4.1.10

Hywel Teifi Edwards

Newydd glywed y newyddion hynod o drist ynglyn a marwolaeth Hywel Teifi Edwards. Cefais y fraint o gyfarfod Hywel nifer o weithiau, drwy fy ngwaith gyda Ffilmiau'r Bont a Barn, ac roedd yn ddyn hynod o ddifyr i fod yn ei gwmni. Roedd hefyd yn genedlaetholwr i'r carn, ac yn fath o genedlaetholwr sydd yn mynd yn prinhau gyda diwedd pob blwyddyn. Fel arfer, byddai gwr 75 wedi hen roi heibio ei waith, ond roedd Hywel yn dal i wneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd y genedl. Ychydig flynyddoedd yn unig sydd ers iddo gwblhau campwaith anorffenedig Dewi Z Phillips, Ffiniau. Y mae colli Hywel Teifi Edwards yn golled wirioneddol i genedl y Cymry Cymraeg, ac yn un sydd yn peri tristwch gwirioneddol i mi.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Newyddion gwirioneddol trist. Diolch am ei gyfraniad enfawr i'r genedl, cydymdeimladau dwys a'r teulu a heddwch i'w lwch.

Efrogwr said...

Teimlaf yn union yr un tristwch - a diolchgarwch am ei enghraifft a'r raddau mae ei waith wedi ysbrydoli gwladgarwyr Cymru.