Fe fydd rhai ohonoch yn gwybod fod Heddlu Gogledd Cymru wedi dwyn achos yn fy erbyn yn ddiweddar, yn dilyn cwyn gan y Cynghorydd Seimon Glyn ynglyn a deunydd y mae'n honni iddo ei weld ar fy nhudalen Facebook.
 Ers i'r honiadau hyn gael eu gwneud yn fy erbyn, rwyf wedi datgan yn  gwbl glir fy mod yn ddi-euog o unrhyw drosedd. Heddiw, penderfynodd  Gwasanaeth Erlyn y Goron i roi'r gorau i'r achos yn fy erbyn, oherwydd  diffyg tystiolaeth. Diolchaf fod synnwyr cyffredin wedi enill y dydd, a  bod fy ffydd yn y system droseddol wedi ei wobrwyo. Rwyf llawn mor sicr y  bydd ymchwiliad Ombwdsmon Cymru yn dod i'r un casgliad - sef nad wyf  wedi gwneud unrhyw beth o'i le.
  Hoffaf ddiolch o galon i fy nheulu, ffrindiau a chyd-weithwyr am eu  cefnogaeth di-wyro dros yr ychydig wythnos diwethaf. Hoffwn ddiolch  hefyd i'r dwsinau o bobl sydd wedi cysylltu o bob rhan o Gymru i fynegi  eu cefnogaeth i mi. Nid oes yr un enaid byw wedi bod yn llai na charedig  gyda mi drwy gydol y cyfnod. Yn olaf, hoffwn ddiolch i Heddlu Gogledd  Cymru a Chyngor Gwynedd am eu hymddygiad proffesiynnol a chwrtais drwy  gydol yr ymchwiliad.
8.7.11
Diwedd i gyfnod anodd dros ben
Subscribe to:
Comments (Atom)
