiwr (os fyswn i'n gwbod shwt i greu links mi fyswn i'n rhoi un yma, ond dydw i ddim!) roedd IWJ yn cyfiawnhau'r tor-addewid a wnaed ynghylch papur dyddiol. Mae'n droedig sut mae ganddo wyneb i wneud hynny - 14miliwn i un adeilad, 3 miliwn i ardd a cheiniogau i sefydlu papur Cymraeg a fyddai'n cyfrannu at warchod iaith, sydd cyn lleied o arian fel ei bod hi'n amhosib sefydlu un. Oes 'na gynllwyn yma i wneud yn siwr nad oes 'na bapur dyddiol Cymraeg yn cael ei sefydlu? (Mi fysa'r Blaid Lafur wrth ei bodd yn gweld y Gymraeg yn cael ei rhwymo unwaith eto.) Mae Plaid Cymru wedi troi ei chefn ar yr iaith o dan ddylanwad y Blaid Lafur, a 'dal awennau grym' (ha ha!) wedi mynd i'w phen. Mae ganddi andros o lot o waith codi o'r gwter ddiflas mae hi'n ymdrybaeddu ynddi."
- Lleucu Roberts

"Ie, cachgwn yw Plaid Cymru am beidio gwneud yn glir eu bod yn erbyn papur dyddiol. Os nad Y Byd, yna fydd ddim papur arall. Dyw £200k ddim yn ddigon i Trinity Mirror - 5 aelod newydd o staff efallai? Rhyw supplement Gymraeg eil-radd yng ngolwg pobl, fyddai'r gorau fydde nhw'n wneud."
- Twpsyn

"Y ffaith yw bod y difrod wedi'i wneud: bydd llawer o bobl, fel Hedd (a finnau) yn teimlo nad ydynt yn gallu dibynnu ar y Blaid i ddelifro a bod Llafur yn gwneud ffwliaid ohonom. Embras i fod ym Mlaid Cymru ac embaras perthyn i genedl a gododd capeli, llyfrgelloedd a phrifysgol gynt ond nad yw hi bellach yn gallu codi pris ty am bapur newydd? Gadewch i ni ddadlau am be' mae hyn yn dweud am realiti gwleidyddol a diwylliannol y Gymru sydd ohoni a sut mae mynd ati i newid hyn heb aros trwy'r amser fel plant am gymorth gan y wladwriaeth neu am i eraill newid pethau."
- Efrogwr

Dwi'n credu mai'r peth mwyaf teimladwy dwi wedi ei ddarllen ar y cyfan yw blog Hogyn o Rachub.

http://rachub.blogspot.com/2008/02/ysgaru-o-blaid-cymru.html

Mae o'n dweud na fydd yn adnewyddu ei aelodaeth o Blaid Cymru, oherwydd ei fod wedi cael llond bol ar agwedd y blaid tuag at y Gymraeg. I mi, mae ergyd sylwadau HoR yn llawer caletach nac ergyd geiriau trist Hywel Teifi Edwards ddydd mawrth. Mae Hywel Teifi yn gawr, yn un o ddynion mwyaf y Gymru gyfoes, ond mae hefyd yn ddyn sydd dros ei 70 oed. Fe fyddai'n hawdd i Blaid Cymru ddi-ystyru geiriau Hywel Teifi fel llais y genhedlaeth hyn, amherthnasol. Ond mae Hogyn o Rachub yn 22 oed, ac yn byw yn un o gadarnleoedd y Gymraeg - a'r blaid. Sut ddyfodol sydd 'na i Blaid Cymru os yw ei chefnogwyr naturiol wedi penderfynnu cefnu arni o fewn 4 blynedd o gyrraedd oed pleidleisio?

7.2.08

Golwg

Dwi newydd dderbyn copi wythnos yma o Golwg, a dwi'n falch o weld bod y golofn olygyddol yn dweud yr hyn dwi wedi bod yn ei ddweud - sef bod hi'n amhosib creu papur dyddiol am £200,000 y flwyddyn. Mae'r golofn yn mynd ymlaen i ddweud y bydd Golwg Cyf yn ceisio am beth o'r gronfa newydd, a dwi'n cymeryd y bydden nhw'n gobeithio defnyddio'r pres i ddatblygu'r gwasanaeth ar-lein newydd.
Er mod i'n siomedig ac yn flin gyda agwedd y llywodraeth ar y papur dyddiol, dwi yn cydnabod bod £200,000 yn fuddsoddiad sylweddol a bod hyn yn newyddion da i bawb arall sy'n gweithio yn y maes. A dwi'n dymuno pob lwc i Golwg yn ei menter newydd. Mae gen i barch anferthol at Dylan Iorwerth fel newyddiadurwr, rheolwr-gyfarwyddwr a dyn busnes. Gobeithio bydd y wefan newydd yn llwyddiant, ac yn mynd rhywfaint o'r ffordd at lenwi'r bwlch yn y ddarpariaeth bresennol.

6.2.08

Y Byd ar Bedwar, eto

Dwi'n adnabod Marc Jones rhyw ychydig, gan ei fod wedi cyfrannu fel newyddiadurwr i Barn, ac ein bod ni wedi bod yn trafod amryw bethau pan oedd o'n olygydd Golwg. Wedi iddo weld yr hyn yr ysgrifenais i amdano fo, mae wedi cysylltu a mi i ddweud ei fod yn teimlo mod i'n bod yn anheg.
Dwi ddim yn gweld bai ar Marc am ddweud yr hyn a ddywedodd o ar y Byd ar Bedwar neithiwr. Fe fu'n cymeryd rhan mewn trafodaeth banel ar y wasg Gymraeg yn yr Eisteddfod eleni, ac fe wnaeth lawer o'r un sylwadau am Y Byd ac y gwnaeth ar y rhaglen - a hynny ymhell cyn iddo dderbyn swydd gyda Phlaid Cymru.
Gweld bai ar Y Byd ar Bedwar oeddwn i, a nid ar Marc yn bersonnol. Gan fod Marc yn gweithio i Blaid Cymru, roedd ganddyn nhw gyfrifoldeb i hysbysu'r gwyliwr o'r ffaith yma. Ar y lefel symlaf, roedd hi'n ffeithiol anghywir disgrifio Marc fel newyddiadurwr, bellach, gan ei fod yn cael ei gyflogi fel swyddog y wasg. Ond gan mai Plaid Cymru yw ei gyflogwr, a Phlaid Cymru sydd yn dal y weinidogaeth Dreftadaeth, roedd hi'n bwysicach byth bod y gwyliwr yn cael gwybod y ffeithiau i gyd. Roedd Marc yn siarad yn gwbl bersonol ar y rhaglen, yn hytrach na fel aelod o staff Plaid Cymru. Serch hynny, roedd gan Y Byd ar Bedwar ddyletswydd proffesiynnol i adael i ni wybod am ei gefndir proffesiynnol, er mwyn i ni allu penderfynnu ein hunain a oedd ei sylwadau yn ddi-duedd neu beidio.
Beth bynnag, dwi ishio ymddiheuro i Marc os yr ydw i wedi gwneud cam ag o, a gobeithio ei fod - fel cyn olygydd - yn deallt pam bod fy meirniadaeth i o'r Byd ar Bedwar yn un gwbl ddilys.

Cymorthdal 2

Fe fues i'n gwneud rhywfaint o fathamateg ddoe, yn ceisio dyfalu faint o gymorthdal y copi mae cyhoeddiadau eraill Cymru yn ei dderbyn, er mwyn cymharu gyda ffigwr Barn, sydd yn ymddangos yn adroddiad Tony Bianchi. Roeddwn i wedi defnyddio cyfartaledd gwerthiant holl gyhoeddiadau Saesneg Cymru sy'n derbyn grant gan y Cyngor Llyfrau i amcangyfrif. Fel mae'n digwydd, roeddwn i'n eithaf agos ati gyda'r New Welsh Review, ond ddim gyda Planet. Mae 'na fathamategydd gwell na fi wedi casglu'r ffigyraau cywir, gan ddefnyddio gwerthiant go iawn pob cylchgrawn. Er gwybodaeth, dyma nhw

Barddas - £5.23 y copi
Barn - £9.09 y copi
Poetry Wales - £10.42 y copi
Planet - £12.50 y copi
New Welsh Review - £19.28 y copi

Dwi ddim yn cyhoeddi'r wybodaeth yma i geisio di-frio'r cyhoeddiadau eraill. Dwi ddim yn tanysgrifio i bob un, ond dwi yn eu darllen nhw i gyd yn achlysurol, ac yn credu bod pob un yn rhagori yn ei faes. Mae arbenigwyr allanol sydd wedi bod yn archwilio i'r maes yn cytuno. Fy unig ddiben i wrth gyhoeddi hyn yw nodi dwy ffaith

1) Rydym ni'n byw mewn diwylliant lle mae cymorthdal sylweddol yn rhan angenrheidiol o gyhoeddi cyfnodolion safonol. Gellid damcaniaethu ynglyn a pham bod hyn yn wir, gyda phawb yn dod i gasgliad gwahanol. Ond dwi'n credu bod gwerth i bob un o'r cyhoeddiadau sydd wedi eu rhestru uchod, ac mae nhw i gyd yn haeddu'r grant.

2) Er gwaetha'r argraff sy'n cael ei chreu gan adroddiad Tony Bianchi, mae Barn yn eithaf bargen. Yn sicr, dyw'r grant yr ydym ni'n ei dderbyn ddim dros ben llestri, fel mae rhai wedi ei awgrymu.

5.2.08

Diwedd Y Byd

Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod prysur iawn i mi, ond fedrwn i ddim anwybyddu'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn y Cynulliad. Beth bynnag fo'ch barn chi gynllun busnes Dyddiol Cyf, dwi'n credu bod y cwmni wedi cael ei drin yn siabi iawn gan Rhodri Glyn Thomas.

Does dim amheuaeth bod 'na wendidau sylfaenol yng nghynllun busnes Dyddiol. Roedden nhw'n or-uchelgeisiol wrth amcangyfrif nifer y darllenwyr, ac yn gofyn am ormod o adnoddau i gynnal y fenter. Fyddai yr un gwleidydd wedi medru cyfiawnhau rhoi'r arian yr oedden nhw'n ofyn amdano. Roedd adroddiad Dr Tony Bianchi yn dweud hyn yn blwmp ac yn blaen, ac yn cynghori Dyddiol Cyf i ail-ystyried ei cynllun busnes. Yr awgrym cwbl resymol oedd ei bod hi'n amhosib cefnogi'r cynllun ari ei ffurf presennol, ond y byddai modd cefnogi cynllun diwygiedig. Cyngor doeth a rhesymol.

Y broblem gyda chyhoeddiad heddiw yw fod y ffigwr sydd yn cael ei gynnig gan y Gweinidog Treftadaeth cymaint yn is na'r hyn yr oedd Dyddiol yn gofyn amdano fel ei bod hi'n amhosib iddyn nhw wneud unrhyw newidiadau ymarferol i'w cynllun a fyddai'n dod o hyd i ddigon o doriadau. Does dim lle i gyfaddawdu ar weledigaeth y cwmni. Roedd Dyddiol wedi amacangyfrif y byddai cyhoeddi papur dyddiol Cymraeg yn cosio £1.2 miliwn y flwyddyn, gyda £1 miliwn yn dod o goffrau'r Cynulliad - drwy gyfuniad o grant a gwarant o incwm hysbysebu. Cyhoeddodd Rhodri Glyn Thomas heddiw bod £200,000 ychwanegol ar gael i ariannu'r wasg Gymraeg, gyda phob cyhoeddiad - boed yn bapur dyddiol neu beidio - yn rhydd i geisio am ran o'r arian ychwanegol.

Mae'r ffigwr hwn yn rhoi'r farwol i'r syniad o bapur dyddiol Cymraeg. I'w roi yn ei gyd-destun, mae hi'n costio £100,000 y flwyddyn i gynhyrchu 10 rhifyn o Barn. Fi yw'r unig aelod o staff llawn amser a dwi'n gwneud rhan helaeth o'r gwaith gosod, a tynnu lluniau fy hun, yn ogystal a'r golygu. Mae nifer o bobl eraill yn rhoi ei hamser am ddim neu nesaf peth i ddim, ac mae'r arian yr ydym ni'n ei dalu i gyfranwyr yn gymharol isel. Ac ar ben popeth, du a gwyn yw'r tudalennau mewnol i gyd. Dyna pam mor bell y mae £100,000 yn mynd wrth gyhoeddi, felly fe allwch chi ddychmygu pam mor anymarferol fyddai cynhyrchu papur dyddiol ar £200,000. Does 'na yr un cwmni ar wyneb daear a allai gynhyrchu papur dyddiol Cymraeg am y swm yma.

Nawr fe allwch chi ddadlau nad oes ots. Wedi'r cyfan, mae'r wasg Gymraeg yn gyffredinol wedi derbyn buddsoddiad ychwanegol hael. Beth yw'r ots os ydym ni'n gwario'r arian yma ar wella Golwg, Y Cymro a Barn, ac yn anghofio am Y Byd? Efallai ei bod hi'n ddoethach cryfhau y ddarpariaeth bresennol, er mwyn gwneud papur dyddiol yn fenter mwy realistic mewn blynyddoedd i ddod.

Safbwynt digon teg a rhesymol. Problem y llywodraeth yw ei bod wedi gwneud ymrwymiad pendant i greu papur dyddiol Cymraeg yn nghytundeb Cymru'n Un. Roedd llawer iawn o genedlaetholwyr yn anfodlon iawn gyda'r syniad bod Plaid Cymru am fynd i glymblaid gyda Llafur, ond fe benderfynon nhw gefnogi'r cynllun oherwydd ei fod yn gwarantu y bydden ni'n gweld sefydlu pethau megis papur dyddiol Cymraeg a Choleg Ffederal Cymraeg. Dwi'n rhagweld y bydd 'na lawer iawn o bobl yn teimlo bod y llywodraeth wedi torri addewid heddiw drwy fethu a sicrhau bod cyllideb ddigonol yn bodoli i ariannu'r ymrwymiad penodol hwn. A gan mai AC Plaid Cymru yw'r gweinidog treftadaeth, yna fe fydd 'na lawer o bobl yn beidio Plaid Cymru yn benodol am y siom yma.


Mae Y Byd wedi derbyn cefnogaeth dda gan y dosbarth canol traddodiadol Cymraeg - sef yr union bobl sydd yn pleidleisio yn ddeddfol i Blaid Cymru. Sgwn i beth fydd ei ymateb nhw i'r hyn mae Rhodri Glyn Thomas wedi ei wneud? Yw hyn yn ddigon i gael dylanwad ar bleidlais Plaid Cymru?

Marc Jones, newyddiadurwr?

Dwi newydd fod yn edrych ar raglen y Byd ar Bedwar yn trafod hynt a helynt Y Byd. Un o'r rhai oedd yn siarad oedd cyn-olygydd Golwg Marc Jones, ac roedd yn ddigon beirniadol o Gwmni Dyddiol Cyf, sydd yn gyfrifol am Y Byd. Roedd Marc yn cael ei ddisgrifio ar y rhaglen fel newyddiadurwr. Ond dwi'n credu fod Marc yn gweithio i Blaid Cymru fel swyddog y wasg erbyn hyn. O ystyried mai Rhodri Glyn Thomas, AC Plaid Cymru, sydd wedi rhoi'r farwol i Y Byd, oedd hi'n briodol holi Marc? Onid oedd ei sylwadau yn ffordd o gefnogi penderfyniad ei fos, ac felly yn rhan o'i waith fel sbin doctor?

Cymorthdal

Roeddwn i fod i ymddangos ar Good Morning Wales y bore ma, i drafod y cymorthdal mae Barn yn ei gael gan y Cyngor Llyfrau. Ond gan i fy mab gael ei eni tua'r amser yr oeddwn i fod ar yr awyr, wnes i ddim cyrraedd y sdiwdio.

Beth bynnag, dwi wedi bod yn gwneud dipyn o ymchwil. Roedd Radio Wales am fy holi fi ynglyn a'r ffaith bod pob rhifyn o Barn sy'n cael ei gyhoeddi yn derbyn £9 o gymorthdal gan y Cynulliad - ffigwr a ddaeth i'r amlwg yn adroddiad diweddar Tony Bianchi ar y wasg Gymraeg. Mae 'na sawl un wedi syfrdanu gyda'r ffigwr yma, gan gynnwys y gweinidog treftadaeth ei hun, yn ol y son.

Problem Barn yw ein bod ni wedi cael ein cynnwys mewn arolwg o'r wasg brintiedig Gymraeg, tra bo cyfnodolion tebyg eraill - Taliesyn neu Barddas, er engrhaifft - wedi cael eu heithrio, er mai'r un grant sydd yn ein ariannu ni i gyd. Chwarae teg i Tony Bianchi, mae'n cydnabod yn ei adroddiad bod hyn yn gangymeriad.

Yn yr adroddiad, mae ein ffigwr cymorthdal y rhifyn ni yn cael ei osod ochr yn ochr a ffigyrau'r Cymro a Golwg, sydd yn isel iawn (ceiniogau y rhifyn, yn hytrach na phunnoedd). Ond petai Barn wedi cael ei gymharu gyda nifer o gyfnodolion eraill, fe fyddai'n edrych tipyn yn well.

Cymerwch y ffigyrrau ar gyfer cyfnodolion Saesneg o Gymru. Y Cyngor Llyfrau sy'n ariannu'r rhain hefyd, trwy'r un math o grant a mae Barn yn ei dderbyn. Dyw'r Cyngor ddim yn cyhoeddi ffigyrrau gwerthiant ar gyfer pob cylchgrawn, ond mae'n nodi 650 yw cyfartaledd gwerthiant cylchgronnau lleyddol Saesneg. Mae'r cyngor yn cyhoeddi manylio grantiau'r gwahanol gylchgronnau, fodd bynnag, ac fe allwn ni amcangyfrif beth yw'r cymorthdal/rhifyn drwy ddefnyddio'r cyfartaledd gwerthiant o 650.

Cymerwch y New Welsh Review. Mae'n derbyn £54,440 y flwyddyn i gynhyrchu 4 rhifyn. Os yw pob rhifyn yn gwerthu 650 o gopiau, yna mae pob copi yn derbyn £20.93 o gymorthdal gan y Cyngor Llyfrau.

Neu beth am Planet? Mae planet yn cael £90,170 y flwyddyn i gynhyrchu 6 rhifyn. Eto, os defnyddiwn ni gyfartaledd gwerthiant y Cyngor Llyfrau, mae pob copi o Planet yn derbyn £23.12 gan y Cyngor Llyfrau.

Efallai bod y ffigwr o 650 yn anghywir, a bod y naill neu'r llall o'r cylchgronnau hyn yn gwerthu llawer iawn mwy. Ond os yw fy mathamateg i'n gywir, yna mae'n gwneud i Barn edrych yn dipyn o fargen. Sgwn i os y bydd golygyddion y ddau gyfnodolyn yma yn ymddangos at Good Morning Wales dros y dyddiau nesaf, i amddiffyn lefel eu cymorthdal hwy?

4.2.08

Entourage

Er mod i, fy mrawd a fy chwaer wedi swnian digon, doedd gennym ni ddim teledu lloeren pan yn blant. Dwi ddim yn meddwl mai snobyddiaeth dosbarth canol Cymraeg oedd wrth wraidd hyn. Mae Mam yn wyliwr teledu o fri, a dwi'n meddwl ei bod hi'n gweld y bocs-cannoedd-o-sianeli yn ormod o fygythiad i'w theyrnasiad hi. Tasa ni wedi prynnu desgl lloeren, fe fydda ganddi dri o blant (a gwr) yn trio ei hel hi i'r stafall gefn i sbio ar y teledu bach, tra bo nhw'n isda o flaen y set fawr yn sbio ar WWF neu'r Simpsons.
Felly fe ges i - fel y rhan fwyaf - fy magu ar ychydig iawn o orsafoedd teledu. Dwi'n cofio 3 sianel yn mynd yn 4, chwarter canrif yn ol. Ac mi oeddwn i yn y coleg erbyn i Channel 5 gael ei lansio. Ac mi gymerodd hi flynyddoedd wedyn cyn i mi roi pres ym mhoced Ruper Murdoch am y tro cyntaf.
Erbyn hyn, dwi'n boddi mewn teledu. Mae gen i beiriant Sky +, er mwyn i mi fedri recordio un rhaglen tra'n gwylio un arall, ac mae'r ddisg galed wastad yn llawn. A mae fy silffoedd i'n gwegian o dan sawl box-set o DVDs. Petai hynny ddim yn ddigon, dwi wedi darganfod sut i lawr-lwytho cyfresi teledu o America oddi ar y we. Mae'r rheini'n cael eu llyncu gan y cyfrifiadur yn y swyddfa, sydd yn ei gyrru nhw (dros fy rhwydwaith wi-fi) i'r teledu yn y stafell fyw.
Dwn i ddim os dwi'n treulio mwy o amser yn gwylio teledu nac yr oeddwn i yn oes y 4 sianel. Be dwi'n fedru ei wneud ydi bod yn fwy ffysi ynglyn a be dwi'n ei wylio. Fyddai byth yn isda i lawr, troi'r bocs ymlaen, a fflicio nol a mlaen yn disgwyl i wbath call ddechra. Efo fy holl declunau a sianeli, mae gen i fwy na digon o deledu gwych i ddewis ohono.
Y trafferth efo hyn yw fy mod i wedi mynd yn wyliwr di-fynadd. Fedra i ddim disgwyl wythnos rhwng pennodau. Os dwi'n isda lawr i sbio ar ddrama dda, yna tydi awr ddim yn ddigon. Dwi angen 2 neu 3 pennod yn syth ar ol eu gilydd. Pan mae cyfres newydd, dda, yn dechrau, dwi'n gorfod disgwyl tua mis cyn cychwyn gwylio, fel bod gen i bentwr ohonyn nhw'n disgwyl ar y Sky+, er mwyn i mi gael gloddesta go iawn.
Entourage sydd wedi mynd a'm bryd i ar y funud. Cyfres arall o HBO yw hon, ond mae hi yn nes at Sex and the City na The Sopranos, er ei bod wedi ei hanelu at ddynion ifanc. Mae'n olrhain hanes Vincent Chase, actor ifanc golygus sydd ar fin gwneud ei farc ar Hollywood. Yn rhannu ty gyda Vincent mae ei frawd mawr - actor teledu sy'n cael trafferth dod o hyd i waith - a'i ddau ffrind gorau, Eric a Turtle. Ac yn holl-bresenol mae'r cymeriad sydd yn gwneud y gyfres, Ari Gold asiant Vincent, a'r dyn mwyaf ffiaidd, haerllyg a di-drugaredd yn Los Angeles. Ac yn nhraddodiad Curb my Enthusiasm ac Extras mae 'na ser di-ri yn ymddangos ar y gyfres fel y nhw eu hunain.
Comedi sefyllfa eithaf ysgafn yw Entourage yn y bon, a petai wedi cael ei chynhyrchu gan unrhyw orsaf deledu arall fe allwn i ddychmygu y byddai'n erchyll. Ond rhinwedd fawr HBO yw ei bod hi'n orsaf cable yn unig. Dyw hi ddim yn darlledu teledu dros yr awyr, a felly dyw'r Federal Communications Comittee ddim yn ymyrryd yng nghynnwys y rhaglenni. Canlyniad hyn yw bod cymeriadau HBO yn cael gwneud a dweud unrhywbeth y mynnent. Pedwar dyn ifanc, sengl, yw prif gymeriadau Entourage, a diolch i HBO mae nhw'n rhydd i ymddwyn a siarad fel dynion ifanc sengl go iawn, a nid fel y plant ysgol sul sy'n byw ym mhob cyfres gomedi Americanaidd arall. Mae'r cymeriadau yn yfed yn ystod y dydd ac yn ysmygu canabis yn gyson, ac mae'r hiwmor rhywiol yn goch iawn. Wedi dweud hynny, nid hiwmor plant ysgol sydd 'na i Entourage - fel y rhan fwyaf o gyfresi HBO, mae hi wedi ei hysgrifennu yn wych, ac mae bob perfformiad yn ddi-fai.
Os ydych chi'n byw mewn ty efo lloeren, mae trydydd cyfres Entourage yn cael ei dangos ar ITV2 ar y funud. Ac os ydych chi'n dal i fyw mewn byd 4 sianel, yna dwi'n awgrymu eich bod chi'n mynd allan i brynnu y ddwy gyfres gyntaf ar DVD.

1.2.08

Cuddio'r corff

"Wife's body in a wheelie bin" meddai'r Western Mail. "Gwraig farw mewn casgen" meddai BBC Cymru'r Byd. Sgwn i pwy sy'n gywir?