27.8.08

Dail y Post

Newydd weld bod y Daily Post wedi lansio gwefan Gymraeg heddiw. O be dwi'n ei ddeallt, dyw'r papur heb dderbyn ceiniog o arian cyhoeddus i wneud hyn. Menter fasnachol yn cefnogi'r iaith yw hi, felly. Gwych o beth yw bod cwmniau mawr yn fodlon rhoi parch dyledus fel hyn i'r Gymraeg. Dwi'n dymuno pob llwyddiant i'r fenter newydd.

2 comments:

Anonymous said...

iesgob - mae hwn yn reit dda. Dim ond cyflwyniad i'r storiau sydd i'w cael ond mae'n werth ei ddarllen. dwi am ei hoffnodi ar fy mheiriant.

Nwdls said...

Dwi'n cytuno efo ti. Mi fasa'n gam da mlaen o ran plwraliaeth y wasg Gymraeg i gael y cyfan o'r papur yn y Gymraeg, hyd yn oed os ydio wedi ei gyfieithu. Ond dylen nhw roi holl gynnyws atodiad yr Herald yno hefyd. Dwi wedi methu รข darllen sawl erthygl o hwnnw am nad ydi o wedi ei roi ar lein.

Anffodus braidd yw'r sillafiad o driniaeth yn yr erlthygl hon fodd bynnag: http://www.dailypostcymraeg.co.uk/newyddion-a-chwaraeon-gogledd-cymru/newyddion/2008/08/29/trydydd-damwain-i-feiciwr-wedi-marwolaeth-ei-fab-88390-21633082/